Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

42.

SYLWADAU AGORIADOL

Cofnodion:

Darllenodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ddatganiad am y cyfyngiadau o ran trafodaethau mewn cyfarfodydd yn ystod cyfnod yr Etholiad.

43.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

44.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019.

 

Cofnod rhif 37: Gofynnodd y Cynghorydd Shotton fod y cofnodion yn cynnwys ei gwestiwn am bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Sir y Fflint. Diolchodd i swyddogion am yr ymateb a chroesawodd y pwyntiau gwefru ychwanegol a ddarparwyd gan Goleg Cambria.

 

Cofnod rhif 38: Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cofrestr o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod y Cyngor yn cael ei gynrychioli ar weithgor a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) i lunio rhestr genedlaethol o ffyrdd heb eu mabwysiadu ar draws Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod cydweithwyr LlC yn ystyried newidiadau polisi o ran ffyrdd heb eu mabwysiadu mewn datblygiadau newydd.

 

Yn amodol ar y newid, cynigiwyd y cofnodion i’w cymeradwyo gan y Cynghorydd Bibby ac eiliwyd gan y Cynghorydd Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

45.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol a’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a oedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol. O ran Gorfodi Amgylcheddol, dywedodd y byddai’r polisi yn cael ei anfon i Gynghorau Tref a Chymuned pan fyddai wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet a bod Datganiad y Gyllideb ar fin cael ei ddosbarthu.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym y dylai Newid Hinsawdd fod yn bwnc ar gyfer gweithdy i’r holl Aelodau ym mis Chwefror 2020.  Gofynnodd y Cadeirydd bod unrhyw gwestiynau yn cael eu cyflwyno iddo o flaen llaw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd y pum cwestiwn ‘prawf arwyddocâd’ a ddefnyddir i nodi eitemau ar gyfer rhaglenni’r dyfodol yn berthnasol i bob pwyllgor ac a oeddent wedi’u cynnwys yn y Cyfansoddiad.  Awgrymodd fod chweched cwestiwn yn cael ei gynnwys o ran a oedd y mater yn berthnasol i’r cyhoedd neu i Aelodau. Cefnogwyd awgrym yr Hwylusydd, sef bod hyn yn cael ei gyfeirio i’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Peers ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan gynnwys y gweithdy Aelodau am Newid Hinsawdd ym mis Chwefror;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau; a

 

(d)       Bod yr awgrym am chweched cwestiwn ‘prawf arwyddocâd’ yn adran 1.02 yr adroddiad yn cael ei gyfeirio i’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

46.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 131 KB

Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am y rhagolwg ariannol presennol ar gyfer 2020/21 ynghyd ag arbedion effeithlonrwydd a phwysau cost ar draws portffolios. Amlygwyd cynigion penodol ar gyfer y portffolio i’w hadolygu. Ers yr adroddiad i’r Cabinet ym mis Ebrill, roedd y ‘bwlch’ cyffredinol amcanol yng ngofynion ariannu’r Cyngor ar gyfer 2020/21 wedi cynyddu £2.854m i £16.174m.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r sefyllfa genedlaethol a dewisiadau a oedd ar gael er mwyn i’r Cyngor sicrhau cyllideb gytbwys. Roedd arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer pob portffolio wedi’u rhannu gydag Aelodau mewn gweithdy yn ystod yr haf. Ers hynny, nid oedd dewisiadau eraill wedi’u cyflwyno. Roedd y sefyllfa grynodeb gyffredinol hyd yma yn dangos cyfraniad sylweddol o £8-8.5m tuag at y bwlch yn y gyllideb a oedd yn cynnwys arbedion effeithlonrwydd ac incwm corfforaethol a phortffolio (£1.784m), incwm sy’n deillio o ddarpar gynnydd 5% mewn Treth y Cyngor (£4.38m) a’r swm sydd ar gael i’r Cyngor o adolygiad Actiwaraidd a oedd bron â’i gwblhau (£2m). Y dewisiadau eraill – yn dibynnu ar ganlyniad cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC) – oedd adolygiad pellach o gyfraniadau cyflogwr y Gronfa Bensiynau, rhannu pwysau cost gydag ysgolion a chynnydd Treth y Cyngor uwchlaw’r rhagdybiaeth weithredol.  Roedd y Setliad Dros Dro i gael ei gyhoeddi ar 16 Rhagfyr, gyda’r Setliad Terfynol wedi’i gadarnhau ar gyfer 25 Chwefror; o bosibl ar ôl i’r Cyngor osod ei gyllideb derfynol ar gyfer 2020/21.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd adolygiad o wasanaethau ymhlith y datrysiadau eraill oedd ar gael i fantoli’r gyllideb. Nododd fod y darpar gynnydd 5% mewn Treth y Cyngor angen Setliad gwell o lawer, a dywedodd bod angen dewisiadau amgen i osgoi sefyllfa debyg i’r sefyllfa ym mhroses y gyllideb ar gyfer 2019/20.  Soniodd hefyd am yr incwm amcanol o feysydd parcio, lle roedd rhai ardaloedd wedi rhagori ar lefelau amcanol ac roedd eraill yn is na thargedau’n gyson. Ychwanegodd na ddylid cyfrif taliadau gwastraff gardd fel arbediad effeithlonrwydd, oherwydd roedd costau yn cael eu trosglwyddo i breswylwyr.

 

Gan ymateb, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr holl arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth wedi’u cynnwys yng nghynlluniau busnes portffolios ac y byddai’n anodd gweithredu unrhyw beth newydd ar y cam hwn. O ran y cynnydd yn Nhreth y Cyngor, er disgwyliwyd Setliad cadarnhaol gan LlC, nid oedd yn glir a fyddai’n ddigonol. Byddai rhagor o fanylion am yr opsiynau sydd ar gael yn cael eu hadrodd i’r Cyngor yn ddiweddarach yn y dydd. O ran y disgownt person sengl ar gyfer Treth y Cyngor, disgwyliwyd y byddai adolygiad a oedd ar y gweill yn cynhyrchu incwm ychwanegol yn ystod 2019/20 a 2020/21.  Roedd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cydnabod yr angen i wahaniaethu rhwng arbedion effeithlonrwydd cost a chynhyrchu incwm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod penderfyniad wedi’i wneud ar ôl cyflawni arbedion effeithlonrwydd, i beidio â thorri rhagor o wasanaethau i osgoi’r effaith ar breswylwyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad o ran cyfraniadau o Newid Sefydliadol a’r effeithlonrwydd o incwm o waith allanol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Canlyniad Ymgynghoriad y Strategaeth Wastraff pdf icon PDF 126 KB

Ceisio argymhelliad y Cabinet i gymeradwyo’r diwygiad i’r Strategaeth Wastraff yn dilyn y broses ymgynghori ddiweddar.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo newidiadau i’r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.  Diolchodd i breswylwyr am weithio gyda’r Cyngor i gynnal y perfformiad cryf o ran ailgylchu, sef y trydydd gorau yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod yr argymhellion yn ystyried mwy nag 8,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, yn adlewyrchu newidiadau i’r strategaeth genedlaethol ac yn ceisio rhagor o welliant o ran perfformiad ailgylchu i gyrraedd targedau yn y dyfodol.  Er nad oedd cefnogaeth ar hyn o bryd o ran newid amlder casgliadau bin du, roedd 32% o breswylwyr wedi dweud nad oeddent yn sicr a fyddent yn ymdopi pe bai newid o’r fath yn digwydd.  Argymhellwyd bod y dewis hwn yn cael ei adolygu eto ymhen 12 mis i ddeall effaith newidiadau gan Lywodraeth Cymru (LlC) i’r strategaeth genedlaethol. Roedd y cynnig am ragor o orfodaeth wedi’i gefnogi’n eang, gyda rhai preswylwyr yn cydnabod yr angen am atebolrwydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai nod y cynigion oedd cyflawni effaith gadarnhaol drwy newidiadau o ran ymddygiad. Wrth gydnabod pryderon o ran rhagor o orfodaeth, roedd y dull tri cham yn caniatáu ar gyfer hysbysu ac addysgu i ddechrau, gyda chamau ffurfiol yn cael eu cymryd ar gyfer achosion parhaus o ddiffyg cydymffurfio. Roedd ystadegau presennol yn dangos pa mor effeithiol oedd y broses wrth helpu preswylwyr i ddeall a dilyn y system. Ymhlith y newidiadau arfaethedig eraill roedd rhaglen addysg i breswylwyr, treial casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol a ariennir gan LlC, adolygiad o lwybrau casglu gwastraff a gwahanu deunydd ailgylchu cardfwrdd a phapur i gynhyrchu incwm ychwanegol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y dylid annog preswylwyr i ailgylchu rhagor o wastraff bwyd a’i bod yn gallu ymweld ag ysgolion a chymunedau i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau arfaethedig.  Soniodd hefyd am ymgyrch genedlaethol i gynyddu addysg am ailgylchu.

 

Er ei fod o blaid rhagor o orfodaeth i’r rhai sy’n methu ailgylchu dro ar ôl tro, dywedodd y Cynghorydd Peers fod rhaid ystyried unrhyw ffactorau sy’n cyfrannu at hyn, er enghraifft oedran neu broblemau iechyd.  Gofynnodd a oedd digon o gapasiti mewn criwiau casglu gwastraff i gynnal y rhestr fonitro ar gyfer ailgylchu a ddylai fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio na ddylai fod unrhyw effaith ar y criwiau a bod enwau preswylwyr yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr fonitro pan nad oedd angen camau gorfodi bellach. Nodwyd preswylwyr diamddiffyn sy’n cael problemau gydag ailgylchu ac roedd proses ar waith i dargedu cefnogaeth briodol. Gan ymateb i gwestiynau pellach, eglurwyd y byddai casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn adlewyrchu’r casgliadau gwastraff meddygol presennol gyda bag ar wahân. Roedd gwahanu papur a chardfwrdd yn newid gweithredol a adlewyrchwyd drwy adborth i’r ymgynghoriad hefyd a byddai’n cael ei gyflwyno mewn camau.

 

Cododd y Cynghorydd Hardcastle bryderon fod rhai preswylwyr h?n neu ddiamddiffyn yn ansicr sut i ailgylchu a gallent fod yn pryderu am orfodaeth bosibl. Siaradodd o  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Cynigion ar gyfer Gwelliannau Seilwaith yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Iard Safonol pdf icon PDF 141 KB

Ceisio argymhelliad gan y Pwyllgor Craffu ar gyfer y Cabinet i uwchraddio’r Depo ailgylchu presennol ar Ystâd Ddiwydiannol Safonol ym Mwcle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad a oedd yn cynnwys cynigion i uwchraddio’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff bresennol yn Ystâd Ddiwydiannol Standard ym Mwcle oherwydd twf sylweddol o ran galw prosesu.  Roedd yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn galluogi gwahanu a didoli deunydd ailgylchu cyn cael eu hanfon ymlaen i’w prosesu. Roedd yr adroddiad yn nodi cynigion ariannu ac yn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i barhau â’r prosiect.

 

 Dywedodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth, Priffyrdd a Gwastraff, fod y cynigion wedi’u llywio gan yr ymarfer ymgynghori gwastraff gan gynnwys gweithredwyr oedd yn gweithio ar y safle.   Byddai’r cynigion yn gwella mynediad a chyfleusterau a chreu canolfan addysgol wrth ddatrys problemau logistaidd ar y safle hefyd. Y nod ar y cam hwn oedd cael cymeradwyaeth wleidyddol cyn bwrw ymlaen â dyluniad y datblygiad.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas nad oedd potensial i rannu’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff oherwydd bod gan gynghorau cyfagos eu cyfleusterau eu hunain.

 

Diolchodd y ddau Aelod lleol, y Cynghorydd Hutchinson a’r Cynghorydd Peers, i’r Rheolwr Darparu Gwasanaeth am gyfarfod â nhw a rhoi’r cyfle iddynt roi adborth. Er bod y ddau yn cefnogi’r angen am fuddsoddiad ar y safle, mynegodd y Councillor Peers nifer o bryderon a oedd eisoes wedi’u rhannu â swyddogion. Cwestiynodd hyfywedd adleoli’r Cyfleuster Adennill Deunydd presennol i Faes Glas a gofynnodd lle roedd y problemau o ran offer yn torri i lawr wedi’u hadrodd. Credai fod y ffordd fynediad newydd arfaethedig oddi ar Globe Way yn ddiangen ac awgrymodd fod y ffordd bresennol yn cael ei defnyddio yn lle hynny (wedi’i marcio â saethau ar y cynllun) er mwyn osgoi torri’r adeilad i ffwrdd.  Felly cynigiodd fod yr argymhelliad cyntaf yn cael ei newid i nodi’r cynnig “mewn egwyddor” i wella’r safle.

 

Wrth groesawu adborth, mynegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) barodrwydd i drafod dewisiadau ar gyfer datblygu’r safle i sicrhau ei hyfywedd yn y dyfodol. Dywedodd fod y materion cynnal a chadw wedi cynyddu dros amser wrth i’r offer heneiddio.

 

Eglurodd y Rheolwr Darparu Gwasanaeth mai bwriad adleoli’r Cyfleuster Adennill Deunydd oedd darparu cadernid fel cyfleuster wrth gefn yn unig i gynyddu capasiti ym Maes Glas.

 

Anogodd y Cynghorydd Shotton y Cyngor i fanteisio ar gyfleoedd ariannu gan Lywodraeth Cymru pan fyddant ar gael.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y'i diwygiwyd, eu cynnig gan y Cynghorydd Peers ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynigion, mewn egwyddor, ar gyfer datblygu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard; a

 

(b)       Argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r ceisiadau cyllid arfaethedig a’r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard.

49.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

50.

Achosion Busnes Terfynol Systemau Solar Safle Tirlenwi’r Fflint a Crumps Yard

Darparu’r achosion busnes terfynol i Aelodau ar gyfer datblygiadau solar yn Safle Tirlenwi’r Fflint a Crumps Yard yn dilyn caniatâd cynllunio ac ymarfer tendro i bennu’r costau cyfalaf. Aelodau i adolygu’r achosion busnes i sicrhau eu bod yn gadarn cyn i’r Cabinet eu hadolygu’n derfynol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad am yr achosion busnes terfynol ar gyfer cynigion i ddatblygu datblygiadau paneli solar ffotofoltäig ar ddau safle tir llwyd (Safle Tirlenwi'r Fflint ac Iard Crumps) yn dilyn casgliad gweithgareddau dwys cyn-datblygu. Roedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad yn Safle Tirlenwi’r Fflint, a disgwyliwyd penderfyniad am Iard Crumps ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd. Amlinellodd y Cynghorydd Bithell y prif ystyriaethau o’r adroddiad gan gynnwys nifer o fanteision ariannol ac amgylcheddol o’r cynllun a fyddai’n cyfrannu at flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth dechnegol ac ariannol fanwl am y cynllun.

 

Cyflwynwyd y Peiriannydd Arbed Ynni (Sadie Waterhouse) i’r Pwyllgor, a ddarparodd eglurder o ran y goblygiadau ariannol, gofynion contract a buddion cymunedol. Yn dilyn cais gan y Cadeirydd, cytunodd i ddosbarthu cynlluniau lleoliad safle i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai Aelodau’n croesawu rhagor o fanylion am y buddion cymunedol. Siaradodd y Prif Swyddog am newid o ran y strategaeth gaffael i sicrhau buddion amgylcheddol ehangach.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd ei gyfraniad cadarnhaol tuag at newid hinsawdd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Shotton gymeradwyo’r argymhelliad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r Prosiect a’r Achos Busnes ar gyfer datblygu Iard Crumps, Cei Connah, a Safle Tirlenwi’r Fflint ar gyfer defnydd solar ffotofoltäig ar y ddaear.

51.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.