Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / Sharon Thomas / 01352 702322 / 702324 

Nodyn: Special Meeting 

Eitemau
Rhif eitem

62.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Mike Peers yn datgan cysylltiad yn eitem 3 ar yr Agenda - Strategaeth Cludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint, fel Cadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Mountain Lane.

 

            Y Cynghorydd Paul Shotton yn datgan cysylltiad yn eitem 3 ar yr Agenda - Strategaeth Cludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint, fel Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Bryn Deva ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.

63.

Strategaeth Trafnidiaeth Integredig Sir y Fflint pdf icon PDF 500 KB

Pwrpas:        Derbyn trosolwg o’r datblygiadau presennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint a gyflwynwyd diwethaf i’r Cabinet yn 2018.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Strategaeth Priffyrdd gyflwyniad ar y cyd oedd yn delio â’r meysydd canlynol:-

 

·         Hierarchaeth Cludiant yng Nghymru;

·         Nodau ac Amcanion

·         Ateb Cwbl Integredig;

·         Blaenoriaethau Allweddol Sir y Fflint; a’r

·         Allwedd i Lwyddiant

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am eu gwaith yn llunio’r Strategaeth Cludiant Integredig, dyma sylw a gefnogwyd gan nifer o Aelodau’r Pwyllgor.  Cafwyd manylion o’r mentrau a gyflwynwyd yng Nghei Connah, yn cynnwys y groesfan newydd i gerddwyr ar Ffordd yr Wyddgrug a’r gwelliannau i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy a gafodd eu croesawu.  Gofynnodd am sicrwydd ynghylch amlder a diogelwch y rhwydwaith bws wrth symud ymlaen i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i gyflogaeth ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

Wrth ymateb i’w gwestiwn fe groesawodd y Cynghorydd Dave Wisinger y wybodaeth a ddarparodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyflwyno llwybr beicio o’r Wyddgrug i Airbus a fyddai’n cysylltu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac yn cynnwys Queensferry a Sandycroft.

 

Croesawodd y Cynghorydd Chris Dolphin y gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu gwasanaethau bws mewn ardaloedd gwledig.  Mynegodd ei bryderon ynghylch Trafnidiaeth Cymru yn lleihau amseroedd ac amlder gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru ond fe groesawodd y sylwadau gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet fod adborth a chynrychiolaeth ar y pryderon hyn yn cael eu gwneud gan y Cyngor.  Fe groesawodd y mesurau diogelwch arfaethedig ar gyfer Well Hill, Treffynnon.  Mewn ymateb i’w gais ar ddiweddaru’r amserlenni bysiau mewn gorsafoedd bysiau ar draws Sir y Fflint fe sicrhaodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ei fod yn y broses o gael ei ddiweddaru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans am eglurhad ar y union leoliad i bobl gael mynediad i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy.  Eglurodd y Prif Swyddog fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau man codi/gollwng ar gyfer Gwasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy ar Ffordd Tata Steel. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas y byddai wedi hoffi gweld cyfeiriad at drydaneiddio’r llinell rheilffordd yn y Strategaeth gan dynnu sylw hefyd at y gwyriadau rheolaidd yn eu lle oherwydd achosion ar yr A55 a oedd yn ei farn ef yn cael effaith andwyol ar rwydwaith y Sir.  Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar fannau cyfyng yn dilyn gwyriadau o’r A55 ond fe sicrhaodd yr Aelodau fod y Cyngor yn edrych am gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith gwelliannau o ganlyniad i ddefnydd ychwanegol o rwydwaith y Sir.

 

Mynegodd y Cynghorydd George Hardcastle ei bryderon am y cynigion i gyflwyno llwybr beics ar hyd Aston Hill a’r diffyg ymgynghoriad a fu gydag Aelodau Lleol.  Roedd ganddo bryderon diogelwch os oedd y llwybr beicio ddim yn cynnwys rhwystrau diogelwch.  Cytunodd y Prif Swyddog i drafod hyn gyda’r Cynghorydd Hardcastle ar ôl y cyfarfod.

 

Trafododd y Cynghorydd Mike Peers nodau ac  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

Adennill Costau yn Dilyn Difrod i’r Rhwydwaith Priffyrdd pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Hysbysu Craffu o’r broses i adennill costau yn dilyn difrod i’r rhwydwaith priffyrdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd ynghlwm â’r costau adennill gan y Cyngor ac i roi sicrwydd fod gweithdrefnau wedi cytuno arnynt yn cael eu dilyn.  Gofynnwyd yn rheolaidd i’r gwasanaeth Strydwedd a Chludiant i roi sylw i ddamweiniau traffig ac achosion eraill i glirio gweddillion neu drwsio’r cerbytffordd pan fydd damweiniau neu achosion yn digwydd ar y rhwydwaith priffyrdd.  Ar yr achosion hynny mae’r tîm rhwydwaith priffyrdd yn edrych i gofnodi costau ac i adnabod y rheiny sydd yn gyfrifol am achosion drwy weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn ceisio adennill costau gan yr unigolion neu eu hyswirwyr.

 

Mae’r maes gwasanaeth wedi gofyn am archwiliad mewnol diweddar o’r prosesau sydd yn eu lle fel rhan o’r rhaglen archwiliad mewnol rhestredig.  Cynhaliwyd yr archwiliad yn Hydref 2019 a nodwyd bod y gweithdrefnau ysgrifenedig yn eu lle yn dderbyniol ac yn ymdrin â’r prosesau ar gyfer adennill costau ar gyfer gwaith ailgodi tâl.  Fodd bynnag, dyma’r archwiliad mewnol yn nodi nad oedd y rhain yn cael eu dilyn yn gyson ac roedd anghywirdeb yn amlwg yn y wybodaeth wedi’i gofnodi yn erbyn yr hawliau a gynhelir.  Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud gan y maes gwasanaeth ers yr adroddiad archwiliad i adfywio’r broses ac ymateb i’r meysydd wedi’u hadnabod ar gyfer gwelliant, a oedd wedi’u manylu yn yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod y maes gwasanaeth ar hyn o bryd ddim yn dilyn i fyny ar adennill costau ar gyfer achosion sydd yn cynnwys marwolaethau oherwydd sensitifrwydd gweithred o’r fath.  Cost yr achosion yn aml yn uchel a gallai ffyrdd aros ar gau am nifer o oriau i alluogi’r Heddlu i archwilio’r achos.  Gofynnodd i’r Pwyllgor i ystyried p’un ai y teimlwyd y dylid ystyried adennill y costau hyn yn y dyfodol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans os oedd y Cyngor yn llwyddiannus mewn adennill y costau llawn gan gwmnïau yswiriant a hefyd os oedd y cyfraddau tâl gan gwmnïau yswiriant yn cyd-fynd ag awdurdodau cyfagos.  Eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod cwmnïau yswiriant yn aml yn trafod y costau i’w dyrannu a hefyd yn herio bywyd ased oedd wedi’i ddifrodi.  Mewn rhai achosion roedd yn hanfodol i ddileu’r ddyled a byddai’r rhaid i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gytuno i wneud hynny fel y Swyddog Adran 151.  Mae’r Awdurdod Priffyrdd yn Lloegr wedi treialu cyfradd sefydlog o dâl ar draws yr awdurdodau lleol ond cefnwyd ar hynny oherwydd diffyg cytuno ar y cyfraddau sefydlog. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Owen Thomas ynghylch yr archwiliadau ar y rhwydwaith priffyrdd a’r anawsterau yn adennill costau o achosion lle mae cerbydau wedi difrodi gwrychoedd, fe eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y broses ar gyfer archwilio’r rhwydwaith priffyrdd yn dilyn y gwaith wedi’i wneud gan y cwmnïau cyfleustodau.  Fe eglurodd hefyd nad oedd yn bosib i’r Cyngor rannu gwybodaeth wedi’i dderbyn trwy’r DVLA gydag unrhyw un arall, ond fe gytunodd i siarad â’r  ...  view the full Cofnodion text for item 64.

65.

Storfeydd Depo Alltami pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Hysbysu Craffu o’r rheolyddion sydd mewn lle i reoli’r storfa depo yn Alltami.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth adroddiad i roi sicrwydd ynghylch rheolaeth ar gyfer storfeydd yn nepo Alltami.  Mae storfeydd depo Alltami yn gyfrifol am storio holl eitemau stoc a deunyddiau a ddefnyddir yn y depo yn ddiogel a saff, yn ogystal â sicrhau fod yr holl beiriannau ac offer y mae’r gwasanaeth yn ei defnyddio yn cael ei gweithredu, archwilio a’i gwasanaethu yn unol ag amserlenni wedi’u cynllunio a gofynion cyfreithiol.

 

Cyflawnwyd archwiliadau mewnol o’r storfeydd depo yng Ngorffennaf 2016 gydag archwiliad dilynol ym Mai 2019.  Y darganfyddiadau cyffredinol o’r archwiliadau oedd bod y rheolaeth a weithredwyd ar yr amser hynny yn rhoi rhyw sicrwydd bod y risgiau allweddol yn cael eu rheoli yn effeithiol ond bod mwy y gellir ei wneud.  Adroddodd y rheolwr Darparu Gwasanaeth ar y system storfeydd newydd yn ei le, fel y manylir yn yr adroddiad yn egluro bod tîm prosiect darparu yn cael ei sefydlu i fonitro’r gwaith o ddarparu’r system, a byddai’n cael ei adrodd arno yn fisol yng nghyfarfodydd yr Uwch Dîm Rheoli.     

 

Wrth ymateb i gais gan y Cadeirydd, fe ddywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod copi o’r adroddiad archwiliad ar gael i Aelodau o’r Pwyllgor.  Fe gynghorodd hefyd bod canmoliaeth wedi bod i’r gwasanaeth ar y lefel o wybodaeth a ddarparwyd yn ystod archwiliad iechyd a diogelwch yn ddiweddar.

 

Dyma’r Cynghorydd Mike Peers yn diolch i’r swyddogion am yr adroddiad.  Tynnodd sylw at yr eitemau stoc a’r deunyddiau darfodedig wedi’u storio yn y depo a gofynnodd p’un ai fyddai’r gwasanaeth yn adennill y costau’n llawn ar unrhyw eitemau a fyddai’n cael eu hanfon i’r arwerthwr  a p’un ai fyddai’r arian a wneir yn cael ei roi yn ôl i’r gwasanaeth.  Mynegodd ei bryderon am y diffyg systemau yn eu lle er mwyn dychwelyd eitemau stoc heb eu defnyddio ac fe ofynnodd pam ei bod wedi cymryd 3 mlynedd i gael archwiliad dilynol.  Gofynnodd beth oedd y gost i’r gwasanaeth o ran staff asiantaeth ddim yn dychwelyd dillad priodol ar ddiwedd eu cyflogaeth ac fe fynegodd ei bryder ar yr ysgolion faniau oedd wedi eu prynu yn y gorffennol gan yr Adran Dai a’i storio yn y depo gan ofyn a oedd yn dyblygu mewn costau os nad oedden wedi cael eu symud am nifer o flynyddoedd.

 

Ymatebodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth drwy ddweud bod stoc ddarfodedig fel hen lusernau a rhwystrau diogelwch ddim yn gallu cael eu defnyddio yn rhywle arall, roedden nhw wedi mynd i’r arwerthiant a byddai costau llawn ar yr eitemau yn cael eu hadennill.  Roedd yr arian yn mynd yn ôl i’r gwasanaeth strydwedd.  Nid oedd yn ymwybodol o’r rheswm pam fod yr archwiliad dilynol wedi cymryd 3 blynedd i’w wneud ond byddai’n gallu tynnu eu sylw nhw at hynny ar ôl y cyfarfod.  Mewn perthynas â’r gost o ddillad heb eu dychwelyd fe eglurodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth fod y gost heb gael ei ystyried fel rhan o’r archwiliad.    

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Peers, fe gytunodd y Prif Swyddog i  ...  view the full Cofnodion text for item 65.

66.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.