Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Hutchinson, gysylltiad personol ag Eitem 7 ar y Rhaglen fel llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Drury.
Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau eraill.
|
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 26 Medi a 24 Hydref 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023 a 24 Hydref 2023.
26 Medi 2023
Cywirdeb
O ran Datgan Cysylltiadau, dywedodd y Cynghorydd Peers ei fod wedi datgan cysylltiad personol ag eitem 10 ar y Rhaglen, Rhybudd o Gynnig mewn perthynas â landlordiaid. Cytunwyd i addasu’r cofnodion yn unol â hynny.
24 Hydref 2023
Cywirdeb
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ibbotson at eitem 43 a gofynnodd am ddiweddariad ar ei gais i gael ymateb ysgrifenedig. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai'n rhannu ymateb â’r Aelodau yn dweud nad oedd angen adroddiad o'r fath gan roi’r rhesymau dros hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge y cofnodion fel cofnod cywir ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bibby, a chymeradwyodd y Pwyllgor hynny drwy bleidleisio.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Medi, gyda’r newid, a 24 Hydref 2023 fel cofnod cywir.
|
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr holl Aelodau wedi derbyn manylion yr ymrwymiadau roedd y Cadeirydd wedi ymgymryd â nhw ers y cyfarfod diwethaf. Soniodd yr Is-gadeirydd am yr ymweliadau ag ysgolion yr oedd wedi eu gwneud gan ddweud ei fod o a'i wraig wedi'u mwynhau. |
|
Deisebau Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law. |
|
Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 – 2026/27 PDF 146 KB Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 i’w chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn cyflwyno'r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25–2026/27 i'w chymeradwyo.
Roedd yr adroddiad yn amlygu’r modd yr oedd y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei datblygu a’i hariannu, yr effaith bosib’ ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’i pherthynas â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor. Ychydig iawn o newid oedd i'r Strategaeth Gyfalaf a gyflwynwyd y llynedd ar wahân i ddiweddariadau i Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25–2026/27.
Roedd Tabl 1 yn rhoi gwybodaeth am wariant arfaethedig y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y tair blynedd nesaf, Tabl 2 yn nodi sut y byddai'r gwariant hwn yn cael ei ariannu, a Thabl 8 yn rhoi trosolwg o sut roedd costau ariannu yn cymharu â'r gyllideb.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf; a
(b) Cymeradwyo’r canlynol:-
• Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25–2026/27 fel y manylir yn Nhablau 1, a 4-8 yn y Strategaeth Gyfalaf.
• Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer dyled allanol a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).
|
|
Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 PDF 354 KB Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 i'w chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan egluro bod y Rhaglen Gyfalaf yn cwmpasu buddsoddiadau’r Cyngor ynghlwm ag asedau a hefyd yn ystyried y sefyllfa o ran y gyllideb refeniw.
Yna, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar y sleidiau canlynol:-
Ø Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol. Ø Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes. Ø Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ailstrwythuro gwasanaethau er mwyn cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi yng nghynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor.
Ø Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (1) Ø Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (2) Ø Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (1) Ø Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (2)
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr adolygiad o ystadau diwydiannol a gofynnodd pam oedd angen dymchwel yr unedau gwag. Cynigiodd welliant y dylai'r unedau ar ystadau diwydiannol gael eu hadolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i ddod i ddeall beth oedd ynghlwm â hynny.
Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol fod yr unedau ym Maes Glas ac y tu hwnt i gael eu hatgyweirio’n fforddiadwy; ac roedd swm o £200,000 wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf i wneud y gwaith.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ystâd benodol y cyfeirid ati y tu hwnt i'w hatgyweirio ac y gallai unedau cychwynnol gael eu gosod yn lle’r unedau presennol ar gyfer busnesau bach oedd eu hangen. Byddai hyn hefyd yn mynd i'r afael â Threthi Busnes Unedau Gwag a oedd yn cael eu codi ar y Cyngor.
Croesawai’r Cynghorydd Richard Jones yr awgrym o adroddiad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac yntau’n Gadeirydd.
Roedd y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn croesawu dymchwel y tair uned ym Maes Glas a oedd, yn ei barn hi, yn risg i iechyd a diogelwch.
Mewn ymateb i gwestiwn am Gymunedau Dysgu Cynaliadwy gan y Cynghorydd Crease, roedd y Rheolwr Corfforaethol ar ddeall bod Bandiau B ac C Cymunedau Cynaliadwy bellach wedi'u diddymu ond y gallai'r Cyngor ddwyn unrhyw brosiect y dymunai ymlaen fel ... view the full Cofnodion text for item 54. |
|
Mae’r item hon i dderbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi i’r rhaglen Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Rhybudd o Gynnig canlynol wedi’i gyflwyno:
“Israel-Gaza” – wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Parkhurst, a’i eilio gan y Cynghorydd Swash
“Mae’r Cyngor yn condemnio ymosodiadau terfysgaeth ofnadwy Hamas yn Israel ar 7 Hydref. Mae’r Cyngor wedi’i arswydo gan y delweddau o drais yn ystod yr wythnosau a’r dyddiadau ar ôl yr ymosodiadau hyn, yn enwedig y sefyllfa ddyngarol ddifrifol yn Gaza lle mae dros 10,000 o Balesteiniaid wedi’u lladd a Hamas yn dal yn cadw gwystlon. Mae’r Cyngor yn cefnogi hawl Israel i amddiffyn ei dinasyddion, yn unol â’r gyfraith ryngwladol, sy’n golygu targedu terfysgwyr, nid sifiliaid, a sicrhau nad yw Palesteiniaid diniwed yn talu’r pris am weithredoedd Hamas. Mae’r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghylch methiant Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod llywodraeth Israel a’i byddin yn cadw at ofynion cyfraith ryngwladol.
Mae’r Cyngor yn credu:
Na fydd datrysiad milwrol ar ei ben ei hun yn arwain at heddwch ar gyfer Israeliaid na Phalesteiniaid.
Bod gwerthoedd cydraddoldeb, democratiaeth, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith ryngwladol yn hollbwysig.
Bod yn rhaid i’r holl rai sy’n brwydro ymddwyn yn unol â rheolau rhyfel a’r gyfraith ddyngarol ryngwladol.
Y dylid rhyddhau gweddill y rhai sy’n cael eu dal yn wystlon gan Hamas.
Y dylid adfer cyflenwadau hanfodol o dd?r, bwyd, meddyginiaeth a thrydan yn Gaza, ac y dylid hwyluso cymorth i Gaza. Nad yw hi’n iawn beio Iddewon am weithredoedd llywodraeth Israel na Phalesteiniaid am weithredoedd Hamas.
Bod y Cyngor yn penderfynu gofyn i Lywodraeth y DU i alw am gadoediad ar unwaith er mwyn: a. Hwyluso danfon cymorth dyngarol i Gaza b. Rhoi cyfle i allu sicrhau bod y gwystlon sy’n weddill yn cael eu rhyddhau c. Caniatáu cyfnod dwys o ddiplomyddiaeth i ddod i ddatrysiad gwleidyddol, i geisio sicrhau heddwch parhaol.
Mae’r Cyngor, gyda phryder mawr iawn, yn nodi effaith ddifrifol yr argyfwng hwn yn y DU, gyda chymunedau Iddewig, Mwslim a Phalesteinaidd oll yn ofni ac yn galaru, ac yn condemnio’r cynnydd mewn gwrth-semitiaeth ac Islamoffobia ers 7 Hydref. Mae’r Cyngor yn galw ar drigolion Sir y Fflint, arweinwyr cymunedol a ffigyrau cyhoeddus i weithredu’n gyfrifol a gweithio i ddod â chymunedau ynghyd yn ystod y cyfnod sensitif hwn. Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun Cartrefi i Balesteiniaid yn barod ar gyfer ac i hwyluso darparu llety dros dro i ffoaduriaid y gwrthdaro.”
Wrth siarad am y Rhybudd o Gynnig, gwnaeth y Cynghorydd Pankhurst sylwadau am yr erchyllterau roedd Hamas wedi’u cyflawni, effaith frawychus bombardio milwrol Israel yn dilyn hynny a nifer y bobl ddiniwed oedd wedi’u lladd, eu hanafu neu eu dadleoli yn Gaza. Soniodd am niferoedd y plant, merched, meddygon, swyddogion y Cenhedloedd Unedig, newyddiadurwyr, ynghyd â chenedlaethau o deuluoedd a oedd wedi’u lladd. Roedd hanner isadeiledd Gaza wedi’i ddinistrio. Fel awdurdod lleol, roedd dyletswydd ar Sir y Fflint i gynnal rhyngberthynas dda o fewn cymunedau fel bod ein holl drigolion yn gallu byw heb ofn neu wahaniaethu. Fel sir sy’n noddfa, roedd dyletswydd ar Sir y Fflint ... view the full Cofnodion text for item 55. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 92 KB Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd yr adroddiad yn amlygu pob rhan benodol o’r cylch gorchwyl a sut yr oedd y pwyllgor wedi cyflawni hynny yn ystod y cyfnod hwnnw, a chymeradwywyd yr adroddiad yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bibby.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
|
|
Penodi Person Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 80 KB Diweddaru'r Aelodau ar ail-benodi person lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod cyfnod un o’r aelodau lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2023, ar ôl gwasanaethu am bedair blynedd.
Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gofyn bod y Cyngor yn sicrhau bod un rhan o dair o’r Pwyllgor yn aelodau lleyg.
Roedd yr aelod lleyg, Mr Allan Rainford, yn fodlon gwasanaethu eto os oedd y Cyngor yn barod i’w ailbenodi.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod Mr Rainford yn cael ei ailbenodi fel aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Palmer.
Mewn ymateb i gwestiwn am hyfforddiant, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y rhaglen ddatblygu ar gyfer yr holl aelodau a dywedodd fod y cyrsiau hynny hefyd ar gael i aelodau lleyg.
Dywedodd y Prif Swyddog fod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y rhaglen ddatblygu yn rheolaidd fel rhan o'i waith a dywedodd y gallai hyfforddiant gorfodol i Gadeiryddion gael ei gynnwys i'w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
O bleidleisio ar y mater, cymeradwywyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn ailbenodi’r aelod lleyg am bedair blynedd arall tan 31 Rhagfyr 2027.
|
|
Newid amser cyfarfod - Pwyllgor Cynllunio PDF 115 KB Pwrpas: Ystyried y cynnig i newid amser dechrau Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio o gyfarfod Rhagfyr 2023. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi’r rheswm am symud cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio oedd i ddod i gychwyn am 2.00pm. Roedd y rhesymau am y newid amser awgrymedig i’w gweld yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Lloyd yr argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.
Mewn ymateb i gwestiwn, cytunwyd y byddai ymweliadau safle Cynllunio’n cael eu cynnwys yng nghalendr cyfarfodydd yr Aelodau.
Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn.
PENDERFYNWYD:
Newid amser cychwyn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i 2pm o gyfarfod mis Rhagfyr 2023 tan ddiwedd yr Amserlen Gyfarfodydd gyfredol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.
|
|
Nodi'r atebion i unrhyw gwestiynau a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 9.4(A) y Cyngor Sir: derbyniwyd un erbyn y dyddiad cau ac maent ynghlwm. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd bod cwestiwn wedi dod i law gan y Cynghorydd Parkhurst.
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Gerddi Coffa’r Wyddgrug
A oes modd i Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd egluro pam ei fod wedi rhoi gwybod i’r Cabinet ar 17.10.23 Fod Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi gwneud cais i wahardd c?n o Erddi Coffa’r Wyddgrug, a pham y dywedwyd yr un peth wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi a’r Amgylchedd ar 12.9.23 pan oedd Cyngor Tref yr Wyddgrug, mewn gwirionedd, wedi gofyn am ddiwygio’r Gorchymyn i nodi y dylid “cadw c?n ar dennyn ar bob adeg”, ac o ystyried y wybodaeth anghywir yma i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet, a fyddai r?an yn cytuno y dylid ailystyried y penderfyniad i wahardd c?n o’r Gerddi hyn?
Ymatebodd y Cynghorydd Chris Bithell i’r Cwestiwn fel hyn:-
“Yn y ddau gyfarfod y cyfeirir atynt, sef Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 12 Medi 2023 a’r cyfarfod Cabinet ar 17 Hydref 2023, cyflwynwyd adroddiad ar Adnewyddu Gorchmynion Mannau Cyhoeddus gan y Prif Swyddog Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd. Yn ôl y drefn arferol, yr Aelod Cabinet at gyfer y portffolio hwnnw sydd fel arfer yn cyflwyno’r adroddiad ac wrth wneud hynny bydd yn dyfynnu ac yn cyfeirio at agweddau a manylion yn yr adroddiad, a dyna wnes i.
Roedd agweddau o’r adroddiad ac, yn wir, y modd roedd yr ymgynghoriad wedi’i wneud wedi bod yn destun ymholiadau, sylwadau, cwynion a honiadau. Roedd y rhain i gyd yn cael eu hymchwilio’n drylwyr ar hyn o bryd yn rhan o weithdrefn Gwyno ffurfiol y Cyngor. O ystyried hynny, rwy’n meddwl y byddai’n annoeth ac yn amhriodol gwneud rhagor o sylwadau nes mae’r weithdrefn honno wedi’i chwblhau.”
Ceisiodd y Cynghorydd Attridge eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) gan ofyn, os oedd y Cyngor yn gweithio ar weithdrefn gwyno ffurfiol ar hyn o bryd, a fyddai’n annoeth trafod rhagor am hyn nes byddai canlyniad y g?yn ffurfiol honno’n hysbys. Ei bryder oedd bod hwn yn fater difrifol os oedd y Cabinet wedi camarwain Pwyllgor Craffu ac aelodau’r cyhoedd.
Yn gyntaf, atgoffodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr Aelodau ynghylch ... view the full Cofnodion text for item 60. |
|
Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau Ystyriedunrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor. Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg nac aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|