Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

67.

CYFLWYNIADAU

Dathlu ein llwyddiannau:

 

Theatr Clwyd – enillydd categori ‘Best Musical Production' yng Ngwobrau Theatr y DU am ‘The Assassination of Katie Hopkins’; a

 

Tîm Cynllunio – enillydd Gwobr Cynllunio Cymru am Ragoriaeth y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru(RTPI) am The Walks, y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Theatr Clwyd

            Yn fuddugol yn y categori ‘Cynhyrchiad Cerddorol Gorau' yng Ngwobrau Theatr y DU 2018 ar gyfer 'The Assassination of Katie Hopkins'

 

            Dyma’r Prif Weithredwr yn llongyfarch Tamara Harvey a Liam Evans-Ford ar y wobr a gyflwynwyd yn y seremoni ar 14 Hydref. Cafodd The Assassination of Katie Hopkins sy’n gynhyrchiad wedi torri tir newydd ei enwi fel y Cynhyrchiad Cerddorol Gorau yng Ngwobrau Theatr y DU a gynhelir yn flynyddol i ddathlu cyraeddiadau eithriadol mewn theatr ranbarthol ledled y DU.  Roedd yn erbyn cystadleuaeth gadarn gydag enwebiadau eraill fel Miss Littlewood, Pieces of String a Summer Holiday.

 

            Yn llongyfarch y tîm ar ennill y wobr llawn bri oedd y Cynghorydd Butler gan ddangos ei werthfawrogiad iddyn nhw am ailfywiogi Theatr Clwyd oedd bellach yn gartref i berfformiadau atyniadol ac yn un o gyflogwyr gorau Sir y Fflint.

 

            Dyma’r Cynghorydd Sharps hefyd yn llongyfarch Tamara Harvey a Liam Ford-Evans am eu cyraeddiadau anhygoel ers iddyn nhw gyrraedd y Theatr sydd yn ased i’r Cyngor a’r gymuned. Roedd Theatr Clwyd yn rywle i fod yn falch ohono a dangosodd ei werthfawrogiad i’r holl staff.

 

            Mae’r Prif Weithredwr yn argymell bod cyflwyniad yn cael ei wneud gan Tamara Harvey a Liam Ford-Evans ar waith y Theatr mewn cyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol.

 

            Tîm Cynllunio

            Enillydd Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Yng Nghymru ar gyfer datblygiad The Walks, Fflint.

 

            Dyma’r Prif Weithredwr yn llongyfarch y tîm ar ennill y wobr ac meddai mai The Walks yn Fflint oedd y safle gyntaf i’w datblygu fel rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor oedd yn cynnwys 92 o gartrefi newydd, fforddiadwy ac yn arbed ynni  gan y Cyngor wedi eu hadeiladu gan bartner y rhaglen, Wates Residential North.

 

            Dyma’r Cynghorydd Bithell yn diolch i’r tîm am eu gwaith a'u llongyfarch nhw ar eu llwyddiant yn ennill y wobr uchel ei pharch. Dywedodd bod y gwaith yn dangos sut y mae mentrau yn gallu cael eu cyflawni gyda chanlyniadau pwysig fel osgoi digartrefedd, lleihau tlodi tanwydd a gwella amodau byw.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Aaron Shotton a dywedodd ei fod yn dangos gwerth, arbenigedd a phroffesiynoldeb mewn gwasanaeth oedd yn aml iawn yn cael ei feirniadu. Mae’r tîm wedi creu naws am le a chymuned ac mae’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Yng Nghymru er budd preswylwyr Sir y Fflint.

68.

Cofnodion pdf icon PDF 108 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Tachwedd 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018.

 

            Yng nghofnod rhif 56 o’r Cofnodion fe ofynnodd y Cynghorydd Ellis i’w sylwadau gael eu cynnwys yng nghofnodion 23 Hydref 2018 ar gyfer y Rhybudd o Gynnig ar Brexit fel a ganlyn:“Nid oes gennym fandad preswylwyr Sir y Fflint i gefnogi galwadau am ail refferendwm”. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’w sylwadau yntau am Brexit i gael eu cynnwys yn yr un cofnodion. Byddai cyfeiriad at y diwygiadau yn cael ei gwneud i gofnodion 20 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

69.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

 

70.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi ei ddosbarthu i’r holl Aelodau cyn y cyfarfod.

 

            Tynnodd y Cadeirydd sylw yn arbennig at gyfarfod Anastasia Blease, merch 14 oed o Garmel oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn. Hi oedd yr unig aelod o  Dîm Pêl-fasged gyda Chadair Olwyn Prydain Fawr o dan 24 oed oedd yn dod o Gymru ac roedd y Cadeirydd yn ei llongyfarch am hynny.

71.

Deisebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeisebau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

72.

Cwestiynau Gan Y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

 

73.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

74.

Rhybudd O Gynnig

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a Dderbyniwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

 

75.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 - Rhagolwg wedi'i Ddiweddaru a Phroses ar gyfer Cam 3 Gosod y Gyllideb

Pwrpas:        (1)       darparu rhagolwg cyllideb wedi’i ddiweddaru ar gyfer

2019/20 yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth

Cymru; a

 

(2)       gosod proses a awgrymir ar gyfer Cam 3 sy’n arwain at

osod cyllideb gytbwys ar ddechrau 2019 (gan nodi y caiff

Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ei gyhoeddi ar 19

Rhagfyr).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar lafar ar y Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Rhagolygon Diweddaraf a’r Broses ar gyfer Cam 3 o Osod y Gyllideb. 

 

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad oedd yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

 

·         #Cefnogi’rGofyn – Sefyllfa Ymgyrchu;

·         #Cefnogi’rGofyn – Treth y Cyngor;

·         #Cefnogi’rGofyn – Dadl Gyhoeddus;

·         Diweddariad ar y Cyhoeddiadau Ariannu Cenedlaethol Diweddar;

·         Cyhoeddiadau Setliad dros dro;

·         Cyhoeddiadau’r Prif Weinidog;

·         Rhagolwg o’r Gyllideb wedi’i diweddaru ar gyfer 2019/20;

·         Treth y Cyngor – Amcanion presennol;

·         Cyllidebau ysgol – Tâl athrawon;

·         Gwybodaeth ychwanegol;

·         #Cefnogi’rGofyn – Adnewyddu;

·         Llythyr i Ysgrifennydd y Cabinet; a’r

·         Camau nesaf ac amserlenni.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr am y llythyr a ddosbarthwyd i’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru gan y Prif Weinidog a dderbyniwyd hwyrach yn y prynhawn ar ddiwrnod cyfarfod y Cyngor Sir ar 20 Tachwedd. Yn dilyn nifer o ‘ofynion’ penodol Sir y Fflint a oedd wedi eu trafod yn y llythyr hwnnw a'u cymeradwyo, derbyniodd y llythyr wedi'i ddiweddaru gan y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor ar ran Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (ar 28 Tachwedd) fel ymateb ffurfiol y Cyngor i ymgynghoriad ar Setliad Dros Dro. Roedd y llythyr yn cynrychioli’r ddadl yn y Cyngor ar 20 Tachwedd. Copïau o’r ddau lythyr wedi’u darparu i’r holl Aelodau. 

 

            Mynegai’r llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet fod y Cyngor yn credu bod Llywodraeth Cymru (LlC) gyda digon o hyblygrwydd ariannol i wella’r Setliad ymhellach gan alw am Setliad Terfynol wedi'i wella a fyddai’n cael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr. Eglurodd y llythyr hefyd os na fyddai gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i’r Setliad yna efallai y byddai’n rhaid i Sir y Fflint fabwysiadu cynnydd o fwy na 9% yn Nhreth y Cyngor i gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2019/20. Gwnaed gais ffurfiol i wella’r Setliad lle byddai Sir y Fflint yn elwa hyd at o leiaf £2m o gyllid refeniw. 

 

            Fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fuddion y cyhoeddiadau Setliad Dros Dro a grantiau ychwanegol i’r Cyngor. Darparodd fanylion hefyd ar sut y byddai cyhoeddiadau’r Prif Weinidog yn elwa Sir y Fflint yn 2018/19 a 2019/20.

 

            Ailadroddodd y Prif Weithredwr heb unrhyw gyhoeddiadau pellach y byddai’r bwlch ar ôl yn y gyllideb o £3.148m, yn dilyn rhagolwg diweddar ar gyfer 2019/20 dal angen cynnydd cyffredinol yn Nhreth y Cyngor o tua 9.3% Mae’r cynnydd terfynol yn Ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru dal angen ei gadarnhau a byddai’n cael ei ychwanegu i ofyniad y Cyngor.    Yn seiliedig ar gynnydd ardoll dros dro o £0.420m, byddai angen cynnydd pellach o oddeutu 0.5% ar Dreth y Cyngor.

 

            Fe eglurodd y sefyllfa ar dâl athrawon ac fe ddywedodd bod y cyhoeddiad diweddar yn galluogi’r Cyngor i gwrdd â’r sefyllfa leiaf posib o ddarparu codiad i gwrdd â’r dyfarniad cyflog. Roedd disgwyl cyllid ychwanegol trwy grant penodol ar gyfer 2018/19 a fyddai’n golygu y byddai ysgolion yn cyfrannu at gostau ychwanegol wedi eu gwneud yn ystod y flwyddyn.

 

            Byddai adroddiad pellach yn cael ei  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

76.

Cylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Gofyn i'r Aelodau gytuno i'r newidiadau i Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio, Erthygl Saith o Gyfansoddiad y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Erthygl 7 Diweddaraf o’r Cyfansoddiad – Cylch Gorchwyl ac adroddiad Siarter y Pwyllgor Archwilio sydd yn cynnwys yr arfer orau.

 

            Mae Siarter y Pwyllgor Archwilio wedi’i ddatblygu i ddogfennu rôl y Pwyllgor Archwilio o fewn Fframwaith Llywodraethu’r Cyngor. Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio, a’r newidiadau arfaethedig yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 21 Tachwedd a gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad ar 29 Tachwedd yn ddarostyngedig i adolygiad o gyfansoddiad y Pwyllgor gan aelodau’r Pwyllgor Archwilio yn eu cyfarfod nesaf.

 

            Fel Cadeirydd o’r Pwyllgor Archwilio fe gynigodd y Cynghorydd Helen Brown yr argymhelliad.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Heesom pe bai modd cynyddu nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Archwilio i 11 er mwyn cael cynrychiolaeth fwy teg. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai hynny’n achos i’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai. Awgrymodd y Cynghorydd Brown y gellir ei drafod mewn Gweithgor i Gadeiryddion y Pwyllgor Archwilio a phob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y newidiadau i Erthygl 7 fel y nodir yn atodiadau A a C yn cael eu cymeradwyo.

77.

Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor ar gynnydd y gwaith a gyflawnir ar drefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad Adolygiad Etholiadau Sir y Fflint. Dyma’n diolch i’r Aelodau wnaeth fynychu gweithdy mewnol yn ddiweddar a rhoddodd fanylion am y sesiynau galw heibio wedi eu trefnu a fyddai'n dechrau'r diwrnod canlynol.

 

            Cynigodd y Cynghorydd Attridge yr argymhelliad gyda’r Cynghorydd Bithell yn eilio hynny.

 

            Ar y sylw a godwyd gan y Cynghorydd Dave Healey yn y gweithdy fe gadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r opsiwn a gyflwynwyd yn cael ei dynnu’n ôl gan fod ffin ward Caergwrle yn ymddangos yn anghywir ar y map a ddarparwyd gan Gomisiwn  Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

 

            Meddai’r Cynghorydd Peers y dylai’r ail baragraff yn y crynodeb gweithredol ddarllen fel hyn “mae hyn yn golygu bod gyda’r un gymhareb ym mhob ward etholiadol”, nid nifer yr etholwyr. Dywedodd yn y gweithdy mai awgrymiadau swyddog yn unig a gafwyd ar gyfer wardiau gyda 26% neu uwch, ac nid oedd gwybodaeth ar gael am amrywiant. Gofynnodd hefyd a oedd Aelodau yn gallu cael mynediad i gofrestrau wardiau cyffiniol. Meddai’r Prif Weithredwr y gellir cyflwyno’r rhain yn y sesiynau galw heibio. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod dau dabl ar gael yn y gweithdy, un ar gyfer sylwadau gan Aelodau a’r ail yn awgrymiadau swyddog yn seiliedig ar ardaloedd coch ac oren. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth a wnaed ar yr adolygiad o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint.

78.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2017/18 pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2017/18 oedd yn darparu’r Cyngor gyda’r sicrwydd bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl cyfansoddiadol.

 

            Fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd o Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, cynigodd y Cynghorydd Rita Johnson yr argymhelliad gyda'r Cynghorydd Marion Bateman yn eilio.

           

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2017/18.

79.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac 8 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.