Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Nodyn: Moved from 16/07/19
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Annibynnol Newydd a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Patrick Heesom yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon. Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Annibynnol Newydd. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Gr?p wedi penodi’r Cynghorydd Patrick Heesom ar gyfer y rôl.
O hyn ymlaen fe gadeiriodd y Cynghorydd Heesom weddill y cyfarfod. Cymerodd y cyfle i dalu teyrnged i’r Cynghorydd Ray Hughes fel y cyn Gadeirydd. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Mai 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2019.
Materion yn Codi
Cofnod 7: Papur gwybodaeth ar gyfyngiadau cyflymder gorfodol o 20mya yn Sir y Fflint – dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) er bod swyddogion yn gweithio ar gynlluniau posib fod Llywodraeth Cymru eto i benderfynu ar newid yn y ddeddfwriaeth.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 97 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cafwyd cyflwyniad byr gan y Prif Swyddogion ar y gwasanaethau o fewn eu portffolios er mwyn helpu’r Pwyllgor i feddwl am eitemau i’w cynnwys ar yr agenda yn y dyfodol.
Awgrymwyd y pynciau canlynol:
· Rheoli Adeiladu – yn cynnwys effaith newidiadau yn y farchnad archwilio adeiladau ac edrych ar gyfleoedd pellach i gyflawni gwasanaethau i gynghorau eraill · Systemau draenio cynaliadwy · Gwasanaeth Cefn Gwlad · Cynllunio Gwastraff a Mwynau – yn cynnwys darparu gwasanaethau allanol ar draws y rhanbarth · Cysylltedd Digidol · Thema ‘Cyngor Gwyrdd’ yng Nghynllun y Cyngor i gynnwys gwasanaethau ynni, paneli solar, golau stryd a phlastig · Ymateb y Cyngor i’r agenda Newid Hinsawdd · Menter/Adfywio Canol y Dref – yn cynnwys proses Ardal Gwella Busnes i’w drefnu ar gyfer dechrau 2020 · Parciau Batris – helpu i addysgu cymunedau ar yr effeithiau · Fflyd trydaneiddio · Darparu mynwentydd a’r strategaeth · Adolygu gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf · Gwasanaethau Masnachol · Caniatáu gwastraff a llif data · Canolfan Gyswllt · Parcio ceir – costau, gorfodaeth a gwneud y mwyaf o incwm drwy drwsio peiriannau diffygiol yn brydlon · Polisi codi tâl/mynegeio · Safonau gwasanaeth · Gorfodaeth · Polisi torri gwair a pherfformiad (yn cynnwys ail-ddosbarthu’r safonau y cytunwyd arnynt) – yn cynnwys rheoli blodau gwyllt · Effaith gwaith ffyrdd gan gwmnïau cyfleusterau · Polisi cwrb isel ac arferion · Biniau gwastraff gardd – maint, costau a’r posibilrwydd i ddarparu ail fin am ddim
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) i roi fersiwn diweddar i’r Aelodau o’r ddogfen drafft ‘Pwy ‘di Pwy’ ar ôl ei orffen yn derfynol. Awgrymodd y Cynghorydd Evans i’r ddogfen derfynol gynnwys mwy o rifau cyswllt defnyddiol os yw’r ddogfen yn mynd i fod ar gael i’r cyhoedd.
Eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn ddogfen dros dro nes bod y gwasanaethau hynny yn cael eu hymgorffori yn y Ganolfan Gyswllt. Tynnodd sylw at bwynt y Cynghorydd Hughes am rannu rhifau ffôn symudol gwaith y swyddogion.
Meddai’r Cynghorydd Bibby y byddai dogfen debyg gyda manylion cyswllt portffolios eraill yn ddefnyddiol.
Dywedodd y Cynghorwyr Dolphin a Hardcastle am argaeledd swyddogion ac amseroedd ymateb. Eglurodd y Prif Swyddogion am fanteision rhif canolog y Ganolfan Gyswllt (701234) ar gyfer cofnodi galwadau a chymryd camau dilynol. Roedd opsiynau yn cael eu hystyried i leihau’r amser disgwyl i’ch galwad gael ei ateb, a byddai casgliad o wahanol dimau mewn un Canolfan Gyswllt corfforaethol yn Ewloe yn golygu gwell cymhwysedd. Cafodd aelodau lleol eu hatgoffa i adael i’w Cydlynwyr Ardal wybod am unrhyw achosion penodol ar y manylion cyswllt â rannwyd eisoes.
Dangosodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddogion am eu cyflwyniadau manwl a gofynnodd iddyn nhw ddiolch i’r tîm Strydwedd am eu gwaith yn helpu cymunedau yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar. Ategodd y Cynghorydd Carolyn Thomas hynny.
Yn ystod trafodaeth ar y pynciau a awgrymwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am yr angen i wasanaethau torri gwair i gael ei wneud gan nifer o dimau oherwydd yr amrywiaeth o offer sydd ei angen. Ar finiau ... view the full Cofnodion text for item 13. |
|
Adolygiad o Safonau Strydwedd PDF 94 KB Pwrpas: Ceisio argymhelliad gan y pwyllgor ar gyfer y safonau gweithredol Strydwedd a Chludiant a fydd yn cael eu hadrodd yn eu cylch fel rhan o’r cynllun chwarterol ar gyfer perfformiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe gyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofyn am argymhelliad i’r Cabinet fabwysiadu’r safonau gwasanaeth Strydwedd a gafodd eu diweddaru ar ôl eu hadolygu. Perfformiad yn erbyn safonau – o dan y thema Cyngor Diogel a Glân yng Nghynllun y Cyngor 2019 – yn cael eu hadrodd fel rhan o broses monitro perfformiad newydd.
Yn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bibby, fe gytunodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i ddarparu eglurhad bellach ar y cemegau a ganiateir i’w defnyddio ar gyfer cael gwared ar graffiti.
Cwestiynodd y Cynghorydd Connah i gael gwared ar rai o’r safonau. Cafodd ei hysbysu y byddai ymatebion i reoli pla yn parhau i gael eu monitro a bod biniau gwastraff/bocsys ailgylchu newydd yn cael eu casglu o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T?.
Roedd gan y Cynghorydd Dolphin bryderon am gasgliadau bin heb eu casglu fwy nag unwaith, weithiau yn golygu ffordd gyfan. Yn ymateb i’r cwestiynau fe eglurodd y Prif Swyddog fod Goruchwylwyr Strydwedd ar gais yn gallu ymweld â Chynghorau Tref a Chymuned. Rhannodd ei rwystredigaethau am yr oedi gyda’r gwaith ar y goleuadau stryd gan Scottish Power a oedd allan o ddwylo’r Cyngor.
Yn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Evans fe eglurodd y Prif Swyddog y broses o gael gwared ar wrthrychau miniog oddi ar dir sy’n eiddo’r Cyngor a’r targedau ar gyfer glanhau strydoedd fel y cytunwyd gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd hefyd am yr uchafswm amser sydd ei angen i brosesu ceisiadau i gael cefnogaeth gyda chasglu biniau a’r gweithdrefn 3-cam a gytunwyd arno i ddelio gydag achosion o wastraff sy’n cael ei osod ar dop neu wrth ochr biniau.
Yn ôl cais y Cynghorydd Hardcastle cafwyd eglurhad manwl o’r broses tipio anghyfreithlon gan y Prif Swyddog gan adrodd nad oedd cynnydd yn y nifer o achosion.
Dyma’r Cynghorydd Chris Bithell yn annog Aelodau i godi ymwybyddiaeth o dîm Rheoli Pla y Cyngor oedd yn darparu gwasanaeth effeithiol i breswylwyr. Pan ofynnodd y Cynghorydd Gay am y meini prawf eithriedig ar gyfer y newidiadau hyn fe gytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) i ddosbarthu’r manylion.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Dolphin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu’r safonau gwasanaeth Strydwedd yn Atodiad 1 o’r adroddiad, gan gynnwys yr ychwanegiadau a’r agweddau i’w dileu a gynigir i’r rhestr ddiwygiedig o ganlyniad i’r newidiadau yn y portffolio. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |