Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Marion Bateman, Paul Cunningham, Ian Roberts, ac Andrew Parkhurst gysylltiad personol yn eitem 12 ar y rhaglen: Penodi Lleygwr i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gan eu bod yn adnabod yr unigolyn a enwebwyd.
|
|||||||||||||||||||
Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Joe Johnson – fel y Cadeirydd a oedd yn gadael – ei adolygiad o’r flwyddyn 2021/22. Yr oedd ef a’i Gymar, Mrs Sue Johnson, wedi bod yn falch o gael cynrychioli Sir y Fflint yn ystod y flwyddyn.
Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr Aelodau Etholedig newydd i’w cyfarfod cyntaf gyda’r Cyngor Sir, a diolchodd i’r Aelodau a’r swyddogion a oedd yn dychwelyd am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd. Siaradodd am effaith uniongyrchol pandemig Covid-19 ar fywydau personol a thalodd deyrnged i swyddogion a gweithwyr am eu hymrwymiad i barhad gwasanaethau drwy gydol yr heriau. Dywedodd y Cynghorydd Johnson ei fod wedi bod yn falch o gael derbyn gwahoddiadau i ystod o ddigwyddiadau ar ran y Cyngor Sir, a rhoddodd nifer o enghreifftiau. |
|||||||||||||||||||
Ethol Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2022/23, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dylid ethol y Cynghorydd Mared Eastwood yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Roberts. Gan siarad o blaid y cynnig, tynnodd y Cynghorydd McGuill sylw at rinweddau personol y Cynghorydd Eastwood, ei phrofiadau proffesiynol, a’i gwaith ymroddgar yn y gymuned leol. Talodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged i’r Cynghorydd Mared Eastwood yn ogystal. Ni chafwyd enwebiadau eraill.
Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Mared Eastwood yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23.
Diolchodd y Cynghorydd Mared Eastwood i’r Aelodau am ei hethol yn Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan ddisgrifio hynny fel anrhydedd. Talodd deyrnged i’r Cadeirydd a oedd yn gadael a’i Gymar, gan ddweud bod y Cynghorydd Joe Johnson wedi bod yn llysgennad ardderchog i’r Sir.
PENDERFYNWYD:
Ethol y Cynghorydd Mared Eastwood yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23.
Arwisgwyd y Cynghorydd Mared Eastwood gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd a oedd yn gadael, ac arwyddodd y Cadeirydd newydd ei Datganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.
Cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn Swydd Cyn-Gadeirydd i’r Cynghorydd Joe Johnson, a chyflwynwyd rhodd i’w Gymar, Mrs Sue Johnson.
Nid oedd Cymar y Cadeirydd, Mr Tim Eastwood, yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, a derbyniwyd Bathodyn y Swydd ar ei ran gan Mr Owen Eastwood.
(Wedi’r pwynt hwn cadeiriwyd gweddill y cyfarfod gan y Cynghorydd Mared Eastwood.)
|
|||||||||||||||||||
Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2022/23, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid ethol y Cynghorydd David Mackie yn Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Helen Brown.
Cynigiodd y Cynghorydd David Healey y dylid ethol y Cynghorydd Gladys Healey yn Is-Gadeirydd, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Christine Jones.
Ni chafwyd enwebiadau eraill.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hyn gan y nifer gofynnol o Aelodau.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol dros y Cynghorydd David Mackie: Mike Allport, Bernie Attridge, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Helen Brown, Steve Copple, Bill Crease, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Dennis Hutchinson, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Alan Marshall, Debbie Owen, Mike Peers, David Richardson, Dale Selvester, Jason Shallcross, Arnold Woolley ac Antony Wren
Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol dros y Cynghorydd Gladys Healey: Sean Bibby, Chris Bithell, Gillian Brockley, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, David Coggins Cogan, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Alasdair Ibbotson, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Andrew Parkhurst, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Carolyn Preece, Ian Roberts, Dan Rose, Kevin Rush, Sam Swash, Linda Thew, Linda Thomas, Ant Turton, Roy Wakelam
Ni chafwyd unrhyw un yn ymatal.
Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23.
Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i’r Aelodau am eu cefnogaeth a dywedodd ei bod yn falch ac yn teimlo’n freintiedig o gael ei hethol yn Is-Gadeirydd. Llongyfarchodd y Cadeirydd ar ei phenodiad a dweud ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y flwyddyn i ddod.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23.
Arwisgwyd y Cynghorydd Healey gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd, ac arwyddodd yr Is-Gadeirydd newydd ei Datganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr. Arwisgwyd Cymar y Cynghorydd Healey, y Cynghorydd David Healey, gyda Chadwyn ei Swydd.
|
|||||||||||||||||||
Ethol Arweinydd y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Christine Jones.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid penodi’r Cynghorydd Richard Jones yn Arweinydd y Cyngor, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Helen Brown.
Ni chafwyd enwebiadau eraill.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hyn gan y nifer gofynnol o Aelodau.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol dros y Cynghorydd Ian Roberts:
Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol dros y Cynghorydd Richard Jones:
Ymatalodd yr Aelodau canlynol: Marion Bateman, David Coggins-Cogan, Allan Marshall, Linda Thew a Roy Wakelam
Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022/23.
|
|||||||||||||||||||
Arweinydd y Cyngor i Benodi'r Cabinet Pwrpas: Nodi penodiad aelodau’r Cabinet gan Arweinydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth ei ethol am dymor arall yn swydd Arweinydd y Cyngor, a oedd yn anrhydedd iddo. Siaradodd am y parch mawr a oedd i’r Cyngor yng Nghymru, a thalodd deyrnged i holl weithwyr y Cyngor a oedd wedi parhau i ddarparu a chynnal safonau gwasanaeth drwy gydol yr anawsterau a achosodd pandemig Covid. Llongyfarchodd y Cynghorydd Roberts y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar eu penodiad.
Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd y Cynghorydd Roberts ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet a’u portffolio a restrir isod.
|
|||||||||||||||||||
Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau PDF 120 KB Pwrpas: Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill, a materion eraill megis dyrannu seddi gyda chydbwysedd gwleidyddol.
Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried. Ystyriwyd pob adran yn ei thro, a phleidleisio arni.
(i) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Apeliadau; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; Pwyllgor Cwynion; Pwyllgor Apeliadau Cwynion; Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu; Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a phum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (fel y rhestrwyd ym mharagraff 1.01 yr adroddiad).
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod y Pwyllgor Trwyddedu’n cael ei drosglwyddo i Gr?p Annibynnol.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ddiwygiad i’r argymhelliad yn yr adroddiad, a chynnig y dylid creu Pwyllgor Newid Hinsawdd newydd i hybu gweledigaeth y Cyngor o chwilio am atebion i effaith newid hinsawdd ar gymunedau lleol yn Sir y Fflint. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Bithell ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Apeliadau Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd Pwyllgor Newid Hinsawdd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Pwyllgor Cwynion Pwyllgor Apeliadau Cwynion Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau) Pwyllgor Trwyddedu Pwyllgor Cynllunio Pwyllgor Safonau; a’r Pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel y rhestrwyd yn yr adroddiad.
(ii) Pennu maint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Yr oedd y Cyngor wedi cytuno o’r blaen y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr er mwyn gallu cynrychioli’r holl grwpiau gwleidyddol.
Eglurodd y Prif Swyddog fod maint y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion, a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, fel y nodwyd yn 1.04 yn yr adroddiad, wedi ei gynyddu ar ôl hynny i 13 er mwyn cynrychioli’r holl grwpiau gwleidyddol.
Wrth ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge am y cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, a’r angen i benderfynu ar gydbwysedd gwleidyddol ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd newydd, awgrymodd y Prif Swyddog fod cylch gorchwyl ac aelodaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael eu pennu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir ar 19 Gorffennaf, a bod cydbwysedd gwleidyddol Pwyllgorau’n cael eu hadolygu a’u hailgyfrifo hefyd.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones. Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod maint pob Pwyllgor fel ag y nodir ym mharagraff 1.04 yr adroddiad, a maint y Pwyllgor Cwynion, Pwyllgor Apeliadau Cwynion, a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn cael ei gynyddu i 13; ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|||||||||||||||||||
Report on Constitutional Issues - Appendix 1 PDF 32 KB Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
NEWID YN NHREFN Y RHAGLEN Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r eitem yn ymwneud â Threfniadau Cydweithio Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymreig (awdurdodau lleol) yn cael ei thrafod yn gynt.
Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
Pwrpas: Cyflwynocynigion ar gyfer datblygu’r llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru wrth iddo gymryd cyfrifoldeb dros Faethu Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i geisio cytundeb i arwyddo’r Cytundeb Cydbwyllgor ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun, a dweud bod y Cytundeb yn egluro rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cynnal a chyflawni swyddogaethau cenedlaethol a oedd yn cynorthwyo a galluogi’r awdurdod lleol i gyflawni cyfrifoldebau mabwysiadu a maethu. Atodwyd copi o’r Cytundeb Cydbwyllgor i’r adroddiad.
Wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Richard Jones, cytunodd y Prif Swyddog fod gofalwyr sy’n berthnasau yn rhan annatod o wasanaethau maethu’r Cyngor, a’u bod yn cael eu cefnogi’n llawn fel aelodau o’r teulu.
Wrth gynnig yr argymhellion yn yr adroddiad, diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge i Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith a’u hymroddiad i ddarparu gwasanaethau mabwysiadu a maethu. Eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Christine Jones.
Talodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Ian Roberts a’r Cynghorydd Paul Cunningham deyrnged i wasanaeth mabwysiadu a maethu’r Cyngor a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r trefniadau llywodraethu newydd a sefydlwyd drwy’r Cytundeb Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru; a
(b) Bod adroddiad blynyddol am y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a darpariaeth gwasanaethau rhanbarthol a lleol, yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel rhan o oruchwyliaeth llywodraeth leol.
|
|||||||||||||||||||
Etholiadau Cyngor Sir y Fflint Dydd Iau 5 Mai 2022 PDF 80 KB Pwrpas: I adrodd i’r Cyngor Sir ar gynnal a chanlyniadau etholiadau Cyngor Sir 2022. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am ganlyniadau etholiadau’r Cyngor Sir yn 2022. Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr etholiadau lleol wedi eu cynnal yn unol â chyfraith etholiadau, canllawiau, arferion cyffredin a’r safonau perfformiad sydd wedi eu gosod ar gyfer Swyddogion Canlyniadau. Nododd yr adroddiad gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor ar gyfer y tymor newydd.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod proses yr etholiadau lleol wedi bod o safon uchel a bod uniondeb wedi ei gynnal. Mynegodd ei werthfawrogiad o ymroddiad a phroffesiynoldeb timau Etholiadau a Rheoli’r Cyfrif, a chydweithrediad pawb a fu’n rhan o’r broses etholiadol, gan gynnwys llawer o sefydliadau lleol a ddarparodd eu heiddo i fod yn orsafoedd pleidleisio, a Choleg Cambria am ddarparu lle ar gyfer Canolfan Gyfrif. Diolchodd y Prif Weithredwr hefyd am gydweithrediad yr ymgeiswyr, asiantwyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr am ddilyn y cyngor ac arweiniad a roddwyd drwy gydol y cyfnod cyn yr etholiad.
Hysbysodd y Prif Weithredwr ei fod, ar y cyd â’r Tîm Etholiadau, wedi gwerthuso perfformiad a dysg o’r etholiadau er mwyn eu rhannu â’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer ei adroddiad gwerthuso cenedlaethol, ac ar gyfer cynllunio etholiadau yn y dyfodol. Tynnodd sylw ar y defnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod yr etholiad, a, chan gyfeirio at ganllawiau cyfredol y Comisiwn Etholiadol yngl?n â’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y byddai’r angen am fwy o eglurhad yn cael ei godi mewn adborth ffurfiol i’r Comisiwn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchel ei pharch am y dull o reoli etholiadau, yr arferion a’r ddarpariaeth. Dywedodd fod y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad wedi bod ychydig yn is yn 2022 (36%) nag yn 2017 (38.73%), a thynnodd sylw at ganlyniadau’r etholiad fel y’u nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Tîm Etholiadau, Timau Rheoli’r Cyfrif, a phawb a fu’n rhan o broses yr etholiadau. Dywedodd fod yr etholiadau a’r cyfrif wedi eu trefnu a’u cynnal yn dda. Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged yn arbennig i’r Swyddog Canlyniadau am ei berfformiad canmoladwy drwy gydol yr etholiadau, a’i gyngor ac arweiniad wrth ymateb i’r holl faterion a godwyd. Wrth ddod i gasgliad, diolchodd y Cynghorydd Roberts hefyd i’r holl ymgeiswyr a oedd wedi cyflwyno’u henwau ar gyfer yr etholiadau lleol.
Cytunodd y Cynghorydd Bernie Attridge gyda sylwadau’r Cynghorydd Roberts, a diolchodd i’r Swyddog Canlyniadau, y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, a phawb a fu’n rhan o broses yr etholiadau am eu heffeithlonrwydd a’u proffesiynoldeb.
Diolchodd y Cynghorwyr Chris Bithell, Marion Bateman, Bill Crease, Gladys Healey, Dennis Hutchinson, Hilary McGuill, Richard Jones a Billy Mullin i Swyddogion a staff am eu gwaith, eu hymroddiad, ac am reolaeth a chanlyniad llwyddiannus i’r etholiadau.
Tynnodd y Cynghorydd Richard Jones sylw at yr angen i gydnabod y gwasanaeth a roddwyd gan gyn-Gynghorwyr na fyddai’n dychwelyd ar gyfer tymor arall yn eu swydd gyda’r Cyngor Sir. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyflwynid bathodyn i Gynghorwyr pan fônt yn ymddeol, a chynhelid digwyddiad dinesig yn ddiweddarach yn ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|||||||||||||||||||
Amserlen o Gyfarfodydd 2022/23 PDF 74 KB Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar Gyfer 2022/23.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2022/23 yn dilyn ymgynghoriad. Dyluniwyd yr Amserlen Gyfarfodydd bob blwyddyn yn seiliedig ar gylchoedd cyfarfod rheolaidd, diwrnodau cyfarfod rheolaidd pan fo’n bosibl, a chydag ymgysylltu helaeth er mwyn sicrhau nad oedd ymrwymiadau adrodd a / neu gyfarfodydd yn gwrthdaro.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd David Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2022/23, fel y’i hatodwyd i’r adroddiad.
|
|||||||||||||||||||
Penodi Aelodau Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu PDF 80 KB Pwrpas: Diweddaru'r Aelodau ar benodiad lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yngl?n â phenodi lleygwr ychwanegol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd yr amlinellir yr angen i benodi lleygwr yn yr adroddiad. Atodwyd portread o’r ymgeisydd i’r adroddiad er gwybodaeth.
Siaradodd y Cynghorydd Bernie Attridge o blaid yr enwebiad a chynigiodd yr argymhelliad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.
PENDERFYNWYD:
Penodi Brian Harvey i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio tan 31 Rhagfyr 2027 |
|||||||||||||||||||
Deisebau Pwrpas: Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||
Deisebau sydd wedi dod I law'r Cyngor PDF 77 KB Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i hysbysu’r Cyngor am ganlyniadau deisebau a oedd wedi eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd fod un ddeiseb wedi ei chyflwyno yn y Cyngor yn ystod 2020/21, ar 25 Mai 2021, a nodwyd yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
|
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir:doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig Pwrpas: Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|||||||||||||||||||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yr oedd un aelod o’r wasg a dau aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 11.00am a daeth i ben am 12.33pm.)
|