Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

46.

Cofnodion pdf icon PDF 192 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Medi 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Peers, cytunwyd ar ddau welliant ar Gofnod rhif 39: Adolygiad Lleol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.Ar y trydydd paragraff dylai sylwadau’r Prif Weithredwr fod gan y ‘Comisiwn hyblygrwydd cyfyngedig’ adlewyrchu fod hynny er mwyn glynu at y cyfreithiau a’r Cylch Gorchwyl.  Roedd y paragraff olaf ond un i egluro fod cymhareb gyfartalog y sir o 1,836 o etholwyr i bob aelod yn ymwneud â 2018 ac roedd y gymhareb gyfartalog ar gyfer 2023 wedi ei chofnodi fel 1,915 yn y ddogfen ddrafft ddiweddaraf.

 

Byddai’r cofnodion hefyd yn cofnodi fod y Cynghorwyr Richard Lloyd a Joe Johnson yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

47.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

48.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei chyhoeddiadau, oedd wedi eu cylchredeg cyn y cyfarfod, amlygodd y Cadeirydd nifer o ymweliadau ysgol, y gydnabyddiaeth i entrepreneuriaid yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint ac ymweliad â Choleg Cambria.Diolchodd i’r Is-Gadeirydd am ei gefnogaeth ac Aelodau amrywiol oedd wedi trefnu digwyddiadau gan gynnwys y Cynghorydd Tony Sharps nad oedd yn bresennol.Hefyd talwyd teyrnged i gyfraniadau’r Cynghorydd Andrew Holgate oedd i ymddeol ddiwedd y mis.

 

Mynegodd y Cynghorydd Ian Roberts ei ddiolch i bawb fu’n cynorthwyo preswylwyr yn Bolingbroke Heights yn y Fflint yn dilyn yr achos o lifogydd yn ddiweddar.Fe dalodd deyrnged yn benodol i’r Gwasanaeth Tân am eu hymateb cyflym a swyddogion ar draws y Cyngor oedd wedi cynnal presenoldeb ar y safle i sicrhau fod yr holl breswylwyr yn ddiogel ac yn cael cymorth.Hefyd diolchodd i'r Prif Swyddogion Tai ac Asedau a'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Aelodau lleol am eu cymorth yn y lleoliad.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad hefyd i ymdrechion nodedig y Gwasanaeth Tân a swyddogion y Cyngor, fel y gwnaeth y Cynghorydd Jean Davies hefyd.

 

Cefnogwyd awgrym y Cynghorydd Richard Jones fod y Cyngor yn ysgrifennu’n ffurfiol i ddiolch i’r Gwasanaeth Tân gan y Cadeirydd.Ymatebodd y Prif Weithredwr i ymholiad ar yr oblygiadau ariannol a chyfleu ei ddiolch i’r rhai oedd wedi cynorthwyo.Er mwyn rhoi sicrwydd ar yr ymateb a’r canfyddiadau o’r digwyddiad fe awgrymodd y dylai adroddiad gael ei drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y Dyfodol.

49.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

50.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 pdf icon PDF 237 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Gwella Perfformiad 2018/19 er mwyn ei gyhoeddi cyn y dyddiad cau.Adroddiad statudol oedd hwn yn darparu trosolwg ôl-weithredol o berfformiad yn erbyn y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2018/19 ac asesiad o amcanion y Cyngor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol gyflwyniad yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Fformat a chynnwys

·         Trosolwg o Berfformiad 2018/19

·         Trosolwg o Gynnydd

·         Uchafbwyntiau

·         Meysydd i’w Gwella

·         Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Trosolwg o Berfformiad

·         Trosolwg o’r Grynodeb

·         Y Camau Nesaf

 

Ymhlith yr amrediad o lwyddiannau o dan bob thema roedd rhaglen adeiladu tai y Cyngor; cydnabyddiaeth genedlaethol i’r prosiect Cynnydd i Ddarparwr , cyfraddau ailgylchu gwastraff uchel a llwyddiannau arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd.Roedd meysydd a nodwyd ar gyfer gwelliant yn cael eu hymgorffori i Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 gan gynnwys gostwng y nifer o ddyddiau i gwblhau Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac mae cynnydd eisoes yn cael ei wneud ar hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r gostyngiad bach mewn perfformiad yn erbyn y safle cenedlaethol yn parhau i gael ei fonitro ac y dylai'r gefnogaeth gref gan y tri chorff rheoleiddio statudol ers amseru'r adroddiad ddarparu sicrwydd.Siaradodd am newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol a oedd yn darparu ar gyfer mwy o hyblygrwydd mewn adrodd am berfformiad ac atgoffodd Aelodau y dylai materion cylchol o ddiddordeb penodol yng Nghynllun y Cyngor gael eu cyflwyno i Rhaglenni Gwaith i'r Dyfodol Trosolwg a Chraffu.

 

O ran y llwyddiannau yn Nhreffynnon, siaradodd y Cynghorydd Palmer am y cydweithio cadarnhaol gyda busnesau yn ymwneud ag ail agor y Stryd Fawr a llwyddiannau Canolfan Hamdden Treffynnon a diolchodd i’r Cynghorydd Tudor Jones am hynny.

 

Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i ddarparu ymateb ar wahân i gwestiwn y Cynghorydd Carver ar y nifer o landlordiaid / asiantaethau gosod tai nad oeddent yn cydymffurfio gyda rheoliadau Rhentu Doeth Cymru.Cytunodd i siarad ag ef y tu allan i’r cyfarfod yn ymwneud â phryderon yngl?n â Th? Amlfeddiannaeth a dywedodd mai prif flaenoriaeth y tîm Iechyd Amgylcheddol oedd i orfodi deddfwriaeth amodau tai a chynllunio i sicrhau amodau byw digonol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis eglurwyd fod y meysydd ar gyfer gwelliant yn ymwneud â pherfformiad ac y byddai ardaloedd risg uchel yn parhau i gael eu monitro.Fe allai peth risg barhau yn ymwneud â darpariaeth gofal preswyl yn dilyn cwblhau’r gwaith ar Marleyfield House, yn dibynnu ar lefelau’r galw. Roedd oedi wrth drosglwyddo gofal yn risg oedd yn parhau ac roedd yn annhebygol o wella i Wyrdd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a ddylid gostwng y statws risg ar lefelau dyledion o ganlyniad i Gredyd Cynhwysol yng ngoleuni’r sylwadau. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y dylai hwn barhau yn risg Coch i ganiatáu amser i fesurau lliniaru gael effaith ac y dylid parhau i’w adolygu. O ran buddsoddiad seilwaith gofynnodd y Cynghorydd Jones sut roedd Cynllun Glannau Dyfrdwy yn  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

Item 6 - APR presentation pdf icon PDF 602 KB

Dogfennau ychwanegol:

51.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2018/19 pdf icon PDF 268 KB

Pwrpas:        I gyflwyno drafft Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018/19 er cymeradwyaeth yr Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018/19 nad oedd, yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Archwilio a'r Cabinet, wedi codi unrhyw faterion penodol. Tynnodd sylw at y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a gadarnhaodd fod y swyddogaeth Rheoli Trysorlys wedi gweithredu o fewn y cyfyngiadau a nodwyd yn y Strategaeth ar gyfer y cyfnod. Hefyd cyflwynwyd yr Adroddiad Canol Blwyddyn ar gyfer 2018/19, wedi iddo gael ei argymell gan y Cabinet ar gyfer ei gymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a allai’r cyfanswm o incwm a ddeilliai o fuddsoddiadau gael ei ystyried fel trydydd rheswm ar gyfer buddsoddiad (a nodir yn adran 2.02) a allai wneud gwahaniaeth yn ystod y cyfnod o galedi.

 

Wrth ymateb dywedodd y Prif Weithredwr y gallai’r geiriad egluro mai’r nod oedd i greu incwm o gronfeydd o arian dros ben cyn belled â bod y ddau brif egwyddor yn cael eu diwallu.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) at ganllawiau buddsoddi Llywodraeth Cymru a oedd yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a hylifedd, gydag arenillion yn dilyn hynny.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Peers, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod Strategaeth Rheoli’r Trysorlys yn nodi’r amrediad o ystyriaethau y tu ôl i fuddsoddiadau, gan nodi fod buddsoddiadau cronfeydd pensiwn ar wahân i rai’r Cyngor.Mewn llywodraeth leol, mae’r ymagwedd tuag at fenthyca yn golygu fod dyled heb ei thalu yn angenrheidiol i dalu am fuddsoddiadau ac asedau dros amser.  Roedd ad-dalu’r ddyled dros y tymor hirach yn cael ei ariannu drwy’r Isafswm Darpariaeth Refeniw oedd yn cynnwys Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai.Fel pwynt o gywirdeb, eglurwyd fod y ddau fenthyciad a nodir yn adran 3.03 yr Adroddiad Blynyddol wedi eu cymryd allan ar 6 Rhagfyr 2018.

 

Mewn ymateb i gwestiynau eraill eglurodd y Prif Gyfrifydd fod y benthyciad ar gyfer NEW Homes, is-gwmni y mae’r Cyngor yn berchennog llawn arno, wedi ei gymryd allan dros gyfnod o 45 mlynedd gydag ychydig wedi ei ychwanegu at y gyfradd ad-dalu dros ac uwch na’r cyfanswm a fenthycwyd.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Mackie y gwahaniaeth rhwng ffigyrau ar weithgaredd benthyca a dywedwyd wrtho fod tabl yn yr adroddiad blynyddol yn cynnwys eitemau eraill fel y portffolio dyled tymor byr.

 

Wrth drafod yr argymhellion dywedodd y Cynghorydd Banks fod yr adroddiad yn dangos y cyfnod heriol ac amodau’r farchnad.Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm a thalodd deyrnged i gyfraniadau ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys a’r Pwyllgor Archwilio yn ystod y broses.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio eiliodd y Cynghorydd Chris Dolphin y cynnig.O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2018/19 ac Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2018/19 yn cael eu cymeradwyo.

52.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19 a oedd, yn unol ag arfer da, yn dangos i’r Cyngor ei atebolrwydd a’i effeithiolrwydd o ran ei Gylch Gorchwyl. Roedd yr adroddiad wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ym mis Medi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers am i’r adran ar bresenoldeb adlewyrchu yn fwy eglur ei fod wedi mynychu fel dirprwy ac nad oedd gofyn iddo fod yn bresennol yn y cyfarfodydd eraill. Awgrymodd hefyd fod adran 5.4 yn nodi’r arfer i’r Pwyllgor Archwilio bleidleisio i ganiatáu dirprwyon mewn cyfarfodydd.Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i wneud y newidiadau.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, cynigodd y Cynghorydd Chris Dolphin yr argymhelliad a diolchodd i’r Rheolwr Archwilio Mewnol a’i thîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19 yn cael ei gymeradwyo.

53.

Adolygu Safonau Sir y Fflint pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Safon ddiwygiedig Sir y Fflint ar safonau ymddygiad disgwyliedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganlyniad adolygiad o Safon Sir y Fflint o fewn y Protocol Datrysiad Lleol sy’n amlinellu'r safonau a ddisgwylir o ran ymddygiad gan Aelodau wrth iddynt ymdrin â'i gilydd a swyddogion. Yn dilyn ymgynghoriad, roedd y newidiadau a gynigiwyd gan Arweinwyr Gr?p a swyddogion wedi eu cefnogi gan y Pwyllgor Safonau yn ogystal â gwelliant pellach ar amseru’r broses gwyno.

 

Ym mis Hydref 2019 roedd Pwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd wedi cymeradwyo’r holl ddiwygiadau ac wedi argymell fod y safonau ymddygiad hefyd yn berthnasol i Aelodau pan yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn eu rôl swyddogol a bod y Weithdrefn Datrysiad Lleol yn darparu ar gyfer Aelodau amhleidiol (nad ydynt yn rhan o gr?p).

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod y safonau ymddygiad yn ymddangos fel pe baent yn rhoi gormod o gyfarwyddyd gan y dylai parch i eraill fod yn rhan o ymddygiad cyffredinol.

 

Yn ystod y drafodaeth siaradodd y Cynghorwyr Roberts a Blithell o blaid Safon Sir y Fflint. Rhoddodd y prif Swyddog eglurhad ar y rhesymeg y tu ôl i beth o'r geiriad yn y Safon a fyddai, heb gyfyngu ar fynegiant gwleidyddol, yn sicrhau fod swyddogion yn cael eu heithrio’n benodol o faes sylwadau gwleidyddol.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Arweinwyr Gr?p am eu gwaith ar y Safon yn ystod yr ymgynghoriad.

 

Nododd y Prif Weithredwr awgrym y Cynghorydd Dunbobbin y dylai'r Cynghorau Tref a Chymuned gael eu hannog i fabwysiadu Safon Sir y Fflint.

 

Fel Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a'r Gwasanaethau Democrataidd cynigiodd y Cynghorydd Palmer yr argymhelliad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Roberts.O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu Safon Sir y Fflint oedd wedi ei diwygio.

54.

Cod Ymddygiad Cynghorwyr pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        I ddiwygio’r Cod Ymddygiad yn unol â'r argymhellion o Bwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i geisio cael cymeradwyaeth i newid yn y Cod Ymddygiad i Gynghorwyr yn nhermau rhoddion a lletygarwch. Roedd y mater wedi codi o nifer o argymhellion arfer gorau a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus wrth ystyried effaith newidiadau a wnaed i’r gyfundrefn foesegol yn Lloegr.Er nad oedd y rhain yn orfodol yng Nghymru roedd y Pwyllgor Safonau wedi cynnig fod y Cyngor yn mabwysiadu’r argymhelliad yn wirfoddol i'w gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan nid yn unig rhoddion/lletygarwch y tu hwnt i werth unigol penodol ond hefyd y rhai uwch na gwerth cyfanredol. Ar gyfer Sir y Fflint argymhellwyd fod yr arfer presennol o gofrestru rhoddion gwerth dros £10 yn cael ei ymestyn i gynnwys rhoddion o £100 neu fwy a dderbyniwyd gan yr un rhoddwr dros gyfnod o 12 mis. Roedd y newid hwn wedi ei gymeradwyo gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell y dylai'r safonau a ddisgwylir gan lywodraeth leol fod yn weithredol mewn meysydd eraill.Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn dangos ymagwedd y Cyngor mewn nodi enghreifftiau o arfer da y tu allan i Gymru.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin p'run ai a oedd yn amser am gynnydd yn nhrothwy presennol y Cyngor ar gyfer cofrestru rhoddion unigol gwerth £10 a mwy.Cytunodd y Prif Weithredwr i wneud ymholiadau ar y cyfyngiad a weithredir gan gynghorau eraill.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Palmer yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peers.O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y gwelliant a awgrymwyd, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i roddion gyda chyfanswm gwerth o £100 neu fwy mewn cyfnod o 12 mis gael eu datgan, yn cael ei ychwanegu i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr.

55.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 6 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: daethdau i law erbyn y dyddiad cau.

 

Y Cynghorydd Andy Dunbobbin - Codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched a cham-drin domestig

 

Y Cynghorydd Kevin Hughes - Hyfforddiant Cymorth Cyntaf mewn ysgolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig:

 

(i)        Codi Ymwybyddiaeth am Drais yn erbyn Merched a Cham-drin Domestig – y Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

‘Mae’n bosib fod Aelodau’n cofio fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn merched a cham-drin domestig. Mae’r holl staff yn ymgymryd â'r e-ddysgu, ac mae hyn i'w ganmol.

 

Roedd y pecyn wedi ei addasu i fod ar gael i Aelodau.Byddai’n dangos ein cefnogaeth i'r fenter deilwng hon pe byddai’r holl Aelodau yn gwneud yr hyfforddiant hwn, sydd ddim ond yn cymryd rhyw 40 munud.

 

Allwn ni ymrwymo i roi 40 munud ar gyfer y dysgu a all ein cynorthwyo ni i gyd i fynd i’r afael yn fwy effeithiol gyda materion y gallwn ddod i gysylltiad â nhw yn ein wardiau?’

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod fideo ar gam-drin domestig, a ddangoswyd yn flaenorol mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn cael ei rannu gyda’r holl Aelodau.

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd White a oedd, fel llysgennad ar gyfer ymgyrch y Rhuban Gwyn, wedi datgan ei gefnogaeth i amlygu'r mater pwysig hwn. Rhannodd awgrym cydweithiwr y gallai Aelodau ymgymryd â’r hyfforddiant ar yr un pryd tra’n bodloni awgrym y Cadeirydd.

 

Fel Is-Gadeirydd yr Uned Ddiogelwch Cam-Drin Domestig ar gyfer Glannau Dyfrdwy canmolodd y Cynghorydd Bithell waith y Cyngor yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn.Dywedodd y byddai Aelodau yn cael cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad i’r pecyn e-ddysgu a siaradodd o blaid yr awgrym a wnaed gan y Cynghorydd White.

 

Wrth groesawu hyn awgrymodd y Cynghorydd Brown fod y sesiwn hyfforddi yn cysylltu â Rhaglen Rhyddid yr Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r holl awgrymiadau yn cael eu hymgorffori i ddarparu sesiynau hyfforddi Aelodau.

 

Yn dilyn sylw a wnaed gan y Cynghorydd Butler, nodwyd y byddai’r hyfforddiant yn berthnasol i ddioddefwyr trais a cham-drin domestig gwrywaidd yn ogystal â benywaidd.

 

O’i roi i bleidlais, pleidleisiwyd o blaid y Rhybudd o Gynnig.

 

(ii)        Hyfforddiant Cymorth Cyntaf mewn Ysgolion – y Cynghorydd Kevin Hughes

 

‘Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru (LlC) i wneud Cymorth Cyntaf, gan gynnwys hyfforddiant ar CPR a’r diffibriliwr, yn orfodol fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Hefyd fod ysgolion yn cael y cyllid gofynnol i sicrhau y gellir darparu'r hyfforddiant.

 

Wrth ddarparu gwybodaeth gefndir eglurodd y Cynghorydd Hughes fod hyfforddiant Cymorth Cyntaf i ddod yn orfodol ymhob ysgol yn Lloegr o fis Medi 2020 yn dilyn ymchwiliad yr Arglwydd Kerslake i'r achos o fomio yn Arena Manceinion.Tra byddai ysgolion cynradd yn Lloegr yn darparu hyfforddiant sylfaenol, byddai disgyblion uwchradd yn derbyn sgiliau achub bywyd gan gynnwys dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr.Yn Yr Alban mae ymrwymiad tebyg wedi ei wneud i ddysgu sgiliau achub bywyd yn yr ysgolion.Roedd hyn yn cyd-fynd â nod y Groes Goch ac elusennau eraill a oedd wedi bod yn ymgyrchu dros gynnwys hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y cwricwlwm ar draws yr holl ysgolion.

 

Wrth siarad o blaid y Cynnig, fe dalodd y Cynghorydd Hughes deyrnged i berfformiad  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

57.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

58.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Argraffiad 2 2019/20, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar Dydd Mercher, 16 Hydref, 2019:  doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

59.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.