Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU Pwrpas: 1. Rhoi cyflwyniad i’n hathletwyr Paralympaidd lleol er mwyn cydnabod eu llwyddiannau yn ennill Medalau Aur yng Ngemau Paralympaidd Haf 2024 ym Mharis.
2. Rhoi cyflwyniad i Gynghorwyr Sir presennol a chyn Gynghorwyr Sir sydd wedi cyflawni 25 mlynedd o wasanaeth yn olynol fel aelod etholedig yng Nghyngor Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed cyflwyniadau i Sabrina Fortune a Rhys Darbey i gydnabod eu llwyddiannau yn ennill Medalau Aur yng Ngemau Paralympaidd Haf 2024 ym Mharis.
Ar ben hynny, cyflwynwyd bathodynnau i’r Cadeirydd a’r Cynghorwyr Ian Roberts, Hilary McGuill, Ron Davies a Chris Bithell, ynghyd â’r cyn Gynghorydd Neville Phillips, a oedd wedi bod yn Aelodau Etholedig yng Nghyngor Sir y Fflint am 25 o flynyddoedd neu fwy. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod un cwestiwn wedi dod i law, fel y dangoswyd yn y rhaglen. Pan wahoddwyd Colin Randerson i gyflwyno ei gwestiwn, diolchodd i’r Cadeirydd a’r Cyngor am y cyfle i fynychu’r cyfarfod a darllenodd ei gwestiwn (eitem rhif 3 ar y rhaglen).
Fel Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, darparodd y Cynghorydd Chris Bithell ymateb i’r cwestiwn.
Gofynnodd Colin Randerson gwestiwn ategol a dywedwyd wrtho y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu ar ôl y cyfarfod. |
|
Cwestiwn gan y Cyhoedd ac ymateb Dogfennau ychwanegol: |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o’r cyhoeddiadau yn rhestru’r digwyddiadau yr oedd wedi’u mynychu o 5 Rhagfyr 2024 i 28 Ionawr 2025 wedi cael ei ddosbarthu cyn y cyfarfod. |
|
Deisebau Pwrpas: Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno, er argymhelliad y Cyngor, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2025/26, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2025/26, Cynllun Busnes y CRT, a’r crynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd. Rhoddodd gyflwyniad ar y cyd â’r Rheolwr Cyllid Strategol a’r Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) ar y pwyntiau allweddol i’w hystyried.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymwyd bod y Cynghorydd Mansell yn cysylltu â’r Rheolwr Gwasanaeth yn uniongyrchol i drafod safleoedd garejis yn ei ward.
Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cyllideb y CRT ar gyfer 2025/26, fel y nodir yn yr adroddiad;
(b) Cymeradwyo'r isafswm cynnydd rhent arfaethedig o 2.7%;
(c) Cymeradwyo'r cynnydd arfaethedig o 2.7% yn rhent garejis;
(d) Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig o ran taliadau gwasanaeth i adennill cost lawn;
(e) Cymeradwyo’r pwysau a’r arbedion effeithlonrwydd a nodir yn Atodiad A; a
(f) Chymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf CRT arfaethedig ar gyfer 2025/26, fel nodir yn Atodiad B. |
|
Eitem 7 - Cyflwyniad Dogfennau ychwanegol: |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2024/25 Pwrpas: Cyflwyno drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2024/25 i'r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth ar gyfer adroddiad canol blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2024/25 yn dilyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2024/25. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Pwrpas: Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2023/24.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo adroddiad blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2023/24. |
|
Pwrpas: Mae’r eitem hon i dderbyn unrhyw Rybudd o Gynnig. Mae tri wedi cael eu derbyn a’u hatodi i’r rhaglen. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Rhybuddion o Gynnig canlynol wedi cael eu cyflwyno:
Rhybudd o Gynnig: Ystadau’r Goron
Cyflwynodd y Cynghorydd Simon Jones y Rhybudd o Gynnig (adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd David Healey.
Yn ystod trafodaeth, cynigodd y Cynghorydd David Healey ddiwygiad y dylid gofyn i Lywodraeth y DU drosglwyddo cyllid yn uniongyrchol i awdurdodau Cymru ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marion Bateman. Eglurodd y Cynghorydd Simon Jones ei rhesymau dros wrthod y diwygiad a thynnodd y Cynghorydd Healey ei ddiwygiad yn ôl wedi hynny.
Cytunodd y Cynghorydd Simon Jones i gynnwys geiriad ychwanegol ar ‘welyau afon llanw’ o fewn cwmpas asedau Ystâd y Goron yn ei Rybudd o Gynnig.
Ar ôl pleidlais, cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig fel y’i diwygiwyd.
PENDERFYNWYD:
1. Bod Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r ymgyrch i ddatganoli rheolaeth Ystâd y Goron a’i hasedau yn cynnwys gwelyau afon llanw, yng Nghymru i Lywodraeth Cymru a bod yr arian sydd wedi cael ei godi yn cael ei rannu’n deg i Awdurdodau Lleol Cymru i gefnogi anghenion cymdeithasol y bobl sy’n byw yn ein cymunedau; a
2. Bod y Cyngor yn cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac Aelodau Senedd Cymru ac Aelodau Senedd San Steffan sy’n cynrychioli Sir y Fflint yn amlinellu ein cefnogaeth i berswadio San Steffan i ddatganoli Ystâd y Goron.
Rhybudd o Gynnig: Ardoll Agregau
Cyflwynodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y Rhybudd o Gynnig adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Fran Lister.
Cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig.
PENDERFYNWYD:
1. Bod y Cyngor yn gwneud cais i Arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor ysgrifennu at Mark Drakeford AS fel Aelod Cabinet Cyllid a galw ar Lywodraeth Cymru i drafod datganoli Ardoll Agregau gyda Llywodraeth y DU mewn ffordd sy’n sicrhau bod yr awdurdodau lleol y ceir y mwynau ohonynt yn elwa’n uniongyrchol ac yn gyfatebol o’r Ardoll; a
2. Bod y Cyngor yn cael cefnogaeth ar gyfer y dull hwn gan awdurdodau lleol eraill drwy ei aelodaeth o Weithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a thrwy sianeli priodol eraill.
Rhybudd o Gynnig: Addysgu Gartref
Cyflwynodd y Cynghorydd Hilary McGuill y Rhybudd o Gynnig adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry fod llythyr wedi cael ei anfon gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i Lywodraeth Cymru (LlC) yn 2023 i gefnogi cael cofrestr ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Darllenodd yr ymateb a oedd yn cadarnhau bod hyn ymysg nifer o ddewisiadau a oedd yn cael eu hystyried gan LlC i gryfhau’r fframwaith.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Cynghorydd McGuill y byddai’r sylwadau a godwyd gan Aelodau yn cael eu hadlewyrchu yn y llythyr i LlC. Ar y sail honno, cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn gofyn bod llythyr pellach yn cael ei ... view the full Cofnodion text for item 77. |
|
Datganiad Polisiau Tal ar gyfer 2025/26 Pwrpas: Cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl draft 2025/26. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Polisi Tâl 2025/26 a oedd yn rhaid ei gyhoeddi o fewn y terfynau amser statudol.
Mewn ymateb i’r sylwadau am y potensial i ehangu tâl ar sail perfformiad ar gyfer pob gweithiwr, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn un o’r ffrydiau gwaith yn y Rhaglen Drawsnewid.
Cefnogwyd yr argymhellion, yn amodol ar ddiwygiad i’r gwall teipograffyddol ar dudalen 16 y Datganiad Polisi Tâl.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar y diwygiad ar dudalen 16, cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl drafft sydd wedi’i atodi ar gyfer 2025/26; a
(b) Bod y Cyngor Sir yn rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) i ddiweddaru Datganiad Polisi Tâl 2025/26 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi’r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol. |
|
Cwestiynau ac ymatebion Dogfennau ychwanegol: |
|
Pwrpas: Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: daeth pump i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd pum cwestiwn (eitem rhif 12 ar y rhaglen) erbyn y dyddiad cau. Darllenwyd y cwestiynau gan yr Aelodau a oedd wedi’u cyflwyno ac fe gawsant eu hateb gan yr Aelod Cabinet perthnasol. Gofynnwyd rhai cwestiynau ategol a fydd yn cael eu hateb yn ysgrifenedig.
Roedd cwestiwn brys a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth wedi cael ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau a chafodd ei ganiatáu. Dosbarthwyd ymateb ysgrifenedig ar ran yr Aelod Cabinet nad oedd yn bresennol. |
|
Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau Pwrpas: Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor. Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd naw aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod. |