Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir ar 12 Rhagfyr 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12fed Rhagfyr a chawsant eu cadarnhau fel cofnod cywir.
PENDERFYNIAD:
Y byddai’r cofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cyngor gan y Prif Weithredwr (Llywodraethu), datganodd y Cynghorwyr Allport a Woolley gysylltiad personol ac sy’n rhagfarnus yn eitem 8 ar yr agenda, Rhybudd o Gynnig. Datganodd y Cynghorwyr Carver, Gay, Paul Johnson, Tudor Jones, McGuill a Carolyn Thomas gysylltiad personol yn yr un eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’l dosbarthwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o Gyfathrebu’r Cadeirydd i’r Aelodau cyn y cyfarfod.
Soniodd y Cadeirydd yn benodol ar fusnesau yn Sir y Fflint a oedd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ystod Wythnos Fusnes Sir y Fflint. Talodd deyrnged i’r diweddar Stephen Hampson, mab y diweddar Gynghorydd Ron Hampson a’i wraig Rita, a oedd wedi cyffwrdd â bywydau llawer o bobl. |
|
DEISEBAU Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd McGuill ddeiseb ar-lein a oedd wedi’i llofnodi gan 10,532 o bobl yn gofyn i’r swm ychwanegol o 20% o Ardrethi Annomestig gael eu hail-gyflwyno ar gyfer Grwpiau Sgowtiaid. Derbyniwyd 358 o lofnodion pellach drwy ddeiseb bapur a llythyr yn cefnogi’r ddeiseb gan Bear Grylls, Prif Sgowt y Deyrnas Gyfunol. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw rai. |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’ratebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) v Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe esboniodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) bod dau gwestiwn wedi’u derbyn ac wedi’u copïo, ynghyd â’r ymateb, a’u dosbarthu.
Cynghorydd Clive Carver:
“Mewn cysylltiad â phenderfyniad Cyngor Sir y Fflint i ddiddymu Ardrethi Busnes Dewisol ar gyfer Elusennau Cofrestredig a grwpiau gwirfoddol, a all yr Aelod Cabinet esbonio (a) faint o Elusennau Cofrestredig a grwpiau gwirfoddol sydd wedi gwneud cais am ryddhad ardrethi caledi? A (b) faint o geisiadau o’r fath sydd wedi’u cymeradwyo?”.
Ateb:
“Ers Ebrill 2017 derbyniwyd cyfanswm o 6 o geisiadau Caledi gan Elusennau Cofrestredig neu Grwpiau Gwirfoddol ac mae 1 sefydliad wedi derbyn Rhyddhad Caledi - a oedd gyfwerth â’u hatebolrwydd llawn ar gyfer 2017-18.
Rydym bob amser yn hyrwyddo’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Caledi pan fydd risgiau ariannol i unrhyw sefydliad Elusennol neu Wirfoddol neu, yn wir, unrhyw fusnes masnachol, drwy dalu ardrethi busnes.
Mae’n bwysig datgan bod yn rhaid edrych ar bob cais am y Rhyddhad Ardrethi Caledi ar eu rhinweddau eu hunain a phan na fydd gan sefydliadau gyllid digonol i dalu’r atebolrwydd o 20%, y byddwn yn gweithredu er budd y cyhoedd ehangach drwy ddyfarnu Rhyddhad Caledi. Hyd yma, yn seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan sefydliadau amrywiol, ychydig iawn o achosion sydd wedi’u profi a fyddai’n cyflawni’r prawf caledi.
Mae’r cynllun Caledi yn parhau i fod ar agor, ac rydym yn annog sefydliadau i siarad â’r gwasanaeth Ardrethi Busnes os ydynt am wneud cais am y tro cyntaf (neu ail-gyflwyno cais, hyd yn oed os bu’r cais blaenorol yn aflwyddiannus).”
Manteisiodd y Cynghorydd Carver ar y cyfle i holi cwestiwn ategol:
“Allwch chi ddarparu dadansoddiad o’r ffigurau o’r chwe chais caledi, gan gynnwys yr un a dderbyniodd ryddhad caledi?” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton y byddai’n bosibl cael gafael ar y wybodaeth ac y byddai’n cael ei hanfon at y Cynghorydd Carver.
Cynghorydd Arnold Woolley:
“A yw’r awdurdod yn ymwybodol o’r nifer o dai yn y Sir, sydd wedi bod yn wag/heb eu defnyddio’n barhaus am o leiaf chwe mis a faint o’r tai o’r fath y mae’r awdurdod wedi delio â hwy gan ddefnyddio’r pwerau presennol sydd ar gael, er mwyn dechrau gwneud defnydd pwrpasol ohonynt unwaith eto.”
Ateb:
Mae yna 800 o gartrefi sydd wedi bod yn wag yn yr hirdymor yn y Sir.
Mae gan y Cyngor nifer o strategaethau ar waith i ddechrau ail-ddefnyddio cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddechrau ail-ddefnyddio’r eiddo hyn yw defnyddio’r system Drethiant Leol i gymell perchenogion i ganolbwyntio ar gael pobl yn byw yn eu heiddo unwaith eto.
Cymeradwyodd y Cyngor llawn argymhelliad y cabinet i gyflwyno cynllun Premiwm y Dreth Gyngor ym mis Ebrill 2017, sydd bellach yn gosod tâl 50% ychwanegol ar berchnogion eiddo gwag hirdymor, yn ogystal ag ar ail gartrefi.
Tua’r adeg y cyflwynwyd y cynllun Premiwm y Dreth Gyngor, gofynnwyd i swyddogion ysgrifennu at berchnogion pob eiddo gwag hirdymor er mwyn hybu mynediad at wasanaethau eraill y Cyngor, a allai helpu i wneud defnydd o’r newydd o ... view the full Cofnodion text for item 85. |
|
Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ôl datgan cysylltiad yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr Allport a Woolley yr ystafell.
Derbyniwyd un Hysbysiad o Gynnig:
Cynghorydd Hilary McGuill:
“Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i ail-gyflwyno’r rhyddhad ardrethi busnes 100% ar gytiau sgowtiaid ar gyfer sefydliadau sgowtiaid yn Sir y Fflint sy’n berchen ar ac sy’n rheoli eu pencadlys sgowtiaid”.
Wrth siarad am ei Hysbysiad o Gynnig, dywedodd y Cynghorydd McGuill ei bod yn teimlo’n sicr nad oedd y Cyngor, wrth gymeradwyo’r cynnig i ddileu’r ychwanegiad o 20% o Ryddhad Ardrethi Dewisol i sefydliadau gwirfoddol ddwy flynedd yn flaenorol, yn sylweddoli y byddai hyn yn effeithio ar grwpiau sgowtiaid. Dywedodd, wrth gymharu, nad oedd rhai busnesau bach yn talu unrhyw ardrethi oherwydd eu gwerth ardrethol, gan ychwanegu nad oedd y sgowtiaid yn fusnes. Credai y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu 100% o ryddhad ardrethi i grwpiau sgowtiaid yn yr un modd ag y gwneir i addoldai. Darparwyd manylion o’r effaith ariannol y byddai hyn yn ei chael ar grwpiau ac er bod hyn yn sylweddol i’r grwpiau unigol, nid oedd yn bwysau arwyddocaol ar gyllideb y Cyngor.
Cafodd yr Hysbysiad o Gynnig ei eilio gan y Cynghorydd Tudor Jones.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill am bleidlais wedi’i chofnodi.
Rhoddodd y Cynghorydd Aaron Shotton hysbysiad o ddiwygiad a ddosbarthwyd i’r Aelodau, sef:
“Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i ail-gyflwyno’r rhyddhad ardrethi busnes 100% ar yr holl sefydliadau cymunedol lleol sydd ag eiddo o dan y gwerth ardrethol o £6,000. Dyma yw’r trothwy a bennwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn i fusnesau bach fod yn gymwys am y rhyddhad ardrethi busnes llawn”.
Wrth drafod ei ddiwygiad, dywedodd y Cynghorydd Shotton bod y penderfyniad a gymerwyd gan y Cyngor i ddiddymu’r rhyddhad ardrethi dewisol o %20 wedi’i gefnogi ar draws y siambr. Fodd bynnag, roedd yn cytuno â’r Cynghorydd McGuill y dylai cynlluniau cenedlaethol gael eu hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, cynigiodd y diwygiad a dywedodd bod anghysondeb mewn cysylltiad â grwpiau gwirfoddol sydd â gwerth ardrethol o dan £6,000 am nad ydynt yn gwneud elw ac ni ddylent dalu’r 20% ychwanegol. Roedd hyn yn gyfle i’r Cyngor ail-ddatgan eu penderfyniad. Wrth ddarllen ei ddiwygiad, dywedodd bod hyn yn darparu ymrwymiad i fynd i’r afael â’r Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol a hefyd i helpu grwpiau cymunedol eraill yn y sir. Awgrymodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20fed Chwefror 2018 gyda manylion cynllun ymarferol.
Gofynnodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) a oedd y Cynghorydd McGuill yn derbyn y diwygiad i’r Hysbysiad o Gynnig. Mynegodd bryder nad oedd y diwygiad o bosibl yn cwmpasu pob gr?p sgowtiaid oherwydd gallai rhai ohonynt fod â gwerth ardrethol o fwy na £6,000. Dywedodd y Rheolwr Refeniw ei fod yn credu y byddai’r rhan fwyaf, os nad pob un, o’r 13 gr?p sgowtiaid yn gymwys ar gyfer y swm ychwanegol. Yna gofynnodd y Cynghorwyr McGuill a Richard Jones a fyddai’n bosibl ailddatgan y 20% ar unwaith i’r rhai a ... view the full Cofnodion text for item 86. |
|
Camau Un a Dau o Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19 a Chynllunio ar gyfer Cau Cam Tri PDF 152 KB Pwrpas: Cymeradwyo diweddu Camau 1 a 2 o’r broses i bennu cyllideb, yn dilyn trefn briodol Trosolwg a Chraffu, a nodi’r gofynion cyllidebol sy’n weddill ar gyfer y trydydd a’r pedwerydd cam i gyflawni cyllideb gytbwys. Bydd Cam 3 o’r broses gyllideb yn cael ei adrodd wrth y Cyngor ym mis Chwefror. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gamau Un a Dau Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 a’r adroddiad Cynllunio ar gyfer Diwedd Cam Tri. Wedi’i ategu i’r adroddiad oedd opsiynau effeithlonrwydd Cam Un, opsiynau effeithlonrwydd Cam Dau wedi’u cadarnhau, crynodeb o’r asesiad o’r effaith a phwysau ac effeithlonrwydd costau newydd. Dosbarthwyd fersiwn diwygiedig o atodiad 3, crynodeb o’r asesiad o’r effaith.
Darparwyd diweddariad o gynigion cyllideb Cam Un a oedd yn cynnwys y taliadau gwastraff ac integreiddio’r Gwasanaeth Cerddoriaeth a’r Tîm Datblygu’r Celfyddydau gyda Theatr Clwyd. Yr eitemau a oedd yn weddill i’w datrys o gynigion cyllideb Cam Dau oedd cyllid ysgolion, taliadau meysydd parcio cyhoeddus a’r cynnydd yn y Dreth Gyngor. Wrth drafod un arbediad posibl o gyllideb GwE o 3%, fe esboniodd mai’r canlyniad gorau ar y cyd a negodwyd oedd gostyngiad o 1% mewn cyfraniadau. Fodd bynnag, gyda’r pwysau chwyddiant, nid oedd y gostyngiad o 1% yn arbed unrhyw gyllid i’r Cyngor mewn termau real. Roedd y gyllideb tymor hwy ar gyfer GwE yn destun adolygiad yn awr cyn 2019/20.
Darparwyd manylion hefyd ar dri chais am gefnogaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar yr uchafswm tâl ar gyfer costau gofal cartref, parhad gwarantedig cyllid y Gronfa Gofal Canolraddol a chadw cyfran o’r cyfraniadau Ardoll Treth Prentisiaid.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol grynodeb o effaith canlyniadau hysbys Camau Un a Dau a oedd wedi arwain at fwlch gweddilliol o £5.9 miliwn.
O ran y Dreth Gyngor, esboniodd y Prif Weithredwr bod yr opsiynau wedi’u rhannu gyda’r Aelodau, a’u bod yn amrywio o gynnydd o rhwng 3% a 5%. Roedd y Setliad Terfynol gan Lywodraeth Cymru wedi pennu’r Asesiad Gwariant Safonol o £264.333 miliwn ar gyfer Sir y Fflint; Byddai ariannu Sir y Fflint ar yr Asesiad Gwariant Safonol ac i wneud y mwyaf o’i incwm trethiant lleol yn erbyn y targed tybiannol hwnnw yn galw am gynnydd o 6.71% i’r Dreth Gyngor. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod gan gynghorau yr hyblygrwydd i fynd y tu hwnt i’r ‘cap’ blynyddol blaenorol o gynnydd 5% pe byddai ganddynt ddadl leol gref.
Cronfeydd defnyddiol cyfyngedig sydd gan y Cyngor a nifer o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a oedd yn cynnwys rhai balansau gwasanaeth a oedd wedi’u cario ymlaen i dalu am wariant penodol mewn blwyddyn, a rhai cronfeydd wrth gefn gyda thelerau ac amodau cysylltiedig a oedd yn cyfyngu eu defnydd. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r holl gronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi ac i herio’r rhai nad oeddent wedi’u defnyddio o fewn yr amserlen a nodwyd yn wreiddiol. Byddai angen ad-dalu unrhyw ddefnydd o gronfeydd wrth gefn i falansio cyllideb 2018/19 mewn blwyddyn ddiweddarach.
Esboniodd y Prif Weithredwr un o’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor, sef y dyfarniad cyflog cenedlaethol; roedd y Cyngor wedi cyllidebu ar gyfer dyfarniad cyflog blynyddol o 1% yn ei ragolygon ond roedd Undebau Llafur yn galw am ddyfarniadau uwch. Roedd Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio nad oedd unrhyw arian ar gael i gyflawni dyfarniadau cyflog cenedlaethol uwch na’r rhagolygon ac roedd yn disgwyl i Lywodraeth y ... view the full Cofnodion text for item 87. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18 PDF 114 KB Pwrpas: Cyflwyno i’r Aelodau yr Adroddiad Hanner Blwyddyn Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18 i’w gymeradwyo.
Cafodd yr adroddiad hwn ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 22ain Tachwedd 2017 lle cafodd ei gymeradwyo i’r Cabinet. Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad ar 19eg Rhagfyr 2017 a chafodd ei gymeradwyo i’w argymell i’r Cyngor Sir.
Roedd newidiadau rheoleiddiol yn dod i rym yn y dyfodol agos, gyda’r prif newid yn digwydd i’r MiFID II (yr ail Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol) a fyddai’n dod i rym ar 3ydd Ionawr 2018. Mae MiFID II yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael eu categoreiddio gan wasanaethau ariannol rheoledig fel cleientiaid cadw diofyn a allai “ddewis” bod yn gleientiaid proffesiynol, os byddant yn cyflawni meini prawf penodol.
Roedd y Cyngor wedi’i ddosbarthu fel cleient proffesiynol. Er mwyn “dewis” a pharhau ei statws, mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal balans buddsoddi o £10 miliwn o leiaf, a bod gan yr unigolyn a awdurdodwyd i wneud penderfyniadau buddsoddi o leiaf un flwyddyn o brofiad perthnasol. Roedd swyddogion wedi ystyried yr effeithiau gwahanol o barhau i fod yn gleient proffesiynol neu newid i gleient manwerthu, ac argymhellwyd y dylai’r Cyngor gadw ei statws MiFID o gleient proffesiynol er mwyn parhau i reoli gweithgareddau rheoli trysorlys dyddiol y Cyngor, fel ar hyn o bryd.
PENDERFYNIAD:
(a) Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18; a
(b) Cymeradwyo’r penderfyniad i ‘ddewis’ statws cleient proffesiynol gan gwmnïau gwasanaethau ariannol rheoledig o ganlyniad i’r ail Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Statudol (MiFID II). Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i barhau i reoli ei weithgareddau rheoli trysorlys, fel ar hyn o bryd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg a 52 aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |