Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

49.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

50.

Cofnodion pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 11 Rhagfyr 2018 a 15 Ionawr 2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2018 a 15 Ionawr 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

51.

Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Derbyn sylwadau’r Pwyllgor Craffu ar Bapur Gwyn “Gwella Trafnidiaeth GyhoeddusLlywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar Bapur Gwyn Cludiant Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Dywedodd fod LlC wedi cyflwyno Papur Gwyn i ymgynghori arno ym mis Rhagfyr 2018, ar gynlluniau i wella cludiant cyhoeddus yng Nghymru. Pwrpas yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ar gynigion deddfwriaethol LlC ar gyfer ad-drefnu'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, ynghyd â thrwyddedu tacsis a cherbydau preifat eraill.  Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad oedd 27 Mawrth 2019.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog bod 10 cynnig o fewn y Papur Gwyn a oedd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Eglurodd fod cynigion 1 i 6 yn ymwneud â chludiant cyhoeddus a gwahoddodd y Rheolwr Uned Cludiant Integredig a Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio i adrodd ar bob cynnig a'r ymatebion arfaethedig cyffredinol. Roedd cynigion 7 i 10 yn cyfeirio'n benodol at drwyddedu tacsis ac roedd ymateb y Cyngor wedi'i drafod gan y Pwyllgor Trwyddedu. Roedd yr ymateb arfaethedig i’r cwestiynau a oedd yn ymwneud â’r cynigion hyn i’w gweld yn atodiad 1 i’r adroddiad. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bryderon ynghylch y diffyg eglurder o ran cynnig 1 yn yr adroddiad a'r aelodaeth o Awdurdod Cludiant ar y Cyd a threfniadau ariannu. Eglurodd ei bod wedi codi’r materion hyn gyda LlC ac roedd wedi cael gwybod y gallai papur manylach ddod yn fuan. Dywedodd hefyd nad oedd y Papur Gwyn yn crybwyll sut y byddai Trafnidiaeth Cymru’n cyd-fynd â hyn.Ychwanegodd fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn darparu cyllid LlC ar ran awdurdodau eraill Gogledd Cymru, e.e. tocynnau bws a’r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas hefyd at y cynllun lliwiau newydd y byddai Sir y Fflint yn ei roi ar fysiau a chytunodd y Prif Swyddog i anfon gwybodaeth am hyn at aelodau’r Pwyllgor.

Dywedodd y Cynghorydd Joe Johnson ei fod yn gwrthwynebu’r cynnig i gynyddu'r oed i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun tocynnau teithio rhatach gorfodol er mwyn iddo gyd-fynd ag oed pensiwn merched.  Dywedodd y dylai tocynnau bysiau barhau i fod ar gael o 60 oed ymlaen a soniodd am yr angen i leihau’r ôl-troed carbon. Teimlai y gallai’r newidiadau arfaethedig gael effaith negyddol. 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai pobl dan 65 oed a oedd eisoes wedi derbyn tocyn bysiau am ddim yn parhau i fod yn gymwys i'w ddefnyddio.

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at ymatebion awgrymedig yr Awdurdod i Bapur Gwyn LlC ar gludiant, a oedd ynghlwm â'r adroddiad. Gan sôn am gwestiynau 18 a 19 a oedd ill dau wedi'u hateb ag 'Ydw/Ydym', dywedodd nad oedd hyn yn ateb y cwestiynau. Cefnogodd y Cynghorydd Evans y farn y dylai'r oedran i docynnau bws rhatach barhau'n 60.  Roedd yn teimlo y gallai tocynnau teithio rhatach gynnal gwasanaethau bysiau mewn sawl achos, gan awgrymu y gallai newidiadau wneud llwybrau'n anymarferol yn y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at yr ôl-troed carbon a dywedodd nad oedd rhaid i bobl a oedd yn defnyddio gwasanaeth bysiau ddefnyddio eu ceir a chyfeiriodd  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

52.

Llwybrau Peryglus Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor Craffu ynghylch y meini prawf ar gyfer diffinio llwybr ysgol peryglus a diffinio’r llwybrau peryglus sydd yn y sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar y meini prawf i ddiffinio llwybr peryglus ysgol a diffinio llwybrau peryglus i'r ysgol o fewn y sir.  Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Cludiant i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Trafododd y Rheolwr Cludiant y prif ystyriaethau, fel maent wedi’u nodi yn yr adroddiad, a dywedodd fod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i asesu anghenion teithio dysgwyr a oedd yn cerdded i ac o'r ysgol. Roedd Polisi Cludiant y Cyngor, a oedd ynghlwm â’r adroddiad, yn dweud y byddai cludiant i'r ysgol yn cael ei ddarparu am ddim i'r safle addysg cymwys, agosaf dan yr amgylchiadau canlynol:

 

  • bod y plentyn yn byw mwy na 2 filltir (i ddisgyblion cynradd) a 3 milltir (i ddisgyblion uwchradd) o’r ysgol briodol agosaf atynt; neu

 

  • bod y llwybr yn cael ei ystyried yn 'beryglus'

 

                        Eglurodd y Rheolwr Cludiant, yn unol â Darpariaeth Statudol Teithio gan Ddysgwyr, na ellir ond diffinio llwybr fel un ‘derbyniol’ (h.y. nad yw'n beryglus) os oedd y meini prawf fel maent wedi’u nodi yn adran 1.02 yn yr adroddiad yn cael eu bodloni.  

 

Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) na fyddai’r polisi llwybrau peryglus ond yn berthnasol i’r ysgol agosaf. Eglurodd na fyddai cludiant yn cael ei gynnig am ddim os nad oedd i’r ysgol agosaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Haydn Batman a oedd cyflwr y ffordd yn cael ei ystyried.  Cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant y byddai asesiad yn ystyried cyflwr llwybrau cerdded ac wyneb ffyrdd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Hughes ei siomedigaeth nad oedd y llwybr o Lanfynydd i Abermorddu wedi’i restru.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at ffordd yn Llaneurgain ac awgrymwyd y dylid codi materion penodol ynghylch llwybrau gyda swyddogion y tu allan i'r cyfarfod.

 

Roedd y Pwyllgor yn teimlo y byddai'n fwy priodol oedi cyn hysbysebu'r llwybrau ar wefan y Cyngor nes bod y llwybrau roedd aelodau'n pryderu yn eu cylch wedi'u hadolygu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at y rhestr o lwybrau peryglus a gofynnodd a oedd cynlluniau i wella rhywfaint ohonynt ac, felly, eu tynnu oddi ar y rhestr yn y dyfodol. Eglurodd y Rheolwr Cludiant bod y llwybrau’n cael eu hadolygu'n gyson a bod cyfle bob blwyddyn i wneud cais am gyllid ar gyfer cynlluniau a allai arwain at wneud gwaith gwella a thynnu rhai llwybrau oddi ar y rhestr fel rhai peryglus.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a ellid darparu'r sgôr i lwybrau peryglus.  Gofynnodd hefyd a ellid darparu gwybodaeth i ysgolion o ran eu sefyllfa nhw mewn perthynas â llwybrau peryglus.Dywedodd y Rheolwr Cludiant bod matrics ar gael a gellid ei anfon at aelodau’r Pwyllgor.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Chris Bithell nad oedd y polisi ond yn berthnasol i’r ysgol agosaf ac roedd angen gweithredu’r rheolau’n llym i osgoi costau ychwanegol.Dywedodd fod rhai achosion lle nad oedd rhieni am i’r llwybr gael ei wneud yn ddiogel gan y byddai hyn yn golygu na fyddai cludiant i'r ysgol ar gael am ddim. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi dyletswydd statudol y Cyngor i asesu anghenion teithio disgyblion  ...  view the full Cofnodion text for item 52.

53.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau     perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi crynodeb o berfformiad Chwarter 3 (mis Hydref tan fis Rhagfyr 2018) ar gyfer blaenoriaeth ‘Cyngor Gwyrdd’ Cynllun y Cyngor a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor yn 2018/19. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad monitro Chwarter 3 yn adroddiad cadarnhaol a’i fod  yn dangos bod 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 85% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a ddymunid. Roedd 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau.  Roedd y risgiau’n cael eu rheoli gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (61%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (22%).  Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y risg fawr a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor sef ‘na fydd cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd sy'n flaenoriaeth’. Dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol newydd, o 7 Ionawr 2019 ymlaen, fel Corff Cymeradwy Draenio Cynaliadwy. Eglurodd fod hyn wedi rhoi pwysau sylweddol o ran adnoddau ar y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd i weithredu a darparu adnoddau a chyllid ar gyfer y rôl statudol newydd hon. Dywedodd y byddai effeithiau datblygu’r gwasanaeth newydd hwn, yn y tymor byr, yn lleihau gallu'r Tîm i gyflawni cynlluniau lliniaru llifogydd anstatudol.

 

Gan gyfeirio at reoliadau Cyrff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy a gyflwynwyd ar 7 Ionawr, dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell bod Sir y Fflint wedi gofyn i LlC oedi cyn eu gweithredu gan fod angen paratoi, ond ni fu oediad a derbyniwyd swm o £20,000 i ymdrin â’r broses weithredu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at dudalen 68 yr adroddiad a'r sylw bod dyraniadau gwastraff a llifogydd ar gyfer 2018/19 i gael eu tynnu o’r Grant Refeniw Sengl a gofynnodd am ddiweddariad. Ychwanegodd fod angen neilltuo mwy o safleoedd ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy ar draws Sir y Fflint.  Cyfeiriodd at y cynllun ynni d?r yng Ngwepra a gofynnodd a oedd potensial am unrhyw gynlluniau eraill yn Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod grant natur a fyddai’n galluogi SEG wedi’i gyflwyno ac roedd disgwyl ymateb erbyn diwedd Mawrth. Yngl?n ag ynni adnewyddadwy, dywedodd fod y Cyngor wastad yn ystyried opsiynau a’i fod yn chwilio am safleoedd posib’ ar gyfer ffermydd solar yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19.

 

54.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried.  Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 9 Ebrill 2019. 

 

Cytunwyd y byddai eitem ynghylch gostegu traffig yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen i’w hystyried yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

55.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.