Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ran eitem rhif 13 ar y rhaglen, Cwestiynau, roedd cwestiwn wedi dod i law am Gronfeydd Pensiynau’r Awdurdod Lleol a buddsoddi mewn tanwydd ffosil.  Byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar gyfer Aelodau a oedd yn aelodau o Gronfa Bensiynau Clwyd.

2.

Newidiadau i aelodaeth y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Soniodd y Cadeirydd am yr etholiadau diweddar a gynhaliwyd ar 6 Mai 2021, gan longyfarch y Cynghorydd Carolyn Thomas a gafodd ei hethol fel Aelod o’r Senedd dros Ranbarth Gogledd Cymru, y Cynghorydd Andy Dunbobbin a gafodd ei ethol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r Cynghorydd Andy Hughes a oedd yn llwyddiannus yn yr is-etholiad ar gyfer ward Gwernymynydd.  Rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts ei longyfarchiadau hefyd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i gydweithwyr a oedd wedi’i chefnogi ar ei thaith llywodraeth leol dros y 13 mlynedd diwethaf.  Diolchodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin i bawb am eu cefnogaeth a’u dymuniadau gorau.  Diolchodd y Cynghorydd Andy Hughes i gydweithwyr am eu cefnogaeth hefyd.

 

3.

Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2019-21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y Cadeirydd sy’n ymadael, cyflwynodd y Cynghorydd Marion Bateman ei hadolygiad o’r flwyddyn 2019/20 a chyfnod estynedig 2020/21, pan oedd hi a’i Chonsort, y Cynghorydd Haydn Bateman, wedi cael y fraint o gynrychioli Sir y Fflint. 

 

Yn ôl yn 2019, ei nod oedd ymweld â chynifer â phosibl o fusnesau a diwydiannau sy’n seiliedig yn Sir y Fflint ac roedd yn falch o dderbyn gwahoddiadau gan amrywiaeth eang o gwmnïau.  Bu Haydn a hithau yn agoriadau swyddogol Llys Raddington a Chanolfan Ddydd Hwb Cyfle ac roeddent yn bresennol yng ngwobrau Balchder Sir y Fflint.  Roedd nifer o ysgolion wedi mwynhau dod i Siambr y Cyngor.  Roeddent hefyd wedi bod yn falch o gynrychioli Cyngor Sir y Fflint mewn nifer o ddigwyddiadau cofio a dathlu’r Lluoedd Arfog.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bateman i bawb am eu haelioni wrth gyfrannu at ei helusennau dewisol, sef Hosbis T?’r Eos ac Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin, yn ogystal ag elusennau lleol. 

 

Soniodd am effaith ar fywyd ers mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig Covid-19.  Rhoddodd deyrnged i waith diflino’r GIG, pob gweithiwr rheng flaen arall gan gynnwys timau Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, staff y cartrefi gofal a phawb a oedd yn ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r trydydd sector a oedd yn mynd tu hwnt i’r gofyn er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol i breswylwyr, ac athrawon Sir y Fflint am barhau i ddarparu addysg i’r plant.  Diolchodd i’r gwasanaethau brys, gyrwyr danfon, cymorthyddion siopau, gweithwyr post a’r gwirfoddolwyr cymunedol a fu’n helpu i gefnogi preswylwyr a oedd yn ynysu.  Mynegodd ei diolch i swyddogion y Cyngor a oedd wedi gorfod addasu i weithio gartref, gan gynnwys cefnogi Aelodau mewn cyfarfodydd dros y we.

 

I gloi, mynegodd ei diolch personol i Colin Everett, y Prif Weithredwr, a oedd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y 14 mis diwethaf wrth lywio Sir y Fflint a Gogledd Cymru gyfan trwy drychineb digynsail y pandemig byd-eang.  Dymunodd yn dda iddo ef a’i deulu ar gyfer y dyfodol wrth iddo adael ei swydd cyn hir.

 

Diolchodd i swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod yn y swydd ac i’w Chaplan, Daniel Stroud.  Rhoddodd deyrnged i’r gefnogaeth yr oedd y Cynghorydd Joe Johnson wedi’i rhoi iddi yn ei rôl fel Is-Gadeirydd a dymunodd yn dda iddo ef a’i Gonsort ar gyfer y flwyddyn nesaf.

4.

Ethol Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2021/22, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer ac eiliodd y Cynghorydd Paul Shotton fod y Cynghorydd Joe Johnson yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021/22.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.  I gefnogi’r cynnig, rhoddwyd teyrngedau i’r Cynghorydd Marion Bateman am ei chyfraniadau yn ystod 2019/20 – 2020/21.

 

Diolchodd y Cynghorydd Joe Johnson i’r Aelodau am ei ethol fel Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod, a dywedodd ei bod yn fraint.  Rhoddodd longyfarchiadau i’r Cadeirydd a oedd yn ymadael a’i Chonsort, a dywedodd fod y Cynghorydd Marion Bateman wedi bod yn llysgennad ardderchog i’r Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Joe Johnson yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

Cafodd y Cynghorydd Joe Johnson ei arwisgo â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd a oedd yn ymadael, a llofnododd Ddatganiad Derbyn y Swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

(Cadeiriodd y Cynghorydd Joe Johnson y cyfarfod wedi hyn.)

 

Yna cyflwynodd y Cadeirydd ei Bathodyn Swydd Cadeirydd sy'n ymadael i’r Cynghorydd Marion Bateman, a’i Fathodyn Swydd i’w Chonsort, y Cynghorydd Haydn Bateman.  Cafodd Consort y Cadeirydd, Mrs Johnson, ei harwisgo â’i Chadwyn Swydd.

5.

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2021/22, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Hilary McGuill ac eiliodd y Cynghorydd Ian Dunbar fod y Cynghorydd Mared Eastwood yn cael ei hethol fel Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021/22.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.  I gefnogi’r cynnig, rhoddwyd teyrngedau i waith y Cynghorydd Eastwood yn y gymuned a’i chefnogaeth i achosion lleol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Eastwood i’r Aelodau a rhoddodd longyfarchiadau i’r Cadeirydd, ac roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef dros y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Mared Eastwood yn cael ei hethol fel Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

Cafodd y Cynghorydd Eastwood ei harwisgo â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd, a llofnododd Ddatganiad Derbyn y Swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.  Cafodd Consort y Cynghorydd Eastwood, Mr Tim Eastwood, ei arwisgo â Chadwyn y Swydd.

 

            Yna rhoddwyd rhoddion i’r Cynghorydd Haydn Bateman, Sue Johnson a Tim Eastwood.

6.

Ethol Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Hughes ac eiliodd y Cynghorydd Billy Mullin fod y Cynghorydd Ian Roberts yn cael ei benodi fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021/22.   Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.  I gefnogi’r cynnig, rhoddwyd teyrngedau i gyflawniadau’r Cynghorydd Roberts mewn llywodraeth leol a’i ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o safon i breswylwyr Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Ian Roberts yn cael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021/22.

7.

Arweinydd y Cyngor i Benodi'r Cabinet

Pwrpas:        Nodi penodiad aelodau’r Cabinet gan Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyngor a dywedodd ei bod yn fraint.  Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y dewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet, a’u portffolios a nodir isod, yn cael ei nodi.

 

Aelod Cabinet

Portffolio

Ian Roberts

Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid

Glyn Banks

Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd

Chris Bithell

Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Derek Butler

Aelod Cabinet Datblygu Economaidd

Dave Hughes

Aelod Cabinet Tai

Paul Johnson

Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael

Christine Jones

Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol

Billy Mullin

Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Llywodraethu) ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau

 

8.

Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii) - (xiv) Gweithdrefn y Cyngor. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig creu Pwyllgor Adfer newydd i oruchwylio’r gwaith hanfodol o helpu’r Cyngor i adfer ar ôl effaith pandemig Covid-19. Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â phenodi Pwyllgorau a chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi, dan gydbwysedd gwleidyddol.

 

Cafodd yr adroddiad ei rannu'n adrannau, ac roedd pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol i’w hystyried.  Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisiwyd arnynt.

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Apeliadau; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; Pwyllgor Cwynion; Pwyllgor Apeliadau Cwynion; Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu; Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Adfer; Pwyllgor Safonau; a’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Apeliadau;

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; 

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio;

Pwyllgor Cwynion; 

Pwyllgor Apeliadau Cwynion;

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu;

Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau); 

Pwyllgor Trwyddedu;

Pwyllgor Cynllunio; 

Pwyllgor Adfer;

Pwyllgor Safonau; a’r

Pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir yn yr adroddiad. 

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Roedd y Cyngor wedi penderfynu o’r blaen y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr i bob gr?p gwleidyddol gael ei gynrychioli.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod maint pob pwyllgor fel a nodir ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.

 

 

(iii)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor Adfer wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cylch gorchwyl pob Pwyllgor fel a nodir yn y Cyfansoddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

(iv)      Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y'i diwygiwyd.   Nid oedd y rheolau hynny’n berthnasol i’r Cabinet na’r Pwyllgor Safonau.  Byddai’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol i’r Pwyllgor Adfer newydd.

 

Er mwyn cyflawni cydbwysedd gwleidyddol, bu’n angenrheidiol gwahanu’r Pwyllgorau ‘cyflogaeth’, sef y Pwyllgor Cwynion, Apeliadau Cwynion ac Ymchwilio a Disgyblu.   Fel arall, byddai’r grwpiau llai dan  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Amserlen o Gyfarfodydd 2021/22 pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar Gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2020/21 yn dilyn ymgynghoriad.  

 

Bob blwyddyn, roedd yr Amserlen o Gyfarfodydd yn cael ei dylunio yn seiliedig ar gylchoedd cyfarfod rheolaidd, diwrnodau cyfarfod rheolaidd lle bo’n bosibl, a thrwy ymgynghori’n eang i sicrhau nad oedd ymrwymiadau adrodd a/neu gyfarfodydd yn cyd-daro.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r amserlen ddrafft ar gyfer cyfarfodydd 2021/20.

 

Cafwyd toriad byr cyn ystyried yr eitemau arferol.

10.

Cynllun y Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        I fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2021/22 Rhan 1 a chymeradwyo Rhan 2.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor yn cael ei gyhoeddi fel dwy ddogfen.  Roedd Rhan 1 yn nodi’r bwriad.  Roedd Rhan 2 yn nodi’r risgiau, mesuryddion perfformiad, targedau a cherrig milltir a ddefnyddir i fesur a gwerthuso cyflawniad.  Roedd Cynllun y Cyngor wedi’i adolygu a’i adnewyddu o ran strwythur a chynnwys, ac roedd yn dal i roi ystyriaeth i adferiad parhaus yn ogystal ag amcanion strategol mwy hirdymor.

 

Roedd y fframwaith ar gyfer Cynllun y Cyngor y flwyddyn nesaf wedi’i adeiladu o amgylch chwe thema:

 

·         Yr Economi;

·         Addysg a Sgiliau;

·         Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd;

·         Tai Fforddiadwy a Hygyrch;

·         Lles Personol a Chymunedol; a

·         Thlodi.

 

Roedd pob un o’r chwe thema wedi’u mapio yn erbyn Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer adrodd ac atebolrwydd.  Cyfrifoldeb y Cabinet oedd darparu’r Cynllun.

 

Roedd Cynllun y Cyngor Rhan 1 wedi’i rannu gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu i’w adolygu ac er mwyn cael sylwadau.  Ni fu unrhyw newid sylweddol i Ran 1 yn dilyn yr ymgynghoriad oherwydd bod y Pwyllgorau’n gefnogol.

 

Wrth gynnig cymeradwyo’r argymhelliad, amlygodd y Cynghorydd Ian Roberts estyniad cartref gofal Marleyfield House ac Ysgol Glanrafon.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2021/22, ar argymhelliad y Cabinet.

Item 11 - Council Plan presentation pdf icon PDF 520 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.

Adroddiad Budd y Cyhoedd a gyhoeddir o dan adran 16 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Cytuno prun a ddylid derbyn y darganfyddiadau ac/neu argymhellion mewn adroddiad budd y cyhoedd, a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Monitro, cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr eitem a’r cefndir i Adroddiad Budd y Cyhoedd a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd wedi cynnal cwyn gan gymydog eiddo a oedd wedi cael caniatâd cynllunio i’w anecs gan y Cyngor.  Roedd canfyddiadau’r Adroddiad Budd y Cyhoedd yn nodi bod y ffordd yr oedd y ceisiadau wedi’u trin gyfystyr â chamweinyddu, gan arwain at anghyfiawnder i’r achwynydd hwnnw, ac roedd yn gwneud argymhellion ar gyfer unioni’r camweinyddu.  Dywedodd y Prif Swyddog fod adroddiadau o’r fath yn bethau prin i’r Cyngor ac mai cyfrifoldeb y Cyngor oedd penderfynu a ddylid derbyn neu herio canfyddiadau ac argymhellion gan yr Ombwdsmon.

 

Er bod swyddogion yn parchu barn yr Ombwdsmon, roeddent wedi rhoi ystyriaeth ofalus a gwrthrychol i’r mater ac roeddent yn anghytuno â rhai o’r canfyddiadau hynny.  Roeddent o’r farn bod yr anecs yn sylweddol yn unol â’r polisi, ac er bod mân wyro o’r polisi, nid oedd yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio.  Felly, roeddent o’r farn y byddai’n debygol iawn y byddai’r ymgeisydd wedi bod yn llwyddiannus â’i apêl, pe bai’r Cyngor wedi gwrthod caniatâd.  Ymhellach, roedd hawliau datblygu a ganiateir yn caniatáu ar gyfer adeiladu adeilad tebyg o ran golwg, a mwy, beth bynnag.  Ar ôl cael cyngor cyfreithiol annibynnol, roedd swyddogion o’r farn, er byddai gan y Cyngor ragolygon rhesymol o lwyddo pe bai’n cyflwyno her gyfreithiol i’r canfyddiadau, byddai proses o’r fath yn arwain at gostau ac adnoddau sylweddol i’r Cyngor a’r Ombwdsmon, gan achosi difrod i’r berthynas weithio honno o bosibl a rhagor o oedi o ran dod i benderfyniad i’r achwynydd.  Ar y sail honno, argymhellwyd bod y Cyngor yn derbyn canfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Mewn cyferbyniad, roedd gan y Cyngor ddisgresiwn o ran p’un a fyddai’n derbyn argymhellion yr Ombwdsmon o ran unioni, a byddai angen sail dda i wyro o’r argymhellion hynny.  Fodd bynnag, o ystyried cred y swyddogion o ran polisi a hawliau datblygu a ganiateir, roeddent yn teimlo’n gryf bod sail dda dros argymell camau unioni gwahanol i’r rhai a gyflwynwyd gan yr Ombwdsmon.  Pe bai’r canfyddiadau’n cael eu derbyn, byddai’n rhesymol gweithredu’r ddau argymhelliad cyntaf i ymddiheuro i’r achwynydd am faint o amser a gymerwyd i’w ddatrys - roedd y Cyngor ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am hyn - ac adolygu a gydymffurfiwyd â’r amodau oedd ynghlwm wrth y caniatâd ôl-weithredol.  Argymhellodd Swyddogion fod trydydd argymhelliad yr Ombwdsmon (bod swm yn cael ei dalu i’r achwynydd sydd gyfwerth â’r gwahaniaeth yng ngwerth ei heiddo cyn ac ar ôl y datblygiad, a fyddai’n dod i £20,000) yn cael ei wrthod, ar y sail a nodir yn 3.10 yr adroddiad.  Argymhellodd Swyddogion fod y Cyngor yn talu swm o £5,000 i adlewyrchu’r amser, y drafferth a’r gofid a achoswyd i’r achwynydd.

 

Wrth gynnig cymeradwyo argymhellion y swyddog, cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell mai hwn oedd y dull cywir, yn seiliedig ar y rhesymau a nodwyd.  Roedd y Cynghorydd David Wisinger yn siarad  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tudor Jones ddeiseb ar ran preswylwyr yng Nghaerwys i edrych ar wella cadwraeth lleiniau ymyl ffordd ac i ystyried y dull a gymerir gan Gyngor Sir Ddinbych.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod polisi presennol y Cyngor wedi’i ddosbarthu ymhlith Aelodau ac awgrymodd fod y mater yn cael ei atgyfeirio i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol ar gyfer ystyriaeth bellach.  Roedd y Cynghorydd Jones yn cefnogi’r awgrym hwn.

13.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: Cafwyd un erbyn y dyddiad cau

 

                        Cyng Tudor Jones - CronfeyddPensiwn Awdurdod Lleol a buddsoddi mewn tanwydd ffosil

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cwestiwn wedi dod i law gan y Cynghorydd Tudor Jones ar Gronfeydd Pensiwn yr Awdurdod Lleol a buddsoddiad mewn tanwyddau ffosil.  Roedd y cwestiwn a’r ymateb wedi’u dosbarthu i Aelodau a’u cyhoeddi ar y wefan.

 

Roedd y Cynghorydd Jones yn croesawu’r ymateb manwl a diolchodd i’r Cynghorydd Ted Palmer - Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd - am ei wahoddiad i fynychu sesiwn friffio ar y mater.  Nid oedd ganddo gwestiwn atodol ond gofynnodd fod y cwestiwn a’r ymateb ar gael i bobl eraill oedd â diddordeb.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai’r cwestiwn a’r ymateb yn cael eu rhannu gydag Aelodau Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cwestiwn yn cael ei dderbyn a’r ymateb yn cael ei nodi.

Item 14 - Question and Response pdf icon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

14.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

15.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw un.

16.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol a dim aelod o’r cyhoedd yn bresennol.