Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Jason Shallcross yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Hydref 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) am gynnydd camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol. Cytunodd i gynnwys y cais gan y Cynghorydd Shallcross yn y cyfarfod blaenorol a cheisio ymateb cyn gynted ag sy’n bosibl.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ar Raglen Waith bresennol y Pwyllgor. Cytunodd y byddai’n cynnwys yr eitem y gofynnwyd amdani o’r blaen ar wersi a ddysgwyd o’r tân yn Synthite Ltd.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Cyllideb 2024/25 - Cam 2 Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol dan gylch gwaith y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i’r Aelodau ei adolygu a rhoi sylwadau arno, a oedd yn sôn am bwysau o ran cost a risgiau cysylltiedig dan gylch gwaith y Pwyllgor.
Gan ymateb i gwestiynau am Wasanaethau Corfforaethol, byddai ymateb manwl yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor am gostau ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith goleuadau stryd. O ran biliau ynni adeiladau corfforaethol, byddai swyddogion yn gweithio trwy ostyngiad posibl o ran gofyniad y gyllideb a fyddai’n cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau ar y gyllideb yn y dyfodol. O ran gwahanu praesept Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, byddai’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn ceisio cadarnhad o ran a fyddai’r Prif Swyddog Tân yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr.
O ran Llywodraethu, byddai’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn ymateb ar wahân am y cais i gario £210,000 ymlaen o’r flwyddyn flaenorol, nad oedd wedi’i ddefnyddio’n llawn i ariannu’r swyddi a ddynodwyd.
O ran adroddiadau ar y gyllideb yn y dyfodol, dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i Aelodau gyflwyno cwestiynau mwy manwl o flaen llaw er mwyn gallu darparu ymateb llawn.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor am bwysau cost y Gwasanaethau Corfforaethol yn cael eu cyfeirio i’r Cabinet; a
(b) Bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor am bwysau cost y Portffolio Llywodraethu yn cael eu cyfeirio i’r Cabinet. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 6) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (Mis 6) Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 6) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (Mis 6). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol yr adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ar sefyllfa mis 6 2024/25 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.
O ran Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, byddai eglurhad yn cael ei geisio gan gydweithwyr yn yr adran Tai a Chymunedau am y rhesymeg dros statws ‘coch’ asesiad o effaith cam gweithredu 3 yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer deg eiddo prydles STORI ar gyfer teuluoedd oedd angen llety dros dro.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (mis 6), bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio i’r Cabinet; ac
(b) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (mis 6), bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio i’r Cabinet. |
|
Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2025/26 - 2027/28 Pwrpas: Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2025/26 - 2027/28 ar gyfer ei adolygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) ar y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru cyn ei gyflwyno i’r Cabinet. Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth a oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2025/26 - 2027/28.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2025/26 - 2027/28 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf; a
· Rhoi Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer dyled allanol a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf). |
|
Rhaglen Gyfalaf 2025/26 - 2027/28 Pwrpas: Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2025/26 - 2027/28 ar gyfer ei adolygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a chyflwyniad i gyd-fynd ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2025/26 - 2027/28 a oedd yn nodi buddsoddiad hirdymor mewn asedau i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol/Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer yr adrannau Statudol/Rheoleiddio ac Asedau Wrth Gefn yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2025/26 - 2027/28;
(b) Cefnogi’r cynlluniau yn Nhabl 4 (paragraff 1.31) ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2025/26 - 2027/28;
(c) Nodi’r diffyg o ran cyllid cynlluniau yn 2027/28 yn Nhabl 5 (paragraff 1.35), er bod arian dros ben yn y blynyddoedd blaenorol;
(d) Cefnogi’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 (paragraff 1.39) ar gyfer yr adran wedi’i hariannu’n benodol o Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a gaiff ei hariannu’n rhannol trwy fenthyca; a
(e) Nodi y bydd y sylwadau yn cael eu cyfeirio i’r Cabinet eu hystyried cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad ar Raglen Gyfalaf 2025/26 - 2027/28. |
|
Pwrpas: Rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng 1 Ebrill 2024 - 30 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) i ystyried Llythyr Blynyddol 2023-24 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r Cyngor, ynghyd â throsolwg o’r cwynion a ddaeth i law pob portffolio yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2023 i 30 Medi 2024.
Canmolodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ac Aelodau’r gwaith a wnaed gan y Rheolwr a’i thîm o ran cyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol yr adroddiad.
Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Nodi perfformiad blynyddol cadarnhaol y Cyngor mewn cysylltiad â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2023-24;
(b) Nodi perfformiad hanner blwyddyn y Cyngor (2024-25) o ran cwynion a gafwyd, yn unol â pholisi Pryderon a Chwynion y Cyngor; a
(c) Cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.25. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |