Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

58.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

59.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf ar y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol gan ddweud bod ymatebion pellach i’r cwestiynau wedi’u dosbarthu ers cyhoeddi’r rhaglen.

 

Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r Swyddogion am yr ymateb a rannwyd ar y gwasanaeth Cymorth i Hawlio a gofynnodd am eglurhad ynghylch a oedd gwasanaeth Sir y Fflint yn cael ei ddarparu gan Gyngor ar Bopeth Gorllewin Swydd Gaer a Chaer fel rhan o gontract yr Adran Gwaith a Phensiynau.  Byddai Swyddogion yn anfon ymateb cyn y cyfarfod nesaf.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

60.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol bresennol i’w hystyried.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gohirio adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru tan fis Mawrth er mwyn canolbwyntio ar y gyllideb yng nghyfarfod mis Chwefror.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a’r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

61.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.

 

Ar 20 Rhagfyr 2023, roedd yr anfonebau heb eu talu yn gwneud cyfanswm o £0.470m, a oedd yn adlewyrchu cynnydd bychan ers mis Medi.  Roedd y cyfanswm hwn yn cynnwys £0.047m o ddyledion tymor byr heb eu talu o anfonebau a oedd rhwng 2-11 diwrnod yn hwyr ac a fyddai’n cael eu talu yn y man.  Roedd anfonebau un flwydd oed a throsodd a oedd yn gwneud cyfanswm o £0.163m yn derbyn sylw ar hyn o bryd (nodwyd gostyngiad o £0.020m i’r ddyled ers yr adroddiad diwethaf).  Roedd gweddill yr anfonebau heb eu talu (£0.261m) yn ymwneud â phedwar unigolyn a oedd yn destun proses gymrodeddu (nodwyd gostyngiad o £0.012m i’r ddyled ers yr adroddiad diwethaf).  Fel diweddariad pellach, nodwyd bod cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud mewn perthynas â dau achos sylweddol a fyddai’n gwella’r sefyllfa ymhellach.  Sicrhawyd yr Aelodau bod y broses a roddwyd yn ei lle i reoli anfonebau heb eu talu yn parhau.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd David Coggins Cogan, siaradodd yr Uwch Reolwr am yr heriau’n ymwneud ag achosion hanesyddol a’r cynnydd pellach a ragwelir dros y misoedd nesaf mewn perthynas â’r achosion cyflafareddu sy’n weddill.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ail argymhelliad yn yr adroddiad ac fe gynigodd y dylai diweddariadau gael eu cyflwyno bob chwarter yn y dyfodol, er mwyn monitro cynnydd o ran yr achosion cyflafareddu nes yr oedd y Pwyllgor yn hapus i symud ymlaen i ddiweddariadau blynyddol.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn derbyn diweddariad chwarterol ar reoli anfonebau Gofal Iechyd Parhaus heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

62.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 20 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif benawdau a goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod o ddatrysiadau cyllideb sydd ar gael i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.

 

Yn y cyfarfod blaenorol, nodwyd bod y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn £33.187m gyda datrysiadau ariannu posibl o £22.097m gan adael cyfanswm o £11.090m yn weddill.  Cyhoeddwyd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr a gwahoddwyd unigolion i gyflwyno eu hymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 2 Chwefror.  Roedd y Cyllid Allanol Cyfun dros dro yn adlewyrchu cynnydd o 2.2%, sef y cynnydd canrannol trydydd isaf yng Nghymru, ac roedd hefyd yn is na chyfartaledd Cymru gyfan sef 3.1%.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r prif benawdau a oedd wedi arwain at gynyddu’r blwch yn y gyllideb i £12.946m ac fe nodwyd bod nifer o risgiau ac effeithiau gostyngiadau grant penodol yn weddill a allai gynyddu’r ffigwr hwn ymhellach.  Byddai dau weithdy cyllideb yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y mis cyn i gynigion cyllideb terfynol manwl gael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Chwefror.

 

Holodd y Cadeirydd am effaith y gostyngiadau ar y Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a’r Grant Digartrefedd - Neb wedi’i Adael Allan.  Amcangyfrifodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod effaith y grant cyntaf oddeutu £0.430m ac fe gytunodd i rannu cyfrifiadau ar gyfer y ddau grant a sut y byddent yn darparu ar eu cyfer o fewn y gyllideb.

 

Wrth rannu ei siom yngl?n â chanlyniad Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod angen camau gweithredu i rannu dewisiadau cyllidebol i gau’r bwlch a lobio Llywodraeth Cymru i gael setliad gwell ar frys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd ar y cyd cyn y Nadolig wedi mynegi’r pryderon am y Setliad yn glir.  Rhoddodd sicrwydd bod sylwadau cadarn wedi cael eu gwneud mewn cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol i adolygu’r fformiwla ariannu, fodd bynnag, roedd yn amlwg mai’r GIG a Thrafnidiaeth Cymru oedd prif fuddiolwyr y cyllid cenedlaethol.  Er bod y sylwadau yn parhau, dywedodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried anfon e-bost / llythyr brys at Aelodau’r Senedd yn mynegi anfodlonrwydd y Pwyllgor yngl?n ag effaith y fformiwla ariannu.  Awgrymodd hefyd y dylid gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol y Senedd i gyfarfod gyda phob Aelod Etholedig yn Neuadd y Sir.

 

Cynigiwyd yr awgrym i gyfarfod gydag Aelodau’r Senedd gan y Cynghorydd Attridge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bod newid i’r fformiwla ariannu ar sail angen yn yr amser oedd ar gael yn annhebygol.  Dywedodd bod yr Asesiad Gwariant Safonol dros dro yn adlewyrchu cynnydd cyfartalog tybiedig o 6.8% i Dreth y Cyngor ar draws Cymru ac y dylai’r Cyngor ganolbwyntio ar weithio gyda Chynghorau eraill i herio’r dybiaeth honno a cheisio cynnydd mewn Cyllid Allanol Cyfun gan Lywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Healey am effaith caledi ar y Cyngor a oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

63.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 8) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 8) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu bod yna fwlch o £2.942m a oedd yn newid ffafriol o £0.728m ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 7.  Byddai hyn yn gadael balans ar ddiwedd y flwyddyn yn y gronfa wrth gefn at raid o £4.918m ar ôl union effaith y dyfarniadau cyflog a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol.  Roedd y newidiadau i’r cyllidebau a gymeradwywyd ers mis 7 oherwydd dadgyfuno’r gyllideb dyfarniad cyflog (nid ysgolion) ar draws portffolios.  Rhoddwyd crynodeb o amrywiadau arwyddocaol, risgiau yn ystod y flwyddyn / materion sy’n codi a risgiau eraill a gaiff eu holrhain fel y manylir yn yr adroddiad.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £0.018 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn, yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.179 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Wrth bwysleisio’r angen i ddyfarniadau cyflog a bennir ar lefel genedlaethol gynnwys y cyllid priodol, cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at ganlyniad yr adolygiad o gyflogau athrawon i’w gyhoeddi yn yr haf.  Dywedodd fod y Cyngor yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar risgiau eraill yn ymwneud â’r tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff a Storm Babet.

 

O ran Atodiad 1, gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am eglurder ynghylch costau gofal preswyl a gofal cartref cynyddol yn ystod y flwyddyn o dan Ardaloedd Lleol (Pobl H?n).  Mewn perthynas ag Atodiad 2, cyfeiriodd at y gorwariant yng nghyllideb Gadael Gofal a gofynnodd a oedd cyllid penodol y llywodraeth wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer plant ar eu pen ei hunain yn ceisio lloches.  O ran Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, gofynnodd am eglurder yngl?n â’r math o gostau glanhau oedd wedi cael eu hadolygu a’u lleihau o dan Ddarpariaeth Gwasanaeth.

 

Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ofyn am ymateb gan y gwasanaethau hynny ac atgoffodd yr Aelodau i rannu cwestiynau penodol i wasanaeth gyda swyddogion ymlaen llaw, er mwyn gallu darparu atebion yn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am effaith amcangyfrifedig Storm Babet ar asedau eraill y Cyngor, eglurodd y Swyddogion Cyllid bod y ffigyrau yn y tabl yn adlewyrchu’r effaith ar adeiladau ysgol a llifogydd yn ogystal ag incwm Treth y Cyngor.  Fe wnaethant roi sicrwydd bod hawliadau ar y Gronfa Cymorth Ariannol Brys yn ceisio gwneud y gorau o’r effaith ar y Cyngor o fewn cyfyngiadau’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y cynllun ac roedd mwy o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  Yn dilyn cwestiwn pellach, darparodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael wybodaeth am sut yr ymdrinnir ag eithriadau Trech y Cyngor a gyhoeddir yng nghanol y flwyddyn.

 

O ran Llywodraethu, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd eglurder ynghylch y costau pensiwn untro, wedi’u hôl-ddyddio, o fewn Gwasanaethau’r Aelodau.  

 

Cafodd  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

Diwygio Treth y Cyngor - Ymgynghoriad Cam 2 Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 285 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ac ymateb argymelledig i’r Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru ynghylch Diwygio Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ymgynghoriad cam 2 Llywodraeth Cymru a oedd yn ceisio barn ar y rhaglen diwygio Treth y Cyngor, yn dilyn ymgynghoriad cam 1 ym mis Medi 2022.  Byddai adborth gan y Pwyllgor ar yr ymatebion a argymhellir yn cael ei rannu gyda’r Cabinet cyn cyflwyno ymateb ffurfiol.

 

Darparodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael drosolwg o oblygiadau cynigion LlC, a oedd yn cynnwys:

 

·         Cwblhau ailbrisiad Treth y Cyngor.

·         Cynllunio system newydd o fandiau a chyfraddau treth sydd yn fwy blaengar.

·         Gwella'r fframwaith o ostyngiadau, pobl a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau.

·         Gwella Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

 

Yn ogystal â’r cynigion, roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar gyflymder diwygio fel y nodir yn y tri dewis.

 

Siaradodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson o blaid diwygio gyda’r strwythur eiddo 12 band llawn a oedd yn ôl pob golwg yn cynrychioli’r dewis ariannol gorau ar gyfer Sir y Fflint, a gofynnodd pam nad oedd hyn wedi cael ei adlewyrchu yn yr ymateb argymelledig.  Holodd hefyd am y cyfeiriad at y Lwfans Byw i’r Anabl yn yr ymateb, gan nad oedd hwn ar gael i hawlwyr newydd mwyach, ac fe gynigodd y dylai’r Pwyllgor wrthod y diffiniad o dreth ‘flaengar’ yng ngeirfa’r adroddiad.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sam Swash a siaradodd o blaid diwygiadau radical ‘ehangach’ a oedd yn cael eu hystyried fel y rhai mwyaf blaengar ac y dylid eu gweithredu ar frys.  Cefnogwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Amlygodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yr anawsterau o ran asesu effaith diwygiadau ehangach gan nad oedd cymarebau bandio i’w gweld.  Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael nad oedd y rhain wedi’u cynnwys yn y papur ymgynghori ac y byddai’n gwirio hyn.

 

Wrth groesawu’r ymgynghoriad, dywedodd y Cynghorydd Ibbotson y gallai LlC gymryd y cyfle i roi’r baich treth ar berchennog yr eiddo yn hytrach na’r preswylydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael ei bod yn bwysig i nodi y byddai effeithiau cyffredinol yr ailbrisiad ar gyllid llywodraeth leol yn niwtral o ran cost ar gyfer pob dewis.

 

Yn dilyn y drafodaeth, crynhodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y consensws cyffredinol bod y Pwyllgor yn ffafrio gweithredu’r cam mwyaf radical cyn gynted â phosibl.  Yn dilyn cynnig ac eilio, cafwyd pleidlais a derbyniwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried cynigion (cam 2) Llywodraeth Cymru i ddiwygio Treth y Cyngor, bod barn y Pwyllgor i weithredu’r diwygiadau mwyaf radical cyn gynted â phosibl yn cael ei hadrodd yn ôl i’r Cabinet.

65.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.