Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: Derbynunrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2017/18 Pwrpas: Derbyn manylion ynghylch adolygiad y Cadeirydd o’r flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel Cadeirydd a oedd yn ymadael, cyflwynodd y Cynghorydd Brian Lloyd ei adolygiad o’r flwyddyn, yn ei hystod roedd y Cynghorydd a’i Gymar wedi bod yn falch iawn o gynrychioli Sir y Fflint mewn sawl digwyddiad dinesig teilwng, megis Diwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru a Gwobrau Balchder Sir y Fflint. Wrth drafod Wythnos Fusnes Sir y Fflint, mynegodd ei ddiolch i’r Cynghorydd Derek Butler, Kate Catherall a’r Arglwydd Barry Jones am eu help.
Diolchodd i’r rheiny a oedd wedi’i helpu wrth ei gefnogi i godi bron i £14,000 ar gyfer ei elusennau dewisol, sef Cymorth Canser Macmillan, Hosbis Plant Claire House a Barnados Cymru.
Wrth ddod i gasgliad, diolchodd i'r Prif Weithredwr a Thîm y Prif Swyddog, Arweinydd a gweithwyr y Cyngor am eu cefnogaeth ac i’r Aelodau am ei ethol. Mynegodd ei ddiolchgarwch i dîm Gwasanaethau'r Aelodau Dinesig am yr help yn ystod y flwyddyn a’i ddau gaplan. Fe aeth ymlaen i ddiolch i’r Is-Gadeirydd am ei gymorth, a dymuno’n dda iddo yn ei rôl newydd, ac fe dalodd deyrnged i’w wraig, Jean, am ei chymorth fel Cymar, rôl a oedd wedi’i mwynhau’n fawr iawn.
Yn ystod y cyfarfod, fe dalodd sawl Aelod deyrnged i’r Cadeirydd a oedd yn ymadael am ei waith yn ystod y flwyddyn a’i lwyddiant wrth godi arian. |
|||||||||||||||||||
Penodi Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2018/19, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ac eiliodd y Cynghorydd Michelle Perfect y dylid penodi’r Cynghorydd Paul Cunningham yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.
PENDERFYNWYD:
Ethol y Cynghorydd Paul Cunningham yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.
Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Cunningham gan y Cadeirydd sy’n ymadael a llofnododd ei Ddatganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.
(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Cunningham weddill y cyfarfod.)
Yna cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn y Swydd fel Cadeirydd a oedd yn ymddeol i’r Cynghorydd Brian Lloyd a Bathodyn y Swydd fel Cymar a oedd yn ymddeol i Mrs Jean Lloyd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Lloyd fel Cadeirydd sy’n Ymadael ac i’r Aelodau am eu cefnogaeth yn ei ethol yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. |
|||||||||||||||||||
Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2018/19, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Carol Ellis ac eiliodd y Cynghorydd Rita Johnson y dylid penodi’r Cynghorydd Marion Bateman yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Marion Bateman yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.
Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Bateman gan y Cadeirydd a llofnododd y Datganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||
Penodi Arweinydd Y Cyngor Sir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Tony Sharps ac eiliodd y Cynghorydd Ray Hughes y dylai’r Cynghorydd Aaron Shotton gael ei benodi’n Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19. I gefnogi ei gynnig, cydnabyddodd y Cynghorydd Sharps y penderfyniadau anodd a wnaed yn ystod yr hinsawdd ariannol bresennol gydag arweinyddiaeth gref.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Aaron Shotton yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19. |
|||||||||||||||||||
Arweinydd Y Cyngor I Benodi'r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth ei benodi’n Arweinydd y Cyngor am y 12 mis nesaf. Croesawodd y safiad unedig a phragmatig a wnaed gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn a gobeithiodd y byddai hyn yn parhau wrth wynebu heriau yn y dyfodol.
Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd y Cynghorydd Aaron Shotton ei ddewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet a’u portffolios a fanylir arnynt isod.
|
|||||||||||||||||||
Model Bwrdd Llywodraethwyr diwygiedig Theatr Clwyd PDF 90 KB Pwrpas: Rhoi gwybod am gyfansoddiad newydd Bwrdd y Theatr, gan gyfuno penodiadau aelodau etholedig a phenodiadau allanol, a’r broses ar gyfer (ail)benodi aelodau etholedig i’r Bwrdd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethwyr newydd, a oedd yn cynnwys saith Aelod etholedig a chwe phenodiad allanol, cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cabinet.
Diolchodd i Arweinwyr y Grwpiau am eu cydweithrediad wrth enwebu dau aelod etholedig ar gyfer y ddwy swydd wag, i wasanaethu ochr yn ochr â phum aelod etholedig a oedd wedi dewis aros yn rhan o’r Bwrdd. Byddai’r aelodaeth lawn, gan gynnwys y chwe aelod cyfetholedig allanol gyda sgiliau priodol a oedd wedi’u recriwtio trwy'r broses, yn cael ei hadrodd i’r Cabinet.
Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a Chyfarwyddwyr Artistig a Gweithredol y Theatr am eu gwaith i gryfhau’r model busnes.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynigion ar gyfer Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael eu cymeradwyo a’u hargymell i’r Cabinet. |
|||||||||||||||||||
Proses Ymgynghori ar y Gyllideb PDF 70 KB Pwrpas: Derbyn argymhellion gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, ar ôl adolygu Proses y Gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd argymhellion o gyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018 yn dilyn adolygiad o’r broses ymgynghori ar y gyllideb.
Roedd yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ystod yr ymgynghoriad wedi’i ddatblygu i gyfres o ofynion fel y nodwyd yn yr adroddiad ochr yn ochr â’r ymatebion. Gellir addasu siart lif Proses y Gyllideb Fesul Cam, gan ddefnyddio dull 2018/19, i’w defnyddio yn y dyfodol ac i helpu i ddangos cymhlethdodau'r broes a gofynion ymgynghori.
Oherwydd amseriad cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, dosbarthodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diwygiedig gyda’r newidiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod hwnnw.
Cytunodd yr Aelodau ar y penderfyniadau diwygiedig i gymeradwyo’r adroddiad diwygiedig a’r geiriad i’w cynnwys yn adran 16 y Cyfansoddiad.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Mackie, eglurwyd y byddai gofyniad 19 yn cael ei dynnu o’r adroddiad gan y byddai defnydd galw i mewn yn cael ei ystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin.
Gwnaeth y Prif Weithredwr sylw ar gynwysoldeb yr ymgynghoriad ar broses y gyllideb a'r cynnydd o ran y gyllideb ar gyfer 2019/20.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ofyniad 18 ar gasgliad y cynigion a oedd wedi bod trwy broses y gyllideb a gofynnodd ‘oni bai bod gwybodaeth newydd yn dod i’r amlwg’ ei fod yn cael ei fewnosod i ystyried unrhyw newid. O ran yr angen am gyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o gamau adrodd rhwng pwyllgorau a chyfeiriodd at y protocol gwaith a allai gael ei ddatblygu. Nodwyd pwysigrwydd galw i mewn a byddai angen trafodaeth bellach ar hyn. Mewn ymateb i sylwadau pellach, roedd trosolwg o’r gyllideb gyfan yn gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a fyddai’n ystyried adroddiad ar yr Offeryn Asesu Integredig. Byddai Swyddogion yn rhoi ystyriaeth bellach i'r angen am ddealltwriaeth glir o ganlyniadau penderfyniadau am y gyllideb.
Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Jones i weddarlledu pob cyfarfod pwyllgor gydag effaith ar drafodaethau o ran y gyllideb, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyfyngiadau ar yr offer gweddarlledu. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r cytundeb i weddarlledu cyfarfod cyllideb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei ymestyn i gyfarfodydd eraill y Pwyllgor a oedd yn cael eu cynnal fel rhan o broses y gyllideb fesul cam, p’run ai oedd yr holl Aelodau yn cael eu gwahodd ai peidio. Byddai gofyniad 19 yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn, gan nodi'r ‘bydd’ y cyfarfod cyllideb blynyddol yn cael ei we ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|||||||||||||||||||
Item 9 - Amended Appendix 1 report to C&DS Committee PDF 325 KB Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
Rhannu Gwybodaeth yn y Cyngor PDF 76 KB Pwrpas: Mabwysiadu rheolau diwygiedig ar rannu gwybodaeth o fewn y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar gyfres ddiwygiedig o egwyddorion yngl?n â rhannu gwybodaeth o fewn y Cyngor i alluogi Aelodau a Swyddogion i gyflawni eu dyletswyddau. Eglurodd bwysigrwydd deall yr egwyddorion a oedd wedi’u datblygu gan weithgor a chynnwys sefyllfaoedd enghreifftiol a safbwyntiau gwahanol. Roedd peth gwaith coethi wedi’i wneud yn dilyn ymgynghoriad gyda swyddogion ac Aelodau.
Wrth gymeradwyo’r argymhellion, siaradodd y Cynghorydd Heesom o blaid yr adroddiad.
Fel Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd cynigodd y Cynghorydd Rita Jones bod yr egwyddorion yn cael eu cymeradwyo i’w mabwysiadu o fewn y Cyfansoddiad.
Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones enghraifft lle gallai preswylydd roi caniatâd ysgrifenedig i’w Aelod lleol drafod ei ddata personol gyda Swyddogion y Cyngor. Dywedodd y Prif Swyddog fod yr enghreifftiau sydd wedi’u hatodi i’r canllawiau yn adlewyrchu’r sefyllfa hon ac enghreifftiau eraill lle dylid diogelu gwybodaeth bersonol.
Diolchodd y Cynghorydd Marion Bateman i aelodau a swyddogion y gweithgor y bu’n ei gadeirio.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r canllawiau i’w mabwysiadu i'r Cyfansoddiad. |
|||||||||||||||||||
Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau PDF 112 KB Pwrpas: Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.
(A) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Archwilio. Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau) Pwyllgor Trwyddedu Pwyllgor Cynllunio Pwyllgor Safonau Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01
(B) Penderfyniad ar faint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraff 1.03 yr adroddiad.
(C) Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo. Roedd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel y nodwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer pob pwyllgor yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.
(D) Cydbwysedd Gwleidyddol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y’i diwygiwyd.
Roedd cyfanswm o 157 o seddi ar gyfer Cynghorwyr ar draws yr holl Bwyllgorau yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau a dangoswyd hawl pob gr?p i seddi ym mharagraff 1.12 yr adroddiad. Gan na fu unrhyw newid o ran meintiau'r grwpiau, atodwyd y cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol presennol i’w hystyried fel un o sawl datrysiad posibl.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at gyfyngiadau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio ar wardiau aml-aelod fel y nodwyd yn y ddeddfwriaeth a'r mecanwaith a gytunwyd gan y Cyngor yn gyntaf oll i ddatrys yr enwebiadau hyn drwy drafodaethau rhwng Arweinwyr y Grwpiau. Os nad oedd modd cyflawni hyn, y cam nesaf oedd i'r swyddog priodol dderbyn yr enwebiad cyntaf a dderbyniwyd. Cynigodd y Cynghorydd Peers welliant fod unrhyw enwebiad yn ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|||||||||||||||||||
Amserlen o Gyfarfodydd PDF 72 KB Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor yr adroddiad ar yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2018/19.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2018/19. |
|||||||||||||||||||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg a 12 aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |