Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parc Treftadaeth Amgueddfa Dyffryn Maes Glas, Ffordd Maes Glas, Treffynnon CH8 7GH

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Nodyn: Nodwch y lleoliad 

Eitemau
Rhif eitem

24.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:          I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

25.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried.

 

                        Mewn ymateb i bwynt a godwyd am berygl llifogydd a newid hinsawdd gan y Cynghorydd Hinds, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) y gellid dod ag adroddiad gerbron y pwyllgor ym mis Rhagfyr.

 

                        Nododd yr Aelodau eu bod yn dymuno ystyried adroddiad am flodau gwyllt ar leiniau glas mewn cyfarfod yn y dyfodol hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

26.

Ddyffryn Maes Glas - Adroddiad Cynnydd bob Chwe Mis pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Diweddariad 6 mis ar y gwaith a gyflawnwyd i ddarparu argymhellion yr archwiliad a’r sefyllfa weithredol bresennol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad cynnydd chwe mis am Ddyffryn Maes Glas a chadarnhaodd bod y Cytundeb Rheoli wedi cael ei gytuno rhwng Cyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas ym mis Awst.  Rhoddodd wahoddiad i’r Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Cyflwynodd Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad y pwyntiau allweddol o’r 6 mis diwethaf am y gwaith a gynhaliwyd yn Nyffryn Maes Glas. Sef:

 

·                Rheoli’r Safle

·                Cronfa Dreftadaeth Y Loteri

·                Llwybr Teithio Llesol

·                Gwirfoddoli

·                Larwm Tân / Gwaith trydanol

·                Asesiad Iechyd a Diogelwch

·                Y Faner Werdd

 

Yna, dangosodd Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad fideo byr o’r parc a rhoddodd adroddiad am y cynnydd cadarnhaol yr oedd Dyffryn Maes Glas wedi’i gael drwy’r elfennau a ganlyn:

 

·                Gwaith Hyrwyddo

·                Y Cyfryngau Cymdeithasol

·                Digwyddiadau

 

                        Croesawodd Gadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas y berthynas gadarnhaol newydd rhwng y ddau sefydliad a chanmolodd y tîm am eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf. Roedd hi’n cyfaddef y gallai pethau fynd o’i le ond gyda gwaith tîm gwych, roedd posib datrys problemau’n sydyn iawn ac roedd pethau’n dechrau symud yn eu blaen bellach.

 

                        Cododd y Cynghorydd Johnson bryder am dipio anghyfreithlon a chytunodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad i roi gwybodaeth ar Facebook, ynghyd â’r fideo a ddangoswyd yn y Pwyllgor.

 

                        Cwestiynodd Owen Thomas o lle oedden nhw’n cael eu trydan, o gofio faint o dd?r sy’n llifo ger y Parc.Cadarnhaodd Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad nad oedd y rhan trydan wedi’i orffen eto ond nad oedd yr olwyn dd?r yn gweithio eto. Cadarnhaodd bod gwaith ar y gweill gyda'r prosiect ac roedd hyn yn cael blaenoriaeth.

 

                        Roedd yr Aelodau’n canmol yr hyn oedd wedi cael ei wneud yn y 6 mis diwethaf ac roedden nhw eisiau iddyn barhau i hyrwyddo’r Ganolfan Treftadaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton y gallai fod o fantais i gysylltu â gwestai a meysydd carafanau lleol hefyd. Wrth ymateb i hyn, cadarnhaodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad bod taflenni eisoes wedi cael eu rhoi i westai a meysydd carafanau lleol ac roedd llawer yn ymweld â’r Ganolfan – rhai cyn belled i ffwrdd â Birmingham.

 

                        Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd cadarnhaol sydd wedi cael ei gyflawni yn Nyffryn Maes Glas.

27.

Ymgynghoriad Adolygu'r Strategaeth Gwastraff pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ystyried yr adroddiad, roedd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad eisiau cynghori’r Pwyllgor bod Sir y Fflint yn perfformio’n dda ar ailgylchu ac yn uwch na thargedau gan mai Sir y Fflint yw’r trydydd gorau yng Nghymru ac mae Cymru yw’r trydydd gorau yn y byd.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) gefndir yr adroddiad a gofynnodd i’r Pwyllgor am eu adborth am yr ymgynghoriad 6 wythnos am ailgylchu ac y byddai’n dod yn ôl gyda’r canlyniadau unwaith roedd yr ymgynghoriad wedi’i gwblhau.  Cyflwynodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth a roddodd wybodaeth am y materion a ganlyn:

 

·                     Targedau a Pherfformiad Ailgylchu

·                     Yr angen i adolygu’r Targedau Ailgylchu

·                     Adolygiad o’r Strategaeth Gwastraff Cyfredol

 

            Holodd y Cadeirydd pam bod y cyfnod ymgynghori mor fyr gan mai dim ond chwech wythnos o hyd ydoedd. Dywedodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth bod bron i 7,805 o ymatebion wedi cyrraedd yn barod ac roedd yr ymgynghoriad yn parhau ar agor tan 31 Hydref. Byddai’r arolwg electronig yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith dadansoddi ond byddai angen mynd drwy dros 2,000 o sylwadau unigol.

 

            Gofynnwyd cwestiynau am gwael gwared ar gewynnau. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) eu bod yn edrych mewn i hyn a bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn buddsoddi mewn safle ailgylchu cewynnau yng Ngogledd Cymru ond am y tymor byr roedden nhw’n parhau i fynd i Barc Adfer.

           

           Codwyd pryderon am wastraff gweddilliol. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, ar y cyfan, bod gwastraff gweddilliol wedi gostwng oherwydd y cynnydd ym maes gorfodi gwastraff. Ychwanegodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth y byddai gwastraff gweddilliol yn cael ei gasglu ac y byddai sticer yn cael ei roi ar y bin i nodi ei fod wedi cael ei gymryd ond na ddylid cyflwyno gwastraff wrth ochr y bin.  Byddai llythyr yn cael ei anfon hefyd a Rhybudd Cosb Benodedig am droseddau pellach. Cwestiynodd y Cynghorydd Hutchinson pam nad oedd yn cael ei gymryd oherwydd roedd o’n ei weld fel pobl yn bod yn gyfrifol am wastraff, ond rhoddwyd gwybod iddo bod y bag du fel arfer yn cynnwys eitemau y gellid eu hailgylchu.

 

Codwyd maint y biniau ac amlder y casglu hefyd. Dywedodd y Cynghorydd Hardcastle na fyddai pobl h?n yn gallu defnyddio biniau mwy ac awgrymodd y Cynghorydd Dolphin petai biniau’n llai y byddai’n gorfodi pobl i ailgylchu mwy o bosib. Byddai angen i’r biniau fod yn fwy petai casgliadau’n newid i gael eu casglu bob 3-4 wythnos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bibby bod y rhan fwyaf o breswylwyr yn ailgylchu’n dda ac y dylai LlC orfodi gwneuthurwyr i ddefnyddio pecynnau y mae modd eu hailgylchu neu rai sy’n fioddiraddadwy. Dywedodd hefyd bod hi’n anodd cael bocsys a bagiau ailgylchu weithiau. Nid oedd yn cefnogi casgliadau bob 3-4 wythnos ac roedd yn teimlo y dylai’r ffocws fod ar annog pobl i ailgylchu mwy.

 

Roedd aelodau eraill yn cefnogi lobïo LlC a dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Polisi Torri Gwair pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn amlygu amlder torri gwair ar gyfer bob categori fel a ddiffinnir yn y Polisi Torri Gwair cyfredol.Gwahoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i ddarparu trosolwg am y safonau cyfredol. Dywedodd bod y Contractwyr wedi gorfod cael eu defnyddio i gynnal safonau tan ddiwedd mis Medi oherwydd bod adnoddau wedi cael eu hailgyfeirio oherwydd y llifogydd lleol dros yr haf a'r tymheredd uchel yn golygu bod y gwair yn tyfu’n gynt.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Evans faint oedd hi'n gostio i gael gwared ar wair oedd wedi cael ei dorri ar gaeau chwaraeon a chanolfannau pensiynwyr. Pwysleisiodd na ddylid gadael y gwair hwn ar ôl ei dorri ac y dylid cael gwared ohono ac y byddai hynny'n gostwng nifer y cwynion a geir.

 

                        Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffordd y byddai cynnydd o 70% yn y gost petai’r gwair yn cael ei gasglu gan y byddai angen peiriannau ac offer newydd i wneud hynny. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’n adrodd yn ôl ddiwedd Rhagfyr / Ionawr gyda’r ffigyrau.

 

                        Cytunodd y Cynghorydd Hughes gyda’r Cynghorydd Evans a dywedodd bod Leeswood yn bwriadu plannu hadau gwyllt mewn ardaloedd gwyrdd y flwyddyn nesaf fel na fyddai angen torri’r gwair.  Atgoffodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y Pwyllgor bod yr adroddiad yn argymell bod y Cynghorau Tref a Chymuned yn rhoi syniadau ymlaen i’w hystyried ar gyfer plannu blodau gwyllt i’w treialu dewis amgen er mwyn torri’r gwair yn llai aml a chael gwair hirach.

 

                        Rhannodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad luniau o enghreifftiau o lle gellid plannu blodau gwyllt a hynny am bris isel.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Bibby, rhoddwyd eglurhad am y patrwm torri gwair mewn mynwentydd.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Prif Swyddog, y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd a’r Gwasanaeth Strydwedd am y gwaith o dorri gwair oedd wedi cael ei wneud yn Aston.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’n siarad â'r Cynghorydd Hutchinson am broblem oedd wedi codi gyda chontractwr ar ôl y cyfarfod a chytunodd i ddosbarthu gwybodaeth am y Cynllun Plannu Gwirfoddol “Ein Gardd Cefn”.

 

                        Cynigiodd y Cynghorydd Evans bod y penderfyniad yn cael ei ohirio er mwyn gallu ystyried adroddiad am gost gwirioneddol cael gwared ar wair mewn rhai ardaloedd fel canolfannau pensiynwyr, caeau chwarae ysgolion a mannau cymunedol.

 

                        Cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adrodd yn ôl ddiwedd Rhagfyr / Ionawr am y gost. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

                        Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Evans ac eiliwyd nhw gan y Cynghorydd George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn dymuno cael adroddiad pellach gan roi amlinelliad o gost cyflwyno gwaith casglu gwair yn y Polisi Torri Gwair.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo hyrwyddo rhaglen o blannu blodau gwyllt gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned oedd yn dymuno bod yn rhan o’r fenter.

29.

Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r aelodau o ymateb arfaethedig yr Awdurdod i’r Clefyd Coed Ynn a fydd yn effeithio’n sylweddol ar boblogaeth y coed yn sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyniad byr i'r adroddiad yn nodi mai’r pwrpas oedd codi ymwybyddiaeth o’r broblem a oedd yn symud yn gyflymach nag a ddisgwyliwyd a sicrhau bod yr Aelodau’n ymwybodol o’r cynlluniau gweithredu.  Cyflwynodd Reolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad a eglurodd y sefyllfa'n fwy manwl.

 

Eglurodd bod gwaith monitro eleni wedi dangos ei fod bellach yn endemig ledled y sir a bod y clefyd yn debygol o gael gwared ar y rhan fwyaf o’r 24,000 o goed ynn ac y byddai hynny’n cael effaith amgylcheddol sylweddol. Roedd Sir y Fflint yn ffodus bod ganddynt Swyddog Coed penodol (yn wahanol i awdurdodau cyfagos) sydd wedi amlinellu cynlluniau i flaenoriaethu cael gwared ar goed heintiedig o ymyl ffyrdd, ysgolion a lleoliadau cyhoeddus eraill. Ychwanegodd y byddai coed heintiedig nad ydynt ar dir y Cyngor yn broblem fwy.   Dangoswyd lluniau o goed heintiedig i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod perygl ariannol ynghlwm wrth y materion a amlygwyd yn yr adroddiad felly roedd hi wedi codi hyn gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

            Soniodd y Cadeirydd am y pwysigrwydd o gyfathrebu pa mor ddyrys yw'r sefyllfa a thynnodd sylw at ansawdd yr adroddiad ac roedd o’n teimlo y dylai fod ar gael yn ehangach.

 

            Dywedodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad bod angen bod yn ofalus wrth gyfathrebu’n y modd cywir gyda'r cyhoedd i osgoi panig a bod cynllun mewn grym i reoli'r broblem. 

 

            Amlygodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y pwysau ar y gyllideb a nodwyd yn yr adroddiad.   

             

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys y cynllun; a

(b)       Nodi’r risgiau mewn perthynas â’r effaith posib i’r Awdurdod o ran cyllid ac iechyd a diogelwch.

30.

Darpariaeth a Strategaeth Mynwentydd y Dyfodol pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Darparu manylion capasiti claddu yn y dyfodol i’r pwyllgor Craffu a’r estyniadau angenrheidiol i’r mynwentydd presennol o fewn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn ceisio cefnogaeth a gyfer prynu tir i ymestyn Mynwentydd Yr Hôb a Phenarlâg. Hefyd, soniodd bod ymchwiliadau i ddarpariaethau claddu yn y dyfodol mewn Mynwentydd eraill yn y Sir yn cychwyn 4 blynedd cyn y pwynt a ragwelir lle mae’r mynwentydd cyfredol yn llawn.Gwahoddodd y Rheolwr Profedigaeth i ddarparu trosolwg o brif bwyntiau’r adroddiad.

 

                        Mewn perthynas â Mynwentydd Bwcle, nododd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod angen dechrau edrych ar ddatrysiadau oherwydd rhagwelir na fyddai'r ddarpariaeth gyfredol yn para mwy na 9 mlynedd.  Dywedodd y Cynghorydd Hutchinson ei fod o'n teimlo bod angen i'r Cyngor ail-edrych ar rai materion yn y dyfodol mewn perthynas â thir yn ardal Bwcle.Roedd wedi siarad â Ficar Eglwys Bistre a oedd wedi dweud y byddai'n fodlon rhyddhau rhan o’r tir petai’r Cyngor ei angen.

 

                        Mewn perthynas â chwestiynau gan y Cynghorydd Hardcastle, nododd y Rheolwr Profedigaeth bod tir ym Mynwent 2 ym Mhenarlâg yn ymyl gwaelod ochr chwith y fynwent a fyddai’n rhoi 30 mlynedd ychwanegol yn seiliedig ar y gyfradd claddedigaeth gyfredol.

 

                        Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a’r Aelodau Cabinet am eu presenoldeb.

 

                        Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac eiliwyd gan y Cynghorydd Cindy Hinds.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cadeirydd yn cefnogi prynu'r tir a nodwyd i ymestyn Mynwentydd Yr Hôb a Phenarlâg.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell bod ymchwiliadau i ddarpariaethau claddu yn y dyfodol mewn Mynwentydd eraill yn y Sir yn cychwyn 4 blynedd cyn y pwynt a ragwelir lle bo’r mynwentydd cyfredol yn llawn.

31.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.