Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ystod y trafodaethau ar gofnod rhif 25 (cwestiynau’n ymwneud â thai), datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant t? Cyngor.

19.

Cofnodion pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 15 Chwefror, 24 Chwefror and 24 Mai 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 24 Chwefror a 24 Mai 2022.

 

Cofnodion 24 Mai 2022 - Cywirdeb.

 

Cofnod rhif 4: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai anghysondebau wrth gofnodi’r bleidlais i benodi Is-Gadeirydd yn cael eu cywiro.  Nodwyd hefyd y byddai cyfeiriad anghywir at y Cynghorwyr Richard Lloyd a Richard Jones ar yr eitem honno hefyd yn cael ei ddiwygio.

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge am gael rhestr o bleidleisiau Aelodau ar yr eitem honno, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylid gohirio cymeradwyo’r cofnodion diwygiedig tan y cyfarfod nesaf. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts eu gohirio ac eiliwyd gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

Ar Faterion Cyfansoddiadol, gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am i gofnod 7(i) gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r ffaith bod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts, wedi pasio Cadeiryddiaeth y Pwyllgor Trwyddedu i’r gr?p Annibynnol. Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi pasio Cadeiryddiaeth y Pwyllgor Trwyddedu “i gr?p Annibynnol”, fel oedd wedi digwydd mewn blynyddoedd blaenorol. Cefnogwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Chris Dolphin.

 

Ar gofnod 7(v), Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog, cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y geiriad ar y ddau enwebiad gwahanol ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd a’r Pwyllgor Cynllunio. Gofynnodd am i’r cofnodion gael eu newid i ddangos bod y rhain yn enwebiadau ar wahân ganddo ef a’r Cynghorydd Ian Roberts, yn hytrach nag enwebiad ar y cyd.

 

Ar gofnod 7(v), eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd newydd wedi cael ei gynnwys ar y rhaglen heddiw oherwydd amryfusedd, a byddai’n cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. 

 

Fel diwygiad i gofnod 7(iii), eglurodd y Cynghorydd Attridge ei fod wedi cynnig y Cynghorwyr Antony Wren a Bill Crease ar gyfer y Pwyllgor Safonau (ac wedi tynnu’r ail enw yn ôl wedyn, fel y nodir yn gywir yn y cofnodion).

 

Ar gofnod 6, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ei sylwadau ar gydnabod gwasanaeth cyn Gynghorwyr gan ddweud y byddai tystysgrif fod wedi bod yn deyrnged fwy priodol na bathodyn efallai.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Attridge gofnodion 15 a 24 Chwefror 2022 , gan nodi y byddai cofnodion 24 Mai 2022 yn dod yn ôl gerbron y cyfarfod nesaf.  O'i roi i bleidlais, cytunwyd â hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cofnodion 15 a 24 Chwefror 2022  fel cofnod cywir; a

 

(b)       Diwygio cofnodion 24 Mai 2022 a’u cyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyngor i’w cymeradwyo.

20.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei chyhoeddiadau, rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o’r digwyddiadau yr oedd wedi eu mynychu rhwng 25 Mai a 25 Gorffennaf 2022.

Chair's Comments pdf icon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

21.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Glyn Banks a Gina Maddison ddeiseb ar ran preswylwyr yng Nglyn-yr-afon yn ymwneud â phryderon am ddiogelwch y ffordd, a diolchwyd i’r swyddog Gwasanaethau Stryd, Lee Shone am ei ran ynddo.

 

Cyflwynwyd deiseb gan y Cynghorydd Gillian Brockley hefyd ar ran preswylwyr lleol i wrthwynebu’r datblygiad ar ystâd Gladstone a gofynnodd am gefnogaeth yr holl Aelodau.

22.

Cynllun Y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2022/23 Rhan 1 a chymeradwyo Rhan 2.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Cynllun Cyngor drafft ar gyfer 2022/23, oedd wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer. Roedd fframwaith y Cynllun yn cynnwys chwe thema oedd yn cyd-fynd â’r Amcanion Lles ac a oedd yn parhau i gymryd agwedd hirdymor at adferiad, uchelgais a gwaith dros y flwyddyn nesaf. Wedi i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ymgynghori arno, roedd Rhan 1 yn adlewyrchu blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer 2022/23 ac roedd yn cynnwys eitem ychwanegol ar Wasanaethau Iechyd Meddwl.  Byddai’r Cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi ar y wefan wedi i’r Cyngor ei fabwysiadu.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod Rhan 1 yn nodi uchelgeisiau lefel uchel ar gyfer 2022/23 a bod Rhan 2 yn nodi camau gweithredu, tasgau a mesurau cefnogol gyda manylion am sut y byddai cyflawniadau’n cael eu mesur a’u gwerthuso. Roedd Rhan 3 yn dangos sut oedd themâu’n cyd-fynd â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu, ble byddai cynnydd yn cael ei fonitro.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod gosod mwyafrif y cerrig milltir ar gyfer mis Mawrth 2023 yn ei gwneud yn anodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fonitro cynnydd rheolaidd. Wedi trafod hyn yn flaenorol, roedd swyddogion eisoes wedi cytuno i adolygu cerrig milltir cyn cyhoeddi’r Cynllun. Tynnodd sylw at bwysigrwydd Cynllun y Cyngor yng nghyd-destun cynllunio ariannol a’r angen i sicrhau y gellir mesur eitemau ychwanegol. O ran y flaenoriaeth ‘amgylchedd lleol diogel, glân ac wedi’u cysylltu’n dda’, gofynnodd a fyddai gwaith gyda’r ddwy dref a nodwyd yng Nghynllun eleni hefyd yn dod â budd i drefi eraill drwy gydol y cyfnod. 

 

Wrth gynnig mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2022-23, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i swyddogion am eu holl waith. Er mwyn ymdrin â sylwadau’r Cynghorydd Jones, awgrymodd y dylid gofyn i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu’r cerrig milltir ar gyfer eu meysydd penodol ar y cyd ag unrhyw argymhellion gan y Prif Swyddogion. Ar ran y gr?p Llafur, diolchodd i’r staff am eu hymroddiad a’u cryfder wrth fodloni heriau yn ystod y cyfnod hwn o Gynllun y Cyngor.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at ddiffiniad yr is-flaenoriaeth Tlodi Tanwydd o aelwydydd â chostau tanwydd uwch na’r cyfartaledd a gofynnodd a oedd hyn yn cynnwys pob aelwyd yn y sefyllfa hon neu ddim ond y rhai sy’n gysylltiedig â thai fforddiadwy a hygyrch. O ran risgiau cysylltiedig, holodd am y gostyngiad gwaelodlin mewn risgiau o gofio’r tebygrwydd y byddai mwy o aelwydydd yn cael eu heffeithio a gofynnodd sut y byddai ffrydiau ariannu yn cael eu blaenoriaethu oherwydd nad oedd cyllid ar gael fel y bu i ddarparu prosiectau tlodi tanwydd. O ran y flaenoriaeth Sector Rhentu Preifat i godi safonau mewn rheoli a chyflwr y tai, gofynnodd am sicrwydd na fyddai darpariaeth adnoddau’n dyblygu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Rentu Doeth Cymru.

 

O ran Rhan 1 Cynllun y Cyngor, cynigiodd y Cynghorydd David Coggins Cogan y dylid newid y diffiniad o  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Cydbwysedd Gwleidyddol pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Diweddaru'r Cyfrifiadau Cydbwysedd Gwleidyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar y cyfrifiad diwygiedig o gydbwysedd gwleidyddol, fel y cytunwyd yn y Cyfarfod Blynyddol, yn ymgorffori’r wybodaeth ddiweddar am gr?p gwleidyddol newydd. Cytunwyd ar y dyraniadau arfaethedig yn y cyfrifiad gan arweinwyr grwpiau, a byddai’n bodloni gofynion cydbwysedd gwleidyddol, gan ddarparu 135 sedd i Aelodau ar draws yr holl bwyllgorau yn seiliedig ar aelodaeth bresennol y grwpiau.

 

Cafodd Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys manylion dyraniadau seddi arfaethedig ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno ar y dyraniad cydbwysedd gwleidyddol oedd ynghlwm â’r adroddiad.

24.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 155 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Bernie Attridge, Helen Brown, Richard Jones, Dale Selvester a Debbie Owen fel a ganlyn:

 

“Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i ddychwelyd yr holl weithwyr sydd wedi bod yn gweithio gartref yn ystod y pandemig yn ôl i’r gweithle am o leiaf 4 diwrnod yr wythnos waith, yn cynnwys holl gyfarfodydd a phwyllgorau’r Cyngor, gadewch i ni arwain drwy esiampl.

 

Mae cyfathrebu wedi bod yn anodd iawn i aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd, rhaid i ni gael gwell cyfathrebu unwaith eto. Nid oes cyfyngiadau Covid ar waith o gwbl.”

 

Ar ran y llofnodwyr, cynigiodd y Cynghorydd Attridge y dylid tynnu’r eitem yn ôl am y rhesymau canlynol: (i) y cynsail o ddarparu adroddiad manwl mewn ymateb cyn i Rybudd o Gynnig gael ei glywed a’i ddeall gan Aelodau; (ii) y cynsail o ohirio cyfarfod y Cyngor llawn wrth i arweinwyr grwpiau drafod y Rhybudd o Gynnig; (iii) cyhoeddi adroddiad un ochr yn y parth cyhoeddus cyn cael eglurhad gan y llofnodwyr, sydd wedi arwain at negeseuon e-bost gwarthus yn cael eu hanfon at rai Aelodau Etholedig; a (iv) cais gan Aelod sydd heb ei ateb am restr lawn o swyddi gwag, yn nodi bod 25 swydd wag ar wefan y Cyngor.   

 

Tynnodd y Cynghorydd Attridge y Rhybudd o Gynnig yn ôl am y rhesymau hyn wrth i’r llofnodwyr eraill ac yntau ystyried eu sefyllfa.

25.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: daeth tri i law erbyn y dyddiad cau.

 

Y Cynghorydd Bernie Attridge - (1) Costau cyfalaf at gyfer Theatr Clwyd (2) Canolfan Ddigartrefedd yn Queensferry; a (3) Staff yn dychwelyd i’r swyddfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd tri chwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge a dderbyniwyd o fewn y terfyn amser wedi cael eu cylchredeg i Aelodau cyn y cyfarfod:

 

“1.   A yw’n bosibl i’r Cyngor llawn gael diweddariad brys ar y Costau Cyfalaf i Theatr Clwyd, a faint o arian sydd raid i Gyngor Sir y Fflint ddod o hyd iddo i wneud iddo ddigwydd?

2.    A yw’n bosibl i ni gael diweddariad brys ar y ganolfan digartrefedd yn Queensferry nad yw wedi cael caniatâd cynllunio, a beth yw cynlluniau Cyngor Sir y Fflint i’w symud a phryd?

3.    A yw’n bosibl rhoi gwybod ar frys i’r Cyngor llawn pryd fydd staff yn dychwelyd i’r swyddfa?”

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge ei siom nad oedd y cwestiynau yr oedd wedi eu cyflwyno wythnosau’n ôl wedi cael eu cynnwys ar y rhaglen ac a anfonwyd at Aelodau dros e-bost y bore hwnnw. Nid oedd yn credu bod ei gwestiynau wedi cael eu trin yn y ffordd gywir a honnodd nad oedd rhai Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen y cwestiynau cyn y cyfarfod gan nad oeddent wedi gallu cael mynediad at eu negeseuon e-bost efallai. Cyfeiriodd at yr arfer hanesyddol pan oedd cwestiynau wedi cael eu cylchredeg yn bersonol yng nghyfarfodydd y Cyngor. Am y rheswm hwnnw, gofynnodd am i’w gwestiynau gael ei hailgyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

Caniataodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Attridge gyflwyno cwestiwn brys yr oedd wedi ei gyflwyno y bore hwnnw, ac roedd hithau wedi ceisio eglurhad pellach arno. Darllenodd y cwestiwn fel a ganlyn:

 

“Rydym yn ymwybodol o dri newid pwysig ar wahân yn ymwneud â Thai ond yn bennaf i denantiaid Cyngor Sir y Fflint, a’u rhyngweithio ag Aelodau. Ymhlith y materion a nodwyd mae:

1.    Atal hysbysu Aelodau am denantiaid newydd yn symud i’w ward.

2.    Defnyddio GDPR fel rheswm i atal Aelodau rhag cynorthwyo tenantiaid Cyngor Sir y Fflint; a

3.    Hysbysu tenantiaid Cyngor Sir y Fflint yn ddiweddar am newidiadau sylweddol i gytundebau tenantiaeth sy’n effeithio ar bob Tenant, heb roi gwybod i Aelodau, felly nid yw Aelodau’n gallu ateb cwestiynau’r Tenantiaid am y newidiadau hyn. Gan fod y newidiadau hyn yn ymddangos fel awydd i ddatgysylltu’r berthynas rhwng Aelod/Tenant, a all yr Aelod Cabinet Tai gadarnhau’n bendant nad dyma’r achos a’i fod yn ddim byd ond amryfusedd cyfathrebu a dealltwriaeth?”

 

Fel Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby nad oedd yn ymwybodol o unrhyw newidiadau ac y byddai’r materion a godwyd yn cael eu trafod â’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau).

 

Ar ôl gofyn am gyngor, datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant mewn t? Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod yr arfer o rannu cwestiynau a gyflwynwyd ymlaen llaw fel copïau papur yng nghyfarfodydd y Cyngor wedi newid yn ystod y blynyddoedd diweddar oherwydd bod Aelodau’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, cytunodd y byddai’n well eu rhannu dros e-bost ac fel copïau papur mewn cyfarfodydd hybrid pan oedd mwyafrif y cyfranogwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) na dderbyniwyd yr un cwestiwn.  Dywedodd y byddai gwefan y Cyngor yn cael ei diweddaru i adlewyrchu y byddai cwestiynau’n cael eu cyflwyno’n electronig.

27.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.