Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU Dathlu ein llwyddiannau:
Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol - enillwyr y Wobr Arian yng Ngwobrau Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaeth - y rownd derfynol yn y categori Menter Rheoli Newid Gorau o Wobrau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru 2018 am ei waith wrth drosglwyddo gwasanaethau i Aura Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu
Enillwyr y Wobr Arian yng Ngwobrau Cynllun Cydnabod Cyflogwr Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Llongyfarchodd y Prif Weithredwr y tîm ar y Wobr yr oeddent wedi gweithio’n ddiflino amdani a dywedodd mai dim ond saith awdurdod lleol yng Nghymru oedd wedi derbyn y Wobr Arian.Roedd Sir y Fflint hefyd yn agos at dderbyn y Wobr Aur.Roedd dau aelod o’r tîm yn gyn filwyr ac wedi rhoi cipolwg gwych.
Talodd y Cynghorydd Dunbobbin, deyrnged i Gr?p Llywio’r Lluoedd Arfog a oedd wedi gwneud cynnydd gwych yn Sir y Fflint.Hefyd dywedodd pa mor agos oedd y tîm i ennill y Wobr Aur, a'i fod yn falch iawn o hynny.Roedd llawer o waith cadarnhaol yn cael ei wneud gyda phartneriaid a diolchodd i bawb oedd yn rhan o hynny.
Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol
Wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori’r Fenter Rheoli Newid Gorau yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru 2018 am ei waith yn trawsnewid gwasanaethau i Aura Cymru.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y wobr yn un ar y cyd i'r Cyngor a thîm Aura ac roedd yn ymwneud â sut yr ymdriniwyd â'r broses, gan gynnwys personél, wrth sefydlu model ar y cyd.Roedd hyn yn golygu ymddiriedaeth yn y Cyngor a darparwyd cefnogaeth gan yr Undebau – talodd deyrnged i bawb fu'n rhan o hyn.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Mullin y tîm ar gyrraedd y rownd derfynol yn y categori oedd yn dangos eu hymrwymiad, ymroddiad a phroffesiynoldeb. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir, Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2018 eu cyflwyno a'u cadarnhau fel cofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar gyfer yr Aelodau hynny a oedd ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas ag eitem rhif 13 yn y rhaglen – Papur Gwyn ar Ddiwygio’r Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru.
Ar eitem rhif 14 yn y rhaglen – Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2019/20 – byddai angen i Aelodau sydd ag aelodau o’u teuluoedd yn cael eu cyflogi gan y Cyngor ddatgan cysylltiad personol.Yn unol â hynny, datganodd y Cynghorwyr Attridge, Bithell, McGuill, Mullin, Phillips, Aaron Shotton, Small, Smith a Carolyn Thomas gysylltiadau personol.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbobbin, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd angen datgan cysylltiad am ei fod yn derbyn budd-dal treth y cyngor. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o Gyhoeddiadau’r Cadeirydd wedi ei gylchredeg i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.
Diolchodd y Cynghorydd Phillips i'r Cadeirydd am ymweld â Mrs Rowlands, un o’r etholwyr yn ei ward, ar ei phen-blwydd yn 100 oed a gwerthfawrogwyd hynny’n fawr o ystyried fod hynny ar Nos Galan. Hefyd diolchodd i’r Cynghorydd Attridge am ei ymateb cyflym pan roedd tân wedi cynnau mewn eiddo.Yn dilyn cwestiwn dywedodd y Prif Weithredwr y byddai rhestr o gysylltiadau mewn argyfwng yn cael eu hail gyflwyno i Aelodau. |
|
DEISEBAU Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeisebau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Lloyd ddeiseb gan breswylwyr Saltney yn galw am weithredu cyfyngiadau cyflymder 20 milltir yr awr ar strydoedd preswyl yn Saltney ac am i fesurau gostegu traffig gael eu gosod ar y ffyrdd. Daw hyn yn dilyn digwyddiad difrifol ar y ffordd pan gafodd bachgen 10 oed ei anafu’n ddifrifol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau Pwrpas: Mae’r Llyfr Cofnodion, Rhifyn 3 2018/19, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau. Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar 23 Ionawr 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
RHYBUDD O GYNNIG Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a Dderbyniwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Y Trydydd Cam a'r Cam Clo PDF 75 KB Pwrpas: Bod y Cyngor yn derbyn ac yn ystyried argymhelliad y Cabinet ar gyfer cydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – y Trydydd Cam a'r Olaf gydag adroddiad y Cabinet 22 Ionawr 2019 wedi ei atodi i’r adroddiad. Roedd gwybodaeth ychwanegol wedi ei gylchredeg i Aelodau’r diwrnod blaenorol, yn dilyn cais yn y Cabinet, ar y gwasanaethau nad ydynt yn orfodol a allai fod mewn perygl os nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru a Threth y Cyngor sy'n gyfatebol i'r gwasanaethau hynny.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys.Eglurodd y pwysigrwydd o beidio â gorlwytho’r gyllideb gyda risgiau ac y byddai’n rhaid i unrhyw gynigion a gâi eu cyflwyno fod ag amserlenni realistig a bod modd eu gweithredu gyda chyllid digonol wedi ei roi naill ochr ar gyfer y prif risgiau. Gorffennodd drwy sôn am yr angen i Aelodau wrando ar gyngor rolau statudol y Swyddog Adran 151 a'r Prif Weithredwr wrth iddynt gynghori'r Cyngor.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad oedd yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
· Gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys; · Rhagolwg wedi ei ddiweddaru ar gyfer 2019/20; · Cam 1 – Datrysiadau Cyllideb Corfforaethol; · Cam 2 - Cynigion Portffolio Cynllun Busnes; · Setliad Terfynol; · Newidiadau eraill i ragolygon 2019/20; · Effaith cyhoeddiadau grant; · Crynodeb o’r rhagolygon diwygiedig; · Yr opsiynau a’r posibiliadau sydd ar ôl; · Cronfeydd wrth gefn a Balansau; · Mathau o gronfeydd wrth gefn; · Rheoli’r flwyddyn 2019/20; · Lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/20; · Treth y Cyngor; · Cynnydd posib mewn Treth y Cyngor yng Nghymru 2019/20; · Cymaryddion Treth y Cyngor (Band D) 2018/19; · Cymaryddion dangosol Treth y Cyngor 2019/20; · Cymaryddion dangosol Treth y Cyngor Cymru 2019/20; · Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol; · Cyllid ysgolion 2019/20; · Cyllid Gofal Cymdeithasol 2019/20; · Safbwyntiau proffesiynol; · Rhagolygon y dyfodol; · Rhagolygon y tymor canolig; · #cefnogigalw; · Y diweddaraf o gyfarfod yr ACau a’r ASau; · Senarios cyllideb; a’r · Camau nesaf ac amserlenni.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr opsiynau sydd ar ôl i sicrhau cyllideb gyfreithlon a chytbwys wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad Cabinet.Roedd y posibilrwydd am ostyngiadau pellach o ran gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ar unrhyw raddfa yn hesb ac roedd y datganiadau gwytnwch portffolio a oedd yn dangos y risgiau i gapasiti gwasanaethau a pherfformio unrhyw ostyngiadau pellach i'r gyllideb wedi eu derbyn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cabinet. Roedd nifer o weithdai i Aelodau hefyd wedi eu cynnal.Gwnaeth sylwadau ar oblygiadau'r awgrymiadau posib yn y cyfnod hwyr hwn gan gynnwys y berthynas rhwng y gweithlu ac undebau llafur.Byddai unrhyw benderfyniadau newydd yn cymryd amser i’w gweithredu ac ni fyddent yn gallu arwain at arbedion ar unwaith na rhai digonol ar gyfer blwyddyn gyllideb 2019/20 i’w hystyried o ran cydbwyso'r gyllideb.
Cafwyd manylion am sefyllfa ceisiadau arbennig a wnaed i Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cymorth ariannol yn yr adroddiad.Y tu hwnt i ymyrraeth ariannol gan LlC yr unig opsiynau oedd ar ôl o ran y gyllideb i gydbwyso'r gyllideb oedd incwm Treth y Cyngor a ... view the full Cofnodion text for item 89. |
|
Adolygiad Etholiadol Sir Y Fflint PDF 93 KB Pwrpas: I alluogi’r Cyngor i wneud ei gynigion terfynol ar gyfer adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint yn cael ei arwain gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint. Roedd yr atodiad i’r adroddiad yn amlinellu'r cynigion i'w cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi eu seilio ar y gwaith helaeth a wnaed gydag Aelodau.
Eglurodd y Prif Weithredwr y côd lliw yn yr atodiad, a dywedodd os oedd Aelodau yn cytuno fod y ddogfen yn cyfleu yr awgrymiadau a wnaed ganddynt yna byddai’n cael ei hanfon at y Comisiwn. Y côd lliw oedd:
· Gwyrdd - cynigion lle'r oedd yna gytundeb a’i fod o fewn amrywiant o 25% o’r cyfartaledd arfaethedig ar gyfer y Sir; · Oren - cynigion lle'r oedd yna beth anghytundeb ond roedd yn opsiwn a gâi ei ‘ffafrio’ ac roedd o fewn amrywiant o 25% o'r cyfartaledd arfaethedig ar gyfer y Sir; a · Coch – cynigion lle nad oedd yna unrhyw gytundeb neu nad oedd y cynigion yn cydymffurfio gan nad oeddent o fewn yr amrywiad o 25% o gyfartaledd y Sir.
Yn dilyn nifer o sylwadau ac awgrymiadau gan Aelodau, cytunwyd y byddai’r ddogfen yn dangos yn glir pa opsiynau oedd yn ymwneud â pha liw pan gaiff mwy nag un opsiwn ei ddangos.
Teimlai’r Cynghorydd Richard Lloyd y dylai’r ddogfen gynnwys cyfeiriad at wardiau etholiadol unigol Aelodau.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Brown dywedodd y Prif Weithredwr y gellid gofyn i’r Comisiwn Ffiniau faint roedd yr adolygiad wedi ei gostio.
Byddai’r Comisiwn nawr yn paratoi Cynigion Drafft ar gyfer y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint a fyddai’n cael eu cyhoeddi yn Hydref 2019 – byddai cyfnod ymgynghori o 12 wythnos yn dilyn wedyn. Yng Ngham Tri byddai’r Comisiwn yn paratoi Adroddiad Cynigion Terfynol a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn 2020 yn ogystal â’r rhai ar gyfer holl Gynghorau eraill Cymru.
Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r tîm am y gwaith a wnaed gydag Aelodau ar yr adolygiad etholiadol.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r cynigion yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gyda’r ddogfen yn dangos yn glir pa liw sy'n cyd-fynd â pha opsiwn; a
(b) Bod y Cyngor yn darparu gwybodaeth gefndir i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn cefnogaeth i’r cynigion cadarnhaol a gaiff eu cynnwys yn yr atodiad ac, yn achos yr ardaloedd hynny lle na chafodd unrhyw gynnig ei wneud oedd yn cydymffurfio, y set gyflawn o opsiynau i’w hystyried gan Aelodau. |
|
Papur Gwyn: Diwygio Awdurdodau Tan ac Achub Cymru PDF 86 KB Pwrpas: Cytuno ar ymateb i'r Papur Gwyn diweddar ar ddiwygio trefniadau llywodraethu ac ariannu Awdurdodau Tân yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y Papur Gwyn:Diwygio’r Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru oedd yn darparu manylion yngl?n â’r newidiadau arfaethedig i drefn lywodraethu ac aelodaeth o’r awdurdodau tân ac achub, a’u perthynas ag awdurdodau lleol etholwyr o ran gosod y gyllideb.
Nid oedd y Cyngor wedi mynegi unrhyw bryderon dros drefn lywodraethu Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ac roedd wedi bod yn fodlon fod yr Awdurdod wedi ymgysylltu'n llawn gyda'r Cyngor, fel awdurdod lleol etholwyr, mewn ymgynghoriadau ar eu strategaethau allweddol a’i strategaeth o ran y gyllideb.Roedd yr ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad o fewn y Papur Gwyn wedi eu hatodi i’r adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas ei fod wedi bod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ers saith mlynedd a'i fod yn sefydliad hynod effeithiol er iddynt wynebu toriadau i’w cyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn.Gwnaeth sylw ar fentrau y mae'r gwasanaeth wedi mynd i'r afael â hwy i helpu i gyflawni arbedion effeithlonrwydd fel gosod larymau mwg mewn cartrefi fel mesur ataliol a chau rhai gorsafoedd tân. Nid oedd yn cefnogi’r Papur Gwyn. Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod diffoddwyr tân yn haeddu cefnogaeth barhaus yr awdurdod ac roedd yn llwyr gefnogi ymateb y Cyngor.
Fe wnaeth y Cadeirydd sylw ar ei gyflogaeth yn y Gwasanaeth Tan a dywedodd y dylai cyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn ddod gan y Llywodraeth Ganolog, fel y dylai ar gyfer yr Heddlu.
PENDERFYNWYD:
Fod yr ymatebion drafft i’r cwestiynau yn atodiad 2 yn cael eu cymeradwyo fel ymateb ffurfiol Sir y Fflint i'r Papur Gwyn Diwygio'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru. |
|
Datganiad Ar Bolisïau Tâl Ar Gyfer 2019/20 PDF 87 KB Pwrpas: Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad Polisi Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r seithfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Datganiad ar Bolisïau Tâl ac eglurodd fod gofyn i’r holl awdurdodau lleol gyhoeddi Datganiad ar Bolisïau Tâl yn flynyddol.Hwn oedd y seithfed datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan y Cyngor.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod yr Archwiliad Tâl Cyfartal wedi ei atodi i’r adroddiad er gwybodaeth.
Roedd y Datganiad ar Bolisïau Tâl yn ffurfio elfen allweddol o ymagwedd y sefydliad i reoli ei weithlu'n gyffredinol ac, yn benodol, gwobrwyo a chydnabod a oedd yn un o bum blaenoriaeth strategol Strategaeth y Bobl 2016-19.
Yr adrannau oedd yn destun gwelliant yn ystod y flwyddyn oedd:
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2019/20, a nodi’r Archwiliad Tâl Cyfartal diweddaraf.
|
|
Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog 2017/18 PDF 113 KB Pwrpas: Ardystio’r cynnydd positif a wnaed i gwrdd â Chyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi’r ymrwymiadau am welliant pellach a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog Ebrill 2017 – Rhagfyr 2018, sef ail adroddiad blynyddol Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint.
Eglurodd y Swyddog Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu fod Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi ei anelu at gydnabod yr aberth a wnaed gan gymuned y Lluoedd Arfog o fewn y Sir gan helpu i ddarparu cefnogaeth ar eu cyfer a’u teuluoedd i sicrhau nad oeddent yn wynebu anfantais o ganlyniad i wasanaeth milwrol.
Fel Pencampwr Lluoedd Arfog y Cyngor a Chadeirydd y gr?p llywio aml asiantaeth talodd y Cynghorydd Dunbobbin deyrnged i waith pawb fu'n rhan o hyn a chynnig yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd Peers i’r Cynghorydd Dunbobbin a'r gr?p llywio am gyflwyno cerrig coffa i gofio am ddau unigolyn o Sir y Fflint a dderbyniodd Groes Fictoria am eu dewrder yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – Frederick Birks V.C. o Fwcle a Harry Weale V.C. o Shotton.
Awgrymodd y Prif Weithredwr fod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol pan dderbynnir y Wobr Aur, a chefnogwyd hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd cadarnhaol a wnaed i fodloni Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi a bod yr ymrwymiadau ar gyfer gwelliant pellach yn cael eu cefnogi; a
(b) Bod Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. |
|
Adnewyddu Polisi Gamblo PDF 87 KB Pwrpas: Rhoi gwybod i Aelodau am y gofynion gorfodol i adolygu’r Polisi Gamblo a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y ddogfen wedi’i hadolygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, cyflwynodd y Cynghorydd Sharps yr adroddiad ar Ddatganiad Adnewyddu’r Polisi Gamblo.
Roedd disgwyl i'r Polisi newydd ddechrau ar 31 Ionawr 2019 yn unol â Deddf Gamblo 2005. Roedd ymgynghoriad wedi ei gynnal rhwng mis Hydref a Tachwedd 2018 gan gynnwys adrodd i'r Pwyllgor Trwyddedu.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Polisi Drafft yn cael ei gymeradwyo i’w fabwysiadu ar gyfer y cyfnod rhwng 31 Ionawr 2019 a 30 Ionawr 2022; a
(b) Fod unrhyw fân newidiadau a wneir yn ystod oes y polisi yn cael eu dirprwyo i’r Pwyllgor Trwyddedu. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |