Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter on 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

33.

CYFLWYNIADAU

Prentis Sir y Fflint, Francesca Sciarrillo – enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Prentis Sir y Fflint, Francesca Sciarrillo – a wobrwywyd yn Ddysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd 2019.

 

                        Estynnodd y Cadeirydd groeso i Francesca i’r cyfarfod a chyfeiriodd at ei chysylltiadau lleol. Llongyfarchodd Francesca ar ei chyflawniad eithriadol a gwahoddodd y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor i ddweud gair pellach o gydnabyddiaeth ar ran y Cyngor. 

 

                        Dywedodd y Prif Weithredwr fod Francesca wedi graddio o gynllun prentisiaeth y Cyngor, a dechreuodd ei phrentisiaeth Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus tra oedd yn gweithio gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura y llynedd. Llongyfarchodd      Francesca ar ei Gwobr ac am fod yn benderfynol o ddatblygu ei sgiliau yn y Gymraeg drwy Goleg Cambria, a’r cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura.

 

                        Roedd y Cynghorydd Ian Roberts hefyd yn llongyfarch Francesca ar ei gwobr, a dywedodd ei bod yn enghraifft neilltuol o’r hyn y gellid ei gyflawni gan unrhyw un sy’n dymuno dysgu’r Gymraeg, a thrwy hynny gyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

                        Diolchodd Francesca i’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Roberts am eu geiriau caredig. Diolchodd hefyd i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a’r Tîm Datblygu Dysgu am y cymorth a’r anogaeth a roddwyd iddi. Gan siarad am ei phrofiad personol, dywedodd nad oedd byw yn Sir y Fflint, ar ffin Cymru â Lloegr, yn unrhyw rwystr i ddysgu’r Gymraeg, ac fe’i disgrifiodd fel iaith gyfoethog, ffyniannus a byw y dylid ei chofleidio yn Sir y Fflint.   

34.

Cofnodion pdf icon PDF 159 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir,

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

35.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at Eitem 8 - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a dywedodd nad oedd gan Aelodau gysylltiad personol yn yr eitem ac y gallent gymryd rhan yn llawn. Cyfeiriodd hefyd at Eitem 9 - Cynllun Datblygu Lleol: Cadarnhau Ardaloedd Chwilio Lleol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy, ac eglurodd, gan y byddai’r eitem yn ystyried cwmpas ardaloedd chwilio ar gyfer ynni adnewyddadwy, na fyddai rhaid i Aelodau ddatgan cysylltiad onid oeddynt yn ymwneud â pherchnogaeth cwmni ynni adnewyddadwy.

 

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

36.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau’r Cadeirydd wedi ei gylchredeg i’r holl Aelodau cyn y cyfarfod. Tynnodd y Cadeirydd sylw at nifer o ddigwyddiadau, a diolchodd i’r Cynghorydd Glyn Banks am ei wahoddiad i fynychu digwyddiad ‘Planes Over Talacre – World War Two’; i’r Cynghorydd Sharps am drefnu ymweliad â Westbridge Furniture a Kingspan, Treffynnon; i’r Cynghorydd Hilary McGuill am y gwahoddiad i agoriad Cwt Sgowtiaid Mynydd Isa, sydd wedi’i adnewyddu; ac i’r Cynghorydd Ray Hughes am ei wahoddiad i’r Gwasanaeth Dinesig.

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i gyfeirio at ymddiswyddiad diweddar y Cynghorydd Mike Reece, a oedd wedi gwneud hynny am resymau personol. Dywedodd y bu’n Aelod mawr ei barch a gwerthfawr o’r Cyngor ac y byddid yn ei golli. Estynnodd y Cadeirydd ei dymuniadau gorau iddo ef a’i deulu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei fod yn drueni fod y Cynghorydd Mike Reece wedi penderfynu ymddiswyddo fel Aelod o’r Cyngor. Talodd deyrnged i’r Cynghorydd Reece a dywedodd y bu’n gyfaill yn ogystal â chydweithiwr i sawl Aelod, ac i’r preswylwyr lleol yn ei Ward. Unwaith eto, fel y mynegodd y Cadeirydd, dywedodd y byddai colled fawr ar ôl y Cynghorydd Reece.

37.

DEISEBAU

Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

38.

Datganiad Cyfrifon 2018/19 a'r Wybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad Cyfrifon 2018/19 pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:Cyflwyno fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth a nodi’r wybodaeth ariannol atodol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Richard Harries a Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, a Liz Thomas, Rheolwr Cyllid Strategol, Cyllid Corfforaethol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2018/19 yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yn dilyn ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Eglurodd fod Datganiad Cyfrifon                         2018/19, sy’n ymgorffori’r diwygiadau hynny a gytunwyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn ystod yr archwiliad, sydd i’w cymeradwyo gan yr Aelodau, wedi’i atodi fel atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd cyflwyniad SAC, mewn perthynas â’r archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 wedi’i atodi fel atodiad 2. Yn ystod yr archwiliad, gwnaed diwygiadau i’r Datganiad Cyfrifon 2018/19 drafft a oedd wedi’u cytuno â SAC, ac mae’r rhai sy’n cael eu hadrodd o dan ISA 260 yn cael eu dangos yn atodiad 3. Atodwyd Llythyr Sylwadau Cyngor Sir y Fflint at SAC yn atodiad 4. Yn atodiad 5, atodwyd gwybodaeth ychwanegol i Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 ar gyflog cyfwerth ag amser llawn, sydd dros £60,000, fel y ceisiwyd drwy rybudd o gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 29 Ionawr 2013.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw ddiwygiadau i’r adroddiad i’r Cyngor yn dilyn ystyried y Datganiad Cyfrifon a chanfyddiadau SAC gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor heddiw. Roedd nodyn ar gwestiynau blaenorol a godwyd gan Aelodau a’r ymatebion a ddarparwyd wedi ei gylchredeg i Aelodau, a bu cyfle drwy gydol yr haf i Aelodau godi unrhyw faterion neu gwestiynau pellach. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau ychwanegol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod canfyddiadau cyffredinol SAC yn gadarnhaol ac yn adeiladu ar y gwelliannau a gyflawnwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Daeth SAC i’r casgliad bod y datganiadau cyllidol wedi’u llunio i safon dda a’u bod yn cael eu hategu gan bapurau gweithio cynhwysfawr. Nid oedd unrhyw gamddatganiadau nas cywirwyd. Yr unig fater a gododd o’r archwiliad oedd hynny ynghylch y broses ar gyfer prisio asedau, ac fe gafodd y camau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â hyn, ar y cyd â SAC, eu derbyn gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach heddiw.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai dyddiad cau statudol cynharach ar gyfer y cyfrifon o 2020-21 ar gyfer cyflwyno’r datganiadau ariannol blynyddol drafft. Ar y cyd â SAC, byddai’r Cyngor yn ymgymryd ag ymarfer yn 2019-20 ar gyfer llunio ei ddatganiadau ariannol drafft erbyn 31 Mai 2020 gyda SAC yn dod i gasgliad ar 31 Gorffennaf 2020.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod un diwygiad perthnasol ynghylch pensiynau’n codi o’r Archwiliad a’i fod yn ganlyniad i fater cenedlaethol o’r enw dyfarniad achos cyfreithiol ‘McCloud’, a allai effeithio ar bob un o gynlluniau pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus. Eglurodd fod posibilrwydd ar hyn o bryd y bydd cyfraniadau cyflog athrawon yn cael eu heffeithio yn y dyfodol, ac roedd rhaid i’r Cyngor gyfrif am yr amcangyfrif gorau oherwydd y gwerth. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw effaith ar y pryd ar gyllid y Cyngor, a byddid  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Cyflwyniad Democratiaeth Leol a Chomisiwn Ffiniau i Gymru pdf icon PDF 298 KB

Pwrpas: i hysbysu’r Cyngor ar gynigion adolygiad lleol Democratiaeth Leol a Chomisiwn Ffiniau i Gymru a cheisio safbwyntiau’r Cyngor ar ba broses yr hoffai ei ddilyn i baratoi a chymeradwyo ymateb cyn diwedd mis Tachwedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Richard Harries a Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, a Liz Thomas, Rheolwr Cyllid Strategol, Cyllid Corfforaethol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2018/19 yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yn dilyn ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Eglurodd fod Datganiad Cyfrifon                         2018/19, sy’n ymgorffori’r diwygiadau hynny a gytunwyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn ystod yr archwiliad, sydd i’w cymeradwyo gan yr Aelodau, wedi’i atodi fel atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd cyflwyniad SAC, mewn perthynas â’r archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 wedi’i atodi fel atodiad 2. Yn ystod yr archwiliad, gwnaed diwygiadau i’r Datganiad Cyfrifon 2018/19 drafft a oedd wedi’u cytuno â SAC, ac mae’r rhai sy’n cael eu hadrodd o dan ISA 260 yn cael eu dangos yn atodiad 3. Atodwyd Llythyr Sylwadau Cyngor Sir y Fflint at SAC yn atodiad 4. Yn atodiad 5, atodwyd gwybodaeth ychwanegol i Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 ar gyflog cyfwerth ag amser llawn, sydd dros £60,000, fel y ceisiwyd drwy rybudd o gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 29 Ionawr 2013.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw ddiwygiadau i’r adroddiad i’r Cyngor yn dilyn ystyried y Datganiad Cyfrifon a chanfyddiadau SAC gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor heddiw. Roedd nodyn ar gwestiynau blaenorol a godwyd gan Aelodau a’r ymatebion a ddarparwyd wedi ei gylchredeg i Aelodau, a bu cyfle drwy gydol yr haf i Aelodau godi unrhyw faterion neu gwestiynau pellach. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau ychwanegol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod canfyddiadau cyffredinol SAC yn gadarnhaol ac yn adeiladu ar y gwelliannau a gyflawnwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Daeth SAC i’r casgliad bod y datganiadau cyllidol wedi’u llunio i safon dda a’u bod yn cael eu hategu gan bapurau gweithio cynhwysfawr. Nid oedd unrhyw gamddatganiadau nas cywirwyd. Yr unig fater a gododd o’r archwiliad oedd hynny ynghylch y broses ar gyfer prisio asedau, ac fe gafodd y camau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â hyn, ar y cyd â SAC, eu derbyn gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach heddiw.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai dyddiad cau statudol cynharach ar gyfer y cyfrifon o 2020-21 ar gyfer cyflwyno’r datganiadau ariannol blynyddol drafft. Ar y cyd â SAC, byddai’r Cyngor yn ymgymryd ag ymarfer yn 2019-20 ar gyfer llunio ei ddatganiadau ariannol drafft erbyn 31 Mai 2020 gyda SAC yn dod i gasgliad ar 31 Gorffennaf 2020.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod un diwygiad perthnasol ynghylch pensiynau’n codi o’r Archwiliad a’i fod yn ganlyniad i fater cenedlaethol o’r enw dyfarniad achos cyfreithiol ‘McCloud’, a allai effeithio ar bob un o gynlluniau pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus. Eglurodd fod posibilrwydd ar hyn o bryd y bydd cyfraniadau cyflog athrawon yn cael eu heffeithio yn y dyfodol, ac roedd rhaid i’r Cyngor gyfrif am yr amcangyfrif gorau oherwydd y gwerth. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw effaith ar y pryd ar gyllid y Cyngor, a byddid  ...  view the full Cofnodion text for item 39.

40.

Cynllun Datblygu Lleol: cadarnhau chwiliad ardaloedd lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy pdf icon PDF 245 KB

Cadarnhau cwmpas chwiliad ardaloedd lleol ynni adnewyddadwy Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint ar fap cynigion, i ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun i gychwyn 30 Medi, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i gadarnhau cwmpas ardaloedd chwilio lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint ar fap cynigion, i ffurfio rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun i gychwyn 30 Medi 2019.

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol Adneuo Sir y Fflint (CDLl) yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd mis Medi. Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod, dywedodd nad oedd y rhan o’r CDLl ar Ardaloedd Chwilio Lleol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy wedi cael ei chynnwys yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf gan nad oedd y gwaith wedi’i gwblhau eto. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn gofyn i’r Cyngor lunio adran yn y CDLl ar y mater pwysig hwn i gynorthwyo’r Llywodraeth i gyflawni ei tharged i gynhyrchu 70% o’r trydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae’r elfen hon o’r CDLl wedi’i chwblhau erbyn hyn, ac fe’i cyflwynir i‘w chymeradwyo yn dilyn chwiliad cynhwysfawr i ganfod tir o fewn y Sir i ddarparu ffermydd gwynt neu ffermydd solar i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at leoliad Sir y Fflint a’r cyfyngiadau naturiol o ran dyrannu tir ar gyfer ffermydd gwynt mawr, ond dywedodd fod mwy o gyfleoedd i ddyrannu tir ar gyfer ffermydd solar, a chyfeiriodd at y ddarpariaeth bresennol yn Sir y Fflint ynghyd â datblygiadau newydd. Cynigiodd y Cynghorydd Bithell yr argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndirol ac eglurodd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ganfod Ardal Chwilio. Rhoddodd gyflwyniad ar y broses a oedd yn cynnwys y prif bwyntiau a ganlyn:          

 

  • pwrpas 
  • beth yw Ardaloedd Chwilio, a’r hyn nad ydynt?
  • y potensial o ran ffermydd gwynt
  • y potensial o ran ffermydd solar
  • Ardaloedd chwilio Lleol Solar PV

 

Diolchodd y Cynghorydd Mike Peers i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu hymroddiad a’u gwaith caled o ran cwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer y CDLl, ac am adroddiad cynhwysfawr a llawn gwybodaeth a oedd yn dangos pa mor drylwyr oedd chwiliad y Sir. Eiliodd y Cynghorydd Peers gynnig y Cynghorydd Bithell.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Patrick Heesom, cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y CDLl oedd 30 Medi i 11 Tachwedd 2019.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson o ran Gwastadeddau ac SSI Holway ac ynghyd â’i gais y dylid eu dileu o’r CDLl arfaethedig, cytunodd y Prif Weithredwr i drafod y materion gyda’r Cynghorydd Johnson cyn cyflwyno’r CDLl ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Williams a oedd p?er trydan d?r wedi cael ei archwilio o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Eglurodd y Prif Weithredwr fod y gyfarwyddeb yn canolbwyntio ar b?er gwynt a solar, fodd bynnag, roedd yr Awdurdod bob amser yn edrych ar y potensial o ran adnoddau adnewyddadwy eraill, a dywedodd fod cynllun trydan d?r bach wedi’i gynllunio ar gyfer Cei Connah.

 

PENDERFYNWYD:  ...  view the full Cofnodion text for item 40.

41.

Penodi Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:  Ystyried penodi’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y sedd wag Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad i ofyn i’r Cyngor ystyried penodi’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y sedd Aelod Lleyg wag ar y Pwyllgor Archwilio.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu penodi aelod lleyg ychwanegol i’r Pwyllgor Archwilio. Cafwyd pedwar ymgeisydd, ac yn dilyn cyfweliad, argymhellwyd y dylid penodi Allan Rainford. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at grynodeb o yrfa Allan Rainford a atodwyd i’r adroddiad.                               

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, y byddai sgiliau a phrofiad Mr Rainford o fudd mawr i’r Pwyllgor ac roedd yn argymell yn gryf y dylid ei benodi fel yr aelod lleyg newydd i’r Pwyllgor Archwilio. Eiliodd y Cynghorydd Marion Bateman y cynnig. Derbyniwyd yr argymhelliad drwy bleidlais.         

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Penodi Allan Rainford i’r Pwyllgor Archwilio hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023.

42.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Pwrpas:         Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd:  doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

43.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir. 9.4(A):  doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

44.

RHYBUDD O GYNNIG pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:  Derbyn unrhyw Rybuddion o Gynnig:  cafwyd un erbyn y dyddiad cau

 

Y Cynghorydd Ian Roberts #IPledge2Talk ymgyrch atal hunanladdiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig a ganlyn:        

 

Ymgyrch atal hunanladdiad #IPledge2Talksuicide prevention campaign

Y Cynghorydd Ian Roberts

 

‘Mae’r Awdurdod hwn yn cefnogi’r ymgyrch atal hunanladdiad #IPledge2Talksuicide prevention campaign a bydd yn gweithio i gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol ar draws cymunedau Sir y Fflint, mewn ysgolion, cymdogaethau a gweithleoedd lleol.      

 

Fel awdurdod lleol, rydym yn cydnabod ein rôl hanfodol mewn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r mater hwn.

 

Dylai annog llesiant meddyliol fod yn flaenoriaeth ar draws holl feysydd cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys tai, addysg a diogelwch cymunedol a chynllunio.    

 

Trwy ei holl waith, bydd yr Awdurdod yn hyrwyddo iechyd meddwl ar sail unigol a strategol.      

 

Er gwybodaeth, lansiwyd ymgyrch #IPledge2Talk yn y Senedd ddau fis yn ôl gan Eluned Morgan, ar y cyd â Mind Cymru’.                                  

 

Wrth gyflwyno’r Cynnig, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am ofid a hiraeth teuluoedd a oedd wedi profi marwolaeth aelod teulu trwy hunanladdiad. Soniodd am yr effaith parhaol a dinistriol ar y teuluoedd hynny ynghyd â’r boen a’r tristwch a deimlwyd, a dywedodd ei fod yn anodd dychmygu dioddefaint ac anobaith unigolion a oedd yn ystyried mai hunanladdiad yw’r unig gam y gellir ei gymryd ganddynt.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod Jack Sargeant, Aelod Cynulliad, a’i deulu, yn llwyr gefnogi’r ymgyrch ac yn annog pobl eraill i addo eu cefnogaeth hefyd. Aeth y Cynghorydd Roberts ati i ddarllen yr ymrwymiadau i ddarparu help a chymorth yn yr Addewid, a gofynnodd i’r Aelodau gefnogi’r Cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks ei fod yn llwyr gefnogi’r ymgyrch, a diolchodd i’r Cynghorydd Roberts am ddod â’r cynnig gerbron y Cyngor. Roedd yn annog pobl sydd mewn trafferthion i “ddweud eu dweud” ac i ofyn am help, a soniodd am yr angen i fod yn ‘ffrind’ i eraill ac i gynnig help a chefnogaeth lle y bo angen. Eiliodd y Cynghorydd Banks y Cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Kevin Hughes am ei gefnogaeth i’r ymgyrch, a phwysleisiodd bwysigrwydd gofyn am help a chefnogaeth yn gynnar i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu i fod yn hunanladdiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod ef a’i gyd-swyddogion yn llwyr gefnogi’r ymgyrch, a chyfeiriodd at ddyletswydd gofal yr Awdurdod tuag at weithwyr, a dywedodd fod mentrau ar waith i gefnogi gweithwyr.

 

Derbyniwyd y Cynnig.        

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts o ran yr Ymgyrch Atal

Hunanladdiad #IPledge2Talk Suicide Prevention Campaign.

45.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.