Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn ystod y cyfarfod 4 Rhagfyr 2024 penderfynodd y Cyngor mai'r Gr?p Annibynnol fydd yn cadeirio'r cyfarfod hwn. Hysbysir y Pwyllgor mai'r Cynghorydd Bill Crease yw Cadeirydd y Pwyllgor am weddill blwyddyn y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Bill Crease yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Jason Shallcross yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Tachwedd 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) am gynnydd camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol ynghyd â diweddariad ar lafar. Cytunodd i geisio cael ymatebion i ymholiadau’r Cynghorydd Ibbotson yng nghyfarfod mis Tachwedd yngl?n â chostau trosglwyddo gwasanaethau llyfrgelloedd a hamdden, a chostau ychwanegol ar gyfer goleuadau stryd.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) ar Raglen Waith bresennol y Pwyllgor a dywedodd y byddai eitem am y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei hychwanegu ar gyfer Ionawr 2025.
Gan gytuno â’r Cadeirydd, byddai’r adroddiad y gofynnwyd amdano’n flaenorol gan y Cynghorydd Coggins Cogan am y gwersi a ddysgwyd o’r tân yn Synthite Ltd yn cael ei drefnu yn y Rhaglen Waith nesaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson am drefnu cyfarfod yngl?n â’r eitem hirsefydlog am gaffael tir ar gyfer mynwentydd Sir y Fflint. Gwnaeth gais hefyd bod Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol yn y dyfodol i drafod cynllun Ymwelydd Dalfeydd Annibynnol ar gyfer gogledd Cymru.
Yn amodol ar y newidiadau hynny, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 cyn cael Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 11 Rhagfyr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Crynhodd brif benawdau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru (Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus) a dderbyniwyd y diwrnod cynt, wrth i’r gwaith barhau ar y goblygiadau.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd pryderon yngl?n â’r setliad isel i Sir y Fflint a sut oeddynt yn cyflwyno achos dros gael cyllid tecach. Ymatebodd y swyddogion i amrywiaeth o gwestiynau ar faterion fel incwm a ragwelir o ailgylchu, cyllidebau dirprwyedig ysgolion, a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol amddifadedd.
Anogodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyflwyno cwestiynau manwl ymlaen llaw os yn bosibl, fel y gellid rhoi ymateb llawn.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad, a nodwyd bod y Cynghorydd Ibbotson wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig.
PENDERFYNWYD:
Wedi ystyried adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26, bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 7) Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 7) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) ar sefyllfa Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym mis 7 2024/25, cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Nododd y swyddogion y pwynt a wnaed gan y Cynghorydd Coggins Cogan y dylid newid cyfeiriadau at ‘arbedion effeithlonrwydd’ mewn adroddiadau i ‘doriadau’ er mwyn atgyfnerthu graddfa sefyllfa ariannol y Cyngor. Awgrymodd y Cynghorydd Johnson y gellid adlewyrchu hyn yng ngeirfa’r adroddiad.
Cytunodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i gyfeirio pryderon y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â thipio anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi.
Parthed cwestiynau pellach, byddai ymatebion ar wahân yn cael eu ceisio gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yngl?n ag effeithlonrwydd a sgoriwyd yn goch ar gyfer contract Glanhau NEWydd mewn perthynas â chyfanswm gwerth y contract yn fras, ffocws trafodaethau a’r posibilrwydd o ganfod darparwr amgen. Ar y pwynt olaf, nodwyd y byddai’r un costau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth yn berthnasol ar gyfer darparwr amgen.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (mis 7), bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y Cabinet. |
|
Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) ar ddatblygiad Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam, a oedd yn un o ddau yn unig yng Nghymru. Yr oedd yr adroddiad yn nodi’r broses drwy bum ‘Porth’ y Llywodraeth gyda’r nod o dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer popeth er mwyn gallu dechrau ym mis Ebrill 2025.
Siaradodd Aelodau o blaid awgrym y Cynghorydd Claydon i gael gweithdy i gynorthwyo’r Aelodau i ddeall y goblygiadau.
Yn dilyn rhai pryderon a godwyd yn ystod y drafodaeth, cafwyd pleidlais ar y tri argymhelliad yn eu tro ac fe’u derbyniwyd, a nodwyd cais y Cynghorydd Ibbotson i gael cofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y tri. Cefnogwyd argymhelliad pellach o blaid cael cyfarfod briffio ar gyfer yr Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Safleoedd Treth a nodwyd (Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam) a’r Ardaloedd Ardrethi a Gedwir (Porth Glannau Dyfrdwy ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam);
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Model Llywodraethu arfaethedig;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Themâu’r Parth Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau, a Chludiant) a’r ymyriadau lefel uchel, a fydd yn cael eu mireinio yn rhan o Borth 4; a
(d) Bod cyfarfod briffio ar y Parth Buddsoddi’n cael ei drefnu ar gyfer yr holl Aelodau. |
|
Amrywio trefn y rhaglen Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai yna rywfaint o newid yn nhrefn y rhaglen er mwyn dwyn ymlaen eitem rhif 12 ar y rhaglen. |
|
Adroddiad Archwilio Asedau Cymunedol a Hamdden Pwrpas: Darparu diweddariad cynnydd am Adroddiad Archwilio Rheoli Asedau Cymunedol a Hamdden. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau adroddiad (eitem rhif 12 ar y rhaglen) ar ganfyddiadau adroddiad Archwilio Mewnol ar Reoli Asedau Cymunedol a Hamdden.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw sylwadau / arsylwadau i’w cyflwyno’n ôl i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol. |
|
Diweddariad Canol Blywddyn Cyflogaeth a Gweithlu Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol Pobl a Datblygu Sefydliadol adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) yn cynnwys data am y gweithlu a dadansoddiad o’r sefyllfa ar ganol blwyddyn 2024/25.
Yn ystod y drafodaeth, rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol eglurhad o drefniadau monitro ar gyfer gwariant gweithwyr asiantaeth, yn cynnwys adroddiadau i’r Cabinet.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Canol Blwyddyn 2024/25 ar y Gweithlu. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi eu heithrio yn rhinwedd paragraffau 15 a 14, yn y drefn honno, o Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Rhaglen Drawsnewid Pwrpas: Mae’r Cyngor yn sefydlu rhaglen o brosiectau er mwyn adolygu ei arferion gweithio er mwyn arbed costau fel dewis amgen i doriadau gwasanaeth traddodiadol. Bydd Cynghorwyr yn penderfynu a gaiff prosiectau eu hychwanegu at y rhaglen neu beidio a byddant yn monitro lefel yr arbedion a wneir. Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ystyried y meini prawf ar gyfer cynnwys prosiectau yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol ynghyd â nifer o brosiectau ychwanegol i’w cymeradwyo i gael eu derbyn.
Er bod y Cynghorydd Claydon yn nodi bod gwerth cymdeithasol wedi ei wreiddio yn Rheolau’r Weithdrefn Gontractau gan y Cyngor, gwnaeth gais bod crynodeb prosiect P6 yn cynnwys cyfeiriad penodol fel nodyn atgoffa o’r ymrwymiad hwn.
Parthed Argymhelliad 1, eglurwyd bod y meini prawf derbyn a ddangosir yn Nhabl 2 ar gyfer symud prosiect i fod yn ‘fyw’ yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol naill ai’n 1 a 4, neu’n 2 a 4, neu’n 3 a 4. Ar y sail honno, cefnogwyd hyn.
Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pryderon a godwyd gan Aelodau yngl?n â rhai prosiectau a rhoddodd sicrwydd y byddai unrhyw newidiadau i safonau gwasanaeth yn cael eu hystyried yn fanwl gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol cyn mynd ger bron y Cabinet.
Ar ôl trafodaeth bellach, cynigiodd y Cynghorydd Coggins Cogan welliant i Argymhelliad 2 i gefnogi symud prosiectau P2, P10, P6 a P20 yn eu blaenau, a bod briff diamwys ar P12 yn cael ei ddychwelyd ger bron y Pwyllgor. Eiliwyd ef gan y Cynghorydd Gladys Healey ac, wedi cynnal pleidlais ar y mater, cymeradwywyd hyn.
Gwnaeth y Cynghorydd Ibbotson gais bod ei bleidlais ef yn erbyn Argymhelliad 2 yn cael ei gofnodi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn derbyn y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa Brosiectau sy’n gymwys i’w cynnwys yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol, yn amodol ar yr eglurhad a roddir; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn derbyn pedwar prosiect (P2, P6, P10 a P20) – pob un bellach wedi bodloni’r meini prawf – i’w cynnwys yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol, a bod briff diamwys ar brosiect P12 yn cael ei ddychwelyd ger bron y Pwyllgor hwn. |
|
Cambrian Aquatics Pwrpas: Cyflwyno adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cambrian Aquatics. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol a’r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y sefyllfa ariannol parthed Cambrian Aquatics.
Cefnogwyd gwelliant i’r argymhelliad yn unfrydol i adlewyrchu pryderon yngl?n â hyd oes yr adeilad.
PENDERFYNWYD:
Wedi ystyried cynnwys yr adroddiad a’r cais ariannol a wnaed gan Cambrian Aquatics, bod y Pwyllgor yn darparu’r adborth canlynol i’r Cabinet ei ystyried:
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn ystyried ac yn derbyn cyngor yngl?n ag a ddylid cynnal arolwg cyflwr ar yr adeilad i gadarnhau gwerth am arian. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |