Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

88.

CYFLWYNIADAU

Cydnabyddiaeth o lwyddiant Llys Custom House yng nghategori Datblygiad Newydd Gwobrau Tai Cymru’r Sefydliad Tai Siartredig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Melville Evans, Denise Naylor, Darren Brimble ac Ian Edwards (Cyflogeion y Cyngor), yn ogystal â Michael Cunningham (Wates Residential) a'u llongyfarch ar gydnabod Llys Custom House yng nghategori’r ‘Datblygiad Newydd’ yng Ngwobrau Tai Cymreig y Sefydliad Tai Siartredig.  Hwn oedd y datblygiad cyntaf yn rhaglen Partneriaeth Tai ac Adfywio Strategol uchelgeisiol y Cyngor i adeiladu 500 o dai cyngor a thai fforddiadwy ar draws y sir mewn pum mlynedd, gan ddefnyddio Safon Tai Sir y Fflint sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor ac yn cynnwys cynllun o ansawdd uchel.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i bawb fu’n rhan o hyn o dimau ar draws y cyngor a Wates Residential, y partner a benodwyd gan greu perthynas wych.  Roedd wedi bod yn falch o fynychu’r seremoni Gwobrau Tai, lle mai Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod lleol i fod â thai newydd a gafodd eu cydnabod yn y gwobrau a dywedodd mai’r prosiect hwn oedd dechrau’r rhaglen Partneriaeth Tai ac Adfywio Strategol i adfywio cymunedau ar draws Sir y Fflint.

 

Diolchodd y Cynghorydd Helen Brown i’r tîm o swyddogion a chynrychiolwyr y Ffederasiwn Tenantiaid am eu gwaith ar Safon Tai Sir y Fflint, a chroesawodd y Cynghorydd Paul Shotton y defnydd newydd o’r safle a arferai fod yn ysgol.

 

Fel Aelod lleol, dywedodd y Cynghorydd Brian Dunn fod adborth cadarnhaol wedi ei roi gan denantiaid newydd oedd yn byw o fewn y cynllun newydd a chanmolodd y lefel o ymgynghori drwy gydol y broses.

89.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori'r Aelodau yn unol â hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyngor a roddwyd gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), fe wnaed y datganiadau canlynol:

 

Eitem 11 yn y rhaglen ‘ Mesur yr Undebau Llafur (Cymru) – datganwyd cysylltiad personol gan y Cynghorwyr Bernie Attridge, Peter Curtis, Derek Butler, Mike Lowe, Mike Reece, Ian Roberts, Aaron Shotton ac Ian Smith fel aelodau o Undebau Llafur amrywiol.  Hefyd datganodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) gysylltiad personol.

 

Eitem 15 yn y rhaglen 'Cyfuno Buddsoddiadau Pensiwn yng Nghymru ‘ – cofnodwyd cysylltiad personol ar gyfer y Cynghorwyr Chris Bithell, Paul Cunningham, Peter Curtis, Cindy Hinds, Nancy Matthews, Ian Roberts ac Ian Smith.

 

Ar eitem 8 (iii) ‘ Rhybudd o Gynnig’ yn y rhaglen a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Helen Brown, datganodd Dennis Hutchinson gysylltiad personol sy’n rhagfarnu fel perchennog cwmni bws mini yn darparu cludiant ysgol yn y sir.

90.

Deisebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

91.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

92.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

93.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Rhifyn 5 2016/17, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar 23 Chwefror 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

94.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Ystyried y cynigion canlynol:

 

(i)         Y Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

Gwneud i’r Cyfrifiad nesaf gyfri ar gyfer ein cymuned Lluoedd Arfog.  Cynnig Drafft yn Cefnogi Ymgyrch ‘Count Them In’.  Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

1.    Yr hyn sy’n ddyledus i gymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint fel y nodir yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog; ni ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais o ran darpariaeth gwasanaethau a dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i unigolion sydd wedi rhoi'r mwyaf.

2.    Diffyg ystadegau pendant a chynhwysol ar faint neu ddemograffig cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint. Mae hyn yn cynnwys personél Rheolaidd ac Wrth Gefn, cyn filwyr, a’u teuluoedd.

3.    Byddai argaeledd data o’r fath o gymorth mawr i’r Cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol a Llywodraeth Genedlaethol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i fynd i’r afael ag anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint.  

 

O ystyried yr uchod, mae’r Cyngor hwn yn cefnogi ac yn hyrwyddo galw’r Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys pwnc newydd yng Nghyfrifiad 2021 sy’n ymwneud â gwasanaeth milwrol ac aelodaeth cymuned y Lluoedd Arfog. Rydym yn galw ar Senedd y DU a fydd yn cymeradwyo holiadur terfynol y Cyfrifiad drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau y bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau'n ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog.

 

(ii)        Y Cynghorydd David Roney

Wrth gydnabod y rhaglen adeiladu tai Cyngor anhygoel, sy'n nodi y bydd Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu 200 o dai dros gyfnod o 5 mlynedd.

Gofynnaf i’r Cyngor hwn osod paneli solar ar yr holl dai sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i wneud y tai hyn yn well fyth a gosod esiampl i’r diwydiant adeiladu.

Gofynnaf hefyd i’r Cyngor hwn wneud cais i Lywodraeth presennol San Steffana Llywodraethau’r dyfodol i  gynyddu'r tariff cyflenwi trydani annog mwy o ddefnydd o’r ffynhonnell ynni glân ac adnewyddadwy hon.

 

(iii)       Y Cynghorydd Helen Brown

 

Rydym ni, Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Senedd i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei rhoi ar waith i sicrhau mai diogelwch plant sy’n dod yn gyntaf wrth deithio i/o'r ysgol.

 

Rydym ni eisiau bod yn dawel ein meddyliau bod ein plant yn ddiogel wrth deithio i/ o’r ysgol. Rydym eisiau bysiau ysgol dynodedig gyda chyllid priodol er mwyn i blant cymwys allu derbyn cludiant ysgol diogel, pob un â gwregys diogelwch ei hun a heb orfod gorfodi unrhyw blentyn i deithio ar fysiau cyhoeddus gorlawn. Mae’n rhaid i ddiogelwch plant ddod yn gyntaf.

 

Mae gan ein plant yr hawl i deimlo’n ddiogel. Gall fysiau cyhoeddus orlenwi ac nid yw plant yn teimlo’n ddiogel bob amser. Mae bysiau cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, nid ydynt yn bwrpasol ar gyfer defnydd ysgolion. Nid yw Cynghorau Lleol, ar hyn o bryd, yn gallu rhedeg gwasanaethau diogel, addas a phriodol ar gyfer plant ar hyd llwybrau bysiau  ...  view the full Rhaglen text for item 94.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(1) Derbyniwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

 ‘Gwneud i’r Cyfrifiad nesaf gyfri ar gyfer ein cymuned Lluoedd Arfog.  Cynnig Drafft yn Cefnogi Ymgyrch ‘Count Them In   Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

 (i)   Fod yr hyn sy’n ddyledus i gymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint fel y nodir yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog; na ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais o ran darpariaeth gwasanaethau a dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i unigolion sydd wedi rhoi'r mwyaf.

 

 (ii)  Diffyg ystadegau pendant a chynhwysfawr ar faint neu ddemograffig cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint. Mae hyn yn cynnwys personél Rheolaidd ac Wrth Gefn, cyn filwyr, a’u teuluoedd.

 

 (iii)Byddai argaeledd data o’r fath o gymorth mawr i’r Cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol a’r Llywodraeth genedlaethol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i fynd i’r afael ag anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint.

 

O ystyried yr uchod, mae’r Cyngor hwn yn cefnogi ac yn hyrwyddo galwad y Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys pwnc newydd yng Nghyfrifiad 2021 sy’n ymwneud â gwasanaeth milwrol ac aelodaeth o gymuned y Lluoedd Arfog.,Rydym yn galw ymhellach ar Senedd y DU a fydd yn cymeradwyo holiadur terfynol y Cyfrifiad drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau y bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau'n ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Cafodd pwysigrwydd y Cynnig ei gydnabod gan y Cynghorydd Aaron Shotton a siaradodd am gefnogaeth y Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog drwy'r Cyfamod a'r Diwrnod Lluoedd Arfog blynyddol.  Mae’r gyfran uchaf o gyn filwyr y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru yn byw yn Sir y Fflint a byddai’r dull a nodir yn yr ymgyrch genedlaethol ‘Count Me In’ yn helpu i ddarparu data cywir ar aelodau eraill o gymunedau’r Lluoedd Arfog a fyddai’n elwa o waith y Cyfamod.  Roedd y Cynghorydd Shotton yn cydnabod fod rhannu gwybodaeth yn y Cyfrifiad yn ddibynnol ar ddewis personol ac aeth ymlaen i gyfeirio at drafodaethau cenedlaethol ar yr angen i adnabod cymunedau'r Lluoedd Arfog i alluogi targedu cefnogaeth.

 

Cytunodd y Cynghorydd Hilary McGuill gyda’r angen am gofnodi data yn gywir er mwyn targedu cefnogaeth ar gyfer y rhai yn y lluoedd milwrol a’r rhai sy’n gadael y gwasanaeth.  Ond, roedd ganddi amheuaeth ar hyn o bryd a oedd nodi unigolion o’r fath a’u lleoliadau yn y Cyfrifiad yn orfodol o ganlyniad i bryderon am ddiogelwch yr wybodaeth hon.  Nododd ei bwriad i atal ei phleidlais oni bai fod yna eglurder fod yr ymatebion i'r Cyfrifiad yn ddewisol.

 

Wrth gefnogi’r Cynnig talodd y Cynghorydd Nigel Steele-Mortimer deyrnged i waith y Lleng Brydeinig Frenhinol.  Siaradodd y Cynghorydd David Evans am yr amrediad o gefnogaeth sydd ar gael i unigolion sy’n gadael y Lluoedd Arfog, gan awgrymu y byddai eitem ar hyn yn ddefnyddiol yn y dyfodol.

 

Teimlai’r Cadeirydd mai newid diwylliant oedd y brif her wrth adael y Lluoedd Arfog, yn enwedig i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 94.

95.

Treth y Cyngor Gosod ar gyfer 2017-18 pdf icon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw yr adroddiad i osod Treth y Cyngor ar gyfer 2017-18 yn ffurfiol a hynny o fewn yr amserlen a ddisgwylir.  Roedd y penderfyniad ar Dreth y Cyngor yn cynnwys praesept y Cyngor Sir o £70,122,877 yn ogystal â phraeseptiau a gasglwyd ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned.  Roedd taliadau/lefelau Treth y Cyngor a nodwyd yn yr adroddiad wedi eu cymeradwyo fel rhan o'r cynigion terfynol ar y gyllideb ar 14 Chwefror 2017, gyda’r cynnydd arfaethedig o 3% ym mhraesept y Cyngor Sir sy’n gyfystyr â £1,103.55 y flwyddyn ar eiddo Band ‘D’.  Fel y cytunwyd ym Mawrth 2016, byddai’r cynllun premiwm Treth y Cyngor hefyd yn weithredol, er mwyn helpu i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

 

Teimlai'r Cynghorydd Mike Peers y dylai'r Cyngor gael ei ad-dalu gan y Comisiwn Heddlu a Throsedd am yr adnoddau a ddefnyddiwyd wrth gasglu'r swm praesept blynyddol hwnnw.  Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu tair elfen Treth y Cyngor ac nad oedd deddfwriaeth yn caniatáu codi tâl i wneud hynny.  Nododd y gwall teipograffyddol yn y rhestr o benderfyniadau oedd wedi eu hatodi i’r adroddiad a ddylai fod wedi cyfeirio at 2017-18.

 

Cefnogwyd yr armgyhellion yn yr adroddiad yn ffurfiol gan y Cynghorydd Aaron Shotton a cawsant eu heilio.

 

Ar braesept Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis fod siom ymhlith rhai preswylwyr tuag at lefel y gwasanaeth a dderbyniwyd gan yr Heddlu a diffyg presenoldeb yr Heddlu, mater oedd wedi ei godi gan Gyngor Tref Bwcle.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai Aelodau fod yn dymuno gwahodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd i gyfarfod y Cyngor yn gynnar yn y tymor newydd i drafod unrhyw bryderon.

 

Croesawodd y Cynghorydd Tony Sharps yr awgrym hwn a datganodd gefnogaeth i sylwadau’r Cynghorwyr Peers ac Ellis.  Wrth ymateb i ymholiad, dywedodd y Rheolwr Refeniw fod y polisi fframwaith newydd a gymeradwywyd gan y Cyngor ac a gyflwynwyd o 2017/18 yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl sefydliadau gwirfoddol dielw i wneud cyfraniad o 20% tuag at eu rhwymedigaeth cyfradd fusnes.  Teimlai'r Cynghorydd Sharps fod hyn yn annheg ar y sefydliadau bach, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ac y dylid adolygu hyn.  Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod y fframwaith mabwysiedig yn caniatáu i gais gael ei wneud am ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn gan fusnesau bach, ond dim ond yn rhannol y caiff hyn ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.  Mae gwefan y Cyngor hefyd yn darparu manylion am y cynllun gostyngiad caledi ar dreth.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Gosod Treth y Cyngor 2017-18 fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad;

 

 (b)      Fod parhau â’r polisi o beidio darparu gostyngiad yn lefel ffioedd Treth y Cyngor am ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn cael ei gefnogi.  Hefyd lle nad oes eithriadau, i godi'r gyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor am ail gartrefi ac  ...  view the full Cofnodion text for item 95.

96.

Gweithio Rhanbarthol a'r Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad' pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru oedd yn ddatganiad o fwriad ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru a hynny yn lle'r Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) cynharach gan y Llywodraeth flaenorol.  Rhoddodd gyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         cefndir

·         pwyntiau sy’n gorgyffwrdd

·         cynnwys y Papur Gwyn

·         beirniadaeth o’r Papur Gwyn

·         ein hatgoffa o’r hyn ddywedom ni wrth ymateb i’r Mesur diwethaf

·         Rhan 2: Gweithio Rhanbarthol

·         Rhan 3: Uno Gwirfoddol

·         Rhan 4: Arweinyddiaeth Leol

·         Rhan 5: Ardaloedd Arweiniol

·         Rhan 6: Cynghorau Cymuned

·         Rhan 7: Etholiadau a Phleidleisio

·         cynigion eraill

 

Canmolodd y Prif Weithredwr y berthynas weithio gadarnhaol gydag Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.  Yngl?n â’r Papur Gwyn, rhannodd bryderon yn ymwneud â’r cymysgedd amheus o faterion, y diffyg manylder ac absenoldeb cyllid angenrheidiol i gefnogi cadernid ac adnewyddiad mewn llywodraeth leol.  Byddai safbwyntiau aelodau’n cael eu cyfuno o fewn yr ymateb drafft a'u rhannu cyn ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau sef 11 Ebrill 2017.

 

Disgrifiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y darpariaethau o fewn y Papur Gwyn fel rhai pellgyrhaeddol.  Wrth gydnabod yr angen am ffyrdd gwahanol o weithio a chydweithredu rhanbarthol priodol, atgoffodd hwy o gynnydd sylweddol y Cyngor a nododd bwysigrwydd sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gweithio rhanbarthol a’r lleol.  Tra roedd yn cefnogi dull unffurf i systemau pleidleisio etholiadol, siaradodd yn erbyn y syniad o ddatganoli cyfrifoldeb dros dai i’r rhanbarthau. Er mwyn galluogi trafodaeth wybodus yn cynnwys Aelodau newydd eu hethol, teimlai y dylai'r Cyngor geisio ymestyn dyddiad cau'r ymgynghoriad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Owen Thomas sylw ar bwysigrwydd y cynnydd ar Bwerdy’r Gogledd a rhaglen band eang BT i gryfhau’r economi leol.  Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar ddatblygiad cadarnhaol y strategaeth twf rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru a’r system fetro arfaethedig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Mike Peers yr awgrym o ymestyn dyddiad cau'r ymgynghoriad.  Ar ddarpariaethau’r Papur Gwyn, galwodd am fwy o fanylion y tu ôl i’r Cyd Fyrddau Cynllunio a chyfeiriodd at yr effaith amgylcheddol o symud cerbydau rhwng siroedd i gydweithio ar wastraff.  Nododd fod adnoddau ychwanegol yn angenrheidiol i ymdrin â Chwestiwn 6 yr Ymgynghoriad a cheisio rhesymeg tu ôl i’r amcan o geisio cael ‘amrediad mwy amrywiol' o gynghorwyr, gan hefyd wneud sylwadau y gellid sicrhau dulliau mwy modern o gyfathrebu yn lle’r cymorthfeydd.  Ychwanegodd y byddai mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ostwng 'pwysau diangen' ac nad oedd y diffyg ffocws ar gydweithio trawsffiniol yn cydnabod sefyllfa Sir y Fflint.  Wrth ymateb i sylwadau rhoddodd y Prif Weithredwr eglurder ar y pedwar term a ddefnyddir ar gyfer y partneriaethau economaidd presennol a ddangosir ar y map oedd yn dangos ardaloedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.  Hefyd nododd fod cyllid ar gyfer strategaeth twf Gogledd Cymru yn ddibynnol ar gydweithio trawsffiniol.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Arnold Woolley y feirniadaeth o'r papur gwyn a'r cynnig i ymestyn y dyddiad cau.  Teimlai nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arwydd o'r dull gorau o lywodraethu'n lleol,  ...  view the full Cofnodion text for item 96.

Item 10 - Presentation Slides pdf icon PDF 532 KB

Dogfennau ychwanegol:

97.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) pdf icon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Fesur yr Undebau Llafur (Cymru) oedd yn ceisio dadwneud rhai darpariaethau o’r Ddeddf Undebau Llafur 2016 yng Nghymru.  Roedd ymateb cychwynnol gan y Cabinet yn cefnogi’r Mesur wedi ei ddarparu i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Gwahoddwyd ymateb gan y Cyngor llawn yn sgil y Rhybudd o Gynnig a ystyriwyd ym Mawrth 2016.

 

Wrth grynhoi’r rhesymau dros gynnal y trefniadau cyfredol, soniodd y Prif Weithredwr am y berthynas waith effeithiol rhwng y Cyngor a'r Undebau Llafur cydnabyddedig, gyda Chytundeb Cyfleusterau yn rhoi eglurder ar swyddogaethau.

 

Galwodd y Cynghorydd Aaron Shotton ar Aelodau i gefnogi ymateb y Cabinet oedd yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a dangosodd gefnogaeth i’r Mesur.  Eiliwyd hyn.

 

Wrth gefnogi’r argymhellion, talodd y Cynghorydd Paul Shotton deyrnged i'r cydweithio cadarnhaol rhwng swyddogion a swyddogion yr Undebau Llafur.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Cyngor yn cefnogi Mesur yr Undebau Llafur (Cymru) ar argymhelliad y Cabinet a chydnabod polisi Conwy fel y nodir yn y Rhybudd o Gynnig.

98.

Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yr adroddiad blynyddol a geisiai gymeradwyaeth i Ddatganiad Polisi Tâl y Cyngor i alluogi ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2017. Tra roedd y cynnwys yn cwrdd â gofynion cyfreithiol, roedd gwybodaeth ychwanegol hefyd wedi ei gynnwys fel ymarfer da ac i wneud y ddogfen yn fwy ystyrlon; roedd y rhain yn ymwneud â thaliadau bonws a thâl ar sail perfformiad, cynlluniau aberthu cyflog a’r dull o reoli talent.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Datganiad yn crynhoi agwedd y sefydliad tuag at dâl presennol a threfniadau cydnabyddiaeth a soniodd am newidiadau deddfwriaethol oedd yn golygu fod rhaid i fwy o gyrff cyhoeddus bellach gyhoeddi eu trefniadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y meini prawf ar gyfer rhoi cynnydd blynyddol yn achos Prif Swyddogion, a theimlai mai dim ond lle roedd yr holl arfarniadau wedi eu cwblhau o fewn eu timau priodol y dylai hyn fod yn weithredol.  Fel cymhelliad pellach, dywedodd y gellid rhoi cynnydd rhannol hyd nes y byddai Prif Swyddog wedi cwblhau arfarniad boddhaol.  Soniodd y Prif Weithredwr am y disgwyliad clir ar i Brif Swyddogion oruchwylio cwblhau’r arfarniadau yn eu timau fel rhan allweddol o’u harfarniadau eu hunain.  Dywedodd y gellid ystyried yr awgrymiadau yn ddiweddarach a soniodd am y gwaith sydd wedi ei wneud ar arfarniadau i wella eu hansawdd a’r gyfradd gwblhau.

 

Wrth ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Gareth Roberts ar y rheol ‘IR35’, eglurwyd mai dim ond i leiafrif o unigolion sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â'r Cyngor roedd hyn yn berthnasol a bod gwaith ar y gweill i ymdrin â hyn.

 

Nododd y Cynghorydd Mike Peers bwysigrwydd arfarniadau i helpu i hybu perfformiad.  Yn yr adran yn ymwneud â thâl wedi ei seilio ar berfformiad yn y Datganiad, dywedodd y dylid egluro mai dim ond i Brif Swyddogion yr oedd y system arfarnu yn gysylltiedig â thâl yn berthnasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2017/18 yn cael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu.

99.

Adolygiad Blynyddol o Cod Llywodraethu Corfforaethol pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Cod Llywodraethu Corfforaethol diweddaraf oedd yn ffurfio rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.  Yn dilyn adolygiad gan y Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol, mae'r ddogfen wedi ei chefnogi gan y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cyfansoddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Cod Llywodraethu Corfforaethol wedi ei ddiweddaru yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.

100.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad pdf icon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth iddo ef a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i wneud newidiadau gweinyddol i’r Cyfansoddiad, fel diweddaru teitlau swyddi yn dilyn newidiadau strwythurol.  Ni fyddai newidiadau yn cael eu gwneud i’r maes dirprwyo a byddai'r holl newidiadau strwythurol yn parhau i fod yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Lle mae unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn llwyr i ddynodi swyddog yn codi o ailstrwythuro, fod y Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cael eu hawdurdodi i wneud y newidiadau hynny i'r Cyfansoddiad; a

 

 (b)      Bod Aelodau yn cael eu hysbysu a’u diweddaru am unrhyw newidiadau i ddynodiadau swyddog yn codi o ailstrwythuro.

101.

Cyfuno Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn Cymru pdf icon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Cytundeb Rhwng Awdurdodau sy’n gosod y trefniadau llywodraethu priodol ar gyfer cyfuno buddsoddiadau pensiwn gyda’r saith Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda chyfrifoldebau i'w dirprwyo i Bwyllgor Llywodraethu ar y Cyd.

 

O ganlyniad i gyflymder y mater hwn, roedd argymhellion adroddiad geiriol wedi ei gefnogi gan y Pwyllgor Cyfansoddiad i geisio cael cymeradwyaeth y Cyngor.  Mynegodd y Prif Weithredwr werthfawrogiad o waith Rheolwr Cronfa Bensiwn Clwyd a’r Rheolwr Cyllid Pensiwn, yn ogystal â'r penderfyniad gan Gyngor Sir Caerfyrddin i weithredu fel yr awdurdod lletyol ar gyfer y P?l Buddsoddi Cymru Gyfan.

 

Fel Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd cadarnhaodd y Cynghorydd Allan Diskin fod yr argymhellion wedi eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod cynnwys fersiwn drafft y Cytundeb Rhwng Awdurdodau, sydd wedi ei atodi fel Atodiad B i’r adroddiad, yn cael ei nodi a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Pwyllgor Pensiynau Clwyd a’r Swyddog Monitro i:

 

·         gytuno ar unrhyw fân newidiadau pellach i’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau

·         gymeradwyo ac arwyddo fersiwn derfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

 (b)      I sefydlu cyd bwyllgor (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y Cyd Bwyllgor Llywodraethu) ar sail y cylch gorchwyl sydd wedi ei atodi i’r adroddiad o fewn y gwelliannau arfaethedig i’r Cyfansoddiad;

 

 (c)      Fod gweithredu swyddogaethau penodol yn cael eu dirprwyo i’r Cyd Bwyllgor Llywodraethu fel y nodir o fewn y gwelliannau arfaethedig i’r Cyfansoddiad;

 

(d)       Fod y swyddogaethau sydd wedi eu cadw i’r Cyngor yn cael eu nodi, a’r holl faterion a gaiff eu dirprwyo i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, ac eithrio terfynu neu wneud gwelliant sylweddol i’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau.

 

 (e)      Cymeradwyo penodi Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd i’r Cyd Bwyllgor Llywodraethu fel cynrychiolydd Sir y Fflint ac Is-gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd fel ei Ddirprwy ef/hi.

 

 (f)       Darparu dirprwyaeth i’r cynrychiolydd a enwebwyd a’i Ddirprwy ef/hi i weithredu o fewn cylch gorchwyl y Cyd Bwyllgor Llywodraethu i alluogi gweithredu unrhyw swyddogaeth ddirprwyedig;

 

 (g)      Fod Cyngor Sir Caerfyrddin (Cronfa Bensiwn Dyfed) yn gweithredu fel yr awdurdod lletyol gyda'r cyfrifoldebau wedi eu nodi yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau; a

 

 (h)      Cymeradwyo'r gwelliannau i'r Cyfansoddiad fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad.

102.

SYLWADAU GAN Y CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Cyngor Sir cyn yr Etholiadau, fe fanteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddymuno’n dda i’r holl Aelodau.

103.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o'r wasg a dau aelod o'r cyhoedd yn bresennol.