Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

32.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:          I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim

33.

Cofnodion pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 17 Medi  a 15 Hydref 2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Medi a 15 Hydref 2019.

 

Cynigiodd y Cynghorydd George Hardcastle bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

 

34.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol  presennol ac amlinellwyd yr eitemau a restrwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor i’w gynnal ar 10 Rhagfyr.     

 

 

Roedd yr Hwylusydd hefyd yn cyfeirio at y camau oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol oedd ynghlwm i’r adroddiad ac adroddwyd ar gynnydd wrth eu cwblhau.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

35.

Adolygu’r Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol y Cyngor pdf icon PDF 300 KB

Pwrpas:        I geisio argymhelliad y Pwyllgor Craffu i’r Cabinet i gymeradwyo’r Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol diwygiedig.  Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod Polisi’r Awdurdod, ‘Rheoli’r Amgylchedd Lleol’ oedd ynghlwm i’r adroddiad wedi’i adolygu i adlewyrchu’r amrywiol newidiadau i drefniadau Portffolio a deddfwriaeth ers 2013.  

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio yn cyflwyno’r prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad ac yn cyfeirio at nod ac amcanion y Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol a’r prif feysydd ffocws.  Roedd hefyd yn tynnu sylw at y data a ddarparwyd ar y nifer o Rybuddion Cosb Benodedig a gyflwynwyd ac eglurodd y bu gostyngiad yn y defnydd o Rybuddion Cosb Benodedig a rhoddwyd mwy o bwyslais ar addysgu’r cyhoedd ar effeithiau niweidiol baw c?n a thaflu sbwriel.    

 

Roedd aelodau yn codi nifer o bryderon am barcio y tu allan i’r ysgol ac mewn ardaloedd preswyl preifat, troliau siopa wedi eu gadael, tipio anghyfreithlon, gwastraff masnachol a safle, baw c?n, offer cyffuriau wedi eu gwaredu a choed/gwrychoedd wedi gordyfu.   Roedd swyddogion yn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd.   Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau gyflwyno’r pryderon penodol a godwyd yngl?n â materion yn eu Ward yn ysgrifenedig i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) ar gyfer ymateb manwl a chopi i’r Cadeirydd.    Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio i Aelodau gysylltu â’r Tîm Gorfodaeth i amlygu unrhyw feysydd oedd yn achosi problem yn eu Ward oedd angen mwy o sylw.    

 

Diolchodd y Cynghorydd Sean Bibby i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwelliant i’r gwasanaethau yn ei ward.

 

Ar gais y Cadeirydd, cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog yn anfon copi o Bolisi Gorfodaeth Amgylcheddol yr Awdurdod ‘Rheoli’r Amgylchedd Lleol’ i holl Gynghorau Tref a Chymuned er gwybodaeth.  Roedd y Cadeirydd hefyd yn gofyn i ddatganiad cyllideb gael ei ddarparu i’r Pwyllgor yn manylu cost darparu Gorfodaeth Amgylcheddol yn y Sir.   Cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu datganiad cyllideb i Aelodau’r Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet yr adolygiadau arfaethedig i Bolisi Gorfodaeth Amgylcheddol y Cyngor fel Atodiad 1 i’r adroddiad.    

 

36.

Adroddiad Tir Halogedig pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar yr asesiad o safleoedd tir halogedig ac yn dilyn y gwaith adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar asesiad o safleoedd tir halogedig ac yn dilyn gwaith adferiad   Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yr Awdurdod wedi’i ddiweddaru  yn 2019 i adlewyrchu cyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau newydd sy’n effeithio ar bolisïau corfforaethol ehangach a sut y dylid ystyried halogiad tir.  Mae’r adroddiad yn cynnwys y gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-19 ac mae’n crynhoi’r nifer a math sylweddol o safleoedd a aseswyd o ganlyniad i Ran 2A.  

 

 Dywedodd y Rheolwr Diogelu’r Gymuned a Busnes fod gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i nodi ac asesu unrhyw dir o fewn Sir y Fflint y gall halogiad effeithio arno a sicrhau adferiad tir halogedig yn unol â Rhan 2A o’r Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  Eglurodd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud mewn perthynas â’r Strategaeth Archwilio Tir halogedig ac roedd crynodeb o gamau Rhan 2A yn yr atodiad gyda’r adroddiad.   

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton yngl?n â goblygiadau adnoddau, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) fod gan yr Awdurdod gyllideb refeniw blynyddol i gyllido’r asesiadau a gynhelir o fewn y Gyllideb Rheoli Llygredd.  Roedd cyllid cyfalaf hefyd wedi’i osod ar wahân i’r rhaglen gyfalaf i ariannu costau unrhyw waith adferiad angenrheidiol ar unrhyw safle ble roedd angen gwneud gwaith o’r fath.    Roedd arian cyfalaf £1miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 a gwahoddwyd ceisiadau cystadleuol am arian gan awdurdodau lleol yng Nghymru.    Roedd yr Awdurdod wedi cyflwyno pedwar cais a dyfarnwyd £221,268.00.  Byddai ceisiadau am arian yn parhau wrth i fwy o arian ddod ar gael gan Lywodraeth Cymru.    

 

            Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau roi’r pryderon penodol a godwyd yngl?n â materion tir halogedig yn eu Ward yn ysgrifenedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) ar gyfer ymateb manwl a chopi i’r Cadeirydd.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd a wnaed yn mynd i’r afael â thir halogedig hanesyddol yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod cynnydd Strategaeth Archwilio Tir Halogedig Cyngor Sir y Fflint yn cael ei gefnogi.

 

 

37.

Adroddiad Cynllun y Cyngor 2019/20 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 294 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a oedd yn cyflwyno crynodeb o’r perfformiad ar y pwynt canol blwyddyn yn 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Gwyrdd’, ‘Cyngor Uchelgeisiol’ a ‘Chyngor Diogel a Glân’ sydd yn berthnasol i’r Pwyllgor. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn adroddiad cadarnhaol, gydag 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 90% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd.  Roedd 77% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau.  Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 14% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol. 

 

Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y Cynghorydd Paul Shotton yn ymwneud â’r angen i gael mynediad i bwyntiau E-wefru mewn lleoliadau ar draws y sir, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod adroddiad ar ymateb y Cyngor i’r her o newid hinsawdd a chyflawni niwtraliaeth carbon erbyn 2030 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Rhagfyr.  Eglurodd fod gwaith hefyd wedi’i wneud gyda Llywodraeth Cymru a’r Grid Cenedlaethol yngl?n â ffurfiau eraill o gyflenwad p?er fel hydrogen.  Dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn cael mynediad i’r arian grant oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru ac yn genedlaethol i gefnogi’r broses.      

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joe Johnson yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ray Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad. 

 

38.

Adolygu’r Polisi Goleuadau Stryd pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        I geisio argymhelliad i’r Cabinet i gymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet i gymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig.

                       

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Polisi Goleuadau Stryd presennol wedi’i gymeradwyo yn 2015, fodd bynnag, bu datblygiadau sylweddol o ran dewisiadau rhad-ar-ynni a gwelliannau o ran effeithiolrwydd offer trydanol a bellach roedd angen adolygu’r polisi.  Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd i gyflwyno’r adroddiad.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd adroddiad ar ystyriaethau allweddol, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a thynnodd sylw i’r prif newidiadau i’r Polisi yn ymwneud ag archwiliadau min nos, archwiliadau a drefnwyd a phrofion trydanol.   Roedd Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig (Hydref 2019) ynghlwm i’r adroddiad.   

 

Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn mynegi pryderon am oleuadau stryd ar ddatblygiadau preswyl heb eu mabwysiadu.   Ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a godwyd yngl?n â cheisiadau cynllunio, mabwysiadu i berchnogaeth awdurdod lleol a gorfodaeth.  Roedd Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd yn tynnu sylw at dudalen 145 o’r adroddiad oedd yn cyfeirio at fabwysiadu’r rhestr eiddo goleuadau stryd.    Roedd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad yn cydnabod y pwyntiau a godwyd a dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygiadau preswyl heb eu mabwysiadu.

 

Roedd aelodau yn diolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwelliannau i oleuadau stryd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Ray Hughes yn ymwneud â goleuadau mewn ardaloedd chwarae yn ystod misoedd y gaeaf, dywedodd y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd y byddai’r Cyngor Tref/Cymuned angen cyflwyno cais i’r Awdurdod ei ystyried i ddechrau.    

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd George Hardcastle ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig, fel yn Atodiad 1 i’r adroddiad a nodi’r materion a godwyd gan Aelodau; a

 

(b)       Bod yr adroddiad ar y ddeddfwriaeth yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).  

 

39.

Diweddariad ar y Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir.   Dywedodd fod y swyddogaeth mwynau a chynllunio gwastraff yn gweithio fel gwasanaeth ar y cyd ar draws Gogledd Cymru.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi diben a swyddogaeth y gwasanaeth ac yn egluro’r cynigion llywodraethu a chyllido ar gyfer parhad y gwasanaeth.   

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndir a chyd-destun a gwahoddodd yr Arweinydd Tîm Mwynau i gyflwyno’r prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi diben, trefniadau cyllid a llywodraethu ar gyfer

parhau i gefnogi Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir.

 

40.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.