Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / Sharon Thomas / 01352 702322 / 01352 702324 

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

17.

Cofnodion pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi, cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Bibby ac eiliwyd gan y Cynghorydd Shotton.

18.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol er mwyn ei hystyried gan amlinellu’r materion a ganlyn:

 

·                Nifer yr adroddiadau a nodwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd i’w gynnal yn Maes Glas ar 15 Hydref 2019, sydd o bosib angen eu symud i gyfarfod mis Tachwedd;

·                Yr awgrym am Gyfarfod ar y Cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter i ystyried Cynnig Twf Economaidd Gogledd Cymru; ac

·                Ymweliad Safle i Barc Adfer ar 10 Mawrth 2020.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at fersiwn drafft o Fframwaith Ddatblygu cenedlaethol Llywodraeth Cymru (LlC) ac awgrymodd y dylai gael ei ystyried gan y Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod y mater hwn wedi’i nodi i’w ystyried yng nghyfarfod mis Hydref o'r Gr?p Strategaeth Gynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans y dylai gwybodaeth sy'n cael ei rhoi i aelodau unigol ar ôl pwyllgorau craffu gael ei chynnwys fel rhan o’r adroddiad tracio camau gweithredu fel bod pob aelod yn gallu elwa o weld y wybodaeth.Awgrymodd y dylai’r dull gweithredu hwn gael ei dreiglo i bob Pwyllgor Craffu. Croesawodd yr Aelodau’r awgrym a chytunodd yr hwylusydd i roi gwybod i’r Reolwr Gwasanaethau Democrataidd am y cais.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton am ddefnyddio plastigau wedi’u hailgylchu wedi’u cymysgu gyda cherrig mân a bitwmen oedd wedi cael ei godi mewn cyfarfodydd blaenorol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y gwaith yn symud yn ei flaen gyda’r cwmni sy’n rhan o’r fenter a chytunodd i ddarparu adroddiad cynnydd pan fyddai treialon Sir y Fflint wedi cael eu cwblhau.

 

Cododd yr Hwylusydd Craffu fater am amseroedd ymateb y Ganolfan Alwadau. Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod Tîm y Ganolfan Alwadau wedi symud o Alltami i ymuno â'r Tîm Tai yn Ewlo yn ddiweddar. Byddai’n darparu data perfformiad ar gyfer y 6 mis diwethaf ac awgrymodd y gallai Rheolwr y Ganolfan Alwadau fynychu cyfarfod yn y dyfodol petai angen.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad yn ffurfiol gan y Cynghorydd Shotton a cawsant eu heilio gan y Cynghorydd Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

19.

Lonydd Bysus yn Sir y Fflint – cyfyngiadau ar ddefnydd pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo cyfyngiadau ar y       cerbydau sy’n cael defnyddio’r lonydd bysus newydd yng    Nglannau Dyfrdwy.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Diogelwch y Ffyrdd, Lee Shone adroddiad yn ceisio argymhelliad ar gyfer y Cabinet i gymeradwyo’r cyfyngiadau ar gerbydau sydd wedi cael awdurdod i ddefnyddio'r lonydd bysiau arfaethedig ar y B5129 rhwng Y Fferi Isaf a Shotton er mwyn defnyddio arian Grant Cludiant Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd bod mesurau blaenoriaeth ychwanegol wedi cael eu hamlygu ym Mharc Diwydiannol Deeside i ddarparu llwybrau mynediad ‘bysiau yn unig’ i mewn i’r parc. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai cynllun tymor hir oedd hwn ac yn un rhan o’r jig-so i gael pobl i newid o ddefnyddio eu ceir a defnyddio cludiant cyhoeddus.  Roedd hyn yn gofyn am newid mewn diwylliant.

           

Cododd y Cynghorydd Shotton bryderon am yr amhariadau posib tra bod lonydd newydd yn cael eu creu ond croesawodd y ffaith bod troi i'r dde yn cael eu diddymu yn y cam nesaf. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai bob opsiwn yn cael eu hystyried i wneud yn si?r y byddai'r gwaith yn cael ei wneud i gyfyngu ar amhariadau. Ychwanegodd y byddai’r contractwr fyddai’n cael ei benodi yn hyblyg ac y byddai’r Tîm Strydwedd ar gael i siarad â’r gymuned fusnes a phreswylwyr lleol i liniaru unrhyw effaith.

 

Cododd y Cynghorwyr Evans a Johnson faterion yn ymwneud â chydnabod rhifau ceir a holodd pwy fyddai’n cynnal y gwaith a sut y byddai'n cael ei reoli. Cadarnhaodd y Swyddog Diogelwch y Ffyrdd y byddai’n cael ei gynnal mewn modd tebyg i'r cosbau tocynnau parcio.. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai cerbydau a awdurdodir gan Sir y Fflint yn unig fyddai’n gallu defnyddio’r lonydd bysiau.  Roedd hyn yn cynnwys cerbydau tu hwnt i’r Sir, gyda chofnod o ddefnyddwyr a ganiateir yn cael eu cofnodi.Cododd Aelodau bryderon am led y lonydd, plant ysgol yn defnyddio'r lonydd ar feiciau a bysiau'n goddiweddyd beiciau. Dywedodd y Swyddog Diogelwch y Ffyrdd bod canllawiau teithio’n llym a bod rhaid cadw atynt yn gaeth. Dywedodd bod gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion mewn perthynas â llwybrau beicio a chyrsiau beicio achrededig ar gyfer disgyblion. 

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Shotton a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cyfyngiadau ar gerbydau ag awdurdod i ddefnyddio’r lonydd bysiau arfaethedig ar y B5129; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r trefniadau gorfodi ar yr holl lonydd bysiau eraill a mesurau blaenoriaethau bysiau mewn lleoliadau allweddol ar draws y coridor.  

20.

Adolygiad polisi cynnal a chadw'r gaeaf 2019-20 pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        Gofyn bod Craffu yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Cynnal a Chadw’r Gaeaf a Thywydd Garw diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet ar gyfer Strydwedd a Chefn Gwlad Mark Edwards, Cydlynydd Ardal Bwcle a oedd yn arbenigo mewn gwaith cynnal yn y gaeaf. Dywedodd bod 6 swyddog ar ddyletswydd yn gweithio ar sail rota ac yn monitro rhagolygon y tywydd 24 awr y dydd.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad am y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwaith cynnal y Cyngor dros y gaeaf a’r gwasanaethau mewn tywydd garw sy’n cael ei adolygu bob 2 flynedd. Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi newid darparwr rhagolygon y tywydd i Metdesk yn ddiweddar. Ychwanegodd bod cyfathrebu wedi gwella gydag ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn cael copi o’r rhagolygon yn brydlon er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau mewn perthynas â chau ysgolion.

 

Canmolodd yr Aelodau y gwasanaeth tywydd garw a oedd yn cael ei ddarparu ledled Sir y Fflint.  Awgrymodd Owen Thomas bod materion wedi codi mewn ardaloedd gwledig ar brydiau ac awgrymodd y dylai bod gan y ffermwyr y grym i fynd allan ar eu liwt eu hunain mewn tywydd garw, yn hytrach na disgwyl i'r cydlynwyr ardal gysylltu, oherwydd weithiau, nid oedd yr amodau yr un fath â lle roedd y tywydd yn cael ei fonitro, ac roedd hefyd yn gwaethygu’n sydyn iawn.Awgrymodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) efallai mai’r ffordd ymlaen oedd bod y contractwyr yn ffonio’r cydlynwyr cyn iddynt fynd allan i gael cytundeb.

 

 Cytunodd y Cadeirydd bod y timau cynnal yn y gaeaf yn uchel eu parch a'i fod yn croesawu’r cyfle i adolygu'r polisi yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin a oedd unrhyw gynlluniau i gael adeilad parhaol yn hytrach na’r llen oedd yn cael ei ddefnyddio i orchuddio’r 7000 o halen sy’n cael ei storio ar Safle Ailgylchu Maes Glas. Gofynnodd hefyd a oedd unrhyw gynlluniau i ostwng faint oedd yn cael ei storio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) wrth yr Aelodau bod yr halen yn cael ei storio yno oherwydd y diffyg cenedlaethol a brofwyd yn y blynyddoedd blaenorol yn dilyn cyngor gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Eglurodd bod y rhan fwyaf o Gynghorau’n cadw stoc o halen a oedd yn cael ei ddefnyddio a’i ailstocio er mwyn cynnal lefelau rhesymol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans bod y rhan fwyaf o gwynion yr oedd o wedi’u cael am ysgolion yn cau a’r effaith dominos pan roedd un ysgol yn cael bod eraill yn dilyn ac yn cau hefyd.Er ei fod yn cytuno bod Sir y Fflint yn darparu gwasanaeth da, y prif reswm dros gau ysgolion mae’n debyg oedd athrawon oedd yn byw tu allan i’r Sir yn methu cyrraedd yr ysgolion yn ddiogel. Cydnabu'r Prif Swyddog bryderon y Cynghorydd Evans a chyfeiriodd at y gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r ysgolion gyda’r bwriad o wella cyfathrebu.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Evans a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell y Polisi Cynnal  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 202 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19. Eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r drefn o fonitro cynnydd ar flaenoriaeth Cyngor Gwyrdd, Cynllun y Cyngor a nododd mai’r risg allweddol oedd diffyg Arian Llywodraeth Ganolog.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) wybodaeth gefndir ac amlygodd rai o’r ardaloedd cadarnhaol. Mewn ymateb i gwestiwn a gododd y Cynghorydd Dunbobbin am Statws Coch Melyn Gwyrdd 4.1.1.2 yn cael ei nodi fel gwyrdd er mai dim ond 50% oedd wedi’i gwblhau,cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i edrych mewn i’r mater ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Cododd y Cynghorydd Evans bryder am fynd â PVC i Safleoedd Ailgylchu Nwyddau’r Cartref a gofynnodd a oedd polisi newydd wedi cael ei gyflwyno mewn safleoedd penodol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) nad oedd unrhyw newidiadau polisi wedi digwydd ac y byddai'n ymchwilio i’r mater ac ymateb i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Nid oedd y Cynghorydd Dolphin yn cytuno â Statws Gwyrdd ar gyfer trwsio a chynnal y ffyrdd ac roedd yn teimlo y dylai fod yn oren. Awgrymodd bod Goruchwylwyr y Priffyrdd yn cysylltu â Chynghorwyr i gael gwybod beth oedd y problemau, ac mewn rhai achosion, bod angen cerdded drwy'r ardaloedd yn hytrach na gyrru drwyddynt..

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad am y cydnabyddiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i Sir y Fflint am fod ganddynt y ffyrdd sy’n cael eu cynnal orau yng Nghymru a dywedodd bod Aelodau yn ymwybodol o’r gostyngiad mewn arian oedd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf hefyd.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Swyddogion am y ffordd y cafodd yr arian ychwanegol gan LlC ei ddyrannu mewn ffordd effeithlon a chyflym.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Bibby a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

22.

Cynllun Gostyngiadau Teithio Cymru Gyfan – Disodli Cardiau Teithio (Tocyn Bws) pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Bod Craffu yn nodi’r broses i ailddosbarthu Cardiau Teithio Gostyngol i bob preswyliwr cymwys yn Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyn dechrau ystyried yr adroddiad am ddisodli cardiau teithio, amlygodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y problemau diweddar gyda methiant cronfa ddata Trafnidiaeth Cymru. Pwysleisiodd nad oedd y tocynnau bws cyfredol yn dod i ben tan 31 Rhagfyr 2019 ac y gallai unrhyw un ymgeisio ar ran rhywun arall cyn belled â bod ganddynt y wybodaeth berthnasol.Dywedodd bod copïau PDF ar gael i’w lawrlwytho o wefan Trafnidiaeth Cymru.  Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad am arwain ar y gwaith hwn.

 

                        Holodd y Cynghorydd Dolphin a oedd y cyfraniad o £173k gan Sir y Fflint yn daliad unigryw neu’n gyfraniad blynyddol. Roedd yr Aelodau’n awyddus i’r cyhoedd gael mwy o wybodaeth am y rhesymau tu ôl i pam roedd angen i’r tocynnau gael eu hadnewyddu a sut allen nhw wneud cais amdanynt gan fod y cyhoedd yn pryderu eu bod yn wastraff arian. Awgrymodd y Cynghorydd Shotton bod aelodau’n rhoi’r wybodaeth ar eu cyfryngau cymdeithasol.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod y ffi yn dyddio’n ôl i pan roedd y Cyngor yn cynnal y Cynllun Teithio Rhatach ac ers i Lywodraeth Cymru gymryd y gwasanaeth drosodd, roedd hyn yn gyfraniad parhaus. Ychwanegodd hefyd bod y cynllun wedi bod mewn grym ers 10 mlynedd a bod angen ei ddiweddaru gan fod nifer o bobl wedi symud neu bod eu manylion wedi newid. Roedd taflenni wedi cael eu dosbarth yn rhoi cyngor am y mater ac roedd Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu yn gallu helpu gyda cheisiadau hefyd.  Cytunodd y Prif Swyddog i godi materion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru.

 

                        Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Bibby a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Shotton.

           

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r broses i roi Cardiau Teithio Rhatach newydd i bob preswyliwr cymwys yn Sir y Fflint.

23.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.