Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol â chofnod rhif 25 (perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23) yn ystod trafodaeth ar addasiadau i bobl anabl.

21.

Cofnodion pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bill Crease ac Allan Marshall.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 13: Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd – dywedodd y Cadeirydd fod yr anomaleddau yr holodd amdanynt yn y cyfarfod wedi eu cadarnhau wedyn gan yr Uwch Reolwr; h.y. y ffigwr a drawsosodwyd o’r adroddiad blaenorol a’r swm £12,223.39 ar anfoneb nad oedd wedi ei dalu.

 

Cofnod rhif 14: Monitro’r Gyllideb Refeniw a Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Sefyllfa Derfynol) – dywedodd y Cadeirydd, yn seiliedig ar y ffigwr a ddyfynnwyd gan y swyddog, dylai cyllid y Cyngor elwa £36,000-£50,000 y flwyddyn o ganlyniad i’r gwaith a wneir gan y Pwyllgor i ostwng y ddyled sydd heb ei thalu ar gyfer parhau â phecynnau gofal iechyd ar y cyd.

 

Cofnod rhif 18: Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganrif – byddai’r Cadeirydd yn cysylltu â’r Prif Weithredwr yngl?n â themâu ar gyfer adroddiadau’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion yn gofnod cywir.

22.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Allan Marshall ac fe’i heiliwyd gan y Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

23.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer sesiwn i’r holl Aelodau ar waith Swyddfa’r Crwner.

 

Yn unol â chais gan y Cynghorydd Bernie Attridge, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor.  Yn y cyfamser, gofynnwyd i’r Cynghorydd Attridge gysylltu â’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) yngl?n â mater a oedd yn benodol i ward.

 

O ganlyniad i gais gan y Cynghorydd Sam Swash, byddai adolygiad cyfnodol o berfformiad o ran y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei drefnu.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

24.

Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        I roi’r adroddiad terfynol i Aelodau, gyda chrynodeb o’r casgliadau ar ôl cwblhau Cam 2 yn cynnwys crynodeb o adborth ar ôl ymgynghoriad ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gynnydd Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23, a oedd yn crynhoi adborth o ymgynghoriad ac ymgysylltiad â budd-ddeiliaid ar ganfyddiadau dadansoddiad yn ôl yr wyth thema.  Diolchodd i Aelodau’r Pwyllgor am eu rhan yn y broses ddrafftio.

 

Amlinellodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg welliannau a wnaed i fodel yr hunanasesiad yn dilyn y cynllun peilot a gynhaliwyd ar gyfer 2021/22, a’r ystod o ymgyngoreion drwy gydol y broses dri cham.  Yr oedd yr adroddiad terfynol yn dangos bod y Cyngor, ar y cyfan, wedi perfformio’n dda yn ôl yr asesiad, ac mae camau gweithredu’n cael eu cymryd ar hyn o bryd parthed y meysydd a nodwyd ar gyfer eu gwella.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar gynnydd meysydd i’w gwella a nodwyd o gynllun peilot 2021/22.  Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn ei gymeradwyo’n derfynol gan y Cabinet.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd y gweithdy ym mis Mehefin wedi bod yn agored i’r holl Aelodau, gan fod presenoldeb wedi bod yn isel.  Eglurwyd bod cynrychiolwyr o’r Pwyllgor hwn, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet wedi eu gwahodd.  Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd Diwylliant, Gwytnwch, Gwerthoedd a Moeseg – y cyfeiriwyd atynt yn ystod y gweithdy – a holodd a oedd y rhain wedi eu hadlewyrchu’n glir yn y ddogfen.

 

Yngl?n â thema ‘Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r Gymuned’, galwodd y Cynghorydd Bernie Attridge am fwy o ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd ac Aelodau Etholedig, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.  Dywedodd y dylai perchnogaeth gorfforaethol gael ei harwain gan uwch swyddogion, a bod darpariaeth cefnogaeth ar gyfer cwsmeriaid – er enghraifft, mewn swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu – angen ei hadolygu ar fyrder.

 

Wrth ymateb i sylwadau’r Cadeirydd, tynnodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sylw at y meysydd a nodwyd i’w gwella lle’r oedd themâu’n ymwneud â diwylliant, gwerthoedd a moeseg yn nodi camau gweithredu i’w gwreiddio ledled y sefydliad a’u mesur yn briodol.  Rhannwyd enghreifftiau o adroddiadau a pholisïau a oedd yn adlewyrchu gwytnwch cynyddol o fewn y Cyngor, a chynlluniau i ddatblygu diwylliant perfformiad drwy’r fframwaith.

 

Wrth gydnabod pwysigrwydd gwreiddio’r materion hynny ledled y sefydliad a’r strwythur, siaradodd y Prif Weithredwr am y gwaith a oedd yn mynd rhagddo i wella perchnogaeth gorfforaethol o ddarpariaeth gwasanaeth.  Rhoddodd eglurhad am yr academi ar gyfer uwch arweinwyr, y cyfeiriwyd ati yn y ddogfen, a oedd yn un ffordd o roi dull gweithredu mwy unedig ar waith wrth ddarparu gwasanaeth ledled y Cyngor.  Aeth yn ei flaen i ddweud yr arweinir diwylliant y Cyngor o’r top a dylanwedir arno gan ymddygiad swyddogion ac Aelodau, gyda’r nod o gael dull gweithredu cyson ar y cyd er mwyn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Bill Crease y pwysigrwydd bod rheoli perfformiad yn cael ei lywio gan ymholi data er mwyn ceisio canolbwyntio ar feysydd lle mae tanberfformio; er enghraifft, y data diweddar a rannwyd am amseroedd ateb y ffôn yn y Ganolfan Gyswllt.  Yn  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 172 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.  Yr oedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan – bu cynnydd da mewn 77% o weithgareddau, ac yr oedd 62% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd eu targedau neu wedi rhagori arnynt.  Yn dilyn adborth blaenorol, adolygwyd yr adroddiad i roi mwy o eglurder yngl?n â nodi meysydd i’w gwella.  Yr oedd yr adroddiad eglurhaol, a oedd yn seiliedig ar eithriadau, yn amlygu chwe cham gweithredu yn weddill a 25 o ddangosyddion perfformiad na chyflawnwyd, ynghyd ag esboniadau, gyda rhai ohonynt yn cynnwys ffactorau allanol.

 

Ymatebodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â threfniadau adrodd, gan gynnwys adnewyddu Cynllun 5 mlynedd y Cyngor yn flynyddol.  Aeth rhagddi i ddweud y gallai dyddiadau targed ar gyfer blaenoriaethau fod yn 12 mis neu yn y tymor hirach, gan gynnwys cerrig milltir lle bo’r angen, a byddai’n rhoi adborth i dîm Perfformiad i sicrhau bod targedau wedi eu diffinio’r glir yn y ddogfen.

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, cadarnhawyd bod pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried adroddiadau perfformiad chwarterol yn ymwneud â’u cylch gorchwyl, ac yr oeddynt yn gallu codi meysydd penodol i’w hadolygu ymhellach ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, er na ddylai’r pwyllgor hwn ddyblygu rôl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill, dylid atgyfeirio meysydd pryder yn briodol.

 

Amlygodd y Cynghorydd David Healey sut oedd y Cynllun yn cyd-fynd â’r amcanion lles.  Parthed Tlodi Plant, canmolodd y gyfradd gwblhau 100% o ran ‘Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod plant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwyd, ymarfer corff a chynlluniau cyfoethogi yn ystod gwyliau’r haf’, a gofynnodd a oedd y cynnig wedi ei ymestyn i haf 2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod cynlluniau ar gael ac y byddai manylion mwy penodol yn cael eu rhannu.  Awgrymodd y Cynghorydd Healey y dylid rhannu’r ymateb gyda’r holl Aelodau.

 

Gan nodi camau gweithredu yng nghylch gwaith pwyllgorau eraill, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor hwn gael trosolwg o dargedau na chyrhaeddwyd / targedau a ymestynnwyd er mwyn ystyried y goblygiadau ariannol yn ystod y flwyddyn ac effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Parthed is-flaenoriaeth Tai Cymdeithasol, gofynnodd am fwy o fanylion am ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â chartrefi newydd y Cyngor, tai fforddiadwy a chartrefi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a oedd yn cael eu hadeiladu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod amseroedd ymateb yngl?n ag addasiadau ar gyfer pobl anabl wedi gwella dros y blynyddoedd, a gwnaed newidiadau i’r broses; fodd bynnag, yr oedd rhai materion etifeddiaeth, a oedd yn effeithio ar gynlluniau addasu mwy o faint, yn dylanwadu’n negyddol ar berfformiad.  Parthed datblygiadau tai cymdeithasol, y targed cyffredinol oedd 50 uned y flwyddyn, fel yr adlewyrchwyd mewn adroddiadau strategol; fodd bynnag, yr oedd diffyg cynnydd cynllun yn ymwneud â phartneriaid wedi effeithio  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r amcangyfrifon ar gyfer y gyllideb a’r strategaeth ar gyfer pennu cyllideb 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25 cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.  Pwysleisiwyd yr her sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor wrth nodi datrysiadau i gytuno ar gyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth 2024.

 

Yr oedd y rhagolygon diweddaredig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £32.386 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25, gan gymryd i ystyriaeth risgiau parhaus fel y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf ar dâl sector cyhoeddus, yr effaith a amcangyfrifir o newidiadau hysbys i alw mewn gwasanaeth ac effeithiau chwyddiannol parhaus.  Yr oedd yr adroddiad yn nodi newidiadau ers mis Gorffennaf, gan gynnwys risgiau parhaus a allai newid y gofyniad cyllidebol a’r gwaith a wnaed gan bortffolios dros yr haf yn dilyn gweithdai i Aelodau ar y gyllideb ym mis Gorffennaf.  Yr oedd datrysiadau ariannu yn nodi’r canfyddiadau o adolygiadau portffolio, gan gynnwys pwysau costau ac ailystyried dewisiadau eithriedig ar gyfer 2023/24 – a byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystyried y cyfan ym mis Hydref.  Yr oedd crynodeb o’r sefyllfa gyffredinol ddiwygiedig ar y cam hwn yn dangos bod bwlch o £14.042 miliwn yn y gyllideb i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.  Wrth gydnabod yr her gyllidebol fawr ar gyfer 2024/25, parheid i gael sylwadau dros well setliad ledled Cymru.

 

Rhannodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon am y canlyniad posibl yn absenoldeb cynnydd sylweddol yn y setliad gan Lywodraeth Cymru.

 

Wrth ymateb i ymholiad y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â bod tanysgrifiad Stonewall ymysg y dewisiadau ychwanegol i’w hystyried, dywedodd y Prif Weithredwr y dylid cydnabod y byddai angen gwneud dewisiadau anodd a byddai angen adolygu pob agwedd o’r gyllideb.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai angen gwneud asesiad risg ar y rhestr ddewisiadau o 2023/24 i’w hailystyried, a hynny cyn iddi gael ei hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel y cadarnhawyd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol.  Yn dilyn ymholiad yngl?n â phwysau newydd mewn ysgolion, eglurodd y Prif Weithredwr fod hyn yn ofyniad o ganlyniad i ddull gweithredu mwy trylwyr gan Estyn parthed iechyd a diogelwch ar ystad ysgolion.  Yn unol â chais, darparodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion y gweithdai cyllideb a drefnwyd ar gyfer mis Hydref, a anogodd yr Aelodau i fod yn bresennol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurder yngl?n â chasgliadau’r adroddiad, ac ymatebodd y Cynghorydd Paul Johnson drwy siarad am ddull gweithredu’r Cyngor mewn perthynas â’r gyllideb a rôl yr Aelodau wrth wneud penderfyniadau anodd i ymateb i raddfa’r her ar gyfer 2024/25.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at strwythur darbodus y Cyngor, a’i hanes o gael ei ystyried fel Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda yn ariannol.  Fodd bynnag, byddai sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2024/25 angen dull gweithredu gwahanol er mwyn creu rhaglen drawsnewid a fyddai’n datblygu sail gynaliadwy o sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.  Byddai gwasanaethau statudol yn parhau i gael eu darparu’n ddiogel drwy weithio drwy’r safonau hynny, ond byddai angen newidiadau anochel.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol adroddiadau ar sefyllfa mis 4 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £2.644 miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog sydd i’w ddiwallu o arian wrth gefn), gyda balans o £4.043 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (ar ôl effaith amcangyfrifedig y dyfarniadau cyflog).  Cadarnhawyd bod Cyllid Caledi a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn ystod 2022/23 wedi dod i ben bellach, a bod balans o £3.743 miliwn o’r arian wrth gefn hwnnw wedi ei gario ymlaen.  Yr oedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i gynnydd chwyddiannol parhaus a chynnydd yn y galw ar wasanaethau.  Rhoddwyd crynodeb o’r sefyllfa a ragwelir ar draws portffolios ac, yn unol â chais blaenorol, byddai adroddiadau monitro’r gyllideb yn y dyfodol yn cynnwys dadansoddiad o symudiadau.

 

Yr oedd trosolwg o risgiau yn cynnwys sefyllfa ddiweddaraf y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, y galw cynyddol am wasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir, ac adnewyddiad contract y fflyd, a oedd ar ddod.  Yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol, amcangyfrifwyd y byddai 99% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Parthed y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.065 miliwn yn is na’r gyllideb, a rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol yn £3.262 miliwn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am ddyraniad y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a roddwyd o’r neilltu ar ffurf llinell cyllideb refeniw a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn gwneud cyfanswm o oddeutu £0.250 miliwn.  Gofynnodd hefyd i gael gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod nesaf am refeniw a godwyd o’r cynnydd mewn premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ar gyfer y flwyddyn bresennol o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf.

 

Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gysylltu â Rheolwr Refeniw a Chaffael i ddarparu’r ail beth.  Parthed yr ymholiad yngl?n â’r CDLl, eglurwyd bod trosglwyddiad y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a oedd yn weddill o 2022/23 wedi ei gynnwys yn y cronfeydd wrth gefn at raid a ddygwyd ymlaen i’r flwyddyn bresennol.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y dyraniad refeniw CDLl sydd ar ôl (oddeutu £110,000) yn dal i fod yng nghyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2023/24. Perodd hyn i’r Cynghorydd Sam Swash holi pam nad oedd y swm hwn wedi ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn i gynorthwyo’r sefyllfa gyffredinol.  Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu ymateb ar wahân.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu unrhyw ddyraniadau nad oedd wedi eu gwario, heb ymrwymiadau contract, y gellid eu rhoi mewn cronfeydd wrth gefn.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â nifer y symudiadau mewn cyllidebau a gymeradwywyd ar y cam cynnar hwn, cytunodd y Cadeirydd ac  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.