Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Ionawr 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir (y Cynghr. Bithell a Thomas yn cynnig ac eilio).
O ran cofnod rhif 93, bydd yr ymateb i gwestiwn y Cyng. Richard Jones yngl?n â thynnu dosbarthiadau symudol ac i ymholiad y Cyng. Carver yngl?n â’r hen safleoedd tirlenwi ym Mwcle yn cael eu cylchredeg i bob Aelod.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Deisebau Pwrpas: Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Ystyried yr argymhellion ar Adolygiad Pwyllgor y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar adolygu strwythur pwyllgorau gan gynnwys lleihau nifer y pwyllgorau trosolwg a chraffu a’u haelodaeth, lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio a chael datrysiad cydbwysedd gwleidyddol newydd. Diolchodd y Prif Swyddog i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd am ei waith ar hyn a manylodd ar y broses ymgynghori a arweiniodd at argymhellion y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer newid (bydd y newidiadau yn dod i rym ar ôl y Cyfarfod Blynyddol).
Wedi diolch i’r swyddogion a’r Arweinydd, gofynnodd y Cyng. Heesom am gadarnhad ynghylch a fyddai Aelodau sy’n mynd i gyfarfodydd pwyllgorau fel arsyllwyr yn cael yr hawl i siarad (ond ddim pleidleisio).Dywedodd y Prif Weithredwr bod Cadeiryddion wastad wedi’u hannog i ganiatáu i Aelodau sy’n mynd i gyfarfodydd fel arsyllwyr siarad ond y byddai Cadeiryddion r?an yn cael eu gwahodd yn ffurfiol i anrhydeddu’r arfer hwn.Bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm yn cynorthwyo i sicrhau bod pwyllgorau yn cadw at yr arfer hwn pan fo’n bosibl.
Fel Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, diolchodd y Cyng. Palmer i’r swyddogion am eu gwaith a chynnig bod yr argymhellion yn cael eu cymeradwyo.
Wrth eilio’r cynnig, ymatebodd y Cyng. Roberts i gwestiwn gan y Cyng. Heesom a chadarnhaodd yr ymrwymiad a roddwyd i Arweinwyr Grwpiau y bydd nifer yr Aelodau Cabinet ar y Pwyllgor Cynllunio yn lleihau i dri yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol.Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r Arweinwyr Grwpiau am eu cyfraniad i’r broses ymgynghori.
Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â grwpiau gwleidyddol llai, eglurodd y Prif Swyddog y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig sy’n ceisio dyrannu seddau pwyllgor yn decach ar draws y pleidiau. Yn dilyn sylwadau’r Cyng. Mackie, dywedodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw ffafriaeth o ran dyrannu seddau grwpiau lleiafrifol yn cael eu hystyried a’u bodloni pan fo’n bosibl.Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai trafodaeth yngl?n â’r mater hwn yn cael ei drefnu gydag Arweinwyr Grwpiau pan fyddant yn cwrdd ddiwedd mis Mawrth.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r canlynol a’u rhoi ar waith yn dilyn Cyfarfod Blynyddol 2020: · Lleihau nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o chwech i bump · Gweithredu’r strwythur Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu newydd, fel y nodir yn yr adroddiad
(b) Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, lleihau nifer yr Aelodau ar y pwyllgorau canlynol: · Lleihau aelodaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o 15 i 12 aelod · Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio o 21 i 17 aelod · Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd o 21 i 16 aelod
(c) Nodi’r cyfrifiad cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig (Atodiad B).
(d) Diolch yn ffurfiol i’r holl Aelodau a swyddogion sydd wedi ymwneud â gwaith llwyddiannus y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadau. |
|
Adolygu ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio PDF 92 KB Pwrpas: Cymeradwyo argymhellion adolygiad y dosbarthiadau etholiadol a safleoedd pleidleisio. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad o’r ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio (mae angen cynnal adolygiad bob pum mlynedd yn unol â’r gofynion statudol).
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r cynigion terfynol, fel y nodir yn yr adroddiad, sy’n ystyried materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghr. Thomas a Bithell.Yn dilyn pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi canlyniad yr adolygiad a’r ymgynghoriad;
(b) Cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio, fel y nodir yn Atodiad 2. |
|
Deisebau Sydd Wedi dod i law'r Cyngor PDF 76 KB Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad blynyddol ar ganlyniadau a chamau gweithredu’r deisebau a gyflwynwyd i’r Cyngor yn ystod y flwyddyn.Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr ymateb portffolio i’r unig ddeiseb a dderbyniwyd yn 2019/20 - un a oedd yn herio’r terfyn cyflymder ar Abbey Drive, Gronant.
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod trefnydd y ddeiseb yn fodlon ar ymateb y Cyngor ac yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya yn ddiofyn ar gyfer ardaloedd preswyl ar hyd a lled Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â gorfodi terfyn cyflymder o 20mya, dywedodd y Prif Weithredwr y bydd yn derbyn rhagor o eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i’r ddeddfwriaeth cael ei phasio.
Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad, dywedodd y Cyng. Thomas fod rhai cyfyngiadau cyflymder o 20mya yn gynghorol yn unig ac y bydd rhagor o wybodaeth yngl?n â therfynau cyflymder statudol yn cael eu cyhoeddi gyda’r ddeddfwriaeth.Dywedodd fod y swyddog Cyngor a benodwyd i weithgor Llywodraeth Cymru wedi llunio adroddiad pwyllgor.
Yn dilyn pleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Pwrpas: Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: Mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi. Bydd Swyddogion yn cyflwyno trefniadau ar gyfer darpariaeth digartrefedd ar y stryd fel rhan o’r ymateb. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau Rhybudd o Gynnig dan y telerau canlynol, wedi’u cynnig a’u heilio gan y Cynghr. Attridge a Brown.
Protocol Argyfwng Tywydd Garw - y Cynghr. Bernie Attridge, Helen Brown, Carol Ellis a George Hardcastle
“Rydym ni’n galw ar Sir y Fflint i adolygu'r Protocol Argyfwng Tywydd Garw ar unwaith.
Yn dilyn tywydd garw, gan gynnwys storm rybudd uwch, ni lwyddodd Sir y Fflint i ysgogi’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw fel awdurdodau cyfagos oherwydd nad oedd hi’n ddigon oer yn ôl y protocol.
Gofynnwn fod swyddogion Sir y Fflint yn defnyddio’u disgresiwn pan fo tywydd garw, a pheidio ag aros i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl linellau cyfathrebu ar agor a sicrhau ein bod ni’n estyn allan cymaint â phosibl.
Mae’n rhaid i ni fod yn ofalgar a thosturiol tuag at y rheiny yn ein sir sy’n llai ffodus na ni.”
Gan siarad o blaid y cynnig, amlygodd y Cyng. Attridge bwysigrwydd mynd i'r afael â digartrefedd drwy ddull amlasiantaeth.Er ei fod yn cydnabod bod y protocol wedi’i ysgogi ar sawl achlysur, roedd yn pryderu nad oedd y meini prawf yn ystyried oerfel gwynt yn ystod y tywydd garw diweddar.Roedd yn cydnabod yr heriau ar ôl i’r darparwr gwasanaeth roi’r gorau i gynnig y lloches nos yn Nhreffynnon ac yn croesawu ymateb y Cyngor i ddiogelu'r cyfleuster newydd yng Nglannau Dyfrdwy.Galwodd am adolygiad brys o’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw i sicrhau na fydd y sefyllfa yma’n digwydd eto, ac am ddisgresiwn i ysgogi’r protocol pan nad yw'r tymheredd yn gostwng o dan y lefel a nodwyd.Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r Aelod Cabinet Tai, Prif Swyddog (Tai), Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor a’i thîm.
Fel Aelod Cabinet Tai, amlygodd y Cyng. Dave Hughes flaenoriaeth y Cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd a gwahodd y swyddogion i rannu trosolwg o’u gwaith yn cefnogi pobl ddigartref ac yn sefydlu’r lloches nos newydd.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Rhybudd o Gynnig yn gyfle i rannau’r camau gweithredu ar gyfer sefydlu’r gwasanaeth newydd yng Nglannau Dyfrdwy, fel y nodir yn y nodyn briffio a gylchredwyd. Er bod risg ynghlwm wrth sefydliad partner yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth, mae’r gwasanaeth newydd mewn adeilad Cyngor yn rhoi mwy o gadernid i ni.Mewn ymateb i bryderon, siaradodd y Prif Weithredwr am geisio paratoi’r lleoliad newydd dan amgylchiadau anodd a rhoi’r trefniadau diogelwch angenrheidiol ar waith er mwyn defnyddio’r cyfleuster fel canolfan argyfwng petai’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw yn cael ei ysgogi.
Cyflwynwyd y Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor (Jenni Griffiths), Arweinydd Tîm Datrysiadau Tai (Deborah Kenyon) a’r Swyddog Contractau ac Adolygu Cefnogi Pobl (Lisa Pearson) a roddodd gyflwyniad manwl ar eu gwaith ac effaith colli’r lloches nos. Oherwydd y gwaith i baratoi’r cyfleuster newydd a chaffael darparwr gwasanaeth newydd - a’r tywydd yn gwaethygu - roedd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r tîm wedi rhannu ymrwymiad i agor y ... view the full Cofnodion text for item 123. |
|
Item 8 - Briefing Note on Night Shelter Provision PDF 190 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |