Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 a 27 Chwefror 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn amodol ar ddiwygiad gan y Cyng. Owen Thomas, cynigiodd y Cyng. Bithell y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar 18 Chwefror 2020. Eiliwyd hyn gan y Cyng. a chymeradwywyd y cofnodion. Paul Shotton. O ran cofnodion 27 Chwefror 2020, cynigiodd y Cyng. Bithell y dylid eu cymeradwyo ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Peers a chymeradwywyd y cofnodion.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid i gofnodion 18 Chwefror 2020, cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ailadroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyngor a roddwyd i’r Aelodau yn ystod proses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r amgylchiadau amrywiol lle ceir cysylltiad sy'n rhagfarnu.Atgoffodd yr Aelodau am natur y cysylltiadau a ddatganwyd pan gymeradwywyd y CDLl i’w Harchwilio gan y Cyhoedd ym mis Gorffennaf 2019.
Ar sail hynny, datganodd yr Aelodau canlynol cysylltiad personol sy’n rhagfarnu a mynegi y byddant yn gadael y cyfarfod cyn yr eitem:
· Y Cyng. Glyn Banks - gyda chysylltiad agos â rhywun sy’n berchen ar safle wedi’i ddyrannu · Y Cyng. Bob Connah - yn perthyn i feddiannydd tir yn y CDLl · Y Cynghr. David a Gladys Healey - wedi gwrthwynebu safle yn y CDLl (ddim yn bresennol) · Y Cyng. Joe Johnson - perchennog tir yn y CDLl · Y Cyng. Hilary McGuill - yn perthyn i berchnogion tir yn y CDLl · Y Cyng. Ralph Small - eiddo iddo yn edrych dros un o’r safleoedd ymgeisiol · Y Cyng. Andy Williams - ei gartref a'i fusnes yn agos at safle ymgeisiol (ddim yn bresennol)
Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol:
· Y Cyng. Christine Jones - wedi cefnogi datblygiad Porth y Gogledd · Y Cynghr. Paul Cunningham, Michelle Perfect, Vicky Perfect ac Ian Roberts - aelodau o Gyngor Tref y Fflint sydd wedi gwrthwynebu safle ymgeisiol · Y Cyng. Ted Palmer - ffrind agos i’r Cyng. Joe Johnson · Y Cyng. Mike Peers - wedi cael gwybod yn ddiweddar bod perthynas pell wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad · Y Cyng. Kevin Rush - perthynas pell o bosibl yn bwriadu cyflwyno cynlluniau · Y Cyng. Martin White - ei eiddo â’i gefn at safle yn y CDLl |
|
Pwrpas: Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn cytuno i gyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion archwiliad cyhoeddus yr Arolygydd Cynllunio Annibynnol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad er mwyn i’r Aelodau ystyried a chytuno ar ymateb y Cyngor i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl.Mae hwn yn gam allweddol tuag at gyflawni un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, sef mabwysiadu’r CDLl ac mae’r ddogfen wedi bod yn destun proses graffu faith gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio trawsbleidiol. Un o flaenoriaethau'r gr?p hwn yw gwarchod tir rhwystr glas a ffiniau aneddiadau ble bynnag y bo’n bosibl.Os yw’r Aelodau yn cytuno arno, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion Archwiliad Cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol, gan ddarparu cyfle i dderbyn rhagor o sylwadau yn ôl disgresiwn yr Arolygydd.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth gyflwyniad gan ymdrin â’r meysydd canlynol:
· Pwrpas · Y CDLl i’w Archwilio gan y Cyngor, Cynllun y Cyngor · Prif elfennau strategaeth y cynllun · Dyraniadau tai y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd · Ymgynghoriad ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd · Gwaith y Gr?p Strategaeth Cynllunio · Ystyried sylwadau · Y prif faterion a godwyd · Pwysau · Map rhwystr glas cymharol enghreifftiol · Cyflwyno’r Cynllun · Sesiynau briffio ar gyfer Aelodau ac argymhelliad y Cabinet
Amlygodd y cyflwyniad y manteision amrywiol a geir wrth fabwysiadu Cynllun, y dull ar gyfer ymateb i sylwadau a’r gwasgariad eang o safleoedd mewn aneddiadau cynaliadwy - rhai ohonynt yn safleoedd posibl ar gyfer datblygiad cynnar.Elfen allweddol o’r broses oedd cyfraniad y Gr?p Strategaeth Cynllunio at graffu ar y cynnydd a gwneud argymhellion i’r Cabinet, sydd erbyn hyn wedi’u cyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod ar draws unrhyw broblem sylfaenol gyda chadernid y Cynllun ac nad oedd darparwyr isadeiledd/budd-ddeiliaid allweddol wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad mawr. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys pryderon perygl llifogydd ar bum safle cyflogaeth bychan.Yn fras, ar ôl ystyried yr holl sylwadau a’r dystiolaeth, nid oes newidiadau sylweddol yn cael eu hargymell ar gyfer y Cynllun dim ond mân waith golygu a newid ambell i eiriad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a'u tîm, ynghyd ag aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio, am eu gwaith ar y mater hwn.
Yn ystod yr eitem, diolchodd nifer o Aelodau i’r swyddogion ac i aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio am eu hymrwymiad i’r broses faith o gynhyrchu cynllun cadarn.
Fel Cadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, cynigiodd y Cyng. Bithell yr argymhellion - sydd wedi’u cefnogi gan y Cabinet, ac amlygodd bwysigrwydd bwrw ymlaen â mabwysiadu CDLl ar gyfer Sir y Fflint.
Fel Is-Gadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, eiliodd y Cyng. Peers y cynnig ac ategu’r sylwadau cadarnhaol am waith y rheiny sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r broses.Cyfeiriodd at wrthdaro posibl gyda'r ymateb i’r cynnig i newid safle ymgeisiol yn safle tai a gofynnodd a oes modd adolygu hyn cyn i’r Cyngor gyhoeddi ei ymateb llawn.Diolchodd i’r swyddogion am egluro’r newidiadau i’r rhwystrau glas a gofynnodd a ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |