Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

28.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 19 Medi a 16 Hydref 2018.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Medi ac 16 Hydref 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo bod y cofnodion yn gywir ac y dylai'r Cadeirydd eu llofnodi.

29.

Cynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 (RoWIP) pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas: Ymgynghori gydag aelodau’r pwyllgor ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 newydd fel rhan o’r cyfnod ymgynghori statudol o 3 mis.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy newydd 2018-2028 yn rhan o'r ymgynghoriad statudol 3 mis o hyd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr ail CGHT hwn yn asesu rhwydwaith 2018 ac yn gwerthuso'r cynnydd a wnaed ers 2008.  Mae'r cyd-destun cyfredol (2018) o ran polisi yn cael ei archwilio, meysydd â blaenoriaeth yn cael eu nodi a Datganiad Gweithredu o arddull newydd yn cael ei gyflwyno. Gofynnodd y Prif Swyddog i'r Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol gyflwyno'r adroddiad.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod y CGHT cyntaf wedi nodi sawl maes fel blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2008-2018.  O'r 22 o dasgau a nodwyd, yr oedd 7 wedi'u cwblhau, neu gynnydd sylweddol wedi'i wneud yn gysylltiedig â hwy, ni chafwyd ond ychydig o gynnydd os o gwbl gyda 7 arall, a bu cynnydd rhannol yn gysylltiedig ag 8 ohonynt. Fodd bynnag, canfuwyd bod y data a gofnodwyd yn anghyson ac weithiau'n brin, gan olygu ei bod hi'n anodd nodi cynnydd mewn rhai meysydd. 

 

            Adroddodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol ar y prif ystyriaethau, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod llyfryn Polisi a Gweithdrefn eisoes wedi cael ei lunio fel blaenoriaeth.  Byddai'r polisïau a'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n sail ar gyfer llyfryn a fyddai ar gael i ddefnyddwyr y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac i dirfeddianwyr er mwyn sicrhau dealltwriaeth eang a thryloywder ynghylch yr hyn y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud a'r modd y mae'n mynd ati i wneud hynny. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y 1800 o lwybrau cyhoeddus unigol a oedd yn ffurfio'r rhwydwaith hawliau tramwy yn 2018, a dywedodd fod rheoli a chynnal a chadw'r rwydwaith yn golygu llawer iawn o waith, gan sôn pa mor bwysig oedd cymorth gwirfoddolwyr yn hynny o beth.  Awgrymodd y gallai gwirfoddolwyr gymryd mwy o ran yn y gwaith hwnnw yn y dyfodol.  Cydnabu'r Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol rôl bwysig gwirfoddolwyr wrth gynorthwyo ceidwaid, a chyfeiriodd hefyd at grwpiau lleol a oedd yn cyflawni gwaith gwirfoddol i gynorthwyo'r gwasanaeth cefn gwlad.  Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Shotton ynghylch arwyddbyst, esboniodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod cynnydd pellach wedi'i wneud a'r gwaith yn parhau. Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Shotton, esboniodd y byddai'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft yn dod i ben ym mis Ionawr 2019. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at dudalen 56 yr adroddiad a'r ffaith bod rhwystrau yn peri anhawster i bobl mewn cadeiriau olwyn trydanol wrth iddynt geisio cael mynediad at Lwybr Arfordir Cymru. Gofynnodd am y camau a gymerwyd i ymdrin â'r broblem hon, a siaradodd am bwysigrwydd cadw rhwystrau ac at broblemau a gafwyd yn y gorffennol mewn mannau penodol.   Eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod safbwynt yr Awdurdod yn gyfreithiol, ond yr oedd yn adolygu ei safbwynt o ran y rhwystrau, ac yn ystyried cynnal ymgynghoriad ehangach ar y mater hwnnw yn  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Gorfodi Amgylcheddol pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas: I adolygu'r opsiynau ar gyfer darparu’r gwasanaeth Gorfodi Amgylcheddol yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar yr opsiynau ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Gorfodi Amgylcheddol yn y dyfodol. Darparodd gontract y gwasanaeth â Kingdom. Roedd Kingdom wedi tynnu eu gwasanaethau'n ôl o ddiwedd mis Awst 2018.  Eglurodd y Prif Swyddog mai'r tîm o swyddogion gorfodi mewnol a oedd yn weddill a oedd yn cyflawni'r holl weithgarwch gorfodi o fewn y Sir ar hyn o bryd.  Nodai'r adroddiad y 5 opsiwn posibl er mwyn gorfodi polisïau amgylcheddol y gwasanaeth drwy'r sir. Gwahoddodd y Prif Swyddog Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i gyflwyno'r adroddiad a'r arfarniad o opsiynau gorfodi a oedd wedi'i atodi.

 

            Yn dilyn yr argymhelliad i derfynu'r contract â Kingdom ac archwilio modelau gwahanol er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth, dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd yr aethpwyd ati i gysylltu â'r holl Awdurdodau yng Ngogledd Cymru i ddeall eu cynigion ar gyfer y dyfodol.  Yn debyg i'r Awdurdod hwn, gwelwyd bod Awdurdodau Lleol cyfagos yn cynnal adolygiad o'u gwasanaethau gorfodi ar hyn o bryd a bod pob opsiwn yn agored i'w ystyried. Adroddodd Rheolwr y Strategaeth Priffyrdd ar y 5 opsiwn sydd ar gael er mwyn gorfodi drwy'r sir, gan gyfeirio at y costau, y manteision a'r risgiau perthnasol yn gysylltiedig â'r modelau cyflenwi gwasanaeth yn y dyfodol.  Dywedodd mai Opsiwn 2 oedd yr opsiwn a ffafrir - Darpariaeth gorfodi fewnol well er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth gorfodi amgylcheddol a pharcio ceir o fewn y Sir.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd David Evans y dylid cytuno ar Opsiwn 2 y amodol ar ddileu'r egwyddor dim goddefgarwch wrth gyflwyno Hysbysiadau Cosb Sefydlog am droseddau gollwng sbwriel.  Mynegodd y farn fod y risgiau'n gysylltiedig ag Opsiwn 3 yn gwrthbwyso'r manteision, ac na allai gefnogi'r opsiwn hwnnw.

 

            O ran gorfodaeth, esboniodd y Prif Swyddog fod swyddogion gorfodi yn derbyn canllawiau clir ar yr angen i orfodi yn erbyn digwyddiadau bwriadol, yn hytrach na digwyddiadau damweiniol.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid Opsiwn 2 a'r cynnig i gyflogi 2 Swyddog Gorfodi arall i gyflenwi gwasanaeth  fyddai'n cynnwys pob rhan o'r Sir. Soniodd am yr angen i ymgysylltu â gwirfoddolwyr a grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth a helpu i ddatrys problem sbwriel sy'n cael ei ollwng mewn ardaloedd cymunedol lleol.  Cyfeiriodd at gost gorfodaeth amgylcheddol a gofynnodd a fyddai modd i'r Pwyllgor gael yr wybodaeth ddiweddaraf flwyddyn nesaf.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog y byddai'r gost o cyflogi 2 Swyddog Gorfodi arall yn creu pwysau ar y gyllideb.  Cydnabu'r sylwadau a gafwyd gan y Cynghorydd Shotton ynghylch cynnwys y gymuned leol yn y gwaith o 'dacluso' ardaloedd lleol, a dywedodd fod grwpiau a gwirfoddolwyr lleol yn cymryd rhan pan fyddai digwyddiadau lleol yn cael eu cynnal.  Dywedodd hefyd y gellid gofyn i gydgysylltwyr ardaloedd lleol ddefnyddio eu cysylltiadau yn y gymuned i ofyn am gymorth.

 

            Gofynnod y Cadeirydd a fyddai modd iddo gael gwybod pan fyddai swyddogion gorfodi yn ymweld â'i Ward. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai'r wybodaeth honno'n cael ei darparu.  Dywedodd y Prif Swyddog y byddai'n cysylltu â'r holl Aelodau i  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas: I hysbysu Craffu am y cyfnod ymgynghori sydd ar y gweill ar Strategaeth Toiledau Lleol y Cyngor.

Cofnodion:

                        Rhoddodd Rheolwr y Strategaeth Priffyrdd wybodaeth gefndir ac, er mwyn cynhyrchu Strategaeth Toiledau Leol, dywedodd y byddai angen cynnal proses ymgynghori â'r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn helpu i ddeall y galw a'r angen lleol am y gwasanaeth. Byddai hynny wedyn yn cael ei ddefnyddio'n sail ar gyfer Strategaeth y Cyngor yn y dyfodol. 

 

            Adroddodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd ar y prif ystyriaethau, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad. Esboniodd fod angen i'r ymgynghoriad gadarnhau lleoliad safleoedd presennol, y mynediad atynt, y cyfleusterau a ddarperir, mynychder y defnydd ohonynt a'u hansawdd, ond bod angen iddo hefyd bennu a fyddai cael mwy neu lai o safleoedd yn taro cydbwysedd rhwng y galw a'r angen a sefyllfa lle'r oedd cyllidebau'n gostwng.  Byddai angen i'r Strategaeth a'r cynigion terfynol fod yn gynaliadwy heb gynyddu'r pwysau ariannol ar y Cyngor i raddau sylweddol.  Byddai canlyniad yr ymgynghoriad, ynghyd â'r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus a argymhellir yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w cymeradwyo ym mis Ebrill 2019 ac i Trosolwg a Chraffu am eu sylwadau ymlaen llaw er mwyn galluogi'r Cyngor i sefydlu'r Strategaeth erbyn mis Mai 2019.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Joe Johnson ynghylch nifer y toiledau cyhoeddus yn Sir y Fflint, esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod 4 ohonynt ac, yn dilyn penderfyniad blaenorol, roedd y cyhoedd hefyd yn gallu defnyddio'r cyfleusterau toiled sydd ar gael mewn adeiladau Cyngor yn hytrach nag mewn safleoedd penodol, a chyfeiriodd at lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden fel enghreifftiau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y penderfyniad i gau'r cyfleusterau cyhoeddus yn Nhreffynnon, a gofynnodd a fyddai'r adeilad yn cael ei ddymchwel neu ei werthu, gan ei fod wedi bod ar gau ers tro.  Pan fyddai cyfleusterau cyhoeddus yn cael eu cau ar safle penodol, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr adeilad wedi'i gynnwys yn rhan o asedau'r Sir.  Cytunodd i wneud ymholiadau â'r tîm asedau ynghylch hyn, ac adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd Dolphin.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Sean Bibby a gynhaliwyd trafodaethau â busnesau lleol ynghylch caniatáu i'r cyhoedd ddefnyddio'r cyfleusterau toiled yn eu hadeiladau, gan gyfeirio at dafarndai a chaffis lleol fel enghreifftiau.  Eglurodd y Prif Swyddog fod yr opsiwn hwn wedi cael ei gyflwyno yn rhai ardaloedd yng Nghymru, ond roedd yr adborth a gafwyd yn awgrymu nad oedd y cyfleusterau hyn bob amser yn addas i'r henoed neu i blant ifanc. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod angen i fusnesau lleol gymryd rhan yn llawnach yn y fenter er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n ymweld â chanol trefi lleol.  Awgrymodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y dylai'r Aelodau gysylltu â'r busnesau lleol yn eu Wardiau i annog diddordeb yn y cynllun. Cytunodd y Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant i ymholi ynghylch statws cyfredol y cynllun a rhannu hynny â'r aelodau.

 

            Pwysleisiodd y Cynghorydd David Evans pa mor bwysig yw cael cyfleusterau toiled ar Lwybr Arfordir Cymru ac ar lwybrau beicio. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol sydd ei angen er mwyn cyflawni  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Cludiant Ysgol – Ffioedd Consesiynol pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas: Ceisio argymhelliad gan Graffu i godi am seddi consesiynol cludiant ysgol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr ITU - Strydwedd a Chludiant - adroddiad a ofynnai am argymhelliad ynghylch y gyfradd i'w chodi am seddau consesiwn ar gyfer cludiant ysgolion.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac esboniodd fod y Pwyllgor wedi argymell yn y gorffennol y dylid mabwysiadu Opsiwn 2 (hy, £100.00 y tymor) fel y strwythur prisio yr oedd yn ei ffafrio ar gyfer pas bws consesiwn ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol (2018/19), ac  dylid cynnal adolygiad o effaith y cynnydd mewn costau, er mwyn gallu pennu lefel ar gyfer y blynyddoedd nesaf.  Dywedodd fod y gyfradd yn llai na 50% o'r gost lawn o ddarparu'r seddau consesiwn, a bod hynny'n creu pwysau ariannol i'r Awdurdod.

 

            Adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, a dywedodd fod yr opsiynau ar gyfer prisiau seddau consesiwn yn y dyfodol wedi'u hatodi i'r adroddiad.   Er mai'r nod yn y tymor hir fyddai adennill cost lawn y gwasanaeth, ystyriwyd ei bod hi'n annheg codi'r prisiau i'r lefel honno mewn cyfnod mor fyr o amser, felly nid oedd opsiynau 1 na 3 yn cael eu hargymell ar hyn o bryd.  Argymhellwyd Opsiwn 2 (£450 y flwyddyn - £150 y tymor) ar gyfer 2019/20 gan ei fod yn taro cydbwysedd rhwng yr angen i adennill y gost yn llawn a fforddiadwyedd y cynllun i rieni (yn enwedig i rieni a chanddynt fwy nag un plentyn yn teithio i'r ysgol). 

 

            Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Owen Thomas, dywedodd y Rheolwr ITU - Strydwedd a Chludiant - nad oedd gan yr Awdurdod gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddisgyblion a ddefnyddiai fysys ysgol gan mai dewis rhieni oedd defnyddio'r cludiant hwnnw. Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Thomas ynghylch y gost o gymorthdalu mannau gwag ar fysus ysgol, dywedodd y Prif Swyddog fod adolygiad o'r ddarpariaeth cludiant ysgolion wedi cael ei chynnal er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben. 

 

            Mewn ymateb i sylwadau'r Cadeirydd ynghylch apelau ysgolion, cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Tomas at y polisi cludiant ysgolion a dywedodd na fyddai plant ond yn cael cludiant am ddim i'w hysgol agosaf o fis Medi 2019.  

 

                        Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylid cymeradwyo Opsiwn 2 - £450 y flwyddyn (£250 y tymor) fel y gyfradd a ffafrir ar gyfer seddau consesiwn yn 2019/20 ac, yn dilyn pleidlais, cefnogwyd hynny.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            (a)       Nodi'r wybodaeth am amcanestyniadau refeniw ar gyfer opsiynau amrywiol y prisiau teithio consesiwn; a

 

            (b)       Y dylid argymell Opsiwn 2 - £450 y flwyddyn (£150 y tymor) fel cyfradd       a oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer seddau consesiwn yn 2019/20, i'w        gymeradwyo gan y Cabinet.

 

33.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd y Rhaglen Waith i'r Dyfodol er ystyriaeth.  Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 11 Rhagfyr 2018.  Cytunwyd y byddai'r eitem ar Bwyntiau Gwefru Ceir Electronig yn cael ei gohirio i'w hystyried yn un o gyfarfodydd nesaf y Pwyllgor. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Joe Johnson y dylid cynnal gweithdy ar wastraff ailgylchadwy.  Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y dylid trefnu sesiwn wybodaeth fer i'r Pwyllgor cyn dechrau un o'r cyfarfodydd nesaf.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid diwygio'r Rhaglen Waith i'r Dyfodol; a

 

(b)       Y dylid awdurdodi'r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio'r Rhaglen Waith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd pan fydd angen.

34.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Roedd un aelod o'r wasg yn bresennol yn y cyfarfod. Nid oedd yr un aelod o'r cyhoedd yn bresennol.