Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor

Pwrpas:  Yn sgil yr ymateb i’r coronafeirws, pasiodd Lywodraeth Cymru ddeddfwriaeth frys yn galluogi cynghorau i ohirio cyfarfodydd blynyddol. I gydnabod yr anawsterau wrth gynnal cyfarfodydd o bell, mae’r ddeddfwriaeth honno hefyd yn caniatáu i gynghorau ymestyn cyfnodau deiliaid swyddi i fis Mai 2021. Cynigir, gyda’u cytundeb, y dylai'r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd barhau yn eu swyddi tan fis Mai 2021 pan fydd hi’n bosibl cynnal cyfarfod blynyddol gyda’r lefel briodol o seremoni.   

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru, yn sgil yr ymateb i’r coronafeirws, wedi pasio deddfwriaeth frys yn galluogi Cynghorau i ohirio cyfarfodydd blynyddol.  I gydnabod yr anawsterau wrth gynnal cyfarfodydd o bell, bu i’r ddeddfwriaeth honno hefyd ganiatáu i Gynghorau ymestyn cyfnodau deiliaid swyddi i fis Mai 2021.

 

Cynigiwyd, gyda’u cytundeb, bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd presennol yn parhau yn eu swyddi tan fis Mai 2021 pan fydd hi’n bosibl cynnal cyfarfod blynyddol gyda’r lefel briodol o seremoni.

 

Bachodd y Cadeirydd ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Is-Gadeirydd am ei gefnogaeth a’i gydweithrediad o ran y trefniadau arfaethedig ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor. 

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag Arweinwyr Gr?p a dywedodd eu bod wedi dod i gytundeb, gyda chefnogaeth y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, i dderbyn y trefniant arfaethedig. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorwyr Marion Bateman a Joe Johnson yn parhau yn eu swyddi fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd tan fis Mai 2021.

3.

Ethol Arweinydd Y Cyngor

Pwrpas:I ethol Arweinydd ar gyfer gweddill blwyddyn y cyngor 2020/2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigodd y Cynghorydd Michelle Perfect y dylid penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes. Siaradodd y Cynghorydd Hughes o blaid y cynnig gan dalu teyrnged i’r Cynghorydd Roberts a’i rinweddau personol a’i gyflawniadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Siaradodd hefyd am ei waith diwyro yn ystod pandemig y Coronafeirws i sicrhau’r canlyniad gorau posibl wrth ddarparu gwasanaethau i holl breswylwyr Sir y Fflint.  Ni chafwyd enwebiadau eraill.Talodd yr Aelodau deyrngedau pellach i’r Cynghorydd Roberts o ran ei berfformiad a’i broffesiynoldeb rhagorol fel Aelod o’r Cyngor.

 

Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21.

4.

Arweinydd Y Cyngor I Benodi'r Cabinet

Pwrpas:  Nodi penodiad aelodau’r Cabinet gan Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Aelodau am ei ethol yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y cyngor a dywedodd mai anrhydedd oedd derbyn y swydd. Siaradodd am y sefyllfa heriol a phrysur newidiol o ran pandemig y Coronafeirws ac am y gwytnwch a’r amynedd a ddangoswyd gan breswylwyr Sir y Fflint yn ystod y cyfnod digynsail diweddar a lleihad gwasanaethau. Diolchodd i holl weithwyr Sir y Fflint a oedd wedi cynnal darpariaeth gwasanaethau hanfodol gan y Cyngor yn ystod y pandemig, gan restru Gwasanaethau Stryd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a Thechnoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu fel enghreifftiau. Cyfeiriodd at y penderfyniadau anodd a oedd rhaid eu gwneud yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer Sir y Fflint.

 

Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddogion a’u timau am eu perfformiad cadarn drwy gydol yr argyfwng. Siaradodd am yr angen i barhau i gymryd gofal a phwyll i atal ail don o’r pandemig yn y dyfodol agos.   

 

Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd y Cynghorydd Roberts ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Aelodau’r Cabinet am eu gwaith a’u cefnogaeth.  Diolchodd hefyd i’r Cadeirydd, i’r Is-Gadeirydd a’r Arweinwyr Gr?p am eu hymgysylltiad i gynorthwyo’r Cyngor gyda’r broses gwneud penderfyniadau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet, a’u portffolios a fanylir arnynt isod, yn cael eu nodi.

 

Aelod Cabinet

Portffolio

Ian Roberts

Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg

Carolyn Thomas

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad

Glyn Banks

Aelod Cabinet Cyllid

Chris Bithell

Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Derek Butler

Aelod Cabinet Datblygu Economaidd

Dave Hughes

Aelod Cabinet Tai

Christine Jones

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol

Billy Mullin

Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau

 

5.

Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau pdf icon PDF 117 KB

Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.

 

 (i)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:

 

  • Pwyllgor Archwilio;
  • Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
  • Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
  • Pwyllgor Cwynion;
  • Pwyllgor Apeliadau Cwynion;
  • Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu;
  • Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau);
  • Pwyllgor Trwyddedu;
  • Pwyllgor Cynllunio;
  • Pwyllgor Safonau; 

 

Yn ogystal, roedd y Cyfansoddiad yn caniatáu ar gyfer penodi 6 Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2020, cytunodd y Cyngor i leihau’r nifer hwnnw i 5 yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu diwygiedig i’w gweld isod.   

 

  • Y Gymuned, Tai ac Asedau
  • Adnoddau Corfforaethol
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • Yr Amgylchedd a’r Economi
  • Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 

 

Nodwyd y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn Atodiad 1, fodd bynnag, eglurodd y Prif Swyddog fod angen gwneud diwygiad pellach i’r cylch gorchwyl gan fod Cynllunio Rhag Argyfwng, a’r Bartneriaeth Trosedd ac Anhrefn wedi cael eu cynnwys dan gwmpas y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi trwy gamgymeriad ac roedd angen eu symud i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Y Gymuned, Tai ac Asedau

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Safonau

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

 

 (ii)       Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yr oedd y Cyngor wedi’i benodi yn y Cyfarfod Blynyddol.  Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, penderfynodd y Cyngor y dylid cael datrysiad cydbwysedd gwleidyddol newydd sy’n cyflawni gostyngiad cyffredinol yn nifer y lleoedd pwyllgor tra’n parhau i ddarparu ar gyfer cynrychiolaeth yr holl grwpiau gwleidyddol ar bwyllgorau mawr y Cyngor. Nodwyd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad (yn amodol ar y cywiriadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel yr eglurwyd yn yr eitem ar Benodi Pwyllgorau).

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod maint pob pwyllgor yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraffau 1.03 ac 1.04 yr adroddiad.

 

 (iii)      Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo. Dywedodd fod cylch gorchwyl y Pwyllgorau presennol wedi’i nodi yn y Cyfansoddiad. Roedd y cylch gorchwyl ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Amserlen o Gyfarfodydd 2020/21 pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:  Cymeradwyo’r amserlen ddrafft ar gyfer cyfarfodydd 2020/21.

   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2020/21 yn dilyn ymgynghoriad.  O ran amserlen 2020/21, dywedodd fod cyfres o gyfarfodydd wedi’u cynnwys ym mis Medi er mwyn i’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried y Strategaeth Adfer a byddai’n rhaid cynnal cyfarfodydd arbennig yn yr hydref i ystyried cynigion ar gyfer Cyllideb 2021/22. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at gyfarfod y Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 17 Medi a dywedodd ei fod wedi cael ei ganslo.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at ymweliadau â safleoedd cynllunio a dywedodd nad oeddent i’w gweld ar yr Amserlen o Gyfarfodydd ar gyfer 2020/21 ac fe awgrymodd y dylid eu cynnwys dros dro nes iddynt ailddechrau. Cytunodd y Prif Weithredwr y dylid ychwanegu dyddiadau dros dro yr ymweliadau â safleoedd cynllunio at yr Amserlen. Esboniodd fod asesiad risg yn cael ei gynnal ar ymweliadau safle ac yn dibynnu ar ganlyniad y gwaith hwnnw roedd yn disgwyl y dylent barhau yn y dyfodol agos lle bo angen. Yn y cyfamser, byddai’r trefniadau presennol yn parhau a byddai adborth ar yr asesiad risg yn cael ei ddarparu i’r Aelodau cyn gynted â phosibl.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2020/21, yn amodol ar y newidiadau arfaethedig.

 

7.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.