Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

76.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), datganodd y Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar eitem 7 ar y rhaglen, Adroddiad Cydymffurfiaeth Hawliau Gwybodaeth.  Gadawodd yr ystafell ar gyfer yr eitem honno.

77.

Cofnodion pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gofnod rhif 74, gofynnodd y Cadeirydd i’r sylwadau a wnaed gan y Rheolwr Corfforaethol (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) ar raglen Hyfforddeion Sir y Fflint gael ei gynnwys, yn benodol, y byddai’r cynnig yn cael ychydig o effaith gan y byddai’r hyfforddeion hynny heb ddigon o adnoddau yn ystod y cyfnod.

PENDERFYNWYD:

Yn amodol ar y diwygiad, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

78.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am y camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.  Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

 

79.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried, ac addasu os oedd angen, Rhaglen Waith y Pwyllgor.  Cefnogwyr yr argymhellion yn yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys adroddiad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2025/26.

PENDERFYNWYD:

(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a

(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

80.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd amrywio trefn y rhaglen i ddod ag eitem 8 ar y rhaglen ymlaen (Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Werth Cymdeithasol) er mwyn galluogi siaradwyr i fod yn bresennol.

81.

Adroddiad Diweddaru ar Werth Cymdeithasol pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad diweddaru ar werth cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Swyddog Gweithredol Strategol adroddiada oedd yn amlinellu data perfformiad ar gyfer chwe mis olaf 2022/23 a chwe mis cyntaf 2023/24, ynghyd â chrynodeb o’r meysydd canolbwyntio o fewn y rhaglen gwerth cymdeithasol ar gyfer 2024/25.

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorwyr Sam Swash ac Alasdair Ibbotson, bydd ymateb yn cael ei rannu gyda’r holl Aelodau presennol ar a allai gwaith ar werth cymdeithasol gael ei danseilio gan Barth Buddsoddi Gogledd Ddwyrain Cymru a chymhellion treth.

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi.

PENDERFYNWYD:

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas â chreu gwerth cymdeithasol ar gyfer chwarter tri a phedwar yn y flwyddyn ariannol 2022/23, yn ogystal â dau chwarter cyntaf 2023/24;

(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad; ac

(c) Er mwyn alinio adroddiadau perfformiad i flwyddyn ariannol, mae’r Pwyllgor yn cefnogi newid yn yr amserlen adrodd, gyda’r adroddiad perfformiad gwerth cymdeithasol blynyddol yn cael ei gyflwyno ym Mehefin bob blwyddyn.

 

82.

Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2023-24 pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor yn hanner cyntaf 2023-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid a Phennaeth Safonau Cwynion, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru  adroddiad ar berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a dderbyniwyd rhwng 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023, ynghyd â throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio rhwng 1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023.  Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi.

Yn ôl cais gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, bydd manylion pellach yn cael eu rhannu ar yr amrywiadau rhwng nifer y cwynion agored ac yn weddill, a’r rhai wedi cau ar ôl deg diwrnod, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa.

PENDERFYNWYD:

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2022-23;

(b) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad hanner blwyddyn (2023-24) y Cyngor o ran cwynion a wnaed yn erbyn gwasanaethau yn unol â’r weithdrefn bryderon a chwynion; a

(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.24.

 

83.

Cydymffurfiaeth Hawliau Gwybodaeth pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar fonitro perfformiad yn erbyn gofynion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad gyda’r wybodaeth am berfformiad mewn perthynas â chydymffurfiaeth â thargedau ymateb ar gyfer Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Hawliau Unigolion yn chwe mis cyntaf 2023/24.

Yn ôl cais y Cynghorydd Jason Shallcross, bydd y data a ddangosir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad yn adlewyrchu’r canran ar gyfer bob Sir.  Nodwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei drefnu ddwywaith y flwyddyn ar Raglen Waith y Pwyllgor.

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi.

PENDERFYNWYD:

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwelliannau a wnaed hyd yn hyn ers 2020/21; a

(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r camau arfaethedig i wella perfformiad yn y meysydd hynny lle mae amseroedd ymateb yn is na’r cyfartaledd gofynnol o 80%.

 

84.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 10) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 10) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 10 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

Yn ôl cais gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, byddai mwy o fanylion yn cael eu rhannu gydag Aelodau ar yr ymgynghoriad gydag Undebau Llafur a chynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â Chyfarpar Diogelu Personol o dan y Gwasanaethau Stryd a Chludiant (darpariaeth gwasanaeth) a ddangosir fel amrywiad i’r gyllideb yn Atodiad 2.  Cytunwyd hefyd y byddai swyddogion yn dod a’r mater i sylw Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi.  Rhannodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf ar Setliad Terfynol Llywodraeth Leol a fydd yn cael ei rannu i holl Aelodau.

Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad ynghyd â’r cynnig ychwanegol.

PENDERFYNWYD:

(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 10), fod y sylwadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad; a

(b) Bod llythyr yn cael ei anfon i’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru i amlygu effaith prinder llety fforddiadwy yn y sector yn y sector rhentu preifat ar gyllid yr awdurdodau lleol.

 

85.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi ei heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

86.

Cambrian Aquatics

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol, Cambrian Aquatics.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol adroddiad ar Drosglwyddo Ased Cymunedol, Cambrian Aquatics.

Yr argymhelliad oedd i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr adroddiad a rhoi adborth i’r Cabinet fel bo’n briodol.

PENDERFYNWYD:

Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn rhoi’r adborth canlynol i’r Cabinet:

(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwerth strategol y baddonau, o ystyried agosatrwydd Cei Connah i Afon Dyfrdwy a’i aber llanwol;

(b) Bod y Cabinet yn ystyried faint sydd wedi cael ei arbed trwy gydol oes y trosglwyddiad ased ac a allai cyfran o hynny fod ar gael i Cambrian Aquatics; a

(c) Bod cyfnod pellach yn cael ei ganiatáu i Aelodau Lleol weithio gyda Cambrian Aquatics i weld a ellir gwella ei berfformiad ariannol ac a oes datrysiad amgen yn hytrach na chau.

 

87.

Cynllun Busnes NEWydd 2024/25

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Busnes 2024/25 Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf i’w gymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr NEWydd a’r Swyddog Gweithredol Strategol adroddiad i geisio cefnogaeth ar gyfer Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf 2024/25.  Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ar gynnwys Cynllun Busnes NEWydd 2024/25, sy’n cynnwys rhagamcanion ariannol, cyfleoedd busnes posibl, amcanion strategol a blaenoriaethau busnes, ynghyd â risgiau a mesurau lliniaru a nodwyd.

 

88.

Trefniadau gyda NEWydd Catering & Cleaning Limited

Pwrpas:        Cyflwyno a cheisio ardystiad i gynnig mewn perthynas â threfniadau’r dyfodol rhwng y Cyngor a NEWydd Catering & Cleaning Limited.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol adroddiad i geisio cefnogaeth ar gyfer cynnig mewn perthynas â threfniadau yn y dyfodol rhwng y Cyngor ac Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf.  Yr argymhellion oedd ystyried a gwneud sylwadau ar y cynigion.

Yn ôl y gofyn, byddai manylion yr aelodau Bwrdd newydd yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau ar ôl y cyfarfod.

PENDERFYNWYD:

(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ar y cynnig am gontract newydd rhwng y Cyngor ac Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig;

(b) Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ar delerau arfaethedig y contract newydd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad;

(c) Bod ystyriaeth yn cael ei roi yn y trafodaethau contract i’r posibilrwydd o drosglwyddo unrhyw endidau masnachol y mae’r Cyngor yn ymdrin â nhw; a

(d) Cyn dyfarnu contract hirdymor, cyflawni dadansoddiad o gostau a buddion symud y gwasanaeth yn fewnol.

 

89.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.