Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
|
|
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol PDF 165 KB Cyflwyno’r dogfennau allweddol gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i lunio Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y dogfennau allweddol angenrheidiol er mwyn cael cymeradwyaeth i ddod at y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod yr adroddiad yn cyflwyno argymhellion y Cabinet bod y Cyngor yn cefnogi ymrwymiad y rhanbarth i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru. Byddai’r Cyngor yn bartner yn, ac yn gyd-lofnodwr y Cytundeb. Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw, ac yn dilyn cyngor y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Adnoddau Corfforaethol, wedi cefnogi’r adroddiad a’r argymhellion yn llawn.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod ymrwymo i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru yn bwynt arwyddocaol yn hanes y rhanbarth. Mae’r cytundeb yn bartneriaeth rhwng y chwe Awdurdod Lleol, Prifysgolion Bangor a Glynd?r, Coleg Llandrillo a Choleg Cambria. Eglurodd bod y 10 partner wedi derbyn ac wedi cytuno â’r ddogfennaeth berthnasol o fewn cyfnod byr gyda'r nod y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog yr Economi Cymru yn llofnodi'r Fargen Twf yn ffurfiol ganol mis Rhagfyr gan selio'r ymrwymiad a'r cyllid ar gyfer y rhanbarth ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Dywedodd y byddai’r Fargen Twf yn golygu bod y rhanbarth yn cael ei gydnabod fel rhanbarth a fydd mewn sefyllfa dda i gystadlu am gyllid y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd, yn enwedig ar ôl Brexit. Mae’r Fargen Twf yn werth £1.1 biliwn i economi Gogledd Cymru a disgwylir y bydd yn creu 4,200 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2036. Yn dilyn ei lofnodi gan Lywodraethau Cymru a'r DU bydd modd gwneud penderfyniadau ar pa bryd y gellid cychwyn rhaglenni a phrosiectau unigol ar sail ranbarthol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai digon o gyfle i graffu ar fanylion yr holl brosiectau cyn iddynt gael eu lansio
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r pwyntiau allweddol canlynol:
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y goblygiadau ariannol. Cyfeiriodd at y data yn yr adroddiad a oedd yn dangos cyfanswm cyfraniadau’r partneriaid (15 mlynedd) i dalu cost y ‘benthyca’ sydd ei angen yn genedlaethol i hwyluso’r llif arian negyddol. Dywedodd bod lefel y benthyca sydd ei angen i ddiwallu’r llif arian parod negyddol yn ddarbodus ac yn rhoi gwerth da am arian yng nghyd-destun darpariaeth amserol prosiect mor fawr. Byddai cyfraniad partner blynyddol ychwanegol y Cyngor yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2021/22 fel rhan o’r gwaith sy’n mynd yn ei flaen ar y broses gyllidol a barnwyd ei fod yn fforddiadwy.
Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar y ... view the full Cofnodion text for item 29. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.
|
|
North Wales Growth Deal - Slides PDF 2 MB Dogfennau ychwanegol: |