Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas on 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Mehefin 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd a chymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 18 Mehefin 2019, yn amodol ar ddiwygiad i gofnod rhif 20 (Hysbysiad am gynnig i gyfyngu ar gynnydd i Dreth y Cyngor). Eglurodd y Cynghorydd Carver mai ei awgrym oedd galluogi i benderfyniad gael ei wneud, a allai gael ei ddiwygio yn nes ymlaen pe bai angen, gan y gallai gohirio tan fis Medi achosi cymhlethdodau oherwydd y rheol chwe mis.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr angen i benderfyniadau fod er budd y cyhoedd a phwysigrwydd barn y cyhoedd o ran bod â hyder yn y broses o wneud penderfyniadau, a oedd yn benodol berthnasol i’r prif fater dan sylw, sef Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w archwilio gan y cyhoedd, gan ei fod yn cynnwys nifer fawr o fudd-ddeiliaid. Cyn y cyfarfod, roedd cyngor ysgrifenedig clir wedi’i ddarparu i’r holl Aelodau i’w helpu i ystyried a oedd ganddynt gysylltiad a oedd yn rhagfarnu os oedd y mater yn effeithio ar eu lles a’u sefyllfa ariannol nhw – neu rai oedd yn agos atynt. Roedd hyn yn berthnasol i safleoedd posib’ yn y CDLl yn ogystal ag i’r rhai a oedd wedi’u gwrthod ac y gallent gael eu hailgyflwyno yn nes ymlaen. Er bod Aelodau a oedd wedi lobïo o blaid neu yn erbyn cynnwys safle posib’ wedi’u cynghori i ddatgan cysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu, roedd yr eithriad o fewn y Cod Ymddygiad yn golygu nad oedd ond angen i Aelodau awdurdod arall (fel Cyngor Tref a Chymuned) a oedd wedi gwrthwynebu safle ddatgan cysylltiad personol. Nid oedd bod yn aelod o gorff mewnol fel Gr?p y Strategaeth Gynllunio’n cyfrif fel cysylltiad a oedd yn rhagfarnu.
Dywedodd y Prif Swyddog y byddai Aelodau sy’n datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu’n cael gwahoddiad i ddod i sesiwn ar wahân i drafod cyfleoedd iddynt gynrychioli eu cymunedau yn rhan o’r broses ymgynghori.
Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu a byddent yn gadael y Siambr cyn trafod yr eitem:
· Y Cynghorydd Bob Connah - perthyn i ddeiliad tir yn y CDLl. · Y Cynghorwyr David a Gladys Healey - ar ôl gwrthwynebu i safle yn y CDLl. · Y Cynghorydd Joe Johnson - cydberchennog tir yn y CDLl. · Y Cynghorydd Ralph Small - eiddo'n edrych dros un o’r safleoedd posib’. · Y Cynghorydd Andy Williams - cartref a busnes yn agos at safle posib’.
Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol:
· Y Cynghorydd Christine Jones - ar ôl cefnogi datblygiad Porth y Gogledd. · Y Cynghorwyr Paul Cunningham, Vicky Perfect ac Ian Roberts - Aelodau Cyngor Tref y Fflint a oedd wedi gwrthwynebu i safle posib’. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Cyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi eu dosbarthu i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod. Tynnodd sylw at nifer o ddigwyddiadau a diolchodd i’r rhai a fu yng Ngwasanaeth Dinesig Sir y Fflint yn Eglwys Santes Eurgain a Sant Pedr, Llaneurgain. |
|
Deisebau Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Prif Eitem Fusnes Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd (2015-2030) PDF 201 KB Pwrpas: I alluogi Aelodau i gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol i’w Archwilio gan y Cyhoedd (CDLl, atodiad 1) yn unol ag argymhellion y Cabinet, i gael ei symud ymlaen ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â'r terfynau amser yn y Cytundeb Cyflawni Newydd (Mehefin 2019). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ôl datgan cysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ynghynt, gadawodd y Cynghorwyr Bob Connah, David Healey, Gladys Healey, Joe Johnson, Ralph Small ac Andy Williams y Siambr cyn cychwyn trafod yr eitem hon.
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i’w archwilio gan y cyhoedd ar gyfer y cyfnod 2015-2030 a oedd i gael ei gyflwyno i’r cyhoedd i ymgynghori arno rhwng 30 Medi ac 11 Tachwedd 2019, fel roedd y Cabinet wedi’i argymell. Roedd hon yn garreg filltir allweddol i alluogi i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill wneud sylwadau ar y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn rhan o’r amserlen i’r Cyngor gyflawni ei ddyletswydd statudol i fabwysiadu CDLl terfynol.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Strategaeth gyflwyniad manwl yn trafod y canlynol:
· Beth yw’r CDLl · Amserlen y CDLl · Y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd · Beth mae’r Cynllun yn ei gynrychioli · Dogfennau ategol · Heriau wrth barhau · Ffocws cyson ar gyfer Gr?p y Strategaeth Gynllunio · Pwrpas yr ymgynghoriad cyhoeddus · Materion a fyddai’n debygol o fod yn rhai dadleuol · Cynnydd tai a dyraniadau · Sut rydym wedi dewis safleoedd · Dyraniadau tai’r CDLl · Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr · Darparu isadeiledd · Profion cadernid · Cymeradwyo’r CDLl i’w archwilio i ymgynghori arno · Pwysigrwydd cymeradwyo’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd · Beth sy’n digwydd ar ôl i’r cyhoedd ei archwilio
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Strategaeth bod hyn yn ganlyniad gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu Cynllun a oedd yn addas i’r diben, yn gadarn ac yn gwneud y mwyaf o’r strategaeth dwf gan gael yr effaith leiaf bosib’ ar gymunedau. Canmolodd y gwaith cadarnhaol a fu yng Ngr?p y Strategaeth Gynllunio ar y mater cymhleth hwn a dywedodd bod ymagwedd y Cyngor at ddarparu tai wedi helpu i ategu ei sefyllfa ynghlwm â’r CDLl.
Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm am eu gwaith a chanmolodd Aelodau Gr?p y Strategaeth Gynllunio a gadeiriwyd gan y Cynghorydd Bithell a gan y Cynghorydd Attridge cyn hynny.
Yn ystod y drafodaeth a fu wedyn, diolchodd nifer o’r Aelodau i’r tîm o swyddogion am eu proffesiynoldeb a’u diwydrwydd. Soniodd Aelodau o Gr?p y Strategaeth Gynllunio am effeithiolrwydd y Gr?p wrth wneud penderfyniadau, a diolchwyd iddynt hwythau hefyd am eu cyfraniadau at y broses.
Fel Cadeirydd Gr?p y Strategaeth Gynllunio, diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r tîm o swyddogion am eu gwaith cynhwysfawr ar y Cynllun ac hefyd i gyd-aelodau ar Gr?p trawsbleidiol y Strategaeth Gynllunio. Wrth bwysleisio pwysigrwydd parhau i wneud cynnydd ar yr amserlen, dywedodd bod nifer o’r safleoedd posib’ eisoes yn rhai cyhoeddus, wedi’u haddasu gan fân newidiadau a wnaed i ffiniau’r Rhwystr Glas ac aneddiadau. Nododd ganlyniad yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy a oedd i’w adrodd yn ôl i’r Cyngor fis Medi cyn dechrau’r broses ymgynghori gyhoeddus a’r cyfleoedd i Aelodau wneud sylwadau penodol yn nes ymlaen yn y broses fel yr eglurwyd gan y swyddogion.
Fel Is-gadeirydd Gr?p y Strategaeth Gynllunio, eiliodd y Cynghorydd Peers y cynnig nad ... view the full Cofnodion text for item 31. |
|
Item 6 - LDP presentation slides.pptx PDF 514 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |