Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter on 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru Enillydd gwobr “Awdurdod Lleol y Flwyddyn” am ei raglenni effeithlonrwydd ynni domestig ac enillodd Glod Uchel yn y categori “Cefnogaeth i Gwsmeriaid Diamddiffyn” am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i aelwydydd mewn partneriaeth â Chanolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru.
National Energy Action a Scottish Power – Gworb Arwr Gwres I gydnabod Joanna Seymour a’r Tîm Ynni am eu cyfraniad sylweddol i helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Prif Weithredwr y Tîm Effeithlonrwydd Ynni i’r cyfarfod.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod ymdrechion y Tîm Effeithlonrwydd Ynni wedi’u cydnabod yn ddiweddar gyda’r Gwobrau Cenedlaethol canlynol.
· Enillydd Cyffredinol – Cyngor / Awdurdod Lleol Rhanbarthol y Flwyddyn: a oedd yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni o fewn y rhanbarth.
· Cymeradwyaeth Uchel - Ymgyrchydd Cefnogaeth i Gwsmeriaid Diamddiffyn y Flwyddyn: a oedd yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i wella bywydau pobl ddiamddiffyn drwy effeithlonrwydd ynni o fewn y rhanbarth.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y gwobrau’n cydnabod gwaith arloesol y Cyngor a’i bartneriaid wrth fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â’i ymateb aml-asiantaeth wrth ddiwallu anghenion aelwydydd diamddiffyn. Cafodd y rhaglen Cartrefi Iach, Pobl Iach ei chydnabod am ei dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth fynd i’r afael ag anghenion unigol i wella iechyd a lles. Derbyniodd y rhaglen Cartrefi Iach, Pobl Iach gydnabyddiaeth yn y categorïau canlynol:
· Gweithredu Ynni Cenedlaethol a Scottish Power – Gwobr ‘Arwr Gwres’: a oedd yn cydnabod unigolion a oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd yn eu cymunedau lleol, naill ai yn y gwaith neu drwy wirfoddoli. Roedd Joanna Seymour, Rheolwr Prosiect Cartrefi Iach, Pobl Iach Gogledd Cymru, yn un o’r pymtheg enillydd a ddewiswyd ar draws Cymru a Lloegr i dderbyn y wobr hon.
Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Tîm Effeithlonrwydd Ynni a Joanna Seymour am ennill y wobr fawreddog a’u gwahodd i dderbyn eu gwobrau.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod gwaith y Tîm Effeffeithlonrwydd Ynni yn effeithio ar lawer o’r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan y Cyngor a mynegodd ei longyfarchiadau, ar ran y Cyngor ac ar ran y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a’r Amgylchedd, i’r Tîm ac i Joanna ar eu llwyddiannau.
Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y Tîm Effeithlonrwydd Ynni wedi darparu cymorth i 1408 o aelwydydd y llynedd ac, ar gyfartaledd, wedi arbed £368 i breswylwyr, a oedd yn derbyn mesurau effeithlonrwydd ynni neu gyngor, oddi ar eu biliau tanwydd. Rhoddodd amlinelliad cryno o amcanion y Tîm a oedd wedi mabwysiadu dull yn canolbwyntio ar yr unigolyn i fynd i’r afael ag angen, gwella iechyd a lles a chreu amgylchedd cartref diogel a chynnes. Roedd gwaith y Tîm yn canolbwyntio ar y pedwar prif faes canlynol:
Mynegodd y Cynghorydd Glyn Banks ei longyfarchiadau i’r Tîm Effeithlonrwydd Ynni ac i Joanna am y cymorth roeddent wedi’i ddarparu i breswylwyr yn ei Ward. Cyfeiriodd y Cynghorydd Banks at waith y Ganolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru ac anogodd Aelodau i gysylltu â’r gwasanaeth hwn a’r Tîm Effeithlonrwydd Ynni am gymorth a chefnogaeth.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir ar 30 Ionawr 2018.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018.
Cywirdeb
Wrth gyfeirio at dudalen 10, dywedodd y Cynghorydd Clive Carver, yn dilyn y gohiriad yng nghyfarfod mis Ionawr, ei fod wedi egluro bod y penderfyniad blaenorol am ryddhad ardrethi yn benderfyniad gan y Cabinet yn hytrach na’r Cyngor. Nid oedd yr eglurhad hwn yn y cofnodion drafft gofynnodd i’w gynnwys.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’i dosbarthwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi ei ddosbarthu i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.
Rhoddodd y Cadeirydd sylwadau penodol ar ymweliad Mrs. Angela Davies, cymhorthydd cludiant personol, a oedd wedi'i henwebu gan fam am ei phroffesiynoldeb a’r gofal rhagorol a oedd wedi’i ddarparu i blentyn anabl yn ei gofal.
Mynegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ei gwerthfawrogiad am y gwasanaeth a ddarparwyd gan Mrs. Davies a chymeradwyodd waith yr holl gymorthyddion ysgol. Cymerodd y cyfle hefyd i fynegi ei hedmygedd a’i chefnogaeth tuag at waith Strydwedd a’r Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng yn ystod y tywydd garw presennol.
Mynegodd y Cynghorydd Sean Bibby ei werthfawrogiad i’r Cadeirydd am dderbyniad a chydnabyddiaeth y Cyngor o'r gwasanaeth a ddarparwyd gan Mrs. Angela Davies. Siaradodd hefyd o blaid y gwaith a'r ymroddiad a ddarparwyd gan gymorthyddion cludiant ysgol a'r gyrwyr.
Siaradodd y Cynghorydd Christine Jones o blaid y gwasanaethau a ddarparwyd gan weithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol a’u hymrwymiad yn ystod y tywydd garw presennol.
Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i atgoffa’r Aelodau o’r Cyngerdd Elusen Dydd G?yl Dewi a oedd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair, Yr Wyddgrug y noson honno.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham ei fod wedi mynychu dathliad o Frigâd Ambiwlans Sant Ioan, a gynhaliwyd yn Queensferry, ar ran y Cadeirydd. Roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn gysylltiedig â Chadetiaid Ambiwlans Sant Ioan wedi creu argraff fawr arno.
Gwnaeth Cadeirydd sylw penodol ar Gyngerdd Gala Prifysgol Glynd?r a Cherddorfa Symffoni Wrecsam a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glynd?r Wrecsam, a oedd wedi bod yn ddigwyddiad llwyddiannus a phleserus iawn.
|
|
DEISEBAU Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at gyfarfod blaenorol y Cyngor Sir pan godwyd nifer o gwestiynau gan y cyhoedd yngl?n â chyllid ysgolion. Roedd yr holwyr wedi adrodd eu bod wedi cael croeso cynnes ac wedi gwerthfawrogi ansawdd yr atebion a'r dadleuon a gafwyd am gyllid ysgolion. |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) v Cyngor Sir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
RHYBUDD O GYNNIG Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
Cydnabyddiaeth i Clare Budden Pwrpas: Cydnabod y cyfraniad a wnaed i'r Cyngor gan Clare Budden, Prif Swyddog (Cymuned a Menter) sy’n gadael yr Awdurdod ddiwedd Ebrill i ymuno â Chymdeithas Dai Pennaf.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniodd y Cadeirydd y teyrngedau i gydnabod y cyfraniad a wnaed i'r Cyngor gan Clare Budden, Prif Swyddog (Cymuned a Menter) a oedd yn gadael yr Awdurdod ddiwedd Ebrill 2018 i ymuno â Chymdeithas Dai Pennaf. Mynegodd ddiolch personol i Clare am ei chefnogaeth a mynegodd ddiolch hefyd ar ran ei breswylwyr am ei hymroddiad wrth ddatrys materion tai yn ei ward.
Llongyfarchwyd Clare ar ei swydd newydd gan y Cynghorydd Aaron Shotton a dymunodd bob llwyddiant iddi yn y dyfodol. Cyfeiriodd at y cyfraniad a wnaed i’r Cyngor a phreswylwyr Sir y Fflint gan Clare ac fe soniodd am ei hetifeddiaeth drwy ei chyflawniadau gan gyfeirio at waith ar y bleidlais trosglwyddo stoc, Safon Ansawdd Tai Cymru, a'r datblygiad newydd o dai Cyngor, fel enghreifftiau o’r rhaglenni a oedd wedi’u gwthio drwodd. Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylw ar y cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod yn y sector tai ers i Clare gael ei phenodi ac fe gyfeiriodd at ei hymrwymiad i liniaru effaith newidiadau Diwygio’r Gyfundrefn Les ar denantiaid Sir y Fflint. Diweddodd ei deyrnged drwy ddiolch i Clare am ei gwaith ym maes Datblygu Economaidd. Siaradodd am y parch uchel a ddengys tuag at Clare yn Sir y Fflint a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda hi drwy wasanaeth ar y cyd gyda Chymdeithas Dai Pennaf yn y dyfodol.
Diolchodd y Cynghorydd George Hardcastle i Clare am ei gwaith ardderchog i wella a datblygu tai yn Sir y Fflint ac fe soniodd am y parch uchel yr oedd gan y Cynghorydd Ron Hampson, Cyn-Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, tuag ati. Dywedodd ei bod yn golled enfawr i’r Cyngor ond ei fod yn dymuno pob llwyddiant iddi yn ei swydd newydd gyda Chymdeithas Dai Pennaf.
Diolchodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i Clare am ei hymrwymiad a’i hymroddiad a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at gysylltu gyda Clare yn y dyfodol drwy waith Cymdeithas Dai Pennaf.
Dymunodd y Cynghorydd Mike Peers bob llwyddiant i Clare yn ei swydd newydd ac fe gyfeiriodd at ei chyflawniadau gyda’r Awdurdod yn y sector tai, gan amlygu gweithrediad Safon Ansawdd Tai Cymru, y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a’r Rhaglen Tai Newydd fel enghreifftiau. Cyfeiriodd hefyd at ei chymhelliant wrth ddarparu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint. Soniodd am rinweddau personol Clare ac fe ddywedodd ei bod hi’n unigolyn a oedd yn hawdd mynd ati ac yn fodlon cynnig cymorth a chefnogaeth heb betruso. Ail-bwyleisiodd y golled a oedd hyn i'r Cyngor ond gwnaeth sylw ar y cyfle i elwa o sgiliau a gwybodaeth Clare yn y dyfodol drwy ei gwaith gyda Chymdeithas Tai Pennaf.
Soniodd y Cynghorydd Ian Dunbar am yr arbenigedd yr oedd Clare wedi'i ddarparu i gyfarfodydd Pwyllgor ac yn benodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter a’r gefnogaeth a oedd wedi’i rhoi i Aelodau o ran materion tai yn eu wardiau. Cyfeiriodd at amgylchiadau trasig y tân yn Nh?r Grenfell a’r goblygiadau ar gyfer yr holl adeiladau uchel yn ... view the full Cofnodion text for item 112. |
|
Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2018-19 PDF 94 KB Pwrpas: I’r Cyngor Sir gytuno ar ffioedd Treth Y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiol ar gyfer 2018-19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw'r adroddiad i gytuno ar ffioedd Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiol ar gyfer 2018-19. Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod Treth y Cyngor am gynyddu o 6.71% o braesept Sir y Fflint. Eglurodd fod Treth y Cyngor yn cynnwys tri thâl gwahanol sy’n penderfynu ar y lefel gyffredinol o Dreth y Cyngor a godir yn erbyn bob eiddo. Roedd y rhain yn cynnwys praesept y Cyngor Sir yn ogystal â phraeseptau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a phraeseptau Cyngor Tref a Chymuned.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai praesept Sir y Fflint ar gyfer 2018/19 yn cael ei osod ar ffi Band D o £1,177.60 a fyddai’n cynhyrchu incwm o £75,172M ar gyfer yr Awdurdod a fyddai o gymorth i ariannu costau rhedeg gwasanaethau lleol yn rhannol. Dywedodd y Rheolwr Refeniw, fel rhan o osod Treth y Cyngor ar gyfer 2018/19, y byddai’r Cyngor hefyd yn talu praesept o £16,477M i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru (sef ffi Band D o £258.12 a oedd yn gynnydd o 3.79%). Dywedodd hefyd y byddai’r praesept cyfunol ar gyfer y 34 Cyngor Tref a Chymuned yn £2,847M a fyddai, ar gyfartaledd, yn cyfateb i ffi Band D o oddeutu £44.60. Yn gryno, byddai’r Awdurdod yn codi ffioedd Treth y Cyngor o £94,496M ar gyfer 2018/19.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod Treth y Cyngor fel arfer yn cael ei osod ar gyfradd Band D safonol a oedd yn arwain at lefelau Treth y Cyngor is ar gyfer yr eiddo ym Mandiau A i C a lefelau uwch ar gyfer yr eiddo ym Mandiau E i I. Ar gyfer 2018/19, nodwyd y lefelau Treth y Cyngor a argymhellir ar gyfer pob band eiddo ac ar gyfer ardaloedd Cyngor Tref a Chymuned yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Fe gyfeiriodd y Rheolwr Refeniw at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad.Gwnaeth sylw ar y polisïau presennol a’r penderfyniadau blaenorol a wnaed gan y Cyngor a chyfeiriodd at gynllun premiwm Treth y Cyngor a’r angen i gefnogi parhad arfer y polisi i beidio â darparu gostyngiad o ran lefel ffioedd Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag tymor hir. Hefyd, lle nad oedd eithriadau, i godi'r gyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor fel rhan o strategaeth ehangach i annog perchnogion i wneud defnydd o gartrefi gwag tymor hir ac, mewn rhai achosion, ail gartrefi.
Wrth ddod i gasgliad tynnodd y Rheolwr Refeniw sylw at yr angen i gymeradwyo swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi nad ydynt wedi eu talu.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gefnogi’r argymhellion a diolchodd i’r Rheolwr Refeniw a’i dîm am eu gwaith caled wrth gyflawni’r broses flynyddol o osod Treth y Cyngor fel rhan o strategaeth gyffredinol y gyllideb.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers a oedd hi’n bosib darparu dadansoddiad o’r ffi o ... view the full Cofnodion text for item 113. |
|
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2017/18 a 2018/19 - Defnyddio Cronfa Wrth Gefn a Gweddill Pwrpas: cynghori’r Cyngor ar (1) canlyniad arfaethedig cronfa wrth gefn a gweddill ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2017/18 a (2) y posibilrwydd o ryddhau cronfa wrth gefn a gweddill pellach i ategu’r gyllideb cyllid ysgolion cynlluniedig ar gyfer 2019/20.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd adroddiad ar lafar gan y Prif Weithredwr i gynghori’r Cyngor ar ganlyniad arfaethedig y gronfa wrth gefn a gweddill ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2017/18 a’r posibilrwydd o ryddhau cronfa wrth gefn a gweddill pellach i ategu’r gyllideb cyllid ysgolion cynlluniedig ar gyfer 2019/20.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at gyfarfod blaenorol y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2018, a phenderfyniad a wnaed yn dilyn ystyried Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19, i gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf i ddarparu diweddariad ar unrhyw gyllid untro ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w ddefnyddio i ariannu gwariant yn ystod y flwyddynac felly cynyddu’r lefelau’r arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer ysgolion. Dywedodd bod yr Awdurdod yn hyderus y byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllid untro ychwanegol yn benodol ar gyfer ysgolion yn 2017/18 yn fuan.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod Llywodraeth Cymru, yn yr wythnos ddiwethaf, wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £428K ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint; yn benodol ar gyfer y pwysau ar wasanaethau gofal cartref yn ystod y gaeaf, gofal preswyl ac addasiadau i’r cartref. Dywedodd nad oedd rhaid gwario’r arian ar ychwanegiadau ac y byddai’r arian yn cael ei ddyrannu i wariant a oedd eisoes wedi’i gynllunio. Felly byddai’r dyraniad yn lleihau’r gorwariant a ragamcanwyd gan y Cyngor o £428K ar gyfer 2017/18 a byddai’n rhyddhau cronfa wrth gefn o’r un swm i’w ail-ddosbarthu.
Yn dilyn trafodaeth gydag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet Addysg, a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, dywedodd y Prif Weithredwr y cynigiwyd bod y Cyngor yn ystyried cynyddu’r £428K sydd ar gael i £460K er mwyn cynyddu’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i ysgolion yn 2018/19 i £1.6M. Pwysleisiodd y byddai’r cyllid ychwanegol o 1.71% o Dreth y Cyngor yn cael ei gynnwys yn y cyllid sylfaenol ar gyfer ysgolion flwyddyn ar flwyddyn ond bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn gyllid ‘untro’ ac ni fyddai’n rhan o’r cyllid sylfaenol bob blwyddyn.
Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r Awdurdod yn derbyn £1.427M o gyfalaf pellach gan Lywodraeth Cymru fel ei gyfran ar gyfer cynlluniau ffyrdd ac atgyweirio yng Nghymru yn ystod y flwyddyn. Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod hefyd yn disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn fuan o ran y cyllid untro ychwanegol ar gyfer y flwyddyn hon, a roddir i ysgolion drwy awdurdodau lleol i’w wario ar gyllideb y flwyddyn nesaf. Cynigiwyd, yn dilyn unrhyw gyhoeddiad o’r fath, rhoi unrhyw gyllid untro pellach i ysgolion.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gefnogi’r cynnig i gynyddu’r £428K sydd ar gael i £460K, a fyddai’n darparu cyfanswm o £1.6M o fuddsoddiad ychwanegol i ysgolion ar gyfer 2018/19. Croesawodd y datblygiad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a mynegodd ei werthfawrogiad bod yr angen am gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol wedi’i gydnabod a’r argymhelliad bod £460K yn cael ei roi i ysgolion. Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai’r Cyngor, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn parhau i lobïo Llywodraeth ... view the full Cofnodion text for item 114. |
|
Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2018/19 PDF 78 KB Pwrpas: I gyflwyno argymhellion y Cabinet i’r Cyngor i isod Isafswm Darpariaeth Refeniw synhwyrol er mwyn ad-dalu dyled, ac i adrodd yn ôl ar statws yr adolygiad parhaus o bolisi isafswm darpariaeth refeniw ac unrhyw gyngor pellach am y dewisiadau i ddiwygio’r polisi.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gyflwyno argymhellion y Cabinet i isod Isafswm Darpariaeth Refeniw synhwyrol er mwyn ad-dalu dyled, ac i adrodd yn ôl ar statws yr adolygiad parhaus o bolisi isafswm darpariaeth refeniw ac unrhyw gyngor pellach am y dewisiadau i ddiwygio’r polisi.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr adolygiad diweddar o ddull y Cyngor o gyfrifo’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw a’r manteision o newid i fodel arall yn debyg i lawer iawn o awdurdodau lleol yn Lloegr. Adroddodd ar y tri phrif opsiwn i’w hystyried a’r gwahaniaeth rhwng y dulliau llinell syth a blwydd-dal a nodwyd yn yr adroddiad. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol pam y ffafriwyd y dull llinell syth yn adolygiad 2016/17 a pham y gellir ystyried y dull blwydd-dal yr un mor synhwyrol. Tynnodd sylw ar y tabl yn yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r gwahaniaeth yn yr Isafswm Darpariaeth Refeniw a godwyd am wariant cyfalaf cronfa’r Cyngor heb ei dalu, syddwedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth a benthyca digymorth gan ddefnyddio’r dull llinell syth presennol a’r dull blwydd-dal am y 50 mlynedd nesaf.
Wrth ddod i gasgliad, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod synhwyroldeb yn gysyniad goddrychol ac felly ni allai unrhyw un o’r dulliau neu’r opsiynau a ddisgrifiwyd gael eu hasesu fel y dull cywir gan fod bob dim yn fater o farn. Roedd yn rhaid i'r dewis fod yn synhwyrol ond eto’n gynaliadwy a fforddiadwy dros y tymor hir a chyfrifoldeb y Cyngor oedd penderfynu pa ddull oedd y mwyaf synhwyrol.
Cydnabu'r Prif Weithredwr gymhlethdod y pwnc ac fe soniodd am y gwaith a wnaed ar yr adolygiad o’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y llynedd. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyd-destun yr adolygiad brys o’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw, yn dilyn argymhelliad a wnaed drwy adolygiad annibynnol diweddar o sefyllfa ariannol y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn trafodaethau pellach gyda Swyddfa Archwilio Cymru ac ymgynghorwyr cadwedig, Arlingclose, bod swyddogion yn hyderus i argymell bod opsiwn 2, y dull blwydd-dal, yn ddull synhwyrol, cyson gyda chanllawiau, ac yn opsiwn ‘agored’ i’w ystyried gan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd yn cefnogi’r argymhelliad ar gyfer opsiwn 2, gan nad oedd yn teimlo ei fod yn synhwyrol nac yn gynaliadwy oherwydd y byddai cynnydd yn y blynyddoedd i ddod. Cyfeiriodd at adroddiad mewn cyfarfod Cabinet yn 2016 a’r cyngor a’r penderfyniad a wnaed ar yr adeg honno o ran synwyroldeb a’r Isafswm Darpariaeth Refeniw. Awgrymodd parhau â’r dull llinell syth ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw er lles y cynllun ariannol tymor canolig.
Darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurder pellach mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Jones a dywedasant fod y dull blwydd-dal yr un mor synhwyrol â’r dull llinell syth presennol ac nid oedd y dull blwydd-dal am gostio mwy i’r Cyngor nac ychwaith i drethdalwyr Sir y Fflint gan ei fod yn ystyried gwerth amser arian.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y term ... view the full Cofnodion text for item 115. |
|
Rheolau'r Weithdrefn Ariannol PDF 72 KB Pwrpas: Cyflwyno Rheolau’r Weithdrefn Ariannol diweddaraf i’r Pwyllgor Cyfansoddiad er mwyn gwneud argymhelliad i’r Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ddarparu’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol diweddaraf fel y manylwyd yn Atodiad A yr adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndirol fod y Rheolau Gweithdrefn Ariannol drafft wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a bod y ddau bwyllgor wedi penderfynu cyfeirio’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol at y Cyngor i’w cymeradwyo. Dywedodd bod crynodeb o’r newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol i’w gael ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.
Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryder o ran y newid i swm y trosglwyddiad ariannol a oedd wedi cynyddu o £75K i £100K. Eglurodd pam ei fod yn credu bod y cynnydd i £100K yn amhriodol a dywedodd nad oedd cyllidebau wedi cynyddu. Cefnogodd y Cynghorydd Jones y cynnig i gymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol, yn amodol ar y trosglwyddiad ariannol presennol o £75K yn cael ei ostwng i £50K i arfer gwell rheolaeth. ,Eiliwyd hyn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod trosglwyddiad ariannol o £100K yn ganran isel iawn yng nghyd-destun y gyllideb gyffredinol o £255M a dywedodd fod pob trosglwyddiad ariannol yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol pan oedd cael ei wneud ac roedd rheolaeth a gydlynwyd yn ganolog yn cael ei weithredu gan y tîm cyfrifyddiaeth. Cytunwyd y byddai’r gais ‘cronnus' yn cael ei ychwanegu at fersiwn derfynol y Rheolau Gweithdrefn Ariannol.
Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylid nodi’r dyddiad a’r flwyddyn roedd y Rheolau Gweithdrefn Ariannol yn dod i rym yn llawn ar dudalen flaen y rheolau. Cyfeiriodd at dudalen 83, paragraff 3.3.1, yr adroddiad a’r wybodaeth bod yr adnoddau a ddyrannwyd yn cael eu defnyddio ar gyfer y diben a fwriadwyd ac yn cael eu cyfri’n briodol, a gofynnodd a oedd modd darparu manylion o ran lle oedd yr adnoddau yn cael eu dyrannu a’r gwariant parhaus. Ar dudalen 86, paragraff 3.3.2, roedd yr egwyddor allweddol cyntaf yn cyfeirio at awdurdodi trosglwyddiadau cyllideb yn ymwneud â newid defnydd neu bolisi, ac nid oedd yr adroddiad yn nodi pwy ddylai awdurdodi’r trosglwyddiadau hyn ac awgrymodd y dylid cynnwys yr wybodaeth hon.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod awdurdodiad yn dibynnu ar a oedd y trosglwyddiad yn addasiadau cyfrifo neu’n ffurf ar drosglwyddiad ariannol ac eglurodd y broses a’r diben ym mhob achos. Ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol hefyd i'r ymholiad ynghylch y dyraniad o adnoddau ac eglurodd bod adnoddau yn cael dyrannu i feysydd gwasanaeth yn unol â’r cyllidebau a gymeradwywyd ac yn cael hadrodd yn yr adroddiad monitro cyllideb misol lle roedd y cyfansymiau yn cael eu dangos yn ôl portffolio.
Gofynnwyd i Aelodau bleidleisio ar y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Richard Jones i gymeradwyo’r Rheolau gweithdrefn ariannol, yn amodol ar newid swm y trosglwyddiad ariannol o £75K i £50K. Pan gafwyd pleidlais, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd y cynnig gwreiddiol, i Aelodau bleidleisio ar yr argymhelliad fel y manylwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Derek Butler. Yndilyn pleidlais, cymeradwywyd yr argymelliad. ... view the full Cofnodion text for item 116. |
|
Datganiad Ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2018/19 PDF 81 KB Pwrpas:Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol gyhoeddi eu Datganiad Ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad Ar Bolisïau Tâl a gyhoeddir o fewn yr adroddiad hwn yw’r chweched datganiad blynyddol gan Gyngor Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2018/19. Eglurodd bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl yn crynhoi ymagwedd y sefydliad tuag at gyflog a thâl ac yn gosod hyn o fewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd wedi’i ddiweddaru er mwyn rhoi golwg gynhwysfawr o ymagwedd y Cyngor tuag at dâl ei weithlu.
Dywedodd yr Uwch Swyddog fod y datganiad eleni yn gyson â’r blaenorol ac, er nad oedd newid i’r egwyddorion arfaethedig nac ychwaith i'r ymagwedd at dâl, roedd rhai adrannau ychwanegol, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Tynnodd sylw at adrannau 10 ac 11 yn yr adroddiad a oedd wedi cael eu hail-ysgrifennu ac yn cynnwys mwy o fanylion ar rôl y Cyrff Trafod Cenedlaethol a Dyfarniadau Tâl a'r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r effaith hyd yma ac wrth symud ymlaen. Rhoddodd ragor o fanylion am Adran 11 a’r trafodaethau parhaus ar lefel genedlaethol mewn perthynas â’r dyfarniad cyflog ar gyfer 2018, a’r newidiadau arfaethedig i’r golofn gyflog o 2019 ymlaen. Dywedodd y cafwyd cynnig ffurfiol gan y cyflogwyr cenedlaethol ym mis Rhagfyr a gafodd ei wrthod gan undebau llafur a bod yr undebau llafur wrthi’n cynnal pleidlais ymysg eu haelodau. Disgwyliwyd canlyniad y bleidlais ym mis Mawrth, ac o ganlyniad efallai y byddai newid pellach i’r polisi tâl. Dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai adroddiad llawn, yn manylu ar holl oblygiadau ariannol ac fel arall unrhyw gytundeb o’r fath a wneir, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn cyn gynted â phosibl. Wrth ddod i gasgliad, manylodd ar beth fyddai goblygiadau’r dyfarniad cyflog, pe bai’n cael ei dderbyn, ar yr holl bwyntiau colofn gyflog staff a’r effaith dros ddwy flynedd.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn ddiweddar wedi cwblhau ei Archwiliad Cyflogau Cyfartal llawn cyntaf ers dechrau’r Cytundeb Statws Sengl, a rhannwyd hyn gyda’r undebau llafur a oedd yn fodlon gyda'r canlyniad. Dywedodd nad oedd gan y Cyngor unrhyw achos presennol neu hanesyddol o dâl anghyfartal heb ei ddatrys a allai fod yn wahaniaethol.
Wrth gyfeirio at dudalen 146 yr adroddiad yngl?n â thaliadau bonws a thâl ar sail perfformiad, holodd y Cynghorydd Mike Peers a ddylid rhoi ystyriaeth i a ddylai gweithwyr gael gwerthusiadau blynyddol yn gysylltiedig â thâl ar sail perfformiad i fod yn gyson â’r trefniadau ar gyfer Prif Swyddogion. Gofynnodd a oedd modd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ystyried hyn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y cyfeiriad i’r talebau gofal plant ar dudalen 152 yr adroddiad, a dywedodd y byddai’r talebau hyn yn cael eu disodli gan gynllun gofal plant di-dreth newydd, a gefnogir gan lywodraeth y DU o fis Ebrill 2018, a dywedodd bod rhaid cynnwys hyn yn y Datganiad ar Bolisïau Tâl.
Mewn ymateb i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y Cyngor yn gweithredu taliadau bonws. Wrth drafod y pwnc o dâl ar sail perfformiad, dywedodd hefyd nad oedd y Cyngor yn ... view the full Cofnodion text for item 117. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg a 3 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
|