Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: Cadarnhau cofnod cywir y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: COFNODION Y CYNGOR
Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017 wedi eu cylchredeg gyda’r agenda.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.
|
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: DATGAN CYSYLLTIAD
Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar ran yr holl Aelodau yn bresennol ar gyfer eitem 11 – Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19.
|
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi eu rhoi i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.
Soniodd y Cadeirydd am y noson Gala Gwobrau Busnes Sir Y Fflint llwyddiannus a gynhaliwyd ar 20 Hydref, a diolchwyd i bawb a oedd ynghlwm am eu gwaith caled. Tynnodd sylw at y seremoni i ddathlu 25 mlynedd o weithgynhyrchu injan yng Nghymru a gynhaliwyd yn Toyota Manufacturing (UK) Limited, ar noson gyflwyno Cyfnewid Ieuenctid Japaneaidd a gynhaliwyd y noson flaenorol yn Neuadd y Sir. Dywedodd bod y ddau ddigwyddiad wedi bod yn ardderchog. Daeth y Cadeirydd i gasgliad drwy ddiolch i bawb a wnaeth gyfraniad at y digwyddiad Elusennol a drefnodd.
|
|
Deisebau Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorwyr Dennis Hutchinson a Mike Peers ddeiseb ar ran preswylwyr lleol Mount Pleasant Road, Drury, Bwcle, i ddod yn system unffordd. Gwnaeth y Cynghorwyr Hutchinson a Peers sylw ar y pryderon a godwyd gan y preswylwyr yn yr ardal o ran diogelwch gyrwyr, beicwyr a cherddwyr, oherwydd y risg uchel o wrthdrawiad traffig a’r camau gweithredu a geisiwyd i fynd i’r afael â’r perygl.
|
|
Cwestiynau Gan Y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’ratebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
Rhybudd o Gynnig Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Adroddiad Blynyddol y Lluoedd Arfog PDF 88 KB Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer Cyfamod Lluoedd Arfog y Cyngor cyn ei gyhoeddi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yr Adroddiad Blynyddol cyntaf i Gyfamod Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint. Dywedodd bod yr adroddiad yn amlinellu cynnydd ac ymrwymiad yr Awdurdod a’i bartneriaid sydd wedi llofnodi’r Cyfamod i gefnogi’r Gymuned Lluoedd Arfog. Eglurodd bod y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi ymuno â Chyfamod Sir y Fflint, ac wedi llofnodi’r Cyfamod yn ffurfiol mewn seremoni fer cyn y cyfarfod o'r Cyngor heddiw. Gofynnodd y Prif Weithredwr i Aelodau ystyried i ardystio cynnydd positif a wnaed i gwrdd â’r Cyfamod Lluoedd Arfog a chefnogi’r ymrwymiadau am welliannau pellach a chymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Cynghorydd Andrew Dunbobbin i siarad ar eitem fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog y Cyngor.
Wrth drafod yr adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Dunbobbin ar y sylwadau cadarnhaol a wnaethpwyd gan Llywodraeth Cymru ynghylch y gwaith a gyflawnwyd yn Sir y Fflint ac yn bennaf gwaith ysgolion i gasglu data os yw unrhyw ddisgyblion neu fyfyrwyr yn blant aelodau sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’r cynnig o gyfweliadau sicr ar i gyn-filwyr sydd yn bodloni meini prawf hanfodol o rôl y swydd.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Clive Carver yr Awdurdod ar gynhyrchu Cyfamod Lluoedd Arfog, fodd bynnag, gan gyfeirio at feysydd i wella a nodir ym mharagraff 1.05 o’r adroddiad, teimlodd bod hepgor yr amcan “ysgolion i ddechrau casglu a yw unrhyw ddisgyblion/ myfyrwyr yn blant i aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog” ac awgrymodd y dylid newid geiriau'r Cyfamod Sir Y Fflint i gynnwys “plant aelodau sy’n wasanaethau a chyn-filwyr o’r Lluoedd Arfog”. Cydnabu'r Prif Weithredwr y pwynt a wnaeth y Cynghorydd Carver, a rhoddodd sicrwydd bod y gwaith yn berthnasol i aelodau sy’n gwasanaethu ac sydd yn gyn-filwyr, a chytunwyd i newid y geiriau i ddarparu cadarnhad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at hyrwyddo menter nofio am ddim Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr a phersonél lluoedd arfog a oedd ar gael mewn pedwar pwll nofio yn y Sir, a gofynnwyd a ellir gwneud y cyfleuster hwn ar gael i byllau nofio yn y Sir. Hefyd dywedodd y Cynghorydd Jones ar y gwaith a gyflawnwyd i adfer cofeb ryfel yn Ysceifiog, a gofynnodd i'r Cynghorydd Dunbobbin os allai ddarparu gwybodaeth ar unrhyw gyllid y gallai’r gymuned leol wneud cais amdano i helpu gyda’r prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin bod cyllid ar gael gan Llywodraeth Cymru tan 2018 ar gyfer y fenter nofio am ddim ac yn berthnasol i holl wasanaethau hamdden. Dywedodd y byddai’n annog sefydliadau i wneud cais am gyllid a oedd yn cael ei ddal yn ganolog gan Llywodraeth Cymru. Gan gyfeirio at y prosiect cymunedol i adfer cofeb ryfel, dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin y gallai’r cymunedau lleol wneud cais am gyllid drwy’r Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog. Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) sut oedd y cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y fenter nofio am ddim i gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog yn cael ei ledaenu ar draws pyllau nofio yn Sir ... view the full Cofnodion text for item 51. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 PDF 104 KB Cymeradwyo Adroddiad Gwella Blynyddol 2016/17 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2016 tan 31 Mawrth 2017 cyn ei gyhoeddi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Gwella Blynyddol 2016/17 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2016 tan 31 Mawrth 2017 cyn ei gyhoeddi. Dywedodd bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn adroddiad statudol a oedd yn darparu trosolwg o berfformiad yr Awdurdod i gyflawni blaenoriaethau gwella fel yr amlinellir yn y Cynllun Gwella 2016/17. Rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a chyd-destun a dywedodd bod yr Adroddiad wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor cyn 31 Hydref 2017.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd a oedd yn trafod y meysydd canlynol:
· Adroddiad Perfformiad Blynyddol · Cynllun y Cyngor 2017-2023 · fformat a chynnwys · trosolwg perfformiad 2016/17 · trosolwg cynnydd · uchafbwyntiau · meysydd i’w gwella · trosolwg perfformiad · Swyddfa Archwilio Cymru – golwg 2016/17 · trosolwg · camau nesaf · Cynllun y Cyngor
Symudodd y Cynghorydd Aaron Shotton yr argymhelliad i fabwysiadu'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol a mynegodd ei ddiolch i’r Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol am y cyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth. Siaradodd am y cyfle i ddathlu llwyddiannau’r Awdurdod ac ymyriadau a oedd wedi gwneud gwahaniaeth “gwirioneddol” i breswylwyr a chymunedau lleol yn Sir y Fflint. Fodd bynnag, cydnabod bod hefyd feysydd lle gellir gwneud gwaith pellach i gyflawni’r canlyniadau a nodir yng Nghynllun y Cyngor.
Rhoi sylw ar lwyddiannau’r Awdurdod, tynnodd y Cynghorydd Shotton sylw at y cynnydd a gwelliannau fel y nodir yn yr adroddiad a chyflwyniad ynghylch tai, gofal cymdeithasol, sgiliau a dysgu. Hefyd siarad am waith a llwyddiant yr Awdurdod o ran datblygu’r sector menter gymdeithasol a chyfeiriodd at y digwyddiad Gwobrau Busnes Sir y Fflint diweddar a nifer o fusnesau cyfrifol cymdeithasol a oedd yn cael eu cefnogi gan yr Awdurdod, ac enwau a roddwyd ymlaen ar gyfer gwobrau yn y digwyddiad hwn. Dywedodd y Cynghorydd Shotton ei fod yn falch o weld bod Café Isa, Mynydd Isa, a oedd yn haeddiannol wedi ennill gwobr ar y noson.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton am gyflawniad bod Sir y Fflint wedi ei dod i’r brig allan o 22 Awdurdod ar draws Cymru fel yr Awdurdod sydd wedi gwella orau rhwng 2015/16 a 2016/17, a dywedodd ei fod yn bwysig bod cyfraniad a gwaith caled gweithlu'r Awdurdod i wneud y cyflawniad yn bosibl yn cael ei gydnabod.
Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ei werthfawrogiad ar gyfer cyfleusterau gwell Ailgylchu Aelwyd ym Mwcle a’r Wyddgrug. Cyfeiriodd at y nifer o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu yn Sir y Fflint a dywedodd bod diffyg cyflenwad mewn rhai ardaloedd, defnyddiwyd Bwcle fel enghraifft. Anogodd yr Awdurdod i fynd i’r afael â’r sefyllfa i sicrhau bod digon o ddarpariaeth o dai cyngor yn y Sir, ac ailadroddodd ei bryderon ynghylch yr angen am fwy o dai cyngor newydd ym Mwcle. Mynegodd y Cynghorydd Hutchinson ei werthfawrogiad i’r Cynghorydd Attridge ac i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) am eu gwaith a chefnogaeth i fynd i’r afael â’r mater o wersylloedd anghyfreithlon ar Gomin Bwcle.
Ymatebodd y Cynghorydd Bernie Attridge i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Hutchinson ... view the full Cofnodion text for item 52. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft 2018/19 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 90 KB I alluogi’r Cyngor i ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft 2018/19 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i alluogi’r Cyngor i ystyried a rhoi sylw ar Adroddiad Blynyddol Drafft 2018/19 y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd mai'r Panel sydd yn nodi a phenderfynu beth ddylai’r cyfraddau talu fod i Aelodau ac aelodau cyfetholedig Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Dywedodd y Swyddog Monitro bod gofyn i’r Panel ystyried y sylwadau a gafwyd ar y drafft cyn cyhoeddi fersiwn terfynol o’r adroddiad ym mis Chwefror 2018. Dywedodd bod penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2018 wedi’u hychwanegu i’r adroddiad. Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd y Panel yn argymell unrhyw gynyddiadau ar unrhyw lwfansau ar gyfer 2018/19, ar wahân i’r newid o gyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig a oedd yn golygu cynnydd o £200 (1.49%).
Hefyd, dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd cynnydd wedi'i gynnig ar gyfer cyflogau uwch, ond byddai’r deiliaid swydd yn cael cynnydd o £200 yn y cyflog sylfaen sy’n cael ei dalu i holl Aelodau. Roedd y Panel wedi cael gwared ar y dull “dwy haen" i dalu Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgor, gan nad oedd yr un awdurdodau lleol wedi mabwysiadu’r dull.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y nifer o swyddi cyflog uwch yr oedd Sir y Fflint yn gallu ei dalu. Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd y gofynnwyd i’r Cyngor ystyried a ddylid gwneud cais i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth ar gyfer cyflog penodol neu gyflog uwch ychwanegol, sydd ddim yn disgyn o fewn y fframwaith cydnabyddiaeth gyfredol, i gydnabod rôl y Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn sydd yn ddi-dâl ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cais i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth ar gyfer cyflog uwch ychwanegol penodol, sydd ddim yn disgyn o fewn y fframwaith cydnabyddiaeth cyfredol, i gydnabod y rôl di-dâl cyfredol Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, i’w ardystio; a
(b) Bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn cael ei awdurdodi i wneud ymateb ar ran y Cyngor, adlewyrchu'r penderfyniad a wnaethpwyd yn y cyfarfod, i’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
|
|
Ailbenodi Cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned PDF 74 KB Pwrpas: Ailbenodi’r cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned i fod ar y Pwyllgor Safonau am dymor arall. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ailbenodi cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned am dymor ychwanegol ar y Pwyllgor Safonau.
Darparodd y Swyddog Monitro gwybodaeth gefndirol a dywedodd bod y cyfnod mewn swydd ar gyfer Cynrychiolydd Tref a Chymuned wedi dod i ben yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2017. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Blynyddol o’r Cyngor ym mis Mai 2017, a'r Pwyllgor Safonau ym mis Gorffennaf 2017 yn argymell bod y Cynghorydd Duggan-Keen, y cynrychiolydd cyfredol, yn cael ei ailbenodi am dymor arall. Cyn ail-benodi, bydd y Cyngor angen ymgynghori â'r Cynghorau Tref a Chymuned ar y cynnig. Dywedodd y Swyddog Monitro bod ymgynghoriad wedi’i gyflawni a gan nad oedd neb yn anghytuno gyda'r cynnig, y byddai’n parhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn nodi nad yw’r un Cyngor Tref a Chymuned wedi gwrthwynebu i ailbenodi’r Cynghorydd Duggan-Keen; a
(b) Bod y Cynghorydd Duggan-Keen yn cael ei ail-benodi am weddill tymor y cyngor.
|
|
Penodiadau i Gyrff Allanol PDF 73 KB Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cyngor am y cynnydd o ran penodi aelodau i gyrff allanol cenedlaethol a rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i roi gwybod i’r Cyngor am y cynnydd o ran penodi aelodau i Gyrff Allanol cenedlaethol a rhanbarthol. Dywedodd bod y rhestr Penodiadau i’r Cyrff Allanol wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Blynyddol ym mis Mai 2017, ac yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, bu i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad gydag Arweinyddion Gr?p, benodi bob un ar wahân i un corff ar y rhestr sydd wedi’i atodi i'r adroddiad. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod un lle gwag lle nad oedd wedi bod modd gwneud enwebiad, oedd Cymdeithas Pob Fyddar Gogledd Cymru ac felly roedd yn parhau yn le gwag ar hyn o bryd. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod rhai llefydd gwag cyfredol ar y rhestr yn berthnasol i’r diweddar Gynghorydd Ron Hampson ac roedd y rhain yn berthnasol i’r Ward a byddant yn cael eu llenwi yn dilyn isetholiad Gorllewin Bwcle Bistre.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers i’r lle gwag ar Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd a gofynnodd am gadarnhad bod y lle gwag yn bodoli. Cynigiodd os nad yw’r lle gwag yn bodoli, yna byddai'r Cynghorydd Kevin Hughes yn cymryd lle'r Cynghorydd Veronica Gay. Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr bod y Bwrdd Llywodraethwyr yn cael ei adolygu yn fewnol gan y Theatr a gan y Cabinet, a gwnaeth sylwadau ar rai o’r cynigion ynghylch aelodaeth y Bwrdd, a dywedodd bod swyddi allanol yn cael eu hysbysebu fel ffordd o benodiad cyhoeddus i agor hygyrchedd i fod yn Aelod o'r Bwrdd Theatr. Dywedodd y Prif Weithredwr, ar hyn o bryd fydd aelodaeth gyfredol y Bwrdd Llywodraethwyr, yn fewnol ac allanol, yn parhau'r un fath. Fodd bynnag, i gydnabod y cynnig gan y Cynghorydd Peers, dywedodd nad oedd yn newid y nifer neu gyfran o gynrychioliadau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y ddwy le gwag ar y rhestr ar gyfer SACRE, a dywedodd bod y Cynghorydd Paul Cunningham wedi gwirfoddoli i ymuno â’r aelodaeth y Pwyllgor, felly dim ond un lle gwag sydd ar y corff hwn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y rhestr gyfredol o’r Cyrff Allanol sydd wedi’i atodi fel Atodiad A, yn cael ei nodi; a
(b) Pan fydd llefydd gwag dal heb eu llenwi, y dylid tynnu’r rhain o’r rhestr Cyrff Allanol.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg a dim aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|