Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2018/19

Pwrpas:        Derbyn manylion ynghylch adolygiad y Cadeirydd o’r flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, cyflwynodd y Cynghorydd Paul Cunningham ei adolygiad o’r flwyddyn pan gafodd ef a’i Gymhares Mrs Joan Cunningham yr anrhydedd o gynrychioli Sir y Fflint mewn dros 300 o ddigwyddiadau dinesig.  Ymysg yr uchafbwyntiau’r oedd Diwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru, Cynllun Cyfnewid Ieuenctid Japan (y dymunai iddo barhau) a digwyddiadau elusennol ag awdurdodau cyfagos. Yn ogystal, croesawodd yr ymweliadau â Neuadd y Sir gan lawer o ysgolion a chlybiau ieuenctid lleol, felly hefyd y cymorth a gafwyd yn ystod Wythnos Fusnes Sir y Fflint gan y Cynghorydd Derek Butler, Kate Catherall a’r Arglwydd Barry Jones.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i bawb am ei haelioni yn helpu i godi bron £14,500 yn bennaf i’r elusennau a ddewiswyd ganddo, Macmillan Cancer Support a Th?’r Eos, gyda’r gweddill yn cael ei rannu ymysg sefydliadau lleol.

 

I gloi, diolchodd i bawb am fod yn gefn iddo yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, a diolchodd yn bersonol i’r Prif Weithredwr, y Cynghorydd Aaron Shotton fel Arweinydd y Cyngor, Tîm y Prif Swyddogion a gweithwyr y Cyngor.  Diolchodd hefyd i’w gyd Aelodau am roi iddo’r cyfle i wasanaethu fel Cadeirydd ac i dîm y Gwasanaethau Aelodau a Dinesig a’i Gaplan y Cynghorydd a’r Parch Brian Harvey am eu holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Talodd deyrnged i’r Is-gadeirydd am ei chefnogaeth gan ddymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd, ac i’w wraig Joan am ei chyfraniad fel Cymhares yn ystod y flwyddyn.

 

Ar ran y swyddogion, diolchodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Cunningham a Mrs Cunningham am eu gwaith yn cynrychioli’r Cyngor. Ategwyd hyn gan nifer o’r Aelodau yn ystod y cyfarfod.

3.

Ethol Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2019/20, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Carol Ellis ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid ethol y Cynghorydd Marion Bateman yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. Ni chafwyd dim enwebiadau eraill.  I gefnogi’r cynnig, talwyd teyrnged i gyfraniadau’r Cynghorydd Bateman i amrywiol bwyllgorau a’i hymrwymiad i faterion lleol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bateman i’r Aelodau am ei hethol yn Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn nesaf a oedd yn anrhydedd iddi. Llongyfarchodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a’i Gymhares ar flwyddyn lwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ethol y Cynghorydd Marion Bateman yn Gadeirydd ar y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Bateman â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a llofnododd ei Datganiad yn Derbyn y Swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

 (Bryd hynny, cadeiriodd y Cynghorydd Bateman weddill y cyfarfod.)

 

Yna cyflwynodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Cunningham ei Fathodyn Swydd Cadeirydd ymddeoledig a’i Gymhares Mrs Joan Cunningham gyda’i Bathodyn Swydd ymddeoledig. Arwisgwyd Cymar y Cadeirydd, y Cynghorydd Haydn Bateman â Chadwyn y Swydd.

4.

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2019/20, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ac eiliodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y dylid penodi’r Cynghorydd Joe Johnson yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. Ni chafwyd dim enwebiadau eraill.  I gefnogi’r cynnig, talwyd teyrnged i waith elusennol y Cynghorydd Johnson ac i’w gefnogaeth i achosion lleol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Johnson i’r Aelodau a llongyfarchodd y Cadeirydd gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weithio â hi y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Joe Johnson yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Johnson â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd a llofnododd y Datganiad yn Derbyn y Swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. Arwisgwyd Cymhares y Cynghorydd Johnson, Mrs Sue Johnson, â Chadwyn ei Swydd.

5.

AMRYWIO TREFN Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y ceid newid bychan yn nhrefn y cyfarfod er mwyn dwyn ymlaen eitem 10 ar yr agenda ar Gyfamod y Lluoedd Arfog. Byddai gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn y maent ar yr agenda.

6.

Adnewyddu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i Gyfamod y Lluoedd Arfog pdf icon PDF 1 MB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o Gyfamod y Lluoedd Arfog ac o gyflawniadau a dyheadau'r Cyngor ar gyfer y dyfodol, ac ail gadarnhau ymrwymiadau’r Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog drwy arwyddo’r Cyfamod a ddiweddarwyd yn y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Lefftenant-Cyrnol Mark Powell a Janette Williams (Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog dros Ogledd-ddwyrain Cymru) i adnewyddu ymrwymiad y Cyngor i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog drwy ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a lofnodwyd yn wreiddiol yn 2013. Cyflwynwyd sleidiau a amlinellai ddiben y Cyfamod ynghyd â chyflawniadau’r Cyngor a’i uchelgeisiau i’r dyfodol.

 

Fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y dylid ail-lofnodi’r Cyfamod i ail-gadarnhau ymrwymiad y Cyngor i sicrhau na ddylai aelodau’r gymuned Lluoedd Arfog gael eu rhoi dan anfantais annheg wrth ddarparu gwasanaethau ac y dylid rhoi iddi ystyriaeth arbennig lle bo angen. Mae’r ymrwymiad hwn yn cydnabod gwerth personél sydd ar wasanaeth, yn filwyr rheolaidd neu wrth gefn, yn gyn-filwyr a theuluoedd milwrol am eu cyfraniadau i’r wlad. Mae’r gr?p llywio wedi cael cryn lwyddiant yn hyrwyddo’r Cyfamod, cymaint felly fel bod y Cyngor wedi ennill y Wobr Arian yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Diolchodd y Cynghorydd Dunbobbin i’r holl swyddogion dan sylw, yn enwedig Janette Williams a Stephen Townley. Eiliodd y Cynghorydd Joe Johnson y cynnig.

 

Llofnodwyd y Cyfamod yn ffurfiol gan y Lefftenant-Cyrnol Powell a’r Cynghorydd Dunbobbin.

 

Ar ran Cadlywydd y Frigâd, diolchodd y Lefftenant-Cyrnol Powell i’r Cyngor am ei gefnogaeth a werthfawrogwyd yn fawr.

 

Cymerodd y Cynghorydd Glyn Banks y cyfle i dalu teyrnged i bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, yn ogystal ag i bawb a fu’n gweithio ar y Cyfamod, yn enwedig y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Adnewyddu ymrwymiad y Cyngor i’r gymuned Lluoedd Arfog drwy ail-lofnodi’r Cyfamod.

7.

Ethol Arweinydd Y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ac eiliodd y Cynghorydd Neville Phillips y dylid penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. Ni chafwyd dim enwebiadau eraill.  I gefnogi’r cynnig, talwyd teyrnged i gyflawniadau’r Cynghorydd Roberts mewn llywodraeth leol a’i ymrwymiad i gyflwyno gwasanaethau o ansawdd i drigolion Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.

8.

Arweinydd Y Cyngor I Benodi'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Aelodau am ei ethol yn Arweinydd ar y Cyngor a oedd yn anrhydedd gwirioneddol iddo. Yn unol â’r Cyfansoddiad, cyflwynodd ei ddewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sean Bibby a ddymunodd y gorau i’r Cynghorydd Roberts a’r Cabinet yn y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet a’u portffolios fel isod,

 

Aelod Cabinet

Portffolio

Ian Roberts

Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid

Carolyn Thomas

Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Stryd

Glyn Banks

Aelod Cabinet dros Gyllid

Chris Bithell

Aelod Cabinet dros Gynllunio

Derek Butler

Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd

Dave Hughes

Aelod Cabinet dros Dai

Christine Jones

Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

Billy Mullin

Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol

 

9.

Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cyngor yn ystyried adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion yr oedd gofyn gwneud penderfyniad arnynt yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir yn unol â Rheol 1.1 (vii) – (xiv) o Weithdrefnau’r Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn delio ag un penderfyniad yr oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar bob adran yn ei thro.

 

 (i)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn darparu ar gyfer penodi’r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Roedd angen penodi’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu hefyd fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad yngl?n â’r angen i benodi Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu pan oedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi’i sefydlu. Dywedodd y Prif Swyddog, er bod y Pwyllgor Safonau’n ystyried unrhyw achosion o gynghorwyr yn torri’r Cod Ymddygiad, roedd yn ofynnol sefydlu pwyllgor ar wahân i ystyried materion disgyblu yn ymwneud â swyddogion, yn benodol y swyddogion statudol a enwyd fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am fanylion y swyddogion y byddai hyn yn berthnasol iddynt. Cytunodd y Prif Swyddog i gyflenwi enw’r swyddogion yr oedd eu swyddi wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir ym mharagraff 1.01

Pwyllgor Cwynion (penodwyd ar 9 Ebrill 2019)

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

 

 (ii)       Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod angen penderfynu ar faint pob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Roedd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau i’w gweld yn yr adroddiad, gan gynnwys argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio i gynyddu ei faint i ganiatáu derbyn aelod lleyg ychwanegol.

 

Wrth gyfeirio at bwysigrwydd y Pwyllgor Archwilio, galwodd y Cynghorydd Heesom am roi ystyriaeth bellach i faint ei aelodaeth i gynnwys cynrychiolaeth ehangach ymysg yr Aelodau, yn enwedig os ceid cynnydd yn nifer yr aelodau lleyg.  Gofynnodd a fyddai’r Arweinydd yn ystyried gohirio penderfyniad ar y pwyllgor penodol hwnnw er mwyn caniatáu amser i drafod ymhellach.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y byddai penderfyniad o’r fath yn arwain at ohirio cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar yr eitem yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Mehefin.

 

O ran y cyfyngiadau deddfwriaethol ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio, tynnodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at y rheolau ar gynrychiolaeth wardiau Aelodau amryfal fel y nodir yn adran Cydbwysedd Gwleidyddol yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Heesom, cydnabu’r Cynghorydd Roberts fanteision cael aelodau lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgorau a chynigiodd fod nifer y  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

Item 8 - Revised Political Balance allocation pdf icon PDF 39 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Aelodau Annibynnol o’r Bwyllgor Safonau pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Ystyried penodi Aelod Annibynnol i’r Bwyllgor Safonau am ail dymor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar aelodaeth y Pwyllgor Safonau oherwydd bod tymor dau o’r aelodau annibynnol yn eu swydd wedi dod i ben yn ddiweddar. Roedd y ddau aelod yn gymwys i gael eu hail-benodi am ail dymor a chydnabuwyd eu cyfraniadau gwerthfawr i’r Pwyllgor. Tra bo Phillipa Earlam yn barod i wasanaethu eto, awgrymwyd y dylid anfon llythyr o ddiolch at Edward Hughes a oedd yn dymuno camu i lawr.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog y rheolau ar benodi aelodau annibynnol a dywedodd y byddai proses recriwtio ar y cyd bosibl â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o fudd.

 

Wrth groesawu cyfraniadau aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn ailbenodi Phillipa Ann Earlam i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd ac yn hysbysebu’r swydd wag a oedd ar ôl ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; a

 

 (b)      Bod Cadeirydd y Cyngor yn ysgrifennu at Edward Hughes i ddiolch iddo am ei waith caled ar y Pwyllgor yn ystod ei dymor.

11.

Amserlen o Gyfarfodydd pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer 2019/20 ar ôl ymgynghori. Er y gwnaed pob ymdrech i osgoi cyd-drawiad â chyfarfodydd eraill, awgrymodd y dylid symud cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ar 21 Hydref i 28 Hydref rhag iddo gyd-daro â chyfarfod o’r Awdurdod Tân.  Awgrymodd hefyd y dylid symud y Cyfarfod blynyddol (AGM) i 5 Mai 2020 i ganiatáu amser ar ôl yr ?yl Banc.

 

Ar y pwynt diwethaf, cytunodd y Prif Weithredwr ag awgrym y Cynghorydd Mike Peers y dylid symud y Cyfarfod blynyddol i 7 Mai 2020 a bod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei aildrefnu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey i’r Rhestr gynnwys cydgyfarfod rhwng Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, er mwyn ystyried eitemau a oedd yn rhychwantu cylch gorchwyl y ddau.

 

Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai Cadeiryddion y ddau Bwyllgor gytuno ar amlder y cyfryw gyd-gyfarfodydd ar ôl i’r penodiadau gael eu gwneud.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r rhestr ddrafft o’r cyfarfodydd ar gyfer 2019/20, yn amodol ar y newidiadau arfaethedig.

12.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg ac 16 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.