Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: |
|
Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 PDF 82 KB Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer Portffolio Strydwedd a Chludiant a rhannau o Bortffolio Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2019/20. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar gynigion cyllideb cam 2 ar gyfer Portffolio Strydwedd a Chludiant a rhan o’r Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi ar gyfer 2019/20. Darparodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at weithdy a gynhaliwyd ar 11 Hydref, a roddodd gyfle i Aelodau i ddeall cyllideb portffolio yn fwy manwl a'r risgiau a lefelau gwydnwch meysydd gwasanaeth. Adroddodd y Prif Swyddog ar bwysau portffolio, buddsoddiadau, a chynllunio arbedion effeithlonrwydd busnes Portffolio fel y nodir yn yr adroddiad mewn perthynas â Strydwedd a Chludiant.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton i leihad mewn incwm o ailgylchu gwastraff. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr incwm o wastraff ailgylchu, a phlastig, cerdyn a phapur er enghraifft, wedi gostwng yn sylweddol oherwydd colli marchnadoedd rhyngwladol a chyfeiriwyd at fentrau sydd yn cymryd lle i gynnal y farchnad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio plastig yn lle Bitumen i atgyweirio arwynebedd ffyrdd a ceudyllau, dywedodd Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant bod trafodaethau yn digwydd gyda chwmni lleol mewn perthynas â hyn, a bwriedir bod sampl o ddeunydd yn cael ei ddarparu ar gyfer ei dreialu yn y dyfodol agos. Byddai aelodau yn cael eu gwahodd i ymweld â'r cwmni i edrych ar y cynnyrch a phan fydd gwybodaeth pellach ar gael, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu ar y canfyddiadau.
Cododd y Cynghorydd Mike Peers nifer o ymholiadau. Cyfeiriodd at incwm o waith allanol (Gweithdy Fflyd) a gofnodwyd fel £0.010m yn yr adroddiad, ac ar dudalen 3 y datganiad gwytnwch nodwyd £10.00. Hefyd gofynnodd am gadarnhad a oedd y casgliadau sbwriel bob 3 wythnos yn rhan o’r cynigion ar y pryd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr arbedion o £30k yn 2015/16 yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth yng ngorsaf bws yr Wyddgrug, a dywedodd ei fod yn ymddangos bod arian yn cael ei wario ar gyllid grant. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y grant gorsaf bysiau gan Lywodraeth Cymru a bod y £30k a gyfeiriwyd ato yn arbedion refeniw yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth bychan yng ngorsaf bws yr Wyddgrug.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas nad oedd penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch gwasanaeth casglu sbwriel bob 3 wythnos, ond dywedodd oherwydd y setliad cyllideb diweddaraf a’r gostyngiadau pellach mewn cyllid nad oedd yn bosib ei anwybyddu fel dull arbed cyllid posibl ar hyn o bryd. Dywedodd y byddai newid y gwasanaeth casglu gwastraff bob 3 wythnos yn gallu gwneud arbedion o £800k.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas ynghylch gwastraff ochr, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â’r broblem o wastraff ochr a oedd yn cael ei adael i’w casglu. Dywedodd bod 1,400 o lythyrau rhybuddio wedi’u hanfon at breswylwyr a busnesau a dywedodd mai dim ond 30-40 o achosion oedd wedi symud i’r ail gam o roi rhybudd. Dywedodd y Prif Swyddog gan oedd unrhyw Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi’u rhoi a dywedodd mai’r nod oedd ymgysylltu ac annog pobl i ... view the full Cofnodion text for item 21. |
|
Adolygu’r polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i adolygu’r Polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig yn dilyn gweithredu’r cod ymarfer newydd ym mis Hydref 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndir a rhoddodd sylw ar gydnabyddiaeth yn y cyhoeddiad cyllideb diweddar o bwysigrwydd y rhwydwaith priffyrdd a darparu twf cynaliadwy ac economaidd a dywedodd y byddai cyllid 3 blynedd ar gael i ailwynebu ffyrdd. Roedd y Prif Swyddog wedi gwahodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i roi trosolwg o’r prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at ddyletswydd statudol y Cyngor fel ‘Awdurdod y Briffyrdd’ i gynnal priffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu gan gynnwys strwythurau priffyrdd o fewn y Sir, a’r posibilrwydd i hawliau godi yn erbyn y Sir gan ddefnyddwyr priffyrdd oherwydd anaf bersonol neu golled yn codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau oherwydd nad yw dyletswyddau wedi’u cadw atynt. Dywedodd bod rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth a nid ‘dosbarth’ y ceudyllau. Gofynnodd os oedd yr Awdurdod yn cyfeirio at ei adroddiadau archwilio wrth ddelio â hawliau sy’n codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau a oedd wedi digwydd ar y rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd, ac a oeddynt ar gael i’r Aelodau eu gweld.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers i'r polisi arfaethedig i archwiliadau diogelwch priffyrdd a meysydd parcio, meini prawf ymyriadau ac amseroedd ymateb a oedd wedi'u hatodi yn yr adroddiad. Dywedodd bod y meini prawf adnabod diffygion a mynegodd bryderon bod y categori lle byddai diffygion yn ddibynnol ar ddehongliad. Dywedodd bod angen darparu mwy o fanylion ar y categori coch.
Mynegodd y Cynghorydd Peers bryderon ynghylch amseroedd ymateb ac i roi adborth ar faterion a godwyd gan Aelodau a phreswylwyr mewn perthynas â diffygion, a rhoddodd enghraifft o ddiffyg a oedd wedi’i riportio am geudwll ar ei Ward. Tynnodd sylw at amser ymateb a nodwyd yn y polisi arfaethedig. Ymatebodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, ac eglurodd bod yr asesiadau risg yn cael eu cyflawni gan y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn unol â’r cod ymarfer. Cytunodd i ddarparu cofnodion ar sail pob achos i Cynghorydd Peers. Gofynnodd Cynghorydd Peers bod y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn darparu diweddariadau rheolaidd i’r Aelodau ar gyflwr y ffyrdd, llwybrau cerdded a meysydd parcio yn eu Wardiau.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton os dylid rhoi ystyriaeth at ddefnydd o drôn i gynorthwyo Cydlynwyr Ardal Strydwedd i gyflawni eu harchwiliadau diogelwch neu i atgyweirio ceudyllau. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod cyfarpar electronig yn cael ei ddefnyddio yn barod i gynorthwyo archwiliadau diogelwch a chytunodd i edrych ar y defnydd posibl o drôn.
Gan gyfeirio at archwiliadau o strwythurau a waliau cynnal, soniodd y Cynghorydd David Evans ar y broblem o reiliau wedi’u torri a gofynnodd os oedd hyn yn cael ei gynnwys yn yr archwiliadau. Hefyd dywedodd nad oedd unrhyw amserlenni wedi’u nodi yn y polisi arfaethedig ar gyfer atgyweirio neu amnewid unrhyw ddiffygion a nodwyd yn ystod yr archwiliad o’r strwythurau a’r waliau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y meini prawf ... view the full Cofnodion text for item 22. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried.
Ceisiodd yr Hwylusydd safbwyntiau’r Pwyllgor ar gynnal cyfarfod ychwanegol ym mis Rhagfyr oherwydd y nifer o eitemau a oedd i’w hystyried yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd. Cytunodd yr Aelodau i gynnal cyfarfod ychwanegol ar 11 Rhagfyr i ddechrau am 9am.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Adroddiad Gwybodaeth – y wybodaeth ddiweddaraf ar Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas Pwrpas: Derbyn adroddiad ar gynnydd. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) adroddiad i ddarparu diweddariad ar y sefyllfa cyfredol o Barc Treftadaeth Maes Dyffryn Glas. Rhoddodd gwybodaeth gefndir ac atgyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad, a chynnydd ar yr argymhellion Archwiliad Mewnol Sir y Fflint fel y nodwyd yn atodiad i’r adroddiad. Rhoddodd wahoddiad i Reolwr Yr Amgylchedd a Mynediad i roi diweddariad ar weithrediadau safle.
Soniodd Rheolwr Yr Amgylchedd a Mynediad am weithgareddau addysgiadol a gyflawnwyd gan 12 ysgol yn ystod tymor yr Haf, a dywedwyd bod mwy na 100 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal y tymor hwn. Rhoddodd sylw i gynnydd yn y nifer o ymwelwyr a diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol, ac eglurodd bod y gwelliant o gyflwyniad cyffredinol a safonau cynnal a chadw wedi arwain at Faes Dyffryn Glas i gael Gwobr Greenflag, a chael safon ymwelwyr aur gan Croeso Cymru.
Cyfeiriodd y Rheolwr Yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad at waith gwella ac atgyweirio, ac arwyddion newydd a oedd wedi'u cyflawni a'u gosod ar lwybrau cerdded, llwybrau coetir, llwybrau blaenoriaeth a stepiau. Dywedodd bod arolwg defnyddwyr o gynnig Chwarae o fewn y safle wedi’i gwblhau yn ystod yr Haf, a bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi yn ystod yr Hydref. Hefyd roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal â’r Tîm Teithio Llesol i drafod y posibilrwydd o lwybr aml-ddefnydd drwy’r Dyffryn. Roedd Sustrans hefyd yn cyflawni astudiaeth ddichonoldeb o lwybrau posibl.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |