Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

66.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

67.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 14 Rhagfyr 2023 ac 11 Ionawr 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 ac 11 Ionawr 2024, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Linda Thomas a Bill Crease.

 

Myfyriodd y Cadeirydd ar ei sylwadau yng nghyfarfod mis Rhagfyr yngl?n â’r amser a oedd ar gael i bennu’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a’r heriau ar gyfer y portffolios.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir.

68.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Jason Shallcross a Vicky Perfect.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

69.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

70.

Amrywio trefn y rhaglen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y bydd yna newid yn nhrefn y rhaglen i ymdrin ag eitem rhif 7 cyn ystyried eitem Cyllideb Cronfa’r Cyngor mewn sesiwn gaeedig.

71.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9) pdf icon PDF 951 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, yr oedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu bod yna ddiffyg gweithredol o £2.502 miliwn a oedd yn newid ffafriol o £0.440 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 8.  Byddai hyn yn gadael balans o £5.108 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn yn y gronfa wrth gefn at raid ar ôl union effaith y dyfarniadau cyflog a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol.  O ganlyniad i’r moratoriwm parhaus ar wariant ymrwymedig heb fod dan gontract a phroses rheoli swyddi gweigion, yr oedd £1.548 miliwn o wariant gohiriedig a / neu hwyr wedi ei nodi ym mis 9.  Crynhowyd y newidiadau i gyllidebau a gymeradwywyd a wnaed ers mis 8 ynghyd ag amrywiannau sylweddol, risgiau yn ystod y flwyddyn / materion sy’n dod i’r amlwg a risgiau eraill sydd wedi eu holrhain fel y nodir yn yr adroddiad.  Yr oedd sefyllfa cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn cynnwys addasiad i falans disgwyliedig Treth y Cyngor a oedd wedi ei orddatgan ym mis 8.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gwariant a ragwelir o £0.049 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.148 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Parthed cais i ddwyn arian ymlaen ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a allai’r Cyngor gadw ei allu i gyhoeddi is-ddeddfau lleol neu orfodi rhai blaenorol y tu hwnt i’r safonau ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig.  Cytunodd swyddogion i geisio cael ymateb gan y portffolio.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gwestiwn yngl?n â’r cais i ddwyn arian ymlaen yn ei bortffolio, ac awgrymodd y dylid rhoi eglurhad pellach mewn mwy o fanylder mewn sesiwn gaeedig cyn yr eitem nesaf ar y rhaglen.  Cadarnhaodd swyddogion cyllid fod tybiaethau yng nghyfrifiadau’r gyllideb yn seiliedig ar gymeradwyo’r ddau gais am ddwyn arian ymlaen.[1]

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at risgiau yn ystod y flwyddyn a chwestiynodd ba mor effeithiol yw lobïo Llywodraeth Cymru (LlC) yn barhaus yngl?n ag ariannu tecach.

 

Yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones fod gwaith a oedd yn cael ei gyflawni i fynd i’r afael â phwysau galw ac amodau’r farchnad yn dechrau cael effaith gadarnhaol dros y tymor hirach.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson sicrwydd bod Prif Swyddogion ac Aelodau Cabinet yn parhau i wneud sylwadau cadarn, a bod Gweithgor Cyllid Tecach yn gwneud cynnydd.

 

Parthed cyllidebau portffolios, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y dylid adolygu’r dull o ragfynegi ar gyfer meysydd gwasanaeth â gorwariant o flwyddyn i flwyddyn.

 

Monitro’r Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 oedd £92.859 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen.  Yr oedd newidiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 71.

72.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er mwyn hwyluso trafodaeth lawnach am y trosglwyddiad y gofynnwyd amdano i gronfa wrth gefn y Strategaeth Ddigidol, cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease fod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi ei heithrio yn rhinwedd paragraff 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

73.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er mwyn ymateb i gwestiynau, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad yngl?n â threfniadau ariannu ar gyfer y Strategaeth Ddigidol a’r goblygiadau os na fyddai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cais i ddwyn arian ymlaen.

 

Wrth nodi buddion gwneud gwelliannau i’r wefan, siaradodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â’r angen i ganolbwyntio ar wasanaethau hanfodol sydd â’r gwerth mwyaf.  Ar y sail honno, cynigiodd fod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn gwrthod y cais i ddwyn arian ymlaen, ac aeth rhagddo i awgrymu trosglwyddiad ariannol posibl o elfennau eraill cronfa wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer Buddsoddi mewn Newid Sefydliadol er mwyn ategu gwaith ar y Strategaeth Ddigidol.

 

Mynegwyd pryderon gan y Cynghorydd Linda Thew yngl?n â phrosesau symleiddio posibl mewn Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

 

Siaradodd y Cynghorydd Bill Crease o blaid cynnig y Cynghorydd Ibbotson.

 

Wrth ymateb i bwynt ar gynhyrchu incwm, siaradodd y Prif Swyddog am arbedion awgrymedig o adnoddau swyddi dros dro’r Strategaeth Ddigidol.

 

Eglurodd y Cynghorydd Ibbotson, er nad oedd ganddo broblem gyda chais gwasanaeth Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i ddwyn arian ymlaen, yr oedd ganddo bryderon o hyd yngl?n â chais Llywodraethu.

 

Cynigiodd y Cadeirydd fod y diwygiad yn nodi y dylid cyflawni asesiad risg ar gyfer unrhyw gais i ddwyn arian ymlaen, yn ôl elfennau o gyllidebau portffolios eraill, er mwyn galluogi’r Cabinet i ystyried pob opsiwn.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ibbotson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 9), y byddai’r Pwyllgor yn argymell:

 

(a)       bod y Cabinet yn gwrthod cais Llywodraethu i ddwyn arian ymlaen;

(b)       bod y Cabinet yn comisiynu asesiad risg ar gyfer gwrthod cais Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i ddwyn arian ymlaen; ac

(c)       y dylid cyflawni asesiad risg ar gyfer unrhyw gais i ddwyn arian ymlaen, yn ôl elfennau o gyllidebau portffolios eraill.

74.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ystyried cynigion ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol, Gwasanaeth Asedau a phortffolio Llywodraethu ar gyfer diwallu’r bwlch o £12.946 miliwn a oedd ar ôl yn y gyllideb, yr adroddwyd amdano yn y cyfarfod cynt.

 

Yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol, a oedd yn un siomedig, rhoddwyd y dasg i bob portffolio adolygu ei sylfaen gostau i nodi ffyrdd posibl o ostwng cyllidebau neu ddileu pwysau costau er mwyn cyfrannu mwy tuag at ddiwallu’r bwlch a oedd ar ôl.  Atgoffwyd yr Aelodau o nifer o risgiau parhaus a oedd yn cael eu monitro a allai newid y gofyniad cyllidebol ychwanegol ymhellach.  Byddai sylwadau gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yngl?n â’u meysydd penodol yn cael eu coladu ar gyfer adroddiadau terfynol pennu’r gyllideb ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 20 Chwefror.

 

Tabl 1 – gostyngiadau cyllidebol y Gwasanaethau Corfforaethol

 

Rhannodd y Cadeirydd ei bryderon yngl?n â chanlyniadau’r opsiwn yn y dyfodol ar gyfer rhaglen Hyfforddeion Sir y Fflint.  Darparodd y Rheolwr Corfforaethol (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) gyd-destun drwy ddweud y byddai’r cynnig i ostwng y garfan ar gyfer 2024/25 yn cael effaith fach iawn, oherwydd byddai’r hyfforddeion hynny wedi derbyn llai o adnoddau yn ystod y cyfnod.  Bu hyn o gymorth i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion.

 

Parthed yr adolygiad o ffioedd a thaliadau, dywedwyd wrth y Cadeirydd bod y swm yn berthnasol i 2024, ac yr oedd yn adlewyrchu amcangyfrif o ffigwr rhan o’r flwyddyn o fis Hydref 2024.

 

Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r cyfanswm amcangyfrifedig ar gyfer cyllideb gymorth Undebau Llafur.  Parthed gofynion statudol, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol), er bod y Cyngor bob amser wedi cydnabod Undebau Llafur, fel cyflogwr, byddai’n cadarnhau’r sefyllfa statudol bendant ac yn ymateb ar wahân.

 

Tabl 2 – gostyngiadau cyllidebol y Gwasanaeth Asedau

 

Yn dilyn eglurhad yngl?n â’r gostyngiad cyllidebol ar gyfer Polisi a nodwyd yn yr adroddiad, dywedodd y Cadeirydd y gallai gostyngiadau a wnaed ar gyfer cyllid trydydd sector, o bosibl, roi pwysau ar wasanaethau’r Cyngor.  Cydnabu’r Prif Weithredwr a’r Cadeirydd gyfraniadau cadarnhaol y trydydd sector tuag at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.

 

Tabl 3 – gostyngiadau cyllidebol Llywodraethu

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth am yr effaith ar gyfathrebu gyda’r cyhoedd a achosid gan opsiwn effeithlonrwydd meddalwedd GovDelivery pe na bai’r cais i ddwyn arian ymlaen ar gyfer y Strategaeth Ddigidol yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Yn dilyn trafodaeth, cafodd yr argymhelliad ar gyfer y Gwasanaeth Asedau ei gynnig a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Crease.  Cafodd yr argymhellion ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, fel y’u diwygiwyd, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Ibbotson a’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn derbyn opsiynau’r Gwasanaeth Asedau i ostwng cyllidebau; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried yr opsiynau i ostwng cyllidebau yn y Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, bod y Pwyllgor yn mynegi amheuon ac anfodlonrwydd am y tro  ...  view the full Cofnodion text for item 74.

75.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.