Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
CYFLWYNIAD Llwyddiant Gemau Olympaidd y Gaeaf PyeongChang 2018 Aelodau i groesawu Laura Deas, enillydd Medal Efydd y Ras Ysgerbwd i Ferched, i Siambr y Cyngor
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Laura Deas, sef enillydd y Fedal Efydd yn Ras y Sled Sgerbwd i Ferched yng Ngemau Olympaidd Gaeaf PyeongChang 2018, i’r cyfarfod a gwahoddwyd y Prif Weithredwr i dalu teyrnged iddi.
Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a llongyfarchodd Laura ar ei chyflawniad personol wrth ennill medal Efydd yn nigwyddiad y Sled Sgerbwd. Cyfeiriodd hefyd at gyflawniadau’r tîm Olympaidd wrth ennill cyfanswm o bum medal yng Ngemau Olympaidd Gaeaf PyeongChang 2018 a oedd yn cynnwys medal Aur ac Efydd yn y Sled Sgerbwd. Siaradodd am falchder yr Awdurdod yng ‘ngwreiddiau’ lleol Laura, ei man geni, lle cafodd ei magu a’i haddysgu. Siaradodd am yr hyfforddiant, y sgiliau a’r ddisgyblaeth angenrheidiol ar gyfer camp y Sled Sgerbwd a dywedodd y dylid hefyd ddathlu bod y tîm Olympaidd wedi bod ymhlith yr 20 uchaf yn y tabl medalau yng Ngemau Olympaidd Gaeaf PyeongChang 2018. Gwahoddodd Laura i annerch yr Aelodau.
Diolchodd Laura i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr am gydnabod ei llwyddiant yng Ngemau Olympaidd Gaeaf PyeongChang 2018 a siaradodd am ei balchder yn ei chyflawniad fel y medalydd Gemau Olympaidd Gaeaf cyntaf yng Nghymru. Siaradodd am ei phrofiadau cynnar mewn digwyddiadau chwaraeon a chystadleuol a arweiniodd ati’n darganfod camp y Sled Sgerbwd. Siaradodd Laura am ei balchder yn cynrychioli Cymru a’i hardal leol, sef Sir y Fflint a diolchodd i’r Aelodau am y cyfle i siarad am ei phrofiadau mewn chwaraeon a’i dyheadau i’r dyfodol.
Talodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged i Laura ar ei llwyddiant mewn cael medal efydd yng Ngemau Olympaidd Gaeaf PyeongChang 2018 ac yn ei chyflawniad fel yr athletwr Gemau Olympaidd Gaeaf cyntaf i ennill medal yng Nghymru. Soniodd am y ddisgyblaeth a’r dewrder oedd eu hangen i gystadlu yng nghamp y Sled Sgerbwd a dywedodd ei bod hi’n ysbrydoliaeth i bobl ifanc ac athletwyr uchelgeisiol yn Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod penderfyniad a gwaith caled Laura yn esiampl o’r hyn allai gael ei chyflawni a dymunodd bob llwyddiant iddi yn y dyfodol.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Hughes, fel yr Aelod Lleol, Laura ar ran Cyngor Cymuned Llanfynydd a thrigolion Llanfynydd a siaradodd am y balchder lleol yn ei chyflawniadau. Dymunodd bob llwyddiant iddi yng nghystadlaethau’r dyfodol.
Yn ogystal, talodd y Cynghorydd Aaron Shotton deyrnged i gyflawniadau Laura a siaradodd am ei hymroddiad a’i brwdfrydedd a oedd yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc yn Sir y Fflint. Gwahoddodd y Cynghorydd Shotton Laura i gyfrannu trwy unrhyw gyfle allai fod ganddi, i’r gwasanaethau a ddarparwyd ar gyfer hamdden, ieuenctid ac addysg yn y Sir i roi arweiniad a meithrin brwdfrydedd ac uchelgais i bobl ifanc yn Sir y Fflint.
Talodd y Cynghorwyr Mike Peers, Clive Carver, Derek Butler a Kevin Hughes deyrngedau pellach i Laura a mynegon nhw eu diolch a’u llongyfarchiadau iddi.
|
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir ar 20 Chwefror a 1 Mawrth 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2018.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2018.
Cywirdeb
Tudalen 30: Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at ei sylw y byddai talebau gofal plant yn cael eu disodli gan gynllun newydd a gefnogir gan lywodraeth y DU o ofal plant di-dreth o fis Ebrill 2018 ymlaen a dywedodd y cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei hymgorffori yn Natganiad y Polisi Cyflog ond nid oedd hyn wedi’i gofnodi yn y penderfyniad ar gyfer yr eitem.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad uchod, bydd y ddwy set o gofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnodion cywir.
|
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar ran yr holl Aelodau sy’n bresennol ar gyfer eitem 12 – Adroddiad Blynyddol 2018 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’i dosbarthwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o Gyfathrebiadau’r Cadeirydd i’r holl Aelodau cyn y cyfarfod.
Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau ar Strafagansa Cerddorol Cyngor Tref Bwcle a gynhaliwyd yn Eglwys y Plwyf Bistre, Bwcle, a drefnwyd er cof am y diweddar Gynghorydd Ron Hampson a’i fab Stephen. Dywedodd y bu’r digwyddiad yn llwyddiant ac yn deyrnged ‘addas’ i’r Cynghorydd Hampson a Stephen a diolchodd i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson am ei waith caled yn trefnu’r digwyddiad.
Ymatebodd y Cynghorydd Hutchinson fod elw’r digwyddiad wedi’i roi i’r elusennau a gefnogwyd gan y diweddar Gynghorydd Hampson a Mrs. Rita Hampson. Diolchodd y Cynghorydd Hutchinson i’r trigolion lleol a gefnogodd y digwyddiad â’u holl galon.
|
|
DEISEBAU Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd rhai. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD PDF 40 KB Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cwestiwn canlynol wedi’i gyflwyno gan y Cynghorydd John Holiday, Cyngor Cymuned Argoed, o fewn y dyddiad cau ac wedi’i ddangos ar yr agenda.
“Fel y byddwch yn ymwybodol heb os, er gwaetha’r protestiadau sylweddol, penderfynodd CSFf/Aura gau’r cyrtiau sboncen yn yr Wyddgrug. Mae Clwb Sboncen Brymbo’n codi cyrtiau newydd a chynigion nhw brynu, datgymalu a thynnu’r unedau cefn gwydr o’r Wyddgrug. Clywson nhw ddim rhagor. Mae’n amlwg bellach yn hytrach nag achub y caffaeliad gwerthfawr hwn, cawson nhw eu malu’n chwilfriw a’u gwaredu yn y sgip. O gofio iddynt gostio £6000 yr un, mae hwn yn wastraff gwarthus o £12,000 pan fo CSFf mewn angen dybryd am arian yn ôl pob sôn.
O ran diddordeb wrth wneud defnydd pellach o gefnau cyrtiau gwydr, pam gafodd yr adnodd gwerthfawr hwn ei falu a’i daflu mewn sgip?”
Fel yr Aelod Cabinet dros Addysg, darparodd y Cynghorydd Ian Roberts yr ymateb canlynol:
Yn y cyfarfod ymgynghori i gwsmeriaid yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug ar 23 Ionawr 2018 am y datblygiad cyfalaf arfaethedig, derbyniwyd cais ar lafar gan gynrychiolydd y chwaraewyr sboncen ynghylch a ellid rhoi’r cefnau gwydr i glwb sboncen lleol, naill ai’n rhad ac am ddim neu am ffi fach. Cytunodd y Rheolwr yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug edrych i mewn i hyn ac o ganlyniad, gofynnwyd i’r contractwr, WFC, a oedd tynnu’r cefnau gwydr ymaith a’u bwrw i’r neilltu’n ymarferol. Cytunodd WFC i geisio diwallu’r cais cyn dymchwel.
Mae WFC wedi darparu adroddiad ar sut gwnaethon nhw ddelio â’r cais gan gynnwys diagram yn dangos y cyrtiau sboncen yn cael eu trwsio (gweler atodiad 1). Mae’r pwyntiau amlycaf fel a ganlyn:
· roedd gwaelod y gwydr wedi’i osod mewn sianel siâp ‘U’ a ymgorfforwyd yn y llawr concrit saernïol; · fe’i diogelwyd gan gynnyrch mastig trwm i’w ddal yn ddiogel yn ei le; · cafodd ochrau’r gwydr eu diogelu gyda mastig hefyd; · llenwyd yr uniadau rhwng y rhannau gwydr gyda mastig hefyd; · roedd y manylion yn gymesur ag adeiladu’r cefnau gwydr er mwyn iddynt fod yn addas i’r diben, yn ddiogel, yn fertigol ac yn wydn i gymryd y sbonciau mynych ac effeithiau sylweddol eraill a brofir mewn cwrt sboncen; · gwnaeth y WFC eu gorau glas trwy dorri cymaint o fastig allan â phosibl gan ddefnyddio offer trafod gwydr priodol, er enghraifft sugnwyr, i ryddhau a chodi’r paneli gwydr; a · fodd bynnag, o gofio natur y dull gosod gwreiddiol, nid oedd hyn yn bosibl heb ddifrodi’r gwydr. Canlyniad hyn oedd nad oedd dewis ond i dorri’r rhannau amrywiol i’w cael nhw allan.
Ffoniodd rheolwr Canolfan Hamdden yr Wyddgrug gynrychiolydd y clwb sboncen ar 1 Chwefror 2018 i roi gwybod iddo na fu’n bosibl tynnu’r cefnau gwydr yn llwyddiannus.
I gloi, cymerwyd pob cam i geisio diwallu’r cais hwn gan ei fod er lles pawb dan sylw, gan gynnwys y Cyngor, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a’r chwaraewyr a’r clwb sboncen lleol. Yn anffodus, nid oedd hyn yn bosibl a chyflëwyd hyn yn amserol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad sylweddol ar y datblygiadau ... view the full Cofnodion text for item 124. |
|
Response to the public question PDF 651 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) v Cyngor Sir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd rhai.
|
|
RHYBUDD O GYNNIG Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd rhai.
|
|
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint - Cynllun Lles PDF 106 KB Pwrpas: Cael cymeradwyaeth i Gynllun Lles terfynol Sir y Fflint, cyn ei gyhoeddi.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth o Gynllun Lles terfynol Sir y Fflint, cyn ei gyhoeddi. Cynghorodd fod yr adroddiad wedi darparu trosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a datblygiad y Cynllun Lles (y Cynllun).
Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau. Crybwyllodd fod Sir y Fflint yn enwog am ei record o weithio mewn partneriaeth a dywedodd fod y Cynllun wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â Chynllun y Cyngor a rhoddodd aliniad cryf, sy’n ‘gweddu’ i’r blaenoriaethau. Byddai’r Cynllun yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir fel gofyniad statudol.
Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar y cyd gyda’r Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu a ymdriniodd â’r pwyntiau allweddol canlynol. Gwahoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), y Prif Swyddog (y Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) i adrodd ar y pum blaenoriaeth ar gyfer y Cynllun Lles.
· aelodau statudol ac anstatudol (gwâdd) · y Cynllun Lles · sut datblygwyd y Cynllun · y pum blaenoriaeth: o Diogelwch Cymunedol o Economi a Sgiliau o Yr Amgylchedd o Byw yn Iach ac yn Annibynnol o Cymunedau Gwydn · y camau nesaf – datblygiad a chyhoeddiad y Cynllun Cyflawni
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Lles yn destun amrywiad ac argymhellwyd ei fod yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor fel cynllun statudol erbyn 4 Mai.
Wrth symud yr argymhelliad, diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr a’r swyddogion am y gwaith a wnaed gyda chydweithwyr mewn sefydliadau partner. Dywedodd fod amcanion y Cynllun Lles yn ychwanegol at Gynllun pum mlynedd y Cyngor ac nad oedd hi’n bosibl i’r Awdurdod gyflawni’r holl welliannau roedd eu heisiau heb weithio mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y sector cyhoeddus. Rhoddodd ganmoliaeth i lefel y gwaith partneriaeth oedd yn cael ei wneud i gyflawni cyd-amcanion a chanlyniadau cadarnhaol er budd trigolion Sir y Fflint. Diolchodd yn benodol i’r Cynghorydd Billy Mullin a’r Prif Weithredwr am eu gwaith ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ac am ddarparu arweinyddiaeth i’r Bwrdd a’r partneriaid. Gofynnodd i’r Aelodau gefnogi’r Cynllun a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gyflawni’r canlyniadau.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am fanylion aelodaeth y Cyngor Sir ar y Bwrdd. Cyfeiriodd at y flaenoriaeth ar Economi a Sgiliau a’r angen i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyfleoedd gwaith. Dywedodd ei bod hi’n bwysig i fusnesau cymunedol gael y cyfle i gysylltu â’r Bwrdd i ddynodi’r sgiliau cyflogaeth yr oedd eu hangen yn eu busnesau. Cyfeiriodd at y wybodaeth am Ddiogelwch Cymunedol ar dudalen 58 yr adroddiad a chydnabyddodd y gwaith oedd yn mynd yn ei flaen. Awgrymodd fod y wybodaeth yn cael ei chynnwys hefyd ar blismona cymunedol ac wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, a rhoddodd sylwadau ar y sicrwydd y oedd presenoldeb yr heddlu’n ei ddarparu o ran diogelwch a lles cyhoeddus. Awgrymodd y Cynghorydd Peers hefyd y dylai’r flaenoriaeth ar yr Amgylchedd fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r cynllun datblygu lleol er mwyn adlewyrchu uchelgeisiau ac amcanion y Cynllun Lles a ... view the full Cofnodion text for item 127. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Papur Ymgynghori Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol : Cyflawni dros ein Pobl PDF 98 KB Pwrpas: Ymateb i’r ymgynghoriad.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar ymateb i bapur gwyrdd Llywodraeth Cymru Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni Dros Ein Pobl. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun a rhoddodd gyflwyniad a ymdriniodd â’r prif bwyntiau canlynol:
· Diwygio Llywodraeth Leol – Cyn hanes · Diwygio Llywodraeth Leol – ymlaen neu i ffwrdd? · Papur Gwyrdd 1 diweddaraf · Papur Gwyrdd 2 diweddaraf · Pam fod obsesiwn yng Nghymru? · Y materion mawr go iawn? · Ein safle 1 a 2 cyson · risgiau diwygio strwythurol 1 a 2 · creu ymateb adeiladol
Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r dyddiad cau ar gyfer ymgynghori ar y papur gwyrdd oedd 12 Mehefin 2018 ac iddo osod y cwestiynau ymgynghori wedi’u saernïo er mwyn gwneud ymateb. Esboniodd fod arweiniad yn cael ei geisio gan Aelodau ar ymateb y gallai’r Cyngor ei wneud ar eu rhan.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at y cynnydd a gyflawnwyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a’r perthnasoedd cadarnhaol oedd yn cael eu datblygu gyda’r Llywodraeth a Llywodraeth Cymru ar Fargen Twf. Cyfeiriodd hefyd at yr ymgyrch ‘Cefnogwch y Cais’ ac ymdriniaeth yn y wasg leol a chenedlaethol i greu diddordeb a hyder mewn busnesau yng Ngogledd Cymru ac yn yr hyn oedd yn cael ei gyflawni yn yr ardal. Soniodd y Cynghorydd Shotton hefyd ar sefyllfa unedig Gogledd Cymru ar hyn o bryd a dywedodd fod potensial am gydweithrediad rhanbarthol pellach ac y dylid rhoi cyfle llawn i nodau Mark Drakeford AC, cyn Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2017 o blaid gweithio rhanbarthol gwell.
Rhoddodd y Cynghorydd Aaron Shotton sylwadau ar yr angen am ddadansoddiad grymus o’r gost ac o fanteision diwygio llywodraeth leol fel man cychwyn i benderfynu a ddylid ymgymryd â’r cynigion. Cynigiodd ddirprwyo’r angen i ddarparu ymateb ar ymgynghoriad i’r papur gwyrdd i arweinwyr gr?p i ffurfio ymateb cytûn. Croesawodd y cyfle i gryfhau pwerau ond dywedodd fod diffyg manylder yn yr adroddiad mewn perthynas â’r ffordd y gellir rhoi hyn ar waith. Cyfeiriodd at yr angen i gefnogi ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yn enwedig mewn ymateb i opsiwn 3, a dywedodd nad oedd ‘archwaeth yng Nghymru am opsiwn 3”. Pwysleisiodd bwysigrwydd cynnal y berthynas dda yr oedd yr Awdurdod wedi’i datblygu gydag awdurdodau lleol eraill a chyfeiriodd at bwysigrwydd twf economaidd ac uchelgais y Bwrdd Twf.
Cefnogodd y Cynghorydd Peers y safbwyntiau a fynegwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton a soniodd am yr angen i ystyried effaith y cynnig ar gyfer diwygio strwythurol llywodraeth leol ar gymunedau lleol. Soniodd am y gwaith oedd yn mynd rhagddo ar Fargen Twf Gogledd Cymru y dywedodd y gallai unrhyw ad-drefnu ei danseilio.
Siaradodd y Cynghorwyr Tony Sharps, Hilary McGuill, Arnold Woolley a Carol Ellis yn erbyn y cynigion a holwyd ynghylch y manteision i’w hennill o uniadau gwirfoddol neu raglen uno cyfarwyddeb sengl. Codwyd costau ariannol y diwygiadau arfaethedig, y manteision i’w hennill gan yr Awdurdod, yr effaith ar drigolion Sir y Fflint ac ar berfformiad a pharhad y gwasanaeth yn y dyfodol.
Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru ... view the full Cofnodion text for item 128. |
|
presentation slides PDF 261 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018 PDF 82 KB
Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i dderbyn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2018/19, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i alluogi’r Cyngor i gael Adroddiad Blynyddol 2018/19 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae hwn yn cadarnhau’r taliadau i aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Adroddodd fod cynigion drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2018/19 wedi’u hystyried gan y Cyngor ar 24 Hydref. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ar 27 Chwefror 2018 ac mae’n gosod y lefelau taliad i Aelodau ar gyfer 2018/19. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wybod o 1 Ebrill 2018 ymlaen y byddai’r holl Aelodau etholedig yn cael y cyflog sylfaenol o £13,600 oedd yn gynnydd o 1.49% ar gyflog sylfaenol 2017/18.
Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y rhan fwyaf o lefelau taliad wedi’u penderfynu gan y Panel ond rhaid i Sir y Fflint, fel awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, benderfynu ar ba lefel y dymunai wneud cais amdano ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor. Cyfeiriodd at y tair lefel gyflog bosibl a osodwyd yn y Panel ac esboniodd ers cyflwyno’r disgresiwn, roedd Sir y Fflint wedi talu Lefel 2 bob tro i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai cyfrifoldeb Lefel 2 yn cael ei dalu ar £21,800 i’r Cadeirydd ac £16,300 i’r Is-gadeirydd (sy’n cynnwys y cyflog sylfaenol).
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge y sefyllfa fel y mae, sef bod Cadeirydd y Cyngor yn parhau i gael ei dalu ar Lefel 2 a bod yr Is-gadeirydd yn parhau i gael ei dalu ar Lefel 2. Cafodd hwn ei gario o’i roi i bleidlais.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r penderfyniadau a wnaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyflogau Aelodau ar gyfer 2018/19;
(b) Talu Lefel 2 i Gadeirydd y Cyngor (£21,800 sy’n cynnwys y cyflog sylfaenol); a
(c) Dylai Is-gadeirydd y Cyngor gael ei dalu ar Lefel 2 (£16,300 yn cynnwys y cyflog sylfaenol).
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg ac 16 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 4.16pm)
|