Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell fod ganddo gysylltiad personol â Chyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2022/23 - Cam Cau Terfynol (eitem 4 ar yr agenda) a’r Adroddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad (eitem agenda 9) fel Aelod o'r Bwrdd ac Ymddiriedolwr DASU.
Dywedodd y Cynghorwyr Bernie Attridge, Chris Bithell a Ted Palmer fod ganddynt gysylltiad personol â Chyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2022/23 - Cam Cau Terfynol (eitem 4 agenda) gan fod gan bob un aelodau o'r teulu a oedd yn cael eu cyflogi gan y sector Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorwyr Andy Dunbobbin, Chris Bithell ac Arnold Woolley fod ganddynt gysylltiad personol â Gosod y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23 (eitem agenda 5). Y Cynghorydd Dunbobbin yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r Cynghorwyr Bithell a Woolley fel aelodau o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gan fod yr adroddiad yn manylu ar braesept Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd y Cynghorwyr Ted Palmer a Martin White fod ganddynt gysylltiad personol â Chynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (eitem agenda 6) fel tenantiaid o dai'r Cyngor. |
|
Deisebau Pwrpas: Mae hwn yn gyfle I Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod I law, caiff deisebau eu pasio I’r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un ddeiseb. |
|
Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2022/23 - Y cam cau olaf PDF 78 KB Pwrpas: I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2022/23 ar argymhelliad y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn yr argymhellion gan y Cabinet i'r Cyngor osod Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2022/23.
Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Rheolwr Cyllid Strategol a Rheolwr Refeniw gyflwyniad ar y canlynol:
· Gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys · Y Daith hyd yn hyn... · Newidiadau i'r Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol 2022/23 · Datrysiadau Cyllideb 2022/23 · Treth y Cyngor 2022/23 · Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol · Risgiau agored · Cronfeydd wrth gefn · Barn broffesiynol a sylwadau cloi · Edrych ymlaen a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS)
Roedd y Cyngor wedi derbyn adroddiadau llawn ar gamau blaenorol y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2022/23 ac roedd adroddiadau ac atodiadau blaenorol wedi'u darparu fel gwybodaeth gefndirol. Roedd y Cabinet wedi anfon isafswm gofyniad cyllidebol diwygiedig ar gyfer 2022/23 sef £20.696 miliwn yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am benawdau allweddol ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2022.
Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cyngor wedi gosod cyfeiriad clir y dylai unrhyw gynnydd blynyddol fod yn 5% neu lai. Roedd y Cyngor wedi gorfod cynnwys nifer o bwysau ychwanegol i ddarparu ar gyfer y cyfrifoldebau newydd a nodwyd yn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a oedd wedi cynyddu'r gofyniad cyllidebol. Yn seiliedig ar ofyniad ychwanegol terfynol y gyllideb o £30.562m mae angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.3% ar y Dreth Cyngor ar gyfer Gwasanaethau Cyngor a 0.65% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Ranbarthol GwE. Roedd hyn yn cyfateb i godiad cyffredinol o 3.95%.
Cafodd yr argymhellion ar gyfer y Cyngor eu cynnig gan Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts, a ddiolchodd i'r Prif Weithredwr a'r swyddogion am eu gwaith drwy gydol y broses o bennu'r gyllideb. Diolchodd hefyd i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru am y setliad a ddarparwyd ond dywedodd fod angen cydnabod bod y Cyngor wedi bod yn arbennig o ddibynnol ar Gronfa COVID a bod nifer o hawliadau wedi eu gwneud i LlC. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau fod cynigion cyllidebol wedi cael eu herio'n gadarn gan bob Aelod o'r Cabinet, gyda phwyslais penodol ynghylch Cronfeydd Wrth Gefn Wedi'u Clustnodi, a dywedodd fod yr Aelodau'n parhau i gyflwyno sylwadau am yr angen i adolygu'r fformiwla ariannu ar gyfer Llywodraeth Leol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Dywedodd ei fod yn gwbl ymwybodol o'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar adeg pan fo costau ynni a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn codi. Cymeradwyodd uchelgais LlC i symud tuag at gyflog byw go iawn, ond amlinellodd yr heriau a fyddai'n wynebu gweinyddiaeth y Cyngor yn y dyfodol pe bai lefel Treth y Cyngor yn cael ei leihau neu pe bai cynnig yn cael ei wneud i ddefnyddio arian wrth gefn. Felly cynigiodd yr argymhellion canlynol: -
(a) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r gofyniad cyllidebol ychwanegol diwygiedig ar gyfer 2022/23;
(b) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r ... view the full Cofnodion text for item 90. |
|
Item 4 - Budget presentation slides PDF 402 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 PDF 99 KB Pwrpas: Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2022-23 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw yr adroddiad i osod taliadau Treth Cyngor yn ffurfiol a phenderfyniadau statudol cysylltiedig ar gyfer 2022/23 fel rhan o'r strategaeth gyllideb ehangach ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol. Gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo parhad y cynllun Premiwm Treth Cyngor a'r arfer i swyddogion dynodedig arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.
Fel y crybwyllwyd yn yr eitem flaenorol, mae tri phraesept ar wahân yn pennu lefel gyffredinol taliadau’r Dreth Gyngor yn erbyn pob eiddo. Roedd y cynnydd o 3.95% yn elfen y Cyngor yn bodloni disgwyliadau fforddiadwyedd a byddai, ynghyd â chyllid y llywodraeth ganolog a Grant Cymorth Refeniw, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a chynnal lefel a chymhlethdod y galw am wasanaethau. Roedd y swm cyffredinol a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir sef £94,503,918; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef £20,653,459; a'r praesept cyfunol sef £3,195,763 ar draws 34 Cyngor Tref a Chymuned.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am gyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu). Cyfeiriodd at yr Aelodau a oedd wedi pleidleisio yn erbyn y cynnydd yn nhreth y Cyngor fel rhan o'r argymhellion yn yr eitem flaenorol a gofynnodd a fyddai eu pleidlais yn cario drosodd ar gyfer yr eitem hon. Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai Aelodau gadw eu pleidlais, ac felly os oedd Aelod wedi pleidleisio o blaid y cynnig yn yr eitem flaenorol, fe fydden nhw'n pleidleisio yn erbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Marion Bateman ei bod am newid ei phleidlais ac felly y byddai nawr yn pleidleisio dros y cynnig.
Ar ôl cael eu cynnig a’u heilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Treth Cyngor 2022-23 yn cael ei gosod fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad;
(b) Bod parhau â'r polisi o beidio â darparu gostyngiad yn lefel taliadau Tâl Treth Cyngor 2022/23 ar gyfer ail gartrefi a thai gwag hirdymor yn cael ei gymeradwyo. Hefyd, lle nad yw eithriadau yn berthnasol, i godi cyfradd Premiwm Treth Cyngor sef 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau sy'n wag yn yr hir dymor; a
(c) Rhoi cymeradwyaeth i swyddogion dynodedig gyflwyno achosion cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn y Llys Ynadon am drethi sydd heb eu talu. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) PDF 73 KB Pwrpas: Cyflwyno, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd i’w cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gymeradwyo cyllideb Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) arfaethedig ar gyfer 2022/23, Cynllun Busnes yr HRA a'r Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd cryno fel yr argymhellir gan y Cabinet. Rhoddodd y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) gyflwyniad ar y canlynol:
· Polisi Rhent Llywodraeth Cymru (LlC) · Codiad Rhent Arfaethedig 2022/23 · Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhentu Ehangach · Costau Gwasanaeth · Incwm Arall · Cynnig Buddsoddi i Arbed · Pwysau Arfaethedig ac Effeithlonrwydd · Cronfeydd wrth gefn · Cynllun Busnes HRA 2022/23 · Buddsoddiad Cyfalaf HRA · Rhaglen Gyfalaf · Datblygu Safonau Ansawdd Tai Cymru diwygiedig (SATC) · Rhaglen Gyfalaf 2022/23 · Cyllid Cyfalaf HRA 2022/23
Roedd y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn bodloni gofynion Polisi Rhent LlC i ystyried fforddiadwyedd a gwerth am arian i denantiaid. Yn 2020/21 cytunwyd i ohirio'r cynnydd graddol terfynol mewn taliadau gwasanaeth, gyda'r bwriad o warchod tenantiaid a allai fod yn cael trafferthion ariannol o ganlyniad i Covid-19. Cynigiwyd bod y cynnydd yma'n cael ei rewi eto yn 2022/23 oherwydd effaith barhaus y pandemig. Cynigiwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwyd o safon uchel, yn cynrychioli gwerth am arian, a bod y gwir gostau yn cael eu hadlewyrchu yng nghyfrifiadau taliadau'r gwasanaeth.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Ian Dunbar. Siaradodd y Cynghorydd Dunbar o blaid y Rhaglen Gyfalaf. Roedd pedwar cynllun i fod i ddechrau ar y safle ar unwaith a byddai hynny'n darparu 77 eiddo ychwanegol i'r stoc dai.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Smith ei fod yn cefnogi'r cynnydd arfaethedig mewn rhent ac nad oedd yn rhy uchel yn ei farn ef, a byddai tenantiaid yn ei groesawu o ystyried y cynnydd uchel mewn costau byw a chostau ynni.
Ar ôl cael ei gynnig a'i eilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.
PENDERFYNWYD:
Bod cyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 fel y nodir yn yr atodiadau yn cael ei chefnogi a'i chymeradwyo. |
|
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2022/23 PDF 87 KB Pwrpas: Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022/23. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Ddrafft Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23, a ddangosir yn Atodiad 1, ar y cyd â:
Nid oedd prif gynnwys Strategaeth 2022/23 wedi newid yn sylweddol ers Strategaeth 2021/22. Cafodd materion a oedd yn haeddu sylw'r Aelodau eu hamlinellu yn adran 1.08 o adroddiad y Cabinet. Roedd terfynau gwariant awdurdodau lleol ac endidau eraill y llywodraeth ar gyfer banciau a chymdeithasau adeiladu wedi eu cynyddu i £3m. Ystyriwyd bod hynny'n angenrheidiol oherwydd y lefelau uwch o arian ychwanegol sydd gan y Cyngor yn sgil derbyn cyllid Covid-19 ychwanegol yn 2020/21 a 2021/22.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i'r Strategaeth, Polisi, Arferion ac Atodlenni ac nad oedd unrhyw faterion penodol wedi'u codi yn dilyn ymgynghori â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys 2022 i 2025 yn cael ei gymeradwyo; a
(c) Bod Arferion Rheoli ac Amserlenni'r Trysorlys 2022 i 2025 yn cael eu cymeradwyo. |
|
Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2022/23 PDF 85 KB Pwrpas: Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion. Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo'r polisi blynyddol ar gyfer y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer ad-dalu dyled yn ddarbodus. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw newidiadau i'r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y Cabinet.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo ar gyfer Cronfa'r Cyngor (CF): -
(b) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai (HRA): -
(c) Mae aelodau'n cymeradwyo bod MRP ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy'n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fel a ganlyn: -
|
|
Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru ac Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad PDF 115 KB Pwrpas: Darparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 sydd wedi’i gynhyrchu fel gofyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i ddarparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 a baratowyd fel un o ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn ofyniad statudol ac roedd yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr ledled Gogledd Cymru. Arweiniwyd y gwaith o baratoi’r adroddiad gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru, ar y cyd â gwybodaeth gan chwe Chyngor y Gogledd a'r Bwrdd Iechyd. Rhaid i'r adroddiad gael ei gymeradwyo gan yr holl bartneriaid cyn cael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2022.
Hefyd ym Mehefin 2022 rhaid cyhoeddi adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol a oedd yn dilyn o'r Asesiad Anghenion Poblogaeth ac yn darparu asesiad o ba mor ddigonol yw’r gofal a’r gefnogaeth wrth ddiwallu anghenion a galw am ofal cymdeithasol. Gyda'i gilydd, dylai'r ddwy ddogfen helpu’r rhai sy’n comisiynu gofal a chymorth i ddeall yn llawn y galw a'r ddarpariaeth ar hyn o bryd a’r hyn a ragwelir. Byddai cam nesaf y prosiect yn cynnwys defnyddio’r asesiad o anghenion Poblogaeth i ddatblygu cynllun ardal ar gyfer y rhanbarth a baratoir ac a gyhoeddir yn 2023.
Wrth gynnig ac eilio’r argymhellion, siaradodd y Cynghorydd Christine Jones a'r Cynghorydd Hilary McGuill i gefnogi'r adroddiad cynhwysfawr a diolchodd i Emma Murphy a Katrina Shankar am eu gwaith yn casglu’r wybodaeth at ei gilydd.
Talodd y Cynghorydd Chris Bithell deyrnged i'r swyddogion oedd wedi cyfrannu at yr adroddiad gan wneud sylw am y nifer o ymatebion a gafwyd gan drigolion, staff a sefydliadau partner Sir y Fflint a oedd yn galonogol. Gwnaeth sylwadau hefyd ar y tueddiadau o ran y boblogaeth yn y dyfodol yr oedd yn teimlo y byddai'n heriol a'r goblygiadau ar gyfer cyllid yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i'r Aelodau am y sylwadau gan ddweud y byddai'n trosglwyddo'r diolch gan Aelodau i'r swyddogion. Cytunodd â phryderon y Cynghorydd Bithell ynghylch poblogaeth sy'n heneiddio ac eglurodd fod dogfennau fel yr un a gyflwynwyd yn caniatáu i'r Cyngor baratoi ar gyfer datblygu tai gofal ychwanegol a darpariaeth gofal mewnol i bobl h?n.
Ar ôl i’r argymhellion gael eu cynnig a’u heilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi; a
(b) Bod y broses ar gyfer cymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo.
|
|
Cwestinynau Gan Y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un cwestiwn. |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(a) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un cwestiwn. |
|
Rhybudd o Gynnig Pwpras: Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un cwestiwn. |
|
Aelodau'r wasg yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Doedd dim aelodau o'r wasg yn bresennol. |