Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

29.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

30.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Medi 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Attridge a Rush.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 25: Parheid i ddisgwyl am ymateb i’r cais am fanylion yngl?n â dangosyddion perfformiad mewn perthynas â chartrefi newydd y Cyngor, tai fforddiadwy a chartrefi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n cael eu hadeiladu.

 

Cofnod rhif 27: Nodwyd nad oedd dadansoddiad o’r gost am adnewyddu Ystafell Delyn wedi ei rannu gyda’r Pwyllgor eto.

 

Ar yr un cofnod, cyfeiriwyd at y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a oedd ar ôl a dyraniad refeniw ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Mynegodd y Cynghorydd Swash bryderon bod yr eglurhad a roddwyd yn flaenorol yn wahanol i’r ymateb diweddar a oedd yn dweud nad oedd y gyllideb £110,000 a oedd ar ôl yn y Polisi Cynllunio ers 2022/23 wedi ei neilltuo ar gyfer y CDLl yn 2023/24.  Dywedodd ef a’r Cynghorydd Ibbotson fod y llinell gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2023/24 i fod ar gyfer y CDLl, a, chan nad oedd unrhyw waith pellach wedi ei gynllunio, dylid cyflwyno manylion y dyraniad sy’n weddill i’r Aelodau er mwyn iddynt ystyried ei bwrpas.

 

Dywedodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod cronfeydd wrth gefn y CDLl a glustnodwyd a oedd yn weddill ar ôl 2022/23 wedi eu trosglwyddo i’r cronfeydd wrth gefn at raid, fel y cytunwyd gan yr Aelodau, tra bod yr ymateb a rannwyd wedyn gan swyddogion yn ymwneud â’r ymholiad am y gyllideb sylfaenol.  Cytunodd i gynnwys nodyn manwl yn yr adroddiad monitro’r gyllideb nesaf er mwyn egluro’r ddwy elfen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

31.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol, a dywedodd y byddai’r cyflwyniad ar waith y Crwner yn cael ei gynnwys.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorwyr Ibbotson ac Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

32.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai diweddariad pellach ar Gyllideb 2024/25 yn cael ei gynnwys ar gyfer mis Tachwedd.

 

Dywedodd fod sesiwn hyfforddi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar Sgiliau Cwestiynu Craffu wedi cael ymateb da, ac fe’i cynhelid eto yn y dyfodol er mwyn rhoi cyfle i Aelodau eraill fod yn bresennol.  Yn ôl cais gan y Cynghorydd Banks, byddai’n ymholi a ellid ymestyn yr hyfforddiant i Gynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Rush a Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

33.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru

Pwrpas:        Derbyn diweddariad laffur ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

 

                        Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.  Rhannwyd adroddiad am y sefyllfa bresennol cyn y cyfarfod.

 

Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw anfonebau heb eu talu dan flwydd oed, ac yr oedd hyn yn adlewyrchu’r prosesau gwell a roddwyd ar waith i ymdrin ag anfonebau mewn modd amserol.  Ar 27 Medi, yr oedd anfonebau heb eu talu yn gwneud cyfanswm o £0.456 miliwn, yn cynnwys £0.183 miliwn o anfonebau un flwydd oed a throsodd.  Yr oedd trefniadau cyflafareddu yn parhau er mwyn datrys y £0.273 miliwn o anfonebau hanesyddol a oedd ar ôl yn ymwneud â phum achos.  Diolchodd i’r Pwyllgor am roi sylw dyledus i’r mater er mwyn lleihau’r ddyled sydd heb ei thalu.

 

Wrth ymateb i gwestiwn, dywedodd yr Uwch Swyddog fod cyfraniadau BIPBC wedi eu cynnwys mewn amcanestyniadau ariannol, a gwnaed gwiriad dilynol i gadarnhau bod y symiau wedi eu derbyn er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn cael ei monitro’n gywir.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Banks a Thew.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r gwaith rheoli cyllideb rhagweithiol parhaus o ran yr anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Item 6 - Joint Funded Care Update pdf icon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

34.

Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu’r pwysau ar y gyllideb a dewisiadau gostwng costau ym meysydd Llywodraethu, Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau, fel y nodwyd yn y cyflwyniad a oedd yn cwmpasu:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol ar gyfer y Cyngor yn 2024/25

·         Risgiau Parhaus

·         Y sefyllfa gyffredinol wedi’r datrysiadau cychwynnol

·         Pwysau Costau a Gostyngiadau yn y Gyllideb

·         Y Camau Nesaf ar gyfer Gosod Cyllideb 2024/25

 

Yr oedd yr isafswm gofyniad cyllidebol o £32.386 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25 yn cymryd i ystyriaeth nifer o risgiau parhaus, gan gynnwys cyflogau’r sector cyhoeddus, y galw uchel am rai gwasanaethau a phwysau chwyddiannol a oedd yn cael eu monitro.  Byddai cymryd datrysiadau cychwynnol i ystyriaeth yn gadael bwlch o £14.042 miliwn ar ôl yn y gyllideb, a oedd yn achosi her fawr i’r Cyngor os nad oedd unrhyw symudiad am fod yn y cynnydd dangosol o 3.1% yn setliad Llywodraeth Cymru (LlC).  Yr oedd y cyflwyniad yn amlygu’r angen am raglen strategol o newid trawsffurfiol i sicrhau bod y Cyngor yn datblygu gostyngiadau mewn costau dros y tymor canolig i amddiffyn ei sefyllfa ariannol barhaus yn y dyfodol ac i baratoi ar gyfer heriau cyllidebol yn y dyfodol a oedd yn anochel.

 

Gofynnid i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu pwysau costau portffolios, dewisiadau effeithlonrwydd a risgiau cysylltiedig yn drylwyr, a nodi unrhyw feysydd ychwanegol o effeithlonrwydd costau.  Byddai crynodeb o ganlyniadau o’r sesiynau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yng nghyfarfod mis Tachwedd, a fyddai’n agored i bob Aelod.  Yn dilyn derbyn y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr, yng nghyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Ionawr byddai raid ystyried y gostyngiadau cyllidebol pellach sydd eu hangen i lenwi’r bwlch sydd ar ôl yn y gyllideb er mwyn i’r Cyngor fodloni ei rwymedigaeth statudol o osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror 2024.

 

Llywodraethu

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n ag effaith y cynnig o gael gwared â swydd wag Archwilio Mewnol.  Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Rheolwr Archwilio Mewnol wedi cynnig y swydd wag hirdymor hon fel effeithlonrwydd yn dilyn newidiadau yn strwythur y tîm, ac y byddai’n cyflawni ei dyletswydd drwy roi barn archwilio flynyddol yn seiliedig ar y lefel o adnoddau sydd ar gael.

 

Parthed gwasanaethau a rennir, rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG enghreifftiau o gyfranogiad y Cyngor mewn fforwm cenedlaethol yn ogystal â gwaith arall ar y cyd ar ddiogelwch seibr.  Dywedodd mai pwysau Technegydd Seibr oedd cefnogi swydd a oedd wedi ei hariannu ar gyfer 2023/24, a chynghorodd yn erbyn swydd wedi ei rhannu oherwydd y risg uchel yn ymwneud â bygythiadau seibr yn y DU.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yngl?n â chael gwared â swydd Archwilio Mewnol, a chwestiynodd yr atebolrwydd posibl o golli’r swydd.

 

Nid oedd y Prif Swyddog yn disgwyl unrhyw effaith ar achosion o dwyll a  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

Item 7 - Budget Presentation Slides pdf icon PDF 436 KB

Dogfennau ychwanegol:

35.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 5) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 5) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa mis 5 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £3.660 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn), a oedd yn adlewyrchu gorwariant cyffredinol o £6.387 miliwn yn ystod y flwyddyn ar hyn o bryd.  Nodwyd balans cronfeydd wrth gefn at raid o £3.027 miliwn ar gyfer diwedd y flwyddyn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog).  Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli risgiau a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, yr oedd moratoriwm yn cael ei gyflwyno drwy adolygu a herio gwariant nad yw’n hanfodol ynghyd â pharhad o’r broses o reoli swyddi gweigion.  Crynhowyd y sefyllfa a ragwelid ar draws portffolios, gan gynnwys manylion amrywiadau arwyddocaol.

 

Yr oedd trosolwg o’r risgiau yn cynnwys amcangyfrif o effaith dyfarniadau cyflog, y sefyllfa ddiweddaraf parthed y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, a’r galw uchel parhaus am wasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir.  Yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol, amcangyfrifwyd y byddai 99% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.  Yr oedd diweddariad ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn disgwyl y byddai’r ymrwymiadau sy’n weddill ar gyfer Cronfa wrth Gefn Caledi yn gadael balans rhwng £3 miliwn a £3.2 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.  Yr oedd adolygiad manwl o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi nodi £0.648 miliwn i’w ryddhau i’r Gronfa wrth Gefn at Raid, gyda’r dadansoddiad cyffredinol yn dangos balans amcangyfrifedig o £14.758 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Parthed y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.006 miliwn yn uwch na’r gyllideb, a rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol yn £3.191 miliwn.  Yr oedd hyn yn cymryd i ystyriaeth gyfran y gost am gontract adnewyddu’r fflyd.

 

Wrth ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, dywedodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod swyddogion ar hyn o bryd – yn ogystal ag adolygu gwariant nad yw’n hanfodol yn barhaus – yn gweithio ar egwyddorion y moratoriwm, a fyddai’n berthnasol ar draws portffolios i gynyddu cronfeydd wrth gefn a lliniaru’r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2023/24.  Rhoddwyd eglurhad hefyd am y gost ychwanegol ar gyfer ymestyn contract y fflyd, a adroddwyd i’r Cabinet ac a oedd yn cael ei gadw mewn cronfa ganolog gan y Gwasanaethau Stryd.  Dywedodd y Cadeirydd y dylai pob portffolio gymryd cyfrifoldeb dros ei fflyd ei hun.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryderon yngl?n â’r symudiad sylweddol yn y gyllideb ar y cam hwn, a dywedodd fod angen dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn er mwyn canfod yr achosion sylfaenol, yn arbennig yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cydnabuwyd y rhwystredigaethau gan Reolwr Cyllid Corfforaethol, a siaradodd am heriau a ragwelid o ganlyniad i alw anwadal mewn rhai gwasanaethau.

 

Parthed cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, ymholodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â’r dyraniadau ar gyfer gweithwyr dan hyfforddiant Sir y Fflint a Ffermydd Solar.  Parthed Newid Sefydliadol  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

36.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr argymhelliad i wahardd y wasg a’r cyhoedd ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 18 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

37.

Cydnerthedd Seiber

Pwrpas:        Rhannu adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar Cydnerthedd Seiber gyda’r Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ystyried goblygiadau adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar seibrgadernid a oedd wedi ei rannu gyda’r holl awdurdodau lleol i grynhoi’r hyn a ddysgwyd o ymosodiadau seibr diweddar a chanlyniadau’r gwaith dilynol ledled Cymru.  Ystyriwyd yr adroddiad, nad oedd yn cynnwys unrhyw argymhellion penodol ar gyfer Sir y Fflint, gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor hwn er mwyn goruchwylio’r risgiau.

 

Amlygodd y Prif Swyddog a Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG y prif ystyriaethau ac ymatebodd i gwestiynau ar waith ar y cyd a pholisïau amrywiol yn cefnogi seibrgadernid.

 

Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, cytunodd y swyddogion i ymgysylltu ag Archwilio Cymru parthed dichonoldeb datblygu strategaeth seibrgadernid drosfwaol ar gyfer y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r risg o ymosodiadau seibr yn erbyn y Cyngor, ac yn cefnogi’r camau a gymerwyd i sicrhau bod systemau cyfrifiadurol y Cyngor a’r data maent yn ei ddal yn aros yn ddiogel a chadarn.

 

(b)          Bod e-bost yn cael ei anfon i’r holl Aelodau yn eu cynghori i gwblhau’r cwrs ‘Cyber Ninja’ erbyn diwedd y flwyddyn er mwyn ceisio lleihau’r risg o dramgwyddau seibr; a

 

(c)          Bod swyddogion yn ystyried ffurfio Strategaeth Seibrgadernid.

38.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.