Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

86.

Teyrngedau i'r diweddar Peter Evans, cyn Reolwr Democratiaeth a Llywodraethu

Pwrpas:        Galluogi Aelodau i dalu teyrnged i'r diweddar Peter Evans, cyn Reolwr Democratiaeth a Llywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Talodd Aelodau’r Siambr deyrnged i’r diweddar Peter Evans, y Cyn Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu. Bu sylwadau ar y ffordd y roedd yn gweithio, gydag urddas a pharch, ac roedd yn ased i Gyngor Sir y Fflint a’r hen Gyngor Bwrdeistref Delyn.Roedd o hyd yn rhoi cyngor da i Aelodau, yn enwedig yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.Fe wnaethant sylw ar ei synnwyr o ddigrifiwch unigryw, a’r nodweddion oedd yn gwneud Peter yn ?r bonheddig go iawn.Bydd gweld colled mawr ar ei ôl, ond bydd pawb yn ei gofio gydag anwyldeb.

 

Talodd y Prif Weithredwr a’r Dirprwy Swyddog Monitro eu teyrngedau i Mr Evans, ei agwedd bositif, uniondeb, cyfeillgarwch a'r gefnogaeth a rhoddodd.

87.

Cofnodion pdf icon PDF 264 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10fed Rhagfyr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

88.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol eu cysylltiad personol:

 

                        Cynghorwyr Axworthy, Bibby, Dunbobbin, David Healey, Gladys Healey, Dennis Hutchinson, Paul Johnson a McGuill – eitem rhaglen rhif 9 – Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23.

 

                        Cynghorwyr Palmer ac White – eitem rhaglen rhif 11 - Cynllun Busnes 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA).

 

                        Cynghorwyr Chris Dolphin a Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd White – eitem rhaglen rhif 15 – Rhybudd o Gynnig.

89.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’l dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei chyhoeddiadau, a oedd wedi cael eu rhannu cyn y cyfarfod, amlygodd y Cadeirydd nifer o ddigwyddiadau, gan dynnu sylw penodol at y pantomeim yng Nghanolfan Dewi Sant, Errys, a Gwasanaeth Carolau Nadolig Maer Treffynnon.

90.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn gyfle I Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward.  Unwaith y byddant wedi dod I law, caiff deisebau eu pasio I’r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

91.

Croeso i'r Cynghorydd Tim Roberts

Pwrpas:        I groesawu'r Cynghorydd Tim Roberts, a etholwyd yn Aelod dros Trelawnyd a Gwaenysgor ar 12fed Rhagfyr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Tim Roberts yn dilyn cael ei ethol yn is-etholiad Trelawnyd a Gwaenysgor ar 12 Rhagfyr, 2019. Ymatebodd y Cynghorydd Roberts yn briodol.

92.

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 - Cam Dau Ôl-setliad pdf icon PDF 173 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 ar ôl derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 a oedd yn nodi’r strategaeth ar gyfer cyrraedd cyllideb gyfreithiol a chytbwys.Roedd y Setliad Dros Dro allan i ymgynghoriad cyhoeddus a byddai’n cael ei derfynu ar 25 Chwefror cyn cymeradwyaeth Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus.

 

            Mae'r adroddiad yn trafod:

·         Y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf ar gyfer 2020/21;

·         Crynodeb o waith cam un y gyllideb;

·         Asesiad o’r Setliad Dros Dro a’r effeithiau a'r goblygiadau i’r Cyngor;

·         Y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr ystod o ddewisiadau lleol ar gam dau i gyfrannu tuag at gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/21;

·         Y risgiau agored a oedd angen eu hystyried wrth osod y gyllideb; a

·         Y camau i gau’r gyllideb a'r gwaith parhaus ar gyfer y tymor canolig.

 

Cynghorodd yr adroddiad bod graddfa uchel o hyder y byddai cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn cael ei argymell i'r Cyngor yn y cyfarfod ar 18 Chwefror.Trefnwyd cyfarfod arbennig o Arweinwyr Gr?p i’w gynnal cyn Cyfarfod y Cyngor.

 

Ers y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr, effaith y newidiadau diweddar oedd cynyddu bwlch y gyllideb i fodloni gofyniad y gwariant ar gyfer 2020/21 o £0.181 miliwn i £16.355 miliwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn ar y Setliad Dros Dro, fel y manylwyd yn yr adroddiad.Esboniodd bod yr AEF dros dro (Grant Cefnogi Refeniw a chyfran o Gronfa Cyfraddau Cenedlaethol) ar gyfer 2020/21 yn £199.386 miliwn, wrth gymharu â'r ffigwr diwygiedig 2019/20 o £192.212 miliwn a oedd yn cynrychioli cynnydd o 3.7%. Cynnydd Cymru gyfan ar gyfartaledd oedd 4.3%. Mae’r dyraniad dros dro yn cynrychioli cynnydd ariannol o £10.406 miliwn dros ddyraniad 2019/20 o £188.980 miliwn.

 

Roedd tri throsglwyddiad i’r Setliad:

 

·         Grant Pensiwn Athrawon (£1.978 miliwn);

·         Gofal Nyrsio (£0.081 miliwn); a

·         Cyflog Athrawon (£0.608 miliwn).

 

Nid oes cyllid ychwanegol wedi’i gadarnhau ar y cam hwn i gefnogi cyllid ‘gwaelodol’.Mae cyllid gwaelodol yn lefel sicr o nawdd i gynghorau a ddaeth o dan y newid yng nghyfartaledd Cymru gyfan yn y Setliad blynyddol.Roedd lefel waelodol yn nodwedd o'r Setliad am sawl blwyddyn.Oherwydd yr amrywiadau yn y cynnydd blynyddol o gyngor i gyngor, galwyd am lefel waelodol gan nifer o gynghorau.Os caiff ei gymeradwyo, byddai’n cael ei noddi gan Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r swm a oedd wedi ei fuddsoddi yn y Setliad ar gyfer 2020/21 hyd yma.Fe wnaeth gr?p o Arweinwyr Gogledd Cymru’r achos i osod lefel waelodol ar 4%.Os yw’n cael ei gymeradwyo, byddai hynny’n gwella safle Sir y Fflint o 0.3%.Fe gefnogodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) y galw am lefel waelodol hefyd.Roedd disgwyl penderfyniad ac ni ellir tybio ar y cam hwn, cyn i'r gyllideb gael ei therfynu a'i chymeradwyo gan LlC.

 

Roedd manylion grantiau penodol i’w dyfarnu wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai’r rhan fwyaf o grantiau ar yr un lefel â 2019/20, neu’n cael eu cynyddu ar gyfer chwyddiant. Byddai sawl cynnydd sylweddol i grantiau penodol o fewn Addysg a Gofal Cymdeithasol.Roedd y dyraniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 92.

93.

Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 260 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 er mwyn ei chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad y Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 a oedd yn trafod buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian.

 

            Mae asedau’n cynnwys adeiladau megis ysgolion a chartrefi gofal, isadeiledd megis priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor megis gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat. Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

            Mae gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig o du Llywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwyddau’r Cyngor.Fodd bynnag, mae ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg; roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.Ystyriwyd cynlluniau a oedd yn cael eu hariannu drwy fenthyca yn ofalus oherwydd effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

            Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor i dri adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol;

2.    Asedau wedi eu Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith seilwaith angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes; a

3.    Buddsoddiad – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ailfodelu gwasanaethau i gyflwyno’r arbedion effeithlonrwydd yr amlinellwyd yn y cynllun busnes Portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor.

 

Darparodd y Prif Swyddog fanylion o bob tabl o fewn yr adroddiad a oedd yn cael eu cefnogi gan esboniadau ar bob un.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Healey, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y gwaith ar Ysgol Uwchradd Castell Alun ar gyfer estyniad tri llawr, ac nid dau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts argymhellion yr adroddiad gan gyfeirio at y cyfleoedd cyffrous yr amlinellwyd yn y Rhaglen Gyfalaf.Dywedodd bod hyn yn dangos bod y Cyngor yn bod yn uchelgeisiol ac yn dangos beth oedd amcanion y Cyngor.Gwnaeth sylw yn benodol at brosiect canolfan ddydd oedolion Hwb Cyfle, a oedd wedi agor yn ddiweddar yn Queensferry, buddsoddiad yng Nghartref Preswyl Marleyfield ym Mwcle, a’r cynigion ar gyfer sawl ysgol ar draws y sir.

 

Eiliodd y Cynghorydd Banks argymhellion yr adroddiad, ac roedd yn eu croesawu, cynlluniau llai yn benodol megis rhoi wyneb newydd ar gae bob tywydd Ysgol Uwchradd Elfed, a chynllun Menter Bwyd Sir y Fflint.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn croesawu’r adroddiad hefyd, sy'n nodi cynlluniau ar draws y sir.Fe wnaeth sylw ar adnoddau cyfalaf cyfyngedig y Cyngor, ac roedd yn teimlo bod angen tynnu sylw LlC at hyn.O ran gwaith adeiladu ysgolion, gofynnodd a oedd y gyllideb £1.5 miliwn ar gyfer toiledau mewn ysgolion yn rhan o'r rhaglen 15 mlynedd oherwydd bod yr adroddiad yn nodi £100 mil y flwyddyn.O ran gwelliannau i Iard Safonol y Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff, roedd yn gobeithio y gellir arbed arian ar y cynllun hwn, gan y penderfynwyd nad oedd angen  ...  view the full Cofnodion text for item 93.

94.

Strategaeth Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Strategaeth Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 er mwyn ei chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys adroddiad Dangosyddion Darbodus 2020/21 hyd at 2022/23, i gynnwys pan bod angen Strategaeth, ei amcanion allweddol a chynnwys bob un o’i adrannau.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Banks gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mullin.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers, esboniodd y Prif Weithredwr nad oedd gan y Cyngor unrhyw gynlluniau ariannu preifat.

 

            Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Strategaeth Gyfalaf yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo:

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21 – 2022/23 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4 – 7 gan eu cynnwys, o’r Strategaeth Gyfalaf; ac

·         Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

95.

Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2020/21, Cynllun Busnes HRA a'r Crynodeb o'r Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd i'w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol – Masnachol a Thai, Gynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai, a oedd yn cynnwys cynnydd arfaethedig i rhent, a ystyriwyd yng Nghabinet ar 21 Ionawr, 2020.

 

            Rhoddwyd cyflwyniad a oedd yn trafod:

 

·         Cynllun Busnes 30 mlynedd;

·         Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru 2020/21;

·         Cynnydd Arfaethedig i Rent 2020/21;

·         Incwm Arall;

·         Taliadau Gwasanaeth 2020/21;

·         Arbedion Effeithlonrwydd Refeniw;

·         Pwysau ar Refeniw;

·         Darparu’r Rhaglen Gyfalaf;

·         Rhaglen Gyfalaf Ddrafft 2020/21;

·         Cyllid Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21;

·         Y Cyfrif Refeniw Tai – Ystyried Gwerth am Arian; a

·         Cronfeydd Wrth Gefn

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Attridge yr argymhellion.Darparodd fanylion o sylw a wnaeth yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ar effaith gronnol cynyddu rhent a taliadau gwasanaeth eraill.I denantiaid sy’n gweld hi’n anodd, gan gynnwys preswylwyr mewn tai gwarchod, rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Swyddog y byddai’r ffioedd hynny’n cael eu talu gan fudd-daliadau tai. Gwnaed llawer o waith dros y blynyddoedd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwerth am arian, a oedd yn braf gweld.

 

Eiliodd y Cynghorydd Dave Hughes yr argymhelliad a dywedodd ei fod yn falch o beth sydd wedi cael ei gyflawni a byddai swyddogion yn parhau i adeiladu ar lefelau presennol yr uchelgais. Gosodwyd y polisi rhenti gan LC am 5 mlynedd, a dyma oedd yr uchafswm a ellir ei godi, a byddai landlordiaid yn ystyried gwerth am arian ynghyd â fforddiadwyedd i denantiaid, gan ystyried costau byw mewn eiddo yn llawn fel rhan o’r rhesymeg dros osod cynnydd mewn ffioedd rhenti. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Peers sylw ar  Grynodeb y Cynllun Busnes 30 Blynedd a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad a dywedodd, yn 2020/21, roedd gwariant yn 65% o’r incwm, gan gynyddu ym mlwyddyn 10 i 67% o’r incwm. Gofynnodd sut oedd hyn yn cymharu â chyfartaledd Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog pan fydd y wybodaeth honno ar gael, byddai’n cael ei rhannu gydag Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid mai’r cynnydd trosiannol i denantiaid a oedd o dan rhent targed ar hyn o bryd oedd £2 yr wythnos, fel yr oedd wedi bod yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y sawl oedd yn gweld hi’n anodd parcio ceir mewn llety gwarchod, oherwydd nid y preswylwyr h?n oedd o hyd yn defnyddio’r fath lety. Awgrymodd y dylid ystyried buddsoddiad mewn meysydd parcio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod adolygiad o llety gwarchod yn cael ei gynnal, gan gynnwys yn y cyd-destun ehangach.Roedd parcio ceir hefyd yn cael ei drin dan Safon Ansawdd Tai Cymru, a matrics gwerthusiad manwl wedi cael ei gymeradwyo yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter i’r hyn oedd ei angen a sut y gellir ei ddarparu mewn mannau amrywiol.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hinds ar ffioedd d?r nawr yn cael eu codi’n uniongyrchol ar breswylwyr, esboniodd y Prif Weithredwr bod hyn wedi bod yn ofyniad penodol gan y cwmni d  ...  view the full Cofnodion text for item 95.

96.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i'r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20. Roedd crynodeb o bwyntiau allweddol i'w gweld yn yr adroddiad.

 

            Derbyniodd Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio gopi o’r adroddiad ar 20 Tachwedd, ac fe'i argymhellwyd i’r Cabinet. Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad Canol Blwyddyn ar 17 Rhagfyr, 2019, a’i argymell i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Banks gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Dolphin.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Peers am wybodaeth ychwanegol ar y ddau fenthyciad tymor hir newydd sydd wedi cael eu cymryd gan y Bwrdd Benthyciadau Gweithiau Cyhoeddus yn 2019/20. Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod angen benthyg i noddi'r Rhaglen Gyfalaf, ac y gallai ddarparu manylion pellach os oes angen.Roedd cyfraddau llog gan llywodraeth ganolog yn isel, a oedd yn golygu bod gosod ad-daliadau tymor hir yn cynnig gwerth ariannol i’r Cyngor.

           

Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20.

97.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau pdf icon PDF 210 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i ystyried a chyflwyno sylwadau ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a oedd yn crynhoi darpariaethau'r Bil a manylion ymatebion y Cyngor. Cafwyd trafodaethau ar sawl agwedd o’r Bil yn flaenorol gan Aelodau yn ystod eu camau drafft.

 

            Wedi’i atodi i’r adroddiad oedd papurau Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel corff cynrychioli’r Cyngor.

 

            Cefnogodd y Cynghorydd Roberts farn CLlLC a’r safle blaenorol fel yr amlinellwyd gan y Cyngor, a ddylai ffurfio sail i'r ymateb, a eiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Thomas. Dywedodd y byddai angen mynd i’r afael ag agweddau penodol pan cafodd y Bil ei gyhoeddi.Roedd yn croesawu darpariaeth yn y Bil a fyddai'n caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed bleidleisio, yn benodol.

 

            Roedd y Cynghorydd Bithell yn cytuno gyda sylwadau’r Arweinydd a dywedodd y byddai’n croesawu'r agwedd o gyflwyno addysg wleidyddol mewn ysgolion. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones bod Sir y Fflint yn awdurdod lleol blaengar, a oedd wedi cael ei brofi yn Siambr y Cyngor drwy gydol y prynhawn. Fodd bynnag, mynegodd ei bryderon petai’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo heddiw, y byddai'n atal y cyngor rhag rhoi sylwadau ar y system bleidleisio yn y dyfodol.Cefnogodd ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed, ond dywedodd y byddai disgwyl defnyddio dwy system bleidleisio ar wahân.Cytunodd gyda’r system bleidleisio drosglwyddadwy ond rhoddodd sylw ar y system ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir pan mai’r sawl sy'n derbyn mwyafrif y pleidleisiau sy'n ennill. Fodd bynnag, roedd gan rhai o’r seddi hynny fwyafrif isel iawn, er enghraifft, Cynghorydd yn cael ei ethol gyda 24% o'r bleidlais; teimlodd y byddai hyn yn anodd ei esbonio i bobl ifanc. Byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweld cyflawni mwyafrif o 50%. Nid oedd yn teimlo y dylai'r Cyngor alinio ei hun i farn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). 

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr bod hwn yn bwnc a oedd yn ysgogi ystod eang o farn yn Siambr y Cyngor yn ogystal â CLlLC. Roedd CLlLC a’r Cyngor yn credu y dylid cael system bleidleisio unffurf i bob awdurdod lleol ni waeth pa system bleidleisio a ddefnyddiwyd, a fyddai o gymorth i osgoi dryswch.Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn anghytuno gyda’r farn honno, oherwydd bydd pobl yn cymryd sylw o’r system sydd ar waith lle maent yn byw yn unig. 

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y newid yn enw'r Pwyllgor Archwilio i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a dywedodd ei fod yn teimlo y dylai adrodd mesurau perfformio aros yr un fath, sef yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Esboniodd y Prif Weithredwr y gallai dau Bwyllgor weithredu swyddi tebyg a byddai ystyriaeth bellach yn cael ei roi i elfen honno’r Bil.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal ar y system bleidleisio unwaith mae’r Bil wedi cael ei gyhoeddi.

           

            Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai'r Cyngor yn ymateb i Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), gan adeiladu ar safleoedd sydd eisoes wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 97.

98.

Penodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Ystyried penodi’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y swydd Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad Penodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau, ac ar ôl dilyn y broses recriwtio ar gyfer swydd wag, argymhellwyd bod Mr Mark Morgan yn cael ei benodi.

 

            Gellir penodi Aelod Annibynnol ar gyfer rhwng 4 a 6 mlynedd yn eu tymor cyntaf, ac os ydynt yn cael eu hail-benodi, am uchafswm o bedair blynedd yn eu hail dymor.Er mwyn gwasgaru dyddiadau ymddeol Aelodau Annibynnol, awgrymodd swyddogion bod Mr Morgan yn cael ei benodi am y cyfnod hiraf yn ei dymor cyntaf a nes 27 Ionawr, 2026.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Woolley gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

            Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi Mark Morgan i’r Pwyllgor Safonau nes 27 Ionawr, 2026.

99.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 172 KB

Pwrpas:        Mae'r eitem hon i dderbyn unrhyw Rybuddion Cynnig. Derbyniwyd un ac mae ynghlwm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno'r Rhybudd o Gynnig, esboniodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod ymateb i’r Rhybudd o Gynnig wedi cael ei dderbyn gan Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac y byddai’n ei ddarllen unwaith y cyflwynwyd y Rhybudd. 

 

            Esboniodd y Cynghorydd Attridge bod y Rhybudd o Gynnig yn enw ei hun, a’r Cynghorwyr Brown, Ellis a Hardcastle.

 

            Cyflwynodd y Cynghorydd Ellis y Rhybudd o Gynnig fel y ganlyn:

 

 “Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am eu gofal o gleifion a staff.Ar ôl sawl blwyddyn mewn Mesurau Arbennig, mae’r argyfwng gydag Ysbytai Rhanbarthol yn parhau i fod yn bryder.

 

Nid yw oedi o ddeuddeg awr yn Maelor Wrecsam yn anarferol, dyma'r amser aros normal.Mae pobl yn gorwedd ar droli yn aros i fynd ar wardiau yn normal.Mae aros am wely i symud cleifion allan o’r Uned Damweiniau Brys i’r wardiau yn amhosib oherwydd nid oes gwelyau.Dim gwelyau, dim cynfasau, dim clustogau, dim Meddygon, a thoriadau i Staff Nyrsio.

 

Mae staff dan bwysau cynyddol ac wedi cael eu clywed yn dweud eu bod yn ofni i’r sefyllfa waethygu oherwydd nid yw’r Ysbytai’n gallu ymdopi gyda’r niferoedd megis dau Feddyg i weld wythdeg claf yn yr Uned Damweiniau Brys, gyda niferoedd saff wedi gostwng o 15 i 12. Rydym yn teimlo bod pobl yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y diffyg darpariaeth.Ni fydd Personél Ambiwlans yn gallu trosglwyddo cleifion i staff yr Uned Damweiniau Brys oherwydd nid oes lle.

 

Mae gan Sir y Fflint boblogaeth sy’n tyfu ac mae’r CDLl yn dangos y twf y gallwn ei ddisgwyl, fodd bynnag nid yw darpariaethau Iechyd yn gallu ymdopi, mae angen mwy o Feddygon Teulu, mwy o Nyrsys ac Ymgynghorwyr yn Sir y Fflint, a go brin y dyddiau hyn y dylai unigolyn sy’n sâl gael gwely a chlustog a blanced, a chael ei weld gan Feddyg o fewn amser rhesymol.Yn gryno, mae angen ei Ysbyty ei hun ar y Sir hwn."

 

Ychwanegodd, yn 2008 roedd sawl Aelod ar draws y Siambr wedi bod yn erbyn cyflwyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac wedi brwydro’n galed yn erbyn cau ysbytai cymunedol.  Roedd y sefyllfa bresennol yn profi bod y farn honno’n gywir.Dywedodd bod BIPBC wedi bod dan fesurau arbennig am bron i 5 mlynedd, ei fod rhy fawr ac nid ellir ei reoli.Dywedodd ei bod wedi cael galwadau niferus gan breswylwyr ar draws y sir yn amlinellu eu profiadau a’u pryderon. Gwnaeth sylw ar leihau nifer y staff, y diffyg clustogau a blancedi, gwelyau ddim ar gael a darpariaeth sylfaenol o fwyd a diod ddim ar gael i bobl sydd wedi bod yn aros am hyd at 24 awr. Roedd yn teimlo bod preswylwyr Sir y Fflint yn cael eu gadael i lawr a galwodd am ysbyty o fewn y sir.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Brown ac Attridge o blaid y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Ellis, gyda'r Cynghorydd Attridge yn darparu manylion o’i brofiadau personol  ...  view the full Cofnodion text for item 99.

100.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Pwrpas:        Mae'r eitem hon i dderbyn unrhyw Gwestiynau Cyhoeddus. Ni dderbyniwyd unrhyw un.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

101.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi'r atebion i unrhyw gwestiynau a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 9.4 (A) y Cyngor Sir. Ni dderbyniwyd unrhyw un.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

102.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.