Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.co.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Tachwedd 2018
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018.
Materion yn Codi Gan gyfeirio at ei sylwadau ar Orfodi'r Amgylchedd, dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton y gallai nifer o grwpiau a sefydliadau lleol gael eu ymgysylltu mewn digwyddiad 'glanhau sbwriel sydd wedi'i waredu' o amgylch Cei Connah yn ystod mis Mawrth.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Diweddariad Metro Gogledd Ddwyrain Cymru PDF 95 KB I ddiweddaru Craffu ar gynnydd Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys y cynigion diweddaraf i Lywodraeth Cyllid am arian. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddarparu diweddariad ar ddatblygiad Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, gan gynnwys y cynigion diweddaraf i Lywodraeth Cymru am gyllid. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd er mwyn darparu datrysiad cludiant cynaliadwy hirdymor, roedd yn hanfodol bod pob math o gludiant yn cael eu integreiddio’n llwyddiannus. Yn allweddol i hyn oedd cynnal a hyrwyddo Gwasanaeth Cludiant Cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd gyda chysylltiadau i Sir Y Fflint i gyd a’r rhanbarth ehangach. Mae’r cynigion yn darparu llwyfan y gellir ehangu cwmpas i ddarparu datrysiad cludiant ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol lleol, yn arbennig Brychdyn a safle Airbus gerllaw, yn darparu mynediad di-dor i bobl sydd yn dymuno gweithio yn yr ardal ac sy’n byw mewn ardaloedd eraill o Ogledd/Canolbarth Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr.
Dywedodd y Prif Swyddog bod cynigion eraill wedi’u cyflwyno’n ddiweddar i’r ‘Cyllid Cludiant Lleol’ ar gyfer cyllido yn y cyfnod 2018-2021. Mae’r Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid gan Llywodraeth Cymru o £1,373,500 yn 2018/19 gydag ymrwymiad pellach o £2,675m yn 2019/20 a £1,6025m yn 2020/21 ar gyfer darparu cynlluniau eraill a nodir yn yr adroddiad.
Gwahoddodd y Prif Swyddog yr Uwch Reolwr Technegol a Pherfformiad i roi adroddiad ar gynnydd ar y cynlluniau parhaus o fewn y prosiect ehangach:
Dywedodd y Prif Swyddog bod ymgynghoriad ar y cynlluniau wedi digwydd gyda'r Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy, busnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Cynghorau Tref a Chymuned lleol, aelodau etholedig a Llywodraeth Cymru. Bydd ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gyflawni yn y dyfodol agos.
Cydnabu’r Prif Swyddog y sylwadau gan y Cynghorydd Vicky Perfect ar y cynnig Metro Gogledd Ddwyrain Cymru a chyswllt i orsaf rheilffordd y Fflint, a dywedodd bod pwysigrwydd y rheilffordd ar yr arfordir yn cael ei chydnabod.
Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton am yr anhawster y mae rhai bobl wedi’u profi wrth geisio cael mynediad at Barc Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Siaradodd o blaid y cynllun am isadeiledd teithio llesol a gorsaf fysiau drwy Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a chroesawodd yr uwchraddio'r gwasanaeth gwennol gyda mwy o bwyslais ar arbed ynni. Gofynnodd am ddiweddariad ar y cynllun parcio a theithio. Dywedodd y Swyddogion bod gwaith yn cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun parcio a theithio ac roedd ar hyn o bryd yn y cam cynllunio, a dylai cyllid gael ei sicrhau yn y dyfodol agos. Mae safle addas wedi’i nodi ac mae’r gymuned fusnes o blaid cynllun parcio a theithio. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai’r cynllun parcio a theithio yn mynd i'r afael â thagfeydd a darparu gwasanaeth gwennol rheolaidd.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at gysylltu â gorsaf Shotton i alluogi mynediad at ganol Parc ... view the full Cofnodion text for item 43. |
|
Contract Fflyd – Diweddariad PDF 93 KB Rhoi diweddariad i Graffu ar gynnydd y Contract Fflyd ledled y sir, ddwy flynedd ar ôl ei weithrediad. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd o Gytundeb Fflyd sir gyfan dwy flynedd ar ôl ei gweithredu, a gwerthusiad yr arbedion effeithlonrwydd a ddarparwyd gan newid yn y ffordd o ddarparu.
Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch manteision ariannol a rhagwelir a’r sefyllfa cyfredol, a'r manteision gwasanaeth a rhagwelir. Dywedodd bod y rhan fwyaf o fanteision gwasanaeth a rhagwelir wedi’u cyflawni a bod y fflyd wedi cael eu moderneiddio gyda cherbydau newydd. Cyfrifwyd cyfanswm yr arbedion cronnus y Cytundeb Fflyd erbyn yr 2il Flwyddyn (17/18) yn £1,134,912, fodd bynnag, roedd hyn cynnwys sefyllfa well o arbedion a ddarparwyd gan brosesu llai o anfonebau.
Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod adolygiad Archwiliad Mewnol o’r cytundeb wedi’i gyflawni ym mis Mai 2018, fel arfer da, ac wedi nodi meysydd lle’r oedd yr Awdurdod angen gweithio’n agosach i sicrhau bod gweithgareddau yn dod yn rhan o brosesau adolygu maes gwasanaeth. Ychwanegodd bod y cyngor a gwybodaeth gan y Tîm Fflyd a’r contractwr partner yn cael eu gweithredu i wella defnydd ac arbedion effeithlonrwydd. Mae Cynllun Gweithredu mewn lle i ddatrys yr holl materion dros ben yn yr adroddiad.
Gan gyfeirio at foderneiddio fflyd cerbydau’r Awdurdod yn dilyn darpariaeth o gerbydau newydd gan y partner, dywedodd y Prif Swyddog bod hyn wedi arwain at lai o gerbydau yn gweithredu nag oedd yn y gorffennol a gwell effeithlonrwydd gyda llai o waith cynnal a chadw ac atgyweirio ei hangen. O ganlyniad, mae cynigion yn cael eu hystyried i alluogi staff mewnol y gweithdy sydd yn cyflawni gwaith cynnal a chadw ar y cerbydau ar ran y contractwr, i gyflawni busnes trydydd parti drwy’r gweithdy gyda'r Awdurdod i dalu am yr oriau sy’n cael eu gweithio.
Mynegodd yr Aelodau eu gwerthfawrogiad i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu cynnydd a arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd hyd yma o ganlyniad i drefniadau gweithio fflyd newydd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
|
|
Pwyntiau Gwefru Ceir PDF 94 KB I ystyried y strategaeth ddrafft Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i alluogi’r Pwyllgor ystyried y strategaeth ddrafft. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at alw cynyddol am gerbydau trydan yn y DU, a dywedodd ei bod yn hanfodol i'r Awdurdod ymgysylltu â thechnolegau newydd i leihau'r risg o gefnu ar y cyhoedd o ran twristiaeth, datblygiad preswyl a thwf busnes.
Dywedodd y Prif Swyddog bod gan y Cyngor swyddogaeth i ddatblygu strategaeth i hwyluso gweithredu Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan, ac i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflwyno Pwyntiau Gwefru priodol ac effeithiol mewn lleoliadau strategol ar draws y Sir. Byddai’r Awdurdod yn cyflawni hyn drwy wneud lleoliadau ar gael, a thrwy sicrhau bod y rhwydwaith cyflenwad trydan lleol yn ddigonol i gymhwyso’r galw ychwanegol. Byddai’r dull hwn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a darparu manteision ariannol hirdymor posibl ar gyfer y Cyngor o’r trefniadau prydles lleol. Byddai strategaeth cymeradwy yn caniatáu’r Cyngor i wneud cynnig am ffrwd gyllido ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth cenedlaethol i helpu awdurdodau lleol sicrhau rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y Sir.
Eglurodd y Prif Swyddog y gallai’r Awdurdod liniaru’r risg o effaith ar ei gyllid drwy fabwysiadu’r rôl ‘galluogwr' i hwyluso gweithredu pwyntiau gwefru cerbyd trydan, yn hytrach na thybio'r rôl o ddarparwr uniongyrchol. Ailadroddodd y byddai’r dull hwn yn caniatáu’r Cyngor fynd i mewn i gytundeb prydles hirdymor gyda chyflenwyr penodol a fyddai'n darparu posibilrwydd o incwm hirdymor. Byddai hyn yn cynnwys yr Awdurdod yn gwneud cynnig am gyllid gan Llywodraeth Cymru i uwchraddio’r rhwydwaith cyflenwad trydan presennol ar y safleoedd hynny sydd ag achos busnes profedig. Hefyd gallai safleoedd gael eu blaenoriaethu oherwydd y posibilrwydd o integreiddio cyfleusterau ynni ategol megis PV Solar (porth car solar, casgliad solar) a storfa batri. Dywedodd y Prif Swyddog ei bod yn hanfodol bod agweddau trefol a gwledig y Sir yn cael eu hystyried wrth hwyluso’r twf am rwydwaith gwefru Cerbydau Trydan.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Awdurdod yn gweithredu fflyd, ar hyn o bryd o tua 315 o gerbydau, a thra bydd yn ceisio cyflawni bod y fflyd i gyd yn rhai trydan, mae’r dechnoleg batri sydd ar gael ar hyn o bryd yn cyfyngu ar yr ystod o gerbydau trydan. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn parhau i weithio gyda’i chyflenwr fflyd i fonitro cyfleoedd i integreiddio cerbydau trydan i’w fflyd ei hun yn unol â thechnoleg batri gwell.
Roedd wedi gwahodd y Rheolwr Cymorth Rhwydwaith i roi adroddiad ar y prif ystyriaethau fel y nodir yn yr adroddiad ac i ymateb i'r cwestiynau a sylwadau a godwyd gan yr Aelodau.
Roedd yr Aelodau o blaid y cynigion y dylai’r Awdurdod weithredu fel ‘galluogwr yn hytrach na darparwr uniongyrchol o bwyntiau gwefru trydan a dylid hwyluso’r uwchraddio'r rhwydwaith cyflenwad trydan presennol mewn lleoliadau hyfyw economaidd ar y rhwydwaith priffyrdd a lleoliadau allweddol eraill yn y Sir. Hefyd, roedd yr Aelodau yn cefnogi'r lleoliadau strategol a nodwyd ar draws portffolio asedau Sir y Fflint, a fyddai angen gwaith pellach i flaenoriaethu cynigion i gael mynediad at unrhyw gyllid ... view the full Cofnodion text for item 45. |
|
Cynllun y Cyngor 2018/19 – Monitro Canol Blwyddyn PDF 118 KB Pwrpas: Cytuno ar y lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgarwch, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 18/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddangos crynodeb o’r perfformiad hyd at ganol blwyddyn 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.
Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 18% yn unig wedi’u hasesu fel rhai mawr. Mae’r adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan-berfformio.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) at y risgiau sylweddol a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor ynghylch tywydd drwg ar y rhwydwaith priffyrdd. Dywedodd bod y patrwm risg wedi cynyddu oherwydd difrifoldeb gaeaf 2017/18, gyda chyflwr ffyrdd ar draws y Sir wedi ei effeithio’n ddrwg ar geudyllau a diffygion ar arwyneb y ffordd. Mae cyllid, adnoddau a chontractwyr ychwanegol wedi eu lleoli ar draws y Sir yn ystod yr haf i atgyweirio’r rhwydwaith fel yr oedd y diffygion yn cael eu nodi. Roedd hyn yn cynnwys blaenoriaethu ail-wynebu a chynlluniau cyfalaf cyweirio. Eglurodd y Prif Swyddog er bod gwaith atgyweirio sylweddol a pharhaol i gael gwared â nifer o ddiffygion ac i wella cyflwr y ffyrdd gan leihau’r risg ar y rhwydwaith wedi’i gyflawni, efallai nid yw hyn yn ddigonol i atal y dirywiad yn y rhwydwaith. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Swyddog bod cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu i alluogi’r Awdurdod i gyflawni cynlluniau sylweddol eleni.
Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon ynghylch y risgiau cysylltiedig â diogelwch y cyhoedd oherwydd ceudyllau ar rai ffyrdd yn ei Ward. Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i drafod y pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Thomas ar ôl y cyfarfod.
Ailadroddodd y Cynghorydd Chris Dolphin y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Thomas ynghylch amodau gwael rhai o'r ffyrdd a rhoddodd sylw at y dull o archwilio a wneir i adnabod y diffygion. Cydnabu’r Cynghorydd Carolyn Thomas y pwynt a wnaethpwyd ac eglurodd bod ôl-groniad o waith atgyweirio i ddod â’r ffyrdd i safon gofynnol, fodd bynnag, heb gyllid digonol i gyflawni’r gwaith, byddai'r rhwydwaith yn parhau i ddirywio.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) at y risg mwyaf sef na allai cyllid gael ei sicrhau ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd â blaenoriaeth, fel y nodwyd yn adran 1.11 o’r adroddiad. Dywedodd bod gweithredu Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd A D?r a oedd yn gofyn i’r awdurdod lleol weithredu fel Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy o 7 Ionawr 2019 ymlaen, yn gosod dyletswyddau pellach ar y tîm Rheoli Perygl Llifogydd heb gyllid ychwanegol ar gael gan Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom na ddylid disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni dyletswyddau ychwanegol heb gyllid digonol a mynegodd y safbwynt bod Aelodau lleol angen bod yn rhan o drafodaethau cyn cais ar gyfer materion sy’n ymwneud â chynllunio. Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cynrychioliadau cryf wedi’u gwneud ynghylch yr angen am gyllid ... view the full Cofnodion text for item 46. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried. Dywedodd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Iau, 26 Chwefror 2019, er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:
Eglurodd yr Hwylusydd mai'r bwriad yw cynnal cyfarfod o’r Pwyllgor ar 9 Ebrill, ym Mharc Gwepra, Cei Connah, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau i Aelodau ar ôl cytuno.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd dau aelod o’r wasg a dim aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |