Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter on 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

60.

CYFLWYNIADAU

Cydnabyddiaeth Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cydnabyddiaeth Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE

 

Eglurodd y Cadeirydd bod Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE yn agored i bob awdurdod lleol er mwyn cydnabod cyflawniadau prentisiaid mewn gwasanaethau rheng flaen a’r gefnogaeth a dderbyniwyd ganddynt gan Gynghorau a sefydliadau sy’n bartneriaid. Cyflwynwyd y Gwobrau hyn, sy’n fawr eu bri, i brentisiaid sydd wedi profi eu hunain i fod yn arloesol ac sy’n hoelio sylw ar gynhyrchu rhagoriaeth yn eu maes gwasanaeth. Yn cystadlu gyda chymheiriaid ledled y Deyrnas Unedig, roedd yn gyflawniad arwyddocaol i brentis gael ei roi ar y rhestr fer derfynol. Roedd yn bleser gan y Cadeirydd hysbysu bod tri o brentisiaid Cyngor Sir y Fflint wedi cyrraedd rownd derfynol Cydnabyddiaeth Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE yn 2019.

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i groesawu a chyflwyno Gareth Allen, Prentis Paentio ac Addurno, Rheoli Asedau Tai, a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori ‘Sgiliau Adeiladu’; Matthew Evans, Prentis Gweithredol Strydwedd, a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori ‘Strydwedd’; ac Adam Cook, Prentis Gweithredol Strydwedd, sef yr enillydd dros bawb yn y categori ‘Strydwedd’.

 

Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod Matthew ac Adam wedi ymuno â’r Cyngor ym Medi 2018 fel Prentisiaid Gweithredol Strydwedd ac roeddynt yn dechrau eu hail flwyddyn o’r rhaglen. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, buont yn gweithio ochr yn ochr â staff gweithredol ar waith cynnal priffyrdd, cynnal tiroedd, a gwasanaethau glanhau a gwastraff ac ailgylchu, wrth gwblhau NVQ mewn Gwasanaethau Amgylcheddol yng Ngholeg Cambria. Enwebwyd Matthew ac Adam ar gyfer Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE 2019 ar ôl derbyn adborth cadarnhaol am eu hagwedd, eu brwdfrydedd a’u cynnydd gan eu mentoriaid a thiwtor y coleg. Roedd y ddau yn gystadleuwyr cryf a chawsant eu rhoi ar y rhestr fer. Yn dilyn proses gyfweld drylwyr yn erbyn cystadleuwyr eraill ledled y DU, gwobrwywyd Adam fel yr Ennillydd Dros Bawb yn y Categori Strydwedd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Thomas am ei chefnogaeth i’r cynllun prentisiaid a ddarparwyd gan y gwasanaeth Strydwedd dros y pum mlynedd diwethaf, a dywedodd ei fod yn darparu cyfle gwerthfawr i bobl ifanc gael dysgu ystod o sgiliau newydd a sut i weithredu peiriannau. Roedd prentisiaid yn gweithio mewn sawl maes ar draws y Gwasanaeth Strydwedd i gael blas cyffredinol ar y gwahanol feysydd ac i ganfod pa rai sydd orau ganddynt. Eglurodd y Cynghorydd Thomas bod y Gwasanaeth hefyd yn cynnig ystod o hyfforddiant ardystiedig sydd wedi’i achredu’n genedlaethol oedd yn cael ei ddarparu’n ‘fewnol’. Mynegodd ei llongyfarchiadau i Matthew ac Adam a diolchodd i’w tiwtoriaid a’u mentoriaid.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Ian Dunbar Gareth am gyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Sgiliau Adeiladu’. Eglurodd bod Gareth wedi dechrau ei brentisiaeth gyda’r Cyngor fel paentiwr ac addurnwr ym Medi 2018 a’i fod wedi profi ei hun i fod yn ased i’r Gwasanaeth. Yn ogystal â chyrraedd y rhestr fer yn y Gwobrau APSE, gwobrwywyd Gareth hefyd yn ddiweddar gyda Thystysgrif Cydnabyddiaeth yng “Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru” yn dilyn ei enwebu gan ei diwtor coleg. Yn yr adborth gan y beirniaid APSE dywedwyd:  ...  view the full Cofnodion text for item 60.

61.

Cofnodion pdf icon PDF 185 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 22 Hydref 2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019. 

 

Cywirdeb

 

Tudalen 5: Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am gael diwygio’r cofnodion i gofnodi nad oedd modd iddo fod yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod oherwydd ymrwymiad blaenorol.

 

Tudalen 7: Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ei sylwadau yn y paragraff olaf. Dywedodd ei fod wedi gofyn cwestiwn am Gynllun Glannau Dyfrdwy a sut yr oedd wedi effeithio’r Strategaeth Cludiant yn Sir y Fflint, a dywedodd nad oedd unrhyw gyfeiriad at ail hanner ei gwestiwn yn y cofnodion. Gofynnodd am gael diwygio’r cofnodion i adlewyrchu hyn.

 

Tudalen 12, paragraff 7, dylai’r ddolen ar gyfer sesiwn hyfforddiant y ‘Domestic Abuse Safety Unit’ (DACU) ddarllen fel (DASU).

 

Materion yn Codi

 

Tudalen 7:  Dywedodd y Cynghorydd Clive Carver nad oedd eto wedi derbyn y wybodaeth a geisiwyd am nifer y landlordiaid/asiantiaid gosod eiddo nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau Rhentu Doeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau, fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

62.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

nid oedd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at Eitem 10 – Datganiad Polisi Tâl Diweddaredig 2019/20 ac eglurodd gan nad oedd y Datganiad wedi newid ac nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r arfer presennol, y gallai Aelodau a swyddogion aros yn y cyfarfod heb ddatgan cysylltiad, fodd bynnag, os, yn ystod y drafodaeth, bod Aelodau’n dymuno gofyn am newid yr arfer presennol, byddai’n adolygu ei gyngor.

63.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei Chyhoeddiadau, a gylchredwyd cyn y cyfarfod, amlygodd y Cadeirydd sawl digwyddiad a chyfeiriodd at Ddawns a Chinio Elusennol Maer Bwcle, agoriad swyddogol Cartref Gofal Ychwanegol Llys Raddington, y Fflint, ac agoriad swyddogol Canolfan Ddydd Hwb Cyfle, Queensferry. 

64.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim. 

65.

Teyrngedau i'r diweddar Gynghorydd Nigel Steele-Mortimer

Pwrpas:  i alluogi Aelodau i dalu teyrnged i’r diweddar Gynghorydd Nigel Steele-Mortimer

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn gwneud teyrnged i’r diweddar Gynghorydd Steele-Mortimer, cyfeiriodd y Cadeirydd at newyddion trist marwolaeth y cyn Gynghorydd Sir, Ann Slowick. Diolchodd y Cadeirydd i’r Is Gadeirydd am fynychu angladd y Cynghorydd Slowick i gynrychioli’r Awdurdod ar ei rhan. Dywedodd y bu’r Cynghorydd Slowick yn Gadeirydd y Cyngor Sir yn 2001-2002 a byddai’n ei chofio fel cydweithwraig weithgar a mawr ei pharch gan sawl Aelod.                              

 

Dywedodd y Cadeirydd iddi gael y fraint o fynychu angladd y Cynghorydd Nigel Steele-Mortimer a fu’n aelod o’r Cyngor am dros 30 mlynedd. Dywedodd y byddai’n cael ei edmygu a’i barchu gan bob Aelod, roedd yn wir yn ?r bonheddig bob amser. Mynegodd y Cadeirydd ei chydymdeimlad dwys i’w wraig a’i deulu am eu colled drist.      

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau sefyll am un funud o ddistawrwydd mewn teyrnged i’r diweddar Gynghorydd Steele-Mortimer a’r Cynghorydd Ann Slowick.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Clive Carver y teyrngedau gan yr Aelodau. Dywedodd y bu’r Cynghorydd Nigel Steele-Mortimer yn Aelod a oedd wedi rhoi ei wasanaeth ers blynyddoedd, ers 1987, ac wedi dal sawl apwyntiad uwch yn ystod ei dymor mewn swydd. Bu hefyd yn aelod o sawl sefydliad a chorff allanol amlwg a theilwng, ac unwaith eto, bu’n dal ystod o uwch swyddi oddi mewn iddynt. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carver at rôl a chyfrifoldebau’r Cynghorydd Steele-Mortimer yn ystod ei gyfnod ar wasanaeth gweithredol, yn ei yrfa broffesiynol, ynghyd â’i ddiddordebau a’i hobïau personol. Fel ym marn y Cadeirydd, dywedodd ei fod yn ?r bonheddig ac yn ddyn gonest; yn rhywun y gellid ymddiried ynddo ac a roddai gyngor da. Dywedodd y byddai’r Cynghorydd Steele-Mortimer yn cael ei golli’n fawr.

 

Talwyd teyrngedau pellach i’r Cynghorydd Steele-Mortimer gan y Cynghorwyr Ian Roberts, Patrick Heesom, Arnold Woolley, Neville Phillips, Tony Sharps, Mike Peers a Derek Butler. Siaradwyd am eu cysylltiadau hir gydag o, a dywedwyd eto ei fod wedi gwasanaethu’r Cyngor yn dda mewn uwch swyddi ac y bu’n ffynhonnell anfesuradwy o arweiniad a gwybodaeth i eraill. Unwaith eto, nodwyd fod parch mawr i’r Cynghorydd Steele-Mortimer ymhlith Aelodau a Swyddogion, ac fe’i hystyriwyd yn gyfaill anrhydeddus a dibynadwy a fyddai’n rhoi help a chyngor cadarn pan fo’i angen.            

 

Talwyd teyrnged hefyd i’r Cynghorydd Ann Slowick, a fu’n cynrychioli Ward Gronant, gan y Cynghorwyr Ian Roberts, Tony Sharps a Derek Butler. Dywedwyd ganddynt fod y Cynghorydd Slowick yn weithgar a’i bod wedi gwasanaethu’r Cyngor mewn modd rhagorol fel cyn Gadeirydd y Cyngor, ac y bu’n gynrychiolydd ardderchog ar ran ei chymuned. Roedd hi’n uchel ei pharch ymhlith yr holl Aelodau am ei rhinweddau personol.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Cynghorydd Steele-Mortimer a’r Cynghorydd Slowick am eu hymroddiad a’u gwasanaeth i Sir y Fflint, gan ddweud eu bod yn esiamplau o ran sut y dylai Aelod etholedig gyflawni busnes y Cyngor a’r gymuned.

66.

Croeso i'r Cynghorydd Kevin Rush

Pwrpas:  Croeso i'r Cynghorydd Kevin Rush, a etholwyd yn Aelod o Gorllewin Bagillt ar 24 Hydref 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso ffurfiol i’r Cynghorydd Kevin Rush, yr aelod newydd  a etholwyd ar gyfer Gorllewin Bagillt.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rush i’r Cadeirydd am ei chroeso cynnes. Diolchodd hefyd i Aelodau, swyddogion a staff am eu croeso a’u cymorth, ac yn benodol y Swyddog Monitro Canlyniadau a’r Tîm Etholiad am eu gwaith yng nghyswllt Is-etholiad Gorllewin Bagillt. Dywedodd ei fod yn fraint cael ei ethol i gynrychioli cymuned Gorllewin Bagillt ac y byddai’n ymdrechu i wasanaethu’r preswylwyr hyd orau ei allu.

67.

Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint pdf icon PDF 277 KB

Pwrpas:  Ymateb i gynigion drafft o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad mewn ymateb i Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Sir y Fflint - Cynigion Drafft gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (CFfDLC). Byddai’r cyfnod ymgynghori ar gyfer ymatebion gan y Cyngor a phartïon eraill sydd â diddordeb yn y cynigion yn dod i ben er 27 Tachwedd 2019. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu gwaith a’u cydweithrediad o ran cyflawni consensws lleol yn y mwyafrif o achosion ac am gyrraedd y dyddiad cau ar gyfer Cam 2 o broses yr adolygiad. Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad cychwynnol rhwng Tachwedd 2018 ac Ionawr 2019 pryd y gwnaeth Aelodau gynigion i CFfDLC ar gyfer newidiadau i wella cynrychiolaeth leol. Fel atodiad i’r adroddiad, cafwyd ymateb drafft y Cyngor i Gam 2 o gynigion drafft CFfDLC ar gyfer Sir y Fflint. Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r ymagwedd tuag at yr ymateb cychwynnol fu rhoi statws coch/oren/gwyrdd (RAG) sydd wedi’i gario ymlaen i’r ail ymateb (gyda rhai Gwyrdd yn gynigion a gefnogwyd gan CFfDLC neu’n gynigion amgen oedd yn destun consensws ymhlith Aelodau lleol; roedd rhai Oren yn gynigion lleol nad oeddynt yn cael cefnogaeth o ran consensws llawn; ac roedd Coch yn nodi na fu cytundeb lleol yn bosibl).

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad. Eglurodd bod cynigion drafft CFfDLC ar gyfer Sir y Fflint, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2019, wedi newid trefn wardiau etholiadol i gyflawni “gwelliant sylweddol” yn lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir y Fflint. Byddai hyn yn golygu Cyngor o 65 Aelod gyda chymhareb gyfartalog arfaethedig yn y Sir o 1,836 o etholwyr yr Aelod, ynghyd â gostyngiad i 30 o wardiau etholiadol yn lle’r 57 presennol. Dywedodd unwaith eto bod manylion y cynigion drafft a gyflwynir i CFfDLC, yn seiliedig ar ymgynghori helaeth gydag Aelodau, wedi’u cynnwys yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod gan Aelodau ddealltwriaeth unigryw o’r ardaloedd a gynrychiolwyd ganddynt ynghyd â gwybodaeth am anghenion lleol a chysylltiadau yn y gymuned a oedd yn darparu cydlyniant cymunedol a chynrychiolaeth effeithiol. Dywedodd efallai na fyddai rhai o gynigion y Cyngor yn cyflawni gofynion CFfDLC o ran cydraddoldeb etholaethol ond eu bod yn cyflwyno opsiynau hyfyw a fyddai’n cael cefnogaeth leol. Adroddodd am y prif ystyriaethau mewn perthynas â’r cynigion a oedd wedi ffurfio ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad. Eglurodd bod cyfle’n dal i fod cyn y dyddiad cau ar 27 Tachwedd 2019 i Aelodau gyflwyno rhagor o sylwadau personol neu i annog sylwadau gan grwpiau. Yn dilyn cwblhau proses Cam 2, byddai’r Comisiwn yn paratoi Adroddiad ar y Cynigion Terfynol (Cam 3) a gyflwynir i Lywodraeth Cymru. Rhybuddiodd y byddai gwneud newidiadau yng Ngham 3 yn anodd.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod ymateb y Cyngor yn amlygu’r meysydd, fel y nodwyd yn yr adroddiad, lle teimlwyd fod y Comisiwn wedi gwyro gormod oddi wrth ei reolau ei hun. Dywedodd unwaith eto bod angen darparu’r ymateb gorau bosibl i’r cynigion yng Ngham 2, gan na fyddai newidiadau efallai’n cael eu derbyn yn nes ymlaen.

 

Wrth gynnig  ...  view the full Cofnodion text for item 67.

68.

Datganiad Diwygiedig Ar Bolisïau Tâl Ar Gyfer 2019/20 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas: Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r seithfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndirol. Eglurodd bod y Datganiad Polisi Tâl a gyflwynwyd o fewn yr adroddiad yn fersiwn diwygiedig o’r seithfed Datganiad blynyddol a gymeradwywyd gan y Cyngor yn Ionawr 2019. Bu rhaid diweddaru’r polisi tâl i adlewyrchu’r newidiadau mewn tâl ar gyfer cyfran fawr o’r gweithlu o ganlyniad i ymarfer modelu tâl i ddarparu ar gyfer Blwyddyn Dau (2019) o gytundeb tâl NJC.

 

Cyflwynwyd y prif ystyriaethau gan yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Eglurodd, ar ôl gweithredu’r amryw ddyfarniadau tâl cenedlaethol, y gyfradd dâl isaf a werthuswyd gan yr Awdurdod oedd £17,364, ac roedd y cyflog canolig wedi codi i £19,554, a dywedodd fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cau. Eglurodd mai dim ond pum rhan o’r polisi tâl oedd wedi’u diwygio. Roedd pedwar ohonynt yn fân newidiadau oedd yn adlewyrchu newidiadau o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog a gwelliant yn y sefyllfa o ran perthynoledd tâl. Aeth ymlaen i ddweud bod y prif newid i’w weld yn Adran 11 – Cyflog Byw Cenedlaethol (CBC) ynghyd â chyflwyno’r model tâl newydd.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at gwmpas y gwaith. Dywedodd mai’r dyddiad y byddai’r model tâl newydd yn effeithiol oedd 1 Ebrill 2019 ac fe’i gweithredwyd yng Ngorffennaf 2019 (wedi’i ôl-ddyddio i Ebrill 2019). Ymgymerwyd ag Asesiad annibynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb oedd, yn fyr, wedi canfod bod y diwygiad i’r strwythur tâl a graddio yn ddatblygiad cadarnhaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar y cyflog byw cenedlaethol, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at gydymffurfio â’r cytundeb cenedlaethol, ac eglurodd y bu’r Cyngor yn gyflogwr cyflog byw ers Ebrill 2019.  

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i’r Uwch Reolwr a’i thîm am eu gwaith, gan gydnabod yr ymrwymiad i gadw o fewn y gyllideb, rheoli’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ynghyd â’r gwaith a wnaed ar y cyd â’r Undebau Llafur.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2019/20 fel yr oedd wedi’i atodi i’r adroddiad.

69.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

70.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

71.

RHYBUDD O GYNNIG

Mae’r eitem hon ar gyfer derbyn unrhyw Rybudd o Gynnig: dim ohonynt yn gymwys ac yn gallu cael eu hystyried yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw rai oedd yn gymwys ac y gellid eu hystyried yn ystod y cyfnod cyn etholiad.

72.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg neu’r cyhoedd yn bresennol.