Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ran Cyllideb 2024/25, datganodd y Cynghorydd Carolyn Preece gysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan fod gradd perthynas agos wedi’i hariannu drwy Theatr Cwyd. Bu iddi adael yr ystafell ar gyfer y drafodaeth benodol ar Theatr Clwyd.

 

Datganodd y Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol â’r Diweddariad Canol Blwyddyn ar Gyflogaeth a’r Gweithlu oherwydd bod aelodau o’i deulu wedi’u cyflogi gan y Cyngor.

40.

Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Hydref 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 12 Hydref 2023, wedi’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall, yn amodol ar ddau newid i gofnodion 30 a 35.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 34: Cyllideb 2024/25 – Bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn edrych i mewn i’r cais am ddadansoddiad o’r pwysau o £365,000 ar Fodelau Cyflawni Amgen ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Dan yr un cofnod, bydd swyddogion yn cysylltu â’r Cadeirydd i lunio llythyr fel y nodwyd ym mhenderfyniad (b).

 

Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r swyddogion am rannu’r ymatebion i’w ymholiadau a gofynnodd am fwy o eglurhad ynghylch y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. O ran Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, gofynnodd a fydd cyfraniadau ychwanegol yn cael eu gwneud i’r Gronfa Budd Cymunedol a beth yw’r rheswm dros y gostyngiad sylweddol disgwyliedig erbyn diwedd y flwyddyn, o ystyried y bydd y gronfa yn weithredol tan 2044/45. Gan nad oes ceisiadau wedi’u cymeradwyo yn ystod y flwyddyn, gofynnodd a fyddai taliadau pellach yn cael eu lleihau gan fod y gronfa yn segur.

 

Ar y mater olaf, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gael ymateb manwl i rannu gyda’r Pwyllgor. Pan ofynnwyd am y rhesymeg ar gyfer cadw’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer ffermydd solar, eglurodd fod hwn yn ymrwymiad penodol hysbys sydd wedi’i neilltuo i ariannu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Sam Swash at yr ymateb a rannwyd ar y gyllideb weddilliol o £0.110 miliwn, sydd heb ei glustnodi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mynegodd bryderon ynghylch diffyg craffu a dywedodd os nad oedd y swm yn cael ei ddefnyddio at y diben arfaethedig y dylid ei roi yn ôl yn y gyllideb gyffredinol.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod costau ychwanegol wedi’u nodi o fewn y gyllideb bresennol wrth i broses y CDLl ddod i ben, fodd bynnag mae Aelodau yn gallu herio unrhyw agwedd ar y gyllideb fel rhan o’r broses.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Swash, awgrymodd y Cadeirydd bod y dyraniad CDLl sy’n weddill yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol fel arbediad ac i gofnodi’r eitemau ychwanegol fel pwysau yng nghanol y flwyddyn ar gyfer y swm hwnnw. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i weithio gyda’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd, a’r Economi) i fwrw ymlaen â hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

41.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfodydd blaenorol, a bydd yn edrych i mewn i’r camau sy’n weddill.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

42.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, sydd, yn unol â chais y Cynghorydd Sam Swash, yn cynnwys eitem ar gaffael tir ar gyfer mynwentydd Sir y Fflint gan sicrhau gwerth am arian. Bydd hefyd yn edrych i mewn i gais y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am y wybodaeth ddiweddaraf ar Ostyngiadau Treth y Cyngor yn ôl Disgresiwn / Dileu Dyledion, a fydd yn rhaid ei hystyried gan y Cabinet yn gyntaf.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Sam Swash.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

43.

Cyllideb 2024/25 (Cyflwyniad)

Pwrpas:        Crynhoi adborth o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y newidiadau a risgiau i’r gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodai ar y newidiadau i’r gofyniad ychwanegol yng nghyllideb 2024/25 ac i grynhoi adborth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu diweddar ar y pwysau, opsiynau effeithlonrwydd a risgiau cysylltiedig yn eu portffolios. Gwahoddwyd pob Aelod i fod yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Adborth Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

o   Yr Amgylchedd ac Economi (10 Hydref)

o   Cymunedau a Thai (11 Hydref)

o   Adnoddau Corfforaethol (12 Hydref)

o   Addysg ac Ieuenctid (19 Hydref)

o   Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (26 Hydref)

·         Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol – y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Risgiau

o   Pwysau ychwanegol o ran costau

o   Newidiadau i risgiau

·         Datrysiadau Cyllideb – Ffrydiau Gwaith

·         Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Hydref, mae dau bwysau ychwanegol/diwygiedig mewn perthynas â ffioedd crwner a phrydau ysgol am ddim wedi cynyddu’r galw ar gyllideb 2024/25 i £33.028 miliwn. Yn ôl y diweddariad ar risgiau, er bod dyfarniad cyflog staff NJC yn 2023 wedi’i gwblhau a’i gau, mae yna ddwy risg newydd bosibl yn ymwneud â chydgordio ffioedd maethu o fewn gofal cymdeithasol a’r cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwr ar gyfer pensiwn athrawon ym mis Ebrill 2024 – y ddau i fod i gael eu cwrdd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r diweddariad ar ddatrysiadau’r gyllideb yn manylu ar y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau’r bwlch yn y gyllideb.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Cynghorydd Bernie Attridge, darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth ar yr arbediad o £0.085 o’r Rhaglen Gyfalaf. O ran risgiau, darparodd enghreifftiau o ‘bartneriaid allanol’ a dywedodd fod y pwysau ar brydau ysgol am ddim yn ymwneud â’r cynnydd diweddar mewn costau ac yn y galw.

 

O ran Theatr Clwyd, cadarnhaodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) fod cyfraniadau’r Cyngor Celfyddydau yn aros yr un fath ac nad oes cyllid ychwanegol wedi’i geisio gan y Cyngor Sir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, o ran y broses o bennu’r gyllideb, y byddai’n ddefnyddiol i linellau gwariant penodol heb symudiad sylweddol gynnwys mwy o fanylion ar wario o fewn y portffolios hynny. Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at y nifer fawr o linellau gwariant y tu ôl i’r crynodeb o’r amrywiadau a dywedodd y gall Aelodau ofyn am ddadansoddiad o wasanaethau penodol yn ôl yr angen. I ateb cwestiwn arall, dywedwyd wrth y Cynghorydd Ibbotson fod cyfleuster ar wefan y Cyngor i roi gwybod am landlordiaid twyllodrus yn cael ei ddatblygu.

 

Cynigiodd ac eiliodd y Cynghorwyr Bernie Attridge a Debbie Owen y dylid nodi’r cyflwyniad a’i rannu gydag Aelodau. Gofynnodd y Cadeirydd i gyflwyniadau yn y dyfodol gael eu rhannu gydag Aelodau cyn cyfarfodydd i helpu Aelodau i baratoi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cyflwyniad a’i rannu gyda’r Aelodau.

44.

Diweddariad Canol Blywddyn Cyflogaeth a Gweithlu pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygiad Sefydliadol) ddiweddariad canol blwyddyn ar ystadegau a dadansoddiad o’r gweithlu ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill tan 30 Medi 2023.

 

Dangosodd drosolwg o’r meysydd allweddol effaith barhaus y pwysau cenedlaethol ar y gweithlu, yn enwedig yn y meysydd fel gofal cymdeithasol. O gymharu â’r un cyfnod yn 2022, mae yna gynnydd bach yn y trosiant a byddai cyflwyno arolwg electronig, yn ogystal â chyfweliadau gadael, yn helpu i ddeall y rhesymau. Adroddwyd ar sefyllfa well mewn perthynas â phresenoldeb, gyda’r prif reswm dros absenoldeb unwaith eto’n ymwneud ag iechyd meddwl. Fel rhan o ddull cadarn i reoli presenoldeb, mae polisi ar wahân yn cael ei ystyried i reoli salwch cronig tymor hir. Mae’r diweddariad ar y gwariant ar weithwyr asiantaeth yn dangos lleoliadau gweithredol ar adeg paratoi’r adroddiad ac yn amlygu cynnydd mewn meysydd arbenigol fel Gwasanaethau Plant. Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant ar weithwyr asiantaeth wedi’i liniaru drwy arbedion yn sgil swyddi gwag neu gyfraniadau grant.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am fwy o wybodaeth ynghylch trosiant gweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nododd y Rheolwr Corfforaethol resymau posibl a chytunodd i geisio cael ymateb manylach gan y gwasanaeth i’w rannu gyda’r Pwyllgor. Mewn ymateb i sylwadau ar wasanaeth Iechyd Galwedigaethol y Cyngor, cyfeiriodd at ddeddfwriaeth fwy cymhleth i ddelio gyda materion iechyd lluosog a gofynnodd bod unrhyw bryder penodol yn cael eu cyfeirio ati hi’n uniongyrchol. O ran gweithwyr asiantaeth, eglurodd delerau’r Cyngor sy’n mynd y tu hwnt i ofynion rheoleiddiol.

 

O ystyried y pwysau ariannol sydd ar y Cyngor, holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst ynghylch y cynnydd yn nifer y gweithwyr nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion, a gofynnodd am wybodaeth yngl?n â’r mathau o rolau a sicrwydd bod y costau’n cael eu rheoli. Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i rannu ymateb manwl ar wahân ond dywedodd fod y data yn darparu cipolwg ar yr adeg honno a bod y broses gadarn i reoli swyddi gweigion yn sicrhau bod pob swydd yn cael ei herio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am y gweithwyr asiantaeth o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a chafodd wybod bod gweithwyr dros dro ychwanegol wedi’u penodi i ddelio’n benodol â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau, gan nad oedd y broses recriwtio wedi arwain at benodiadau parhaol. Pan ofynnwyd am gost gyfartalog cyflogi unigolion drwy asiantaeth o gymharu â recriwtio’n allanol, cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i weld a allai rannu rhywfaint o fanylion contract gyda’r Pwyllgor yn gyfrinachol, o ystyried bod y mater yn un fasnachol sensitif, ond cynghorodd bod y system fatrics yn fwy cost effeithlon ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Debbie Owen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Diweddariad Canol Blwyddyn ar y Gweithlu 2023/24.

45.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 6 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £3.559 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog sydd i’w ddiwallu o arian wrth gefn), gyda balans o £3.776 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl effaith amcangyfrifedig y dyfarniadau cyflog. Darparwyd crynodeb o’r amrywiadau arwyddocaol ar draws y portffolios yn ystod y cyfnod a thynnwyd sylw at Atodiad 2 sy’n cynnwys colofn ychwanegol yn nodi’r arbedion yn sgil gohirio gwariant ymrwymedig heb fod dan gontract. Mae olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf ar y ffi torri cyfraith ailgylchu – roedd y Cabinet i fod i ystyried adroddiad ar hyn. Disgwylir i 99% o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2023/24.

 

O ran cronfeydd heb eu clustnodi, bydd swyddogion yn sicrhau bod adroddiadau yn y dyfodol yn defnyddio’r enw Cronfa Argyfwng COVID er cysondeb, yn unol â’r cais.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £0.069 miliwn yn is na’r gyllideb yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.266 miliwn, sy’n uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Gan gydnabod newidiadau yn y galw am wasanaeth, teimlodd y Cynghorydd Bernie Attridge y gellir fod wedi gwneud rhagamcaniadau mwy cywir mewn rhai meysydd. Gofynnodd am ragor o wybodaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol am y gorwariant o £0.307 miliwn yng nghyllideb Anableddau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau, y cynnydd yn y galw am gyfarfodydd Gr?p Teulu a’r amrywiad o £0.821 ar gyfer cefnogaeth broffesiynol (Gwasanaethau Plant) yn cynnwys y gorwariant yng nghyllideb Gadael Gofal a ddylid, yn ei farn ef, fod wedi’i ragweld.

 

Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i anfon y cwestiynau hyn ymlaen i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eu hateb. O ran y cwestiynau eraill, siaradodd am y 5 lleoliad y tu allan i’r sir a’r broses ar gyfer ystyried y trefniadau hynny. O ran newid defnydd cronfa wrth gefn a glustnodwyd dros dro i ariannu gwaith o fewn y gwasanaeth Carelink, dywedodd fod trefniadau croes-gymhorthdal yn caniatáu cwrdd â’r gwariant hwn yn defnyddio Cronfa’r Cyngor heb effeithio ar y cronfeydd wrth gefn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ar y costau cyfreithiol uwch, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dull a ddefnyddir i reoli swyddi gweigion parhaus, yn cynnwys defnyddio locwm arbenigol yn y Gwasanaethau Plant i ddelio gyda’r cynnydd mewn gorchmynion amddiffyn plant. Dywedodd nad oes modd rhagweld y cynnydd yn y galw oherwydd natur y gwasanaethau a bod costau’r achosion mwy cymhleth a gyfeirir at fargyfreithwyr allanol yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Wrth amlygu diogelwch plant fel blaenoriaeth ar gyfer y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorydd Christine Jones at yr heriau wrth geisio rhagweld y galw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwys.  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 - 2026/27 pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Strategaeth Gyfalaf 2024/25 - 2026/27 ar gyfer ei hadolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi ei diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet. Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth a oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25 - 2026/27.

 

Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, bydd ychydig o newid i egluro y gellid defnyddio derbyniadau cyfalaf i ariannu’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw yn uniongyrchol.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25– 2026/27 fel y manylir yn Nhablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf

 

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf)

47.

Rhaglen Gyfalaf 2024/25 - 2026/27 pdf icon PDF 388 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2024/25 - 2026/27 ar gyfer ei hadolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 - 2026/27 a oedd yn nodi buddsoddiadau hirdymor mewn asedau i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad. Bydd copïau o sleidiau’r cyflwyniad sy’n ymdrin â’r meysydd canlynol yn cael eu rhannu ar ôl y cyfarfod:

 

·         Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor

·         Rhaglen Gyfredol 2023/24 - 2025/26

·         Cyllid Rhagamcanol 2024/25 - 2026/27

·         Dyraniadau arfaethedig – Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad

·         Crynodeb o’r Rhaglen (wedi’i hariannu’n gyffredinol)

·         Cynlluniau wedi’u hariannu’n benodol

·         Crynodeb o’r Rhaglen Gyfalaf

·         Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

·         Camau nesaf

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, siaradodd y Prif Weithredwr am y nod i nodi safle amgen addas ar gyfer canolfan ddigartrefedd, gyda chyllid Llywodraeth Cymru, i gael datrysiad tymor hir ar gyfer y ddarpariaeth yn Sir y Fflint. O ran y cwestiynau eraill, eglurodd y swyddogion nad yw’r rhestr o brosiectau posibl yn y dyfodol wedi’i chynnwys yn y rhaglen gan eu bod yn rhan o waith cynllunio strategol yn y tymor hirach. Rhannwyd gwybodaeth am yr adolygiad o stadau diwydiannol a’r angen i gynnal trafodaethau ar Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash ynghylch costau sy’n gysylltiedig â Mynwent Penarlâg. Cadarnhawyd fod y swm a neilltuwyd i gaffael tir yn 2021/22 wedi’i gario drosodd dan y Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth yn y Rhaglen Gyfalaf tra bod y tir yn cael ei brynu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, rhannwyd manylion ynghylch estyniad mynwent Bwcle. Eglurodd y swyddogion cyllid y trefniadau ar gyfer delio gyda lithriant yn y Rhaglen Gyfalaf yn ymwneud â cheisiadau i gario cyllid drosodd a adroddwyd i’r Pwyllgor hwn.

 

Holodd y Cadeirydd am y cyfanswm ar gyfer gwaith adeiladu ysgolion, nad yw’n cyd-fynd â’r ffigyrau yn yr adrannau Asedau Statudol ac Asedau a Gedwir. O ran datblygu Gofal Preswyl Plant, dywedodd y dylid diweddaru ffigwr mis Hydref i adlewyrchu’r gorwariant presennol ar leoliadau y tu allan i’r sir. O ran paragraff 1.43, dywedodd y byddai goblygiadau refeniw cynlluniau arfaethedig yn y dyfodol yn ddefnyddiol er mwyn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod dull darbodus wedi’i gymryd ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf er mwyn diogelu’r sefyllfa refeniw i’r dyfodol, o ystyried maint yr heriau ariannol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

(a)       Cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2024/25-2026/27;

 

(b)       Cefnogi’r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.32) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2024/25-2026/27;

 

(c)       Nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 5 (paragraff 1.37) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.