Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2018/19 Pwrpas: Derbyn manylion ynghylch adolygiad y Cadeirydd o’r flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, cyflwynodd y Cynghorydd Paul Cunningham ei adolygiad o’r flwyddyn pan gafodd ef a’i Gymhares Mrs Joan Cunningham yr anrhydedd o gynrychioli Sir y Fflint mewn dros 300 o ddigwyddiadau dinesig. Ymysg yr uchafbwyntiau’r oedd Diwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru, Cynllun Cyfnewid Ieuenctid Japan (y dymunai iddo barhau) a digwyddiadau elusennol ag awdurdodau cyfagos. Yn ogystal, croesawodd yr ymweliadau â Neuadd y Sir gan lawer o ysgolion a chlybiau ieuenctid lleol, felly hefyd y cymorth a gafwyd yn ystod Wythnos Fusnes Sir y Fflint gan y Cynghorydd Derek Butler, Kate Catherall a’r Arglwydd Barry Jones.
Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i bawb am ei haelioni yn helpu i godi bron £14,500 yn bennaf i’r elusennau a ddewiswyd ganddo, Macmillan Cancer Support a Th?’r Eos, gyda’r gweddill yn cael ei rannu ymysg sefydliadau lleol.
I gloi, diolchodd i bawb am fod yn gefn iddo yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, a diolchodd yn bersonol i’r Prif Weithredwr, y Cynghorydd Aaron Shotton fel Arweinydd y Cyngor, Tîm y Prif Swyddogion a gweithwyr y Cyngor. Diolchodd hefyd i’w gyd Aelodau am roi iddo’r cyfle i wasanaethu fel Cadeirydd ac i dîm y Gwasanaethau Aelodau a Dinesig a’i Gaplan y Cynghorydd a’r Parch Brian Harvey am eu holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Talodd deyrnged i’r Is-gadeirydd am ei chefnogaeth gan ddymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd, ac i’w wraig Joan am ei chyfraniad fel Cymhares yn ystod y flwyddyn.
Ar ran y swyddogion, diolchodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Cunningham a Mrs Cunningham am eu gwaith yn cynrychioli’r Cyngor. Ategwyd hyn gan nifer o’r Aelodau yn ystod y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||
Ethol Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2019/20, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Carol Ellis ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid ethol y Cynghorydd Marion Bateman yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. Ni chafwyd dim enwebiadau eraill. I gefnogi’r cynnig, talwyd teyrnged i gyfraniadau’r Cynghorydd Bateman i amrywiol bwyllgorau a’i hymrwymiad i faterion lleol.
Diolchodd y Cynghorydd Bateman i’r Aelodau am ei hethol yn Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn nesaf a oedd yn anrhydedd iddi. Llongyfarchodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a’i Gymhares ar flwyddyn lwyddiannus.
PENDERFYNWYD:
Ethol y Cynghorydd Marion Bateman yn Gadeirydd ar y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.
Arwisgwyd y Cynghorydd Bateman â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a llofnododd ei Datganiad yn Derbyn y Swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.
(Bryd hynny, cadeiriodd y Cynghorydd Bateman weddill y cyfarfod.)
Yna cyflwynodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Cunningham ei Fathodyn Swydd Cadeirydd ymddeoledig a’i Gymhares Mrs Joan Cunningham gyda’i Bathodyn Swydd ymddeoledig. Arwisgwyd Cymar y Cadeirydd, y Cynghorydd Haydn Bateman â Chadwyn y Swydd. |
|||||||||||||||||||
Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2019/20, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ac eiliodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y dylid penodi’r Cynghorydd Joe Johnson yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. Ni chafwyd dim enwebiadau eraill. I gefnogi’r cynnig, talwyd teyrnged i waith elusennol y Cynghorydd Johnson ac i’w gefnogaeth i achosion lleol.
Diolchodd y Cynghorydd Johnson i’r Aelodau a llongyfarchodd y Cadeirydd gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weithio â hi y flwyddyn nesaf.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Joe Johnson yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20.
Arwisgwyd y Cynghorydd Johnson â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd a llofnododd y Datganiad yn Derbyn y Swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. Arwisgwyd Cymhares y Cynghorydd Johnson, Mrs Sue Johnson, â Chadwyn ei Swydd. |
|||||||||||||||||||
AMRYWIO TREFN Y CYFARFOD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y ceid newid bychan yn nhrefn y cyfarfod er mwyn dwyn ymlaen eitem 10 ar yr agenda ar Gyfamod y Lluoedd Arfog. Byddai gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn y maent ar yr agenda. |
|||||||||||||||||||
Adnewyddu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i Gyfamod y Lluoedd Arfog PDF 1 MB Pwrpas: Darparu trosolwg o Gyfamod y Lluoedd Arfog ac o gyflawniadau a dyheadau'r Cyngor ar gyfer y dyfodol, ac ail gadarnhau ymrwymiadau’r Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog drwy arwyddo’r Cyfamod a ddiweddarwyd yn y Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr Lefftenant-Cyrnol Mark Powell a Janette Williams (Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog dros Ogledd-ddwyrain Cymru) i adnewyddu ymrwymiad y Cyngor i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog drwy ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a lofnodwyd yn wreiddiol yn 2013. Cyflwynwyd sleidiau a amlinellai ddiben y Cyfamod ynghyd â chyflawniadau’r Cyngor a’i uchelgeisiau i’r dyfodol.
Fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y dylid ail-lofnodi’r Cyfamod i ail-gadarnhau ymrwymiad y Cyngor i sicrhau na ddylai aelodau’r gymuned Lluoedd Arfog gael eu rhoi dan anfantais annheg wrth ddarparu gwasanaethau ac y dylid rhoi iddi ystyriaeth arbennig lle bo angen. Mae’r ymrwymiad hwn yn cydnabod gwerth personél sydd ar wasanaeth, yn filwyr rheolaidd neu wrth gefn, yn gyn-filwyr a theuluoedd milwrol am eu cyfraniadau i’r wlad. Mae’r gr?p llywio wedi cael cryn lwyddiant yn hyrwyddo’r Cyfamod, cymaint felly fel bod y Cyngor wedi ennill y Wobr Arian yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Diolchodd y Cynghorydd Dunbobbin i’r holl swyddogion dan sylw, yn enwedig Janette Williams a Stephen Townley. Eiliodd y Cynghorydd Joe Johnson y cynnig.
Llofnodwyd y Cyfamod yn ffurfiol gan y Lefftenant-Cyrnol Powell a’r Cynghorydd Dunbobbin.
Ar ran Cadlywydd y Frigâd, diolchodd y Lefftenant-Cyrnol Powell i’r Cyngor am ei gefnogaeth a werthfawrogwyd yn fawr.
Cymerodd y Cynghorydd Glyn Banks y cyfle i dalu teyrnged i bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, yn ogystal ag i bawb a fu’n gweithio ar y Cyfamod, yn enwedig y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Adnewyddu ymrwymiad y Cyngor i’r gymuned Lluoedd Arfog drwy ail-lofnodi’r Cyfamod. |
|||||||||||||||||||
Ethol Arweinydd Y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ac eiliodd y Cynghorydd Neville Phillips y dylid penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. Ni chafwyd dim enwebiadau eraill. I gefnogi’r cynnig, talwyd teyrnged i gyflawniadau’r Cynghorydd Roberts mewn llywodraeth leol a’i ymrwymiad i gyflwyno gwasanaethau o ansawdd i drigolion Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20. |
|||||||||||||||||||
Arweinydd Y Cyngor I Benodi'r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Aelodau am ei ethol yn Arweinydd ar y Cyngor a oedd yn anrhydedd gwirioneddol iddo. Yn unol â’r Cyfansoddiad, cyflwynodd ei ddewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sean Bibby a ddymunodd y gorau i’r Cynghorydd Roberts a’r Cabinet yn y flwyddyn nesaf.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet a’u portffolios fel isod,
|
|||||||||||||||||||
Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau PDF 117 KB Pwrpas: Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Cyngor yn ystyried adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion yr oedd gofyn gwneud penderfyniad arnynt yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir yn unol â Rheol 1.1 (vii) – (xiv) o Weithdrefnau’r Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn delio ag un penderfyniad yr oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Trafodwyd a phleidleisiwyd ar bob adran yn ei thro.
(i) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn darparu ar gyfer penodi’r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Safonau; a’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd angen penodi’r Pwyllgor Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu hefyd fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad yngl?n â’r angen i benodi Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu pan oedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi’i sefydlu. Dywedodd y Prif Swyddog, er bod y Pwyllgor Safonau’n ystyried unrhyw achosion o gynghorwyr yn torri’r Cod Ymddygiad, roedd yn ofynnol sefydlu pwyllgor ar wahân i ystyried materion disgyblu yn ymwneud â swyddogion, yn benodol y swyddogion statudol a enwyd fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am fanylion y swyddogion y byddai hyn yn berthnasol iddynt. Cytunodd y Prif Swyddog i gyflenwi enw’r swyddogion yr oedd eu swyddi wedi’u nodi yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Archwilio Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd Cydbwyllgor Llywodraethu (dros Bensiynau) Pwyllgor Trwyddedu Pwyllgor Cynllunio Pwyllgor Safonau Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir ym mharagraff 1.01 Pwyllgor Cwynion (penodwyd ar 9 Ebrill 2019) Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu
(ii) Pennu maint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog fod angen penderfynu ar faint pob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Roedd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau i’w gweld yn yr adroddiad, gan gynnwys argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio i gynyddu ei faint i ganiatáu derbyn aelod lleyg ychwanegol.
Wrth gyfeirio at bwysigrwydd y Pwyllgor Archwilio, galwodd y Cynghorydd Heesom am roi ystyriaeth bellach i faint ei aelodaeth i gynnwys cynrychiolaeth ehangach ymysg yr Aelodau, yn enwedig os ceid cynnydd yn nifer yr aelodau lleyg. Gofynnodd a fyddai’r Arweinydd yn ystyried gohirio penderfyniad ar y pwyllgor penodol hwnnw er mwyn caniatáu amser i drafod ymhellach.
Eglurodd y Prif Swyddog y byddai penderfyniad o’r fath yn arwain at ohirio cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar yr eitem yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Mehefin.
O ran y cyfyngiadau deddfwriaethol ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio, tynnodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at y rheolau ar gynrychiolaeth wardiau Aelodau amryfal fel y nodir yn adran Cydbwysedd Gwleidyddol yr adroddiad.
Mewn ymateb i’r Cynghorydd Heesom, cydnabu’r Cynghorydd Roberts fanteision cael aelodau lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgorau a chynigiodd fod nifer y ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|||||||||||||||||||
Item 8 - Revised Political Balance allocation PDF 39 KB Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
Aelodau Annibynnol o’r Bwyllgor Safonau PDF 74 KB Pwrpas: Ystyried penodi Aelod Annibynnol i’r Bwyllgor Safonau am ail dymor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar aelodaeth y Pwyllgor Safonau oherwydd bod tymor dau o’r aelodau annibynnol yn eu swydd wedi dod i ben yn ddiweddar. Roedd y ddau aelod yn gymwys i gael eu hail-benodi am ail dymor a chydnabuwyd eu cyfraniadau gwerthfawr i’r Pwyllgor. Tra bo Phillipa Earlam yn barod i wasanaethu eto, awgrymwyd y dylid anfon llythyr o ddiolch at Edward Hughes a oedd yn dymuno camu i lawr.
Amlinellodd y Prif Swyddog y rheolau ar benodi aelodau annibynnol a dywedodd y byddai proses recriwtio ar y cyd bosibl â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o fudd.
Wrth groesawu cyfraniadau aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn ailbenodi Phillipa Ann Earlam i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd ac yn hysbysebu’r swydd wag a oedd ar ôl ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; a
(b) Bod Cadeirydd y Cyngor yn ysgrifennu at Edward Hughes i ddiolch iddo am ei waith caled ar y Pwyllgor yn ystod ei dymor. |
|||||||||||||||||||
Amserlen o Gyfarfodydd PDF 68 KB Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2019/20. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer 2019/20 ar ôl ymgynghori. Er y gwnaed pob ymdrech i osgoi cyd-drawiad â chyfarfodydd eraill, awgrymodd y dylid symud cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ar 21 Hydref i 28 Hydref rhag iddo gyd-daro â chyfarfod o’r Awdurdod Tân. Awgrymodd hefyd y dylid symud y Cyfarfod blynyddol (AGM) i 5 Mai 2020 i ganiatáu amser ar ôl yr ?yl Banc.
Ar y pwynt diwethaf, cytunodd y Prif Weithredwr ag awgrym y Cynghorydd Mike Peers y dylid symud y Cyfarfod blynyddol i 7 Mai 2020 a bod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei aildrefnu.
Gofynnodd y Cynghorydd David Healey i’r Rhestr gynnwys cydgyfarfod rhwng Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, er mwyn ystyried eitemau a oedd yn rhychwantu cylch gorchwyl y ddau.
Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai Cadeiryddion y ddau Bwyllgor gytuno ar amlder y cyfryw gyd-gyfarfodydd ar ôl i’r penodiadau gael eu gwneud.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r rhestr ddrafft o’r cyfarfodydd ar gyfer 2019/20, yn amodol ar y newidiadau arfaethedig. |
|||||||||||||||||||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg ac 16 aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |