Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
YSTYRIED MATER A ATGYFEIRIWYD AT Y PWYLLGOR YN UNOL Â'R TREFNIADAU GALW I MEWN PDF 77 KB Mae penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2017 ynghylch cyflwyno’r ffioedd gwastraff gardd yn Sir y Fflint wedi’i alw i mewn.
Wedi’i atodi mae copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem wedi’i galw i mewn.
Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i Mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar Gyflwyno Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2017. Roedd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 3469) wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Mike Peers, Richard Jones, Dave Mackie, Dennis Hutchinson a Clive Carver. Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Hysbysiad Galw i Mewn wedi eu nodi fel pump rheswm dros alw i mewn, wedi eu cynnwys gyda phapurau’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyflwyno'r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint PDF 114 KB Adroddiad y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) – Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad
I gynorthwyo Aelodau, mae’r dogfennau canlynol wedi’u hatodi:
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ran y llofnodwyr galw i mewn, siaradodd y Cynghorydd Mike Peers i ddechrau. Tynnodd sylw’r Pwyllgor at arolwg diweddar ym mhapur newydd y Leader lle’r oedd 88% o ymatebwyr yn erbyn codi ffi am gasglu gwastraff gardd a 12% yn unig o blaid. Hefyd cyfeiriodd at negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned yn gwrthod y cynnig.
Rheswm 1: Nid yw’r cynigion yn alinio gyda Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer Casglu Gwastraff yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Peers fod y penderfynwyr wedi methu pwynt y Glasbrint, sef hybu compostio cynnyrch cartref a chyflwyno ffioedd ar gyfer casglu gwastraff gardd. Ategodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd y cynnig yn alinio gyda’r glasbrint yr oedd yn tybio fod yr holl Aelodau wedi’i ddarllen. Dywedodd fod y glasbrint yn rhagweld dull dau gam gyda chompostio i ddechrau ac yna codi tâl gyda’r bwriad i gyflawni dim gwastraff a lleihau’r ôl-troed carbon. Roedd yr elfen codi tâl gyda’r Glasbrint Gwastraff wedi’i fwriadu fel ysgogiad i leihau gwastraff a chostau tirlenwi ac nid creu llif incwm i’r Sir. Dywedodd y dylid codi tâl os bydd popeth arall yn methu, gyda chompostio fel moronen a chodi tâl yn ffôn fawr.
Rheswm 2: Cabinet yn ystyried cymeradwyo’r cynigion yn defnyddio Cofnodion Craffu wedi eu cymeradwyo ac anghywir.
Atgoffodd y Cynghorydd Peers y Pwyllgor nad oedd y cofnodion a ddefnyddiwyd yn y Cabinet wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor ac roeddent yn anghywir oherwydd diffyg manylder ar ei gynnig.
Rheswm 3: Nid oedd y cynigion yn ystyried pobl h?n a diamddiffyn o’r cyflwyniad arfaethedig o ffioedd gwastraff gardd ar 1 Ebrill 2018.
Roedd y Cynghorydd Peers yn teimlo nad oedd yr effaith ar bobl h?n a diamddiffyn wedi’i ystyried yn iawn; barn oedd yn cael ei adleisio gan y Cynghorydd Richard Jones oedd yn teimlo bod y ffi yn annheg a byddai’n effeithio ar bobl heb gerbyd.
Rheswm 4: Mae’r ffioedd yn afresymol, yn groes i Ddeddf yr Amgylchedd 1990 ac o’u cymharu ag awdurdodau lleol eraill.
Barn y Cynghorydd Peers oedd bod y ffioedd a gynigiwyd yn uwch na’r ffioedd gan awdurdodau cyfagos. Aeth ymlaen i ddweud bod y cynnig i godi ffi am yr ail a’r trydydd bin yn anghymesur ac yn afresymol.
Roedd y Cynghorydd Richard Jones wedi nodi capasiti'r biniau gwastraff gardd a ddefnyddir gan dri o Awdurdodau Gogledd Cymru a Chyngor Cilgwri ynghyd â’r ffioedd. Dywedodd fod y ffigyrau hyn yn dangos y bydd y cynigion ar gyfer codi tâl yn Sir y Fflint llawer drutach nag awdurdodau eraill oherwydd capasiti ciwbig y biniau ac amlder casglu. Teimlodd nad oedd y dull hwn yn deg nac yn gynaliadwy.
Rheswm 5: Er mwyn asesu adfer cost llawn, nid yw costau manwl y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn hysbys ac nid oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiadau Craffu na Chabinet.
Roedd y Cynghorydd Peers yn gofyn a oedd corff fel CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) wedi’i ddefnyddio i gefnogi’r Cyngor i weithredu’r Glasbrint.Roedd o’r farn nad ... view the full Cofnodion text for item 54. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Tachwedd a 12 Rhagfyr 2017.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2017.
Cywirdeb
Cyfeiriodd y Cynghorydd Veronica Gay at y paragraff olaf ar dudalen 21 a dywedodd fod y Cynghorydd Peers wedi cynnig bod y penderfyniad ar pa un ai i weithredu polisi ffi ar gyfer y gwasanaeth Gwastraff Gardd yn cael ei adolygu a gofynnodd i’r cofnodion gael eu newid i adlewyrchu hyn. Dywedodd y Cadeirydd fod yr Arweinydd wedi dweud yn flaenorol ei fod yn bresennol yn y cyfarfod nad oedd wedi’i gofnodi.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Cyllideb Cam 2: Adolygiad o Gostau Parcio Ceir PDF 130 KB Derbyn argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ar ffioedd arfaethedig holl feysydd parcio’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofym am argymhelliad gan y Pwyllgor ar y ffioedd meysydd parcio arfaethedig ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd nad oedd y ffioedd meysydd parcio wedi eu hadolygu ers eu cyflwyno ac nad oedd yr incwm a gynhyrchwyd yn diwallu cost llawn rheoli a gweithredu’r meysydd parcio. Roedd y sefyllfa hon yn groes i bolisi corfforaethol y Cyngor sydd newydd ei fabwysiadu ar gyfer ffioedd a thaliadau, sy'n disgwyl bod swyddogaethau nad ydynt yn orfodol ond y gellir codi tâl amdanynt, yn cael eu rhoi ar sail adennill costau llawn, lle bynnag y bo'n bosibl.
Dywedodd y Prif Swyddog bod y trefniadau ffioedd diwygiedig arfaethedig wedi eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad. Roedd yna 2 ddewis ar gyfer y ffioedd diwygiedig a gofynnwyd i’r Pwyllgor fynegi pa un o’r dewisiadau a ffefrir. Roedd y ffioedd arfaethedig wedi eu hystyried yn rhesymol a byddent yn parhau’n isel wrth gymharu costau parcio yn Sir y Fflint gyda siroedd eraill yng Nghymru. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai adolygiad ac asesiad o effaith pellach yn cael eu cynnal chwe mis ar ôl cyflwyno’r ffioedd newydd ac adroddir yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Hydref 2018.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y ffioedd arfaethedig ac eglurodd ei farn na ddylid safoni’r ffioedd ar draws pob maes parcio yn Sir y Fflint. Soniodd am y cyfleusterau, siopau a gwasanaethau a ddarparwyd o fewn pob tref a dywedodd bod angen cymryd hyn i ystyriaeth wrth gynnig newidiadau i’r trefniadau ffioedd presennol Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin i’r tariff presennol barhau yn Nhreffynnon. Hefyd eglurodd bod yna ddau faes parcio wedi eu lleoli yn agos at ei gilydd yn Nhreffynnon a gofynnodd i’r rhain gael eu huno o dan yr un enw gyda’r un ffioedd parcio i gynorthwyo trigolion sy’n defnyddio’r cyfleusterau lleol; gan ystyried Canolfan Hamdden Treffynnon fel enghraifft.
Cytunodd y Cynghorwyr Haydn Bateman ac Owen Thomas gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Dolphin y dylai ffioedd maes parcio yn Sir y Fflint gael eu safoni.Teimlodd y Cynghorwyr Haydn Bateman a Dave Hughes y dylai ffioedd gael eu safoni yn unol â’r ffioedd presennol yn yr Wyddgrug.
Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn cynnig newid i’r ddau opsiwn ar gyfer meysydd parcio Bwcle, Cei Connah, Treffynnon, Queensferry a Shotton a chynigiodd dariff ychwanegol o 20c ar gyfer y 30 munud cyntaf. Roedd y Cynghorydd Ian Dunbar yn eilio hyn.
Ailbwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd pob tref yn darparu’r un cyfleusterau a dywedodd bod parcio am ddim yn cynyddu’r ymwelwyr â chanol y dref gan fod pobl yn gyfarwydd â siopa yn yr ardal honno. Hefyd soniodd am gost darparu a chynnal a chadw meysydd parcio a dywedodd y dylai’r wybodaeth ar wariant ac incwm a dderbyniwyd o bob un o’r meysydd parcio yn Sir y Fflint fod ar gael ar gyfer cymharu ac i bennu lefelau incwm yn y dyfodol. Mynegodd y farn nad oedd rhai ... view the full Cofnodion text for item 56. |
|
Adolygiad o’r Polisi Torri Gwair PDF 84 KB Hysbysu’r Pwyllgor Craffu o’r Polisi Torri Gwair diwygiedig newydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor am y Polisi Torri Gwair a adolygwyd. Gwahoddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol ac eglurodd bod yr adroddiad yn rhoi manylion y safonau a ddilynwyd ym mhob lleoliad a’r dewis darparu gwasanaeth a ffefrir ym mhob achos. Roedd yr adroddiad yn manylu’r safonau torri gwair ar y priffyrdd yn benodol ac yn dangos cydymffurfiaeth y Cyngor gyda’r Cod Ymarfer Priffyrdd diweddaraf a ryddhawyd ym Mawrth 2017. Dywedodd y Prif Swyddog am y prif newidiadau i’r polisi presennol fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y Polisi diwygiedig oedd ynghlwm â’r adroddiad a dywedodd nad oedd yn nodi’r hyn oedd wedi’i dynnu allan o’r adroddiad gwreiddiol ac felly nad oedd yn bosibl gweld pa newidiadau a wnaed i’r polisi diwygiedig. Soniodd y Cynghorydd Jones am bwysigrwydd casglu sbwriel, yn arbennig cyn y toriad cyntaf.
Ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan Aelodau ynghylch gweld ar briffyrdd, mynedfeydd, ymyl glaswellt a sbwriel. Mewn ymateb i’r pryderon gan y Cynghorydd Colin Legg yngl?n â Gingroen, eglurodd y Prif Swyddog y gweithdrefnau ar gyfer rheoli twf a gwaredu Gingroen.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo Polisi Torri Gwair diwygiedig y Cyngor. |
|
Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol PDF 102 KB Darparu gwybodaeth am yr amcanion a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad i gynghori ar amcanion a chamau yn y Cynllun Coed a Choetir Trefol a gwahoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Strategaeth Coed a Choetir Trefol yn darparu dull ar gyfer rheoli coed a choetiroedd yn fwy cynaliadwy i ddiwallu dyheadau Llywodraeth Cymru a’r Cyngor.
Roedd y Strategaeth yn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer plannu coed, sut y gwneir hyn, ac mae’n darparu dull arfer gorau i reoli coed presennol. Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried y weledigaeth, amcanion a chamau fel y nodwyd yn y Strategaeth oedd ynghlwm â’r adroddiad.
Mewn ymateb i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd, eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol yr ymgysylltir â chymunedau lleol yngl?n â lleoliad plannu coed a hefyd i gynnwys y gymuned yn y broses o blannu'r coed.
Croesawodd y Cynghorydd Veronica Gay yr adroddiad ac roedd yn gefnogol i gynnwys cymunedau lleol a fyddai’n gwarchod coed trefol a choetir lleol yn y dyfodol ac yn atal fandaliaeth.
Roedd y Cynghorydd Owen Thomas yn mynegi pryderon ei bod yn anodd gweld ar rai priffyrdd oherwydd bod coed yn cael eu plannu a gofynnodd a gellir cael golwg ar hyn.
Soniodd y Cynghorydd Ian Dunbar am y mater o fandaliaeth i goed hefyd a gofynnodd a oedd unrhyw fath o warchodaeth. Hefyd, gofynnodd pwy oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw plannu coed yn y dyfodol.
Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i’r pryderon a’r cwestiynau am ddiogelu coed a dywedodd fod plannu'r “goeden iawn” yn y “lleoliad iawn” yn ystyriaeth hanfodol. Hefyd dywedodd fod cynnwys plant yn uniongyrchol mewn plannu coed yn datblygu parch i bwysigrwydd a gwarchod coed a choetiroedd yn y dyfodol. Gan gyfeirio at gynnal a chadw coed, eglurodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol bod y rhan fwyaf o’r mannau lle’r oedd coed yn cael eu plannu o dan reolaeth yr Awdurdod a dywedodd nad oedd cost cynnal a chadw yn ddrud yn y tymor hir. Roedd yncynghori bod y Strategaeth yn ystyried sut i ddatblygu gwytnwch i stoc coed ar gyfer y dyfodol gyda’r bwriad i ddarparu amrywiaeth o wahanol rywogaethau ar draws y Sir.
Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton am fudd i iechyd o ganlyniad i lai o lygredd aer o ganlyniad i blannu coed. Cyfeiriodd at y cynllun ‘Ein Iard Gefn’ a ddefnyddiwyd gan Gyngor Tref Cei Connah a oedd yn profi’n fuddiol.
PENDERFYNWYD:
Bod y weledigaeth, amcanion a’r camau fel y nodwyd yn y Strategaeth Coed a Choedwigaeth Trefol yn cael eu cymeradwyo. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried. Dywedodd y cytunwyd y byddai cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn cael ei drefnu yn ystod mis Chwefror a byddai’r Aelodau’n derbyn e-bost i gadarnhau’r dyddiad. Hefyd dywedodd yr Hwylusydd bod gwahoddiad wedi’i anfon at aelodau’r Pwyllgor i fynychu ymweliad safle ym Mharc Adfer ar 21 Chwefror 2018 am 10.00am.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd fel bo'r angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd yna un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |