Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r Gr?p Annibynnol Newydd enwebu Cadeirydd y pwyllgor.  Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Annibynnol Newydd.    Gan fod y Cynghorydd Ray Hughes wedi ei benodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd Ray Hughes fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd David Hughes y Cynghorydd David Evans fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd David Evans fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd David Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Ebrill 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

5.

Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:  Darparu manylion i’r Pwyllgor am y gweithgareddau Gorfodaeth Amgylcheddol a wnaed gan Dîm Gorfodaeth y Cyngor a Kingdom Securities ar ran y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Carolyn Thomas adroddiad i ddarparu manylion i’r Pwyllgor am y gweithgareddau Gorfodaeth Amgylcheddol a wnaed gan Dîm Gorfodaeth y Cyngor a Kingdom Securities ar ran y Cyngor  Gwahoddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn amlinellu’r dull o ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â gorfodaeth amgylcheddol, gan gynnwys taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, gwastraff ychwanegol a’r effaith mae’r gwaith yn ei gael ar lendid strydoedd a dangosyddion perfformiad eraill.  Cyfeiriodd at y Polisi Gorfodi Amgylcheddol a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2013 a nododd ei ymagwedd tuag at bob agwedd ar

orfodi amgylcheddol.  Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad yn ymwneud â throseddau gollwng ysbwriel, baw c?n, gwastraff ychwanegol, tipio anghyfreithlon ar dir preifat, a cheir wedi eu gadael. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Mark Mountford, Rheolwr Busnes Rhanbarthol, ac Eoin Henney, Rheolwr Busnes, Kingdom Securities Limited, a rhoddodd wahoddiad iddynt roi cyflwyniad ar y gweithgareddau gorfodi amgylcheddol a wnaed ar ran y Cyngor.  Roedd y cyflwyniad yn trafod y prif bwyntiau a ganlyn:

 

·         strategaeth batrolau

·         cyfanswm yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyflwynwyd

·         troseddau 2016-17 a 2017-18

·         cymhareb dynion / merched a bandio oed 2016-18

·         Canrannau ethnigrwydd 2016-18

·         Lleoliadau Hysbysiadau Cosb Benodedig

·         Newid ymddygiad

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r trefniant presennol gyda Kingdom Securities Limited yn dod i ben a adroddodd ar y dewisiadau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a oedd ar gael ar gyfer gorfodi amgylcheddol ar lefel isel o fewn y Sir i’w hargymell i’r Cabinet.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mark Mountford ac Eion Henney am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at nifer yr Hysbysiadau Cosb Penodol a roddwyd am sigaréts o’i gymharu â’r nifer a roddwyd am droseddau eraill, a nododd faw c?n fel enghraifft.  Mynegodd bryderon fod rhai ardaloedd yn cael eu targedu’n benodol i ddal pobl a oedd yn ysmygu sigaréts.  Gan gyfeirio at y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer model gweithredu i’r dyfodol, mynegodd y Cynghorydd Evans ffafriaeth i ymestyn darpariaeth fewnol y Cyngor drwy recriwtio i ddarparu’r un lefel o gwmpas ag y darparwyd gan Kingdom Securities Limited.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar gost ac effaith weledol ysbwriel ar yr amgylchedd a dywedodd fod Kingdom Securities Limited wedi eu cyflwyno yn 2016 i gefnogi gorfodi troseddau amgylcheddol a’r tîm gorfodi mewnol.  Cyfeiriodd at y gwelliannau a gyflawnwyd mewn canol trefi o safbwynt glendid strydoedd a oedd yn cefnogi effaith dull goddef dim a phresenoldeb parhaus swyddogion gorfodi.  Dywedodd hefyd fod gwelliant wedi bod yn safle Sir y Fflint ar dabl sgoriau Cadwch Gymru'n Daclus.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y nifer fechan o gwynion a dderbyniwyd o’u cymharu â nifer yr hysbysiadau cosb benodol a roddwyd a rhoddodd sicrwydd yr ymchwiliwyd i bob cwyn ac os byddent yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gam-arfer, byddent yn ymdrin â hynny’n gadarn. Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge fod Sir y Fflint  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

presentation pdf icon PDF 283 KB

6.

Trwsio tyllau ffordd a pharatoi’r Rhaglen Blynyddol o Ail-wynebu Ffyrdd pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am gynnwys y rhaglenni ail-wynebu ffyrdd cerbydau arfaethedig a darparu eglurhad o’r rhesymeg a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r rhaglen.  Bydd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth am ddull y Cyngor o drwsio ceudyllau yn ystod cyfnod y gaeaf

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i amlinellu’r dull tuag o nodi diffygion a rhoi manylion ar wariant cyfalaf a lefelau buddsoddiad ynghylch y Rhwydwaith priffyrdd, cost a budd trwsio tyllau yn y ffordd dros dro a’r rhesymeg tu ôl i’r angen am waith trwsio dro ar ôl tro ar wynebau rhai ffyrdd oherwydd fod yr un tyllau yn ailymddangos yn y ffyrdd. Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion y rhaglenni arfaethedig o ailosod wynebau ffyrdd ar gyfer 2018/19.

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Ffordd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at lefel y buddsoddiad cyfalaf oedd ei angen i gynnal cyflwr y ffyrdd yn eu stad bresennol. Cyfeiriodd at ddyraniad yr Awdurdod o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal ffyrdd, ynghyd â dyraniad cyfalaf y Cyngor a oedd angen ei ddyrannu’n ofalus i ddod â’r budd mwyaf posibl. Dywedodd fod pob ffordd wedi eu harolygu i ddatblygu rhaglenni ailosod wyneb, a ddangoswyd yn yr atodiad i’r adroddiad. 

 

Holodd y Cynghorydd Vicky Perfect pam mai dim ond dau safle parcio ar gyfer ceir electronig oedd yna yn y Sir.  Dywedodd y Prif Swyddog fod strategaeth yn cael ei datblygu a chytunwyd y byddai eitem ar y testun hwn yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w ystyried yn y dyfodol gan y Pwyllgor.

 

Diolchodd Aelodau i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’i dîm am gynnal y rhwydwaith briffyrdd yn ystod cyfnodau o dywydd gaeafol difrifol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

7.

Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 150 KB

Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18. Eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r drefn o fonitro cynnydd ar flaenoriaeth ‘Cyngor Gwyrdd’ Cynllun y Cyngor a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 83% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 74% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 56% yn cyflawni neu bron a chyflawni targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (63%), mân risgiau (8%) neu’n risgiau ansylweddol (6%). 

 

            Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yna ddangosyddion perfformiad yn dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed ar gyfer y Pwyllgor.    Adroddodd ar y risgiau mawr canlynol a oedd wedi eu nodi ac eglurodd fod y cynnydd yn erbyn y risgiau yng Nghynllun y Cyngor wedi eu cynnwys yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

Blaenoriaeth Cyngor Gwyrdd

Risg:  Ni fydd cyllid yn cael ei ddiogelu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd â blaenoriaeth

Risg:   Tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd yn ymwneud â chludiant i'r ysgol, ailgylchu gwastraff cyffredinol, a llifogydd lleol yn sgil datblygu cynyddol ar dir at ddibenion preswyl.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

8.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried. Nododd fod cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor wedi ei gytuno ac y byddai’n cael ei gynnal ar 12 Gorffennaf. 

 

            Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Vicky Perfect, cytunwyd y byddai eitem ychwanegol yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen i ystyried y pwyntiau gwefru mewn mannau o ddiddordeb ar gyfer ceir electronig.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, gan ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd fel bo'r angen. 

 

 

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a saith aelod o’r cyhoedd yn bresennol