Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 53 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arMehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 9 Mehefin 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol presennol a ddiwygiwyd i gynnwys ceisiadau’r Aelodau.  Cadarnhaodd y bydd eitem ar ddatblygu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 yn cael ei ystyried ym Medi a byddai sesiwn friffio Aelodau ar adrodd ar berfformiad yn cael ei drefnu.

 

Yn ôl cais y Cadeirydd, byddai eitemau ar y gylchred cynllunio ariannol a busnes a rheoli risg yn cael ei drefnu.  Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’r cynllun darparu sy’n datblygu ar hyn o bryd yn cael ei rannu gydag Aelodau cyn Medi.

 

Hefyd awgrymodd y Cadeirydd eitem i archwilio buddion ariannol o roi contract allanol neu rannu rhai o wasanaethau’r Cyngor, a gofynnodd am ddiweddariad ar y lefel bresennol o ddyled sy’n weddill ar y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd lleol.  Byddai’r ddwy eitem yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

9.

Cylch Gorchwyl pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Pwyllgor er mwyn alinio â’r newidiadau i feysydd gwasanaeth portffolio.  Roedd y cynigion i gynnwys y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, ynghyd ag Arlwyo a Glanhau NEWydd, o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, gan nosi y byddai hyn yn darparu trosolwg i’r Aelodau o’r Rhaglen Asedau Cymunedol gyflawn.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

10.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24 pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofynion y gyllideb ar gyfer 2023/24 a’r strategaeth o ran cyllido’r gofynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth ac Yswiriant) adroddiad ar y cam cyntaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gofyniad y gyllideb ar gyfer 2023/24.  Mae’r adroddiad yn nodi’r rhagolygon diwygiedig cyn i bwysau o ran cost a chynigion effeithlonrwydd gael eu hadolygu gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a gweithdai Aelodau yn ystod yr Hydref.

 

Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £16.503 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2023/24, a oedd yn eithrio effaith canlyniad yr ymarfer modelu tâl i’w gyflawni yn 2022/23.  Er bod ffigyrau ariannu dangosol ar gyfer 2023/24 a 2024/25 wedi cael eu darparu fel rhan o Setliad Llywodraeth Leol 2022/23, roedd y rhain ar lefel llawer is na’r ddwy flynedd flaenorol a byddai’n cynyddu’r symiau i’w diwallu gan ffynonellau eraill.  Roedd heriau sylweddol yn y rhagolygon economaidd, gyda’r amcangyfrifon chwyddiant ar ynni a thanwydd wedi’u hamlygu fel risgiau allweddol sy’n debygol o gynyddu’r rhagolwg.  Roedd pwysau eraill o ran cost mewn perthynas â newid mewn galw gwasanaeth, yn bennaf o fewn Addysg ac Ieuenctid a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Roedd risg pellach yn parhau o ran canlyniad y dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer 2022/23 lle byddai unrhyw gynnydd uwchben yr ymgodiad o 3.5% a gyllidebwyd, yn golygu defnyddio cronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn, a byddai hefyd yn ychwanegu pwysau ychwanegol i’r rhagolwg ar gyfer 2023/24.

 

Cafodd y pwysau o ran cost eu categoreiddio yn adran 1.04 yr adroddiad a hysbyswyd yr Aelodau fod y ffigyrau yn debygol o newid dros yr Haf wrth i ragor o wybodaeth gael ei dderbyn ac wrth i adolygiadau barhau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn ar gyflwyno’r rhagolwg cyntaf ar gyfer y gofyniad cyllidebol ar gyfer 2023/24.  Dywedodd fod ansefydlogrwydd y sefyllfa economaidd bresennol yn creu fwy o heriau o ran cynllunio ariannol a bod swyddogion yn parhau i weithio drwy’r manylion i fireinio’r rhagolygon.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am y risgiau sylweddol ar effaith y cynnydd mewn chwyddiant ac ynni, lle nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth.  Wrth amlygu’r angen i ystyried effaith y penderfyniadau ar y blynyddoedd i ddod, ailadroddodd egwyddorion craidd o wneud penderfyniadau gan sicrhau fod y Cyngor yn parhau i fodloni ei ddyletswyddau statudol a chynnal ei safonau ansawdd.

 

Fel un o’r prif risgiau, cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at yr effeithiau heb ei ariannu posibl o ddyfarniadau cyflog a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer athrawon a staff nad ydynt yn athrawon yn 2023/24.  Siaradodd am yr heriau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r sir lle'r oedd y Cyngor yn gweithio i adsefydlu ei hun fel darparwr gofal uniongyrchol ac archwilio dewisiadau rhanbarthol.

 

Wrth godi nifer o gwestiynau, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson nad oedd yr holl bwysau yn cynnwys ystod o amrywiadau.  Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol, wrth i waith barhau, byddai diweddariad ar yr holl amrywiadau yn cael ei rannu yn y gweithdy ym mis Medi.  Wrth ateb cwestiwn o  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Alldro) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Monitro Cyllideb Refeniw (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf (alldro) ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) adroddiadau ar sefyllfa derfynol 2021/22 ar gyfer monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Ar Gronfa’r Cyngor, y sefyllfa ragweladwy ar ddiwedd y flwyddyn oedd arian dros ben gweithredol o £5.711 miliwn gan adlewyrchu symudiad ffafriol o £1.107 miliwn o fis 10 gan adael balans cronfa hapddigwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn o £7.098 miliwn.  Dangoswyd amrywiadau o fis 10 yn yr adroddiad gan gynnwys manylion o symudiadau sylweddol.  Roedd yr adroddiad yn amlygu effaith sylweddol Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) a ffrydiau cyllido colli incwm ar sefyllfa derfynol cyffredinol, yn ogystal â grantiau untro LlC i feysydd gwasanaeth cymwys.  Roedd trosolwg o’r risgiau o fewn y flwyddyn yn cynnwys symudiad cadarnhaol ar gasgliad Treth y Cyngor ac effaith cyllid ychwanegol LlC ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.  Adroddwyd ar sefyllfa well ar yr arbedion effeithlonrwydd cynlluniedig a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn yn 2021/22 a chronfeydd wrth gefn brys wedi’u neilltuo yn dilyn cynnydd yn setliad llywodraeth leol ar gyfer 2021/22.   Roedd y wybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad yn egluro newid safle o ran arian dros ben gweithredol a chronfeydd hapddigwyddiad dros y pum mlynedd ddiwethaf.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £1.404 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.616 miliwn, a oedd yn llawer uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Yn ôl cais y Cadeirydd, cytunodd y swyddogion i ddarparu crynodeb o’r sefyllfa ar Fis 10 ar gyfer dibenion cymharu.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 oedd £71.442 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb.  Cyfanswm y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn oedd £67.907 miliwn a oedd yn 95.05% o’r gyllideb, gan adael £3.535 miliwn o danwariant a argymhellwyd y dylid ei gario ymlaen ar gyfer cwblhau cynlluniau yn 2022/23.  Byddai dyraniadau ychwanegol a nodwyd yn y chwarter terfynol yn cael eu hariannu o’r Grant Cyfalaf Cyffredinol ychwanegol a ddyfarnwyd gan LlC ym mis Chwefror 2022.  Nodwyd cyfanswm arbedion o £0.370 miliwn ac roedd y sefyllfa derfynol wedi arwain at sefyllfa ariannol ddiwygiedig o arian dros ben o £2.068 miliwn, cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.

 

Cafodd yr argymhelliad cyntaf ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a Bill Crease.  Cafodd yr ail argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (y sefyllfa derfynol) fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; a

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (sefyllfa derfynol) fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

12.

2022/23 Monitro Cyllideb Refeniw (Interim) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) adroddiad ar y sefyllfa monitro cyllideb yn ystod y flwyddyn dros dro 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd hwn yn adroddiad eithrio ar amrywiadau sylweddol posibl a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2022/23 a chynnydd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd am y flwyddyn.

 

Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio ar y cam hwn gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o tua £0.300 miliwn.  Fel y nodwyd yn yr eitem flaenorol, roedd y £2.066 miliwn oedd yn weddill o’r gronfa wedi’i glustnodi i argyfwng Covid-19, yn ogystal â’r £3.250 miliwn a ddarparwyd ar gyfer y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2022/23, wedi codi’r cyfanswm i £5.316 miliwn.  Roedd yr hawliadau mewn perthynas â Covid ar draws y portffolios yn cael eu hadolygu er mwyn penderfynu cymhwysedd ar gyfer y cronfeydd wrth gefn hynny, o ystyried fod Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) wedi dod i ben.  Roedd gwaith yn parhau i adolygu’r cynnydd ar risgiau sy’n codi ac arbedion effeithlonrwydd heb eu cyflawni a all effeithio ar gyllideb 2023/24.  Roedd y trosolwg o’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn yn cynnwys nifer o bwysau o ran cost mewn Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Stryd a Chludiant gyda’r cynnydd mewn prisiau tanwydd yn codi fel pwysau corfforaethol.  Mae nifer o risgiau agored wedi cael eu canfod ar y cam hwn a byddent yn destun monitro parhaus.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am y posibilrwydd i LlC ymestyn trefniadau cyllido Covid ac os fyddai’r £3.250 miliwn ychwanegol i gronfeydd wrth gefn brys y Cyngor yn dal i fod yn angenrheidiol.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol, oni bai am y cyllid ychwanegol ar y cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol Covid-19, nid oedd unrhyw fynegiad gan LlC y byddai cyllid blaenorol mewn cysylltiad â Covid yn parhau, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i gasglu ac adolygu hawliadau mewnol.  Pan ofynnwyd am gronfeydd wrth gefn brys y Cyngor, roedd ansicrwydd ar y cam hwn o ran pa lefel a fyddai’n ofynnol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar drefniadau ariannol ar gyfer Parc Adfer, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) drosolwg cryno o’r model mewn cysylltiad â’r contract a gofynnodd i geisiadau am fanylion penodol gael eu gwneud ar wahân.   Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Ibbotson ofyn y cwestiwn drwy’r Hwylusydd gyda’r ymateb i’w rannu gyda’r Pwyllgor llawn.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, talodd y Cynghorydd Paul Johnson deyrnged i broses fonitro cyllideb gadarn a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

Cafodd ei sylwadau ei gefnogi gan y Cadeirydd a geisiodd eglurhad ar yr amrywiant o £0.275 miliwn ar y Gwasanaethau Rheoli ac Adnoddau.  Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i rannu ymateb mwy manwl.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (dros dro) 2022/23, bod  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Canlyniadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Ddigidol pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Rhannu canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Ddigidol a chytuno ar y camau i’w cymryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Ddigidol 2021-26 lle'r oedd mwyafrif yr ymatebwyr wedi dangos cefnogaeth ar gyfer nodau strategol a dyheadau’r Cyngor.  Cafodd yr ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad hefyd ei atodi ar gyfer ystyriaeth.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r pedwar prif faes o ganolbwynt o’r 179 o ymatebion fel y manylwyd yn yr adroddiad a’u hadlewyrchu yn y Strategaeth ddiwygiedig.  Byddai geiriad ychwanegol hefyd yn darparu eglurder ar y cyfrifoldebau mewn perthynas â gwasanaethau digidol mewn ysgolion.  Byddai datblygu cynllun gweithredu, gan gynnwys costau prosiect, hefyd yn cynorthwyo gyda chynllunio ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease, dywedodd y Prif Swyddog er bod mwyafrif gwefan y Cyngor yn hygyrch ar ddyfais symudol, roedd gwaith yn parhau i drosi dogfennau PDF i fformat mwy priodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cafodd y Cynghorydd Sam Swash wybod fod yr ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi’n fewnol yn ogystal ag allanol, gan fod mwyafrif y gweithlu yn breswylwyr y Fflint.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Allan Marshall, bydd y Prif Swyddog yn gofyn i Niall Waller ddarparu’r manylion cyswllt perthnasol i’r Cynghorydd Allan Marshall mewn perthynas â chynyddu cyflymderau band eang cymunedol.  Hefyd gofynnodd y Cadeirydd bod y manylion cyswllt perthnasol o fewn Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu rhannu.

 

Ar ôl cwestiynau gan y Cadeirydd, cadarnhawyd fod ymgynghoriad wedi cael ei gynnal cyn gweithredu’r meddalwedd cynllunio newydd ac y byddai costau prosiect yn ffurfio rhan o’r cynllun adnoddau ar gyfer y Strategaeth Ddigidol gyflawn i gysylltu â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu canlyniadau’r ymgynghoriad, a bod y Pwyllgor yn credu bod yr ymateb priodol yn cael ei gymryd i’r materion a godwyd fel rhan o’r ymgynghoriad; a

 

(b)       Bod y Strategaeth Ddigidol ddiwygiedig ar gyfer 2021-2026 yn cael ei gymeradwyo gydag addasiadau ychwanegol a awgrymwyd yn yr adroddiad hwn.

14.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2021/22.  Ar y cyfan roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol o ystyried yr heriau o’r sefyllfa argyfyngus, gyda 73% o’r dangosyddion perfformiad perthnasol i’r Pwyllgor wedi bodloni neu ragori eu targedau (gwyrdd) a dim yn dangos diffyg perfformiad yn erbyn y targedau (coch).

 

Wrth gyfeirio at y dangosyddion perfformiad coch tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor hwn, holodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am gynnydd tai cymdeithasol.  Ar y camau gweithredu’r Sector Rhentu Preifat, awgrymodd y dylai oedi mewn recriwtio i’r tîm i gefnogi tenantiaid y sector preifat, fod yn statws coch ac y gallai’r dewis i gynnwys cyrff cynrychioli tenantiaid neu’r trydydd sector gael ei archwilio.  O dan yr Amgylchedd, dywedodd fod y swm o ddangosyddion perfformiad coch o’i gymharu â gwyrdd yn ymddangos yn gamarweiniol gan fod tystiolaeth o gynnydd da.

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod yr 11 dangosydd perfformiad coch o dan gylch gwaith pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill yn cael eu cyfeirio’n briodol.

 

Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Ibbotson, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau wedi ystyried y dangosyddion perfformiad tai yn ddiweddar a chytunodd y byddai’n darparu diweddariad ar wahân ar y sefyllfa bresennol o ran recriwtio i’r tîm sector preifat.

 

Awgrymodd y Cadeirydd adolygiad o dargedau ar rai mesurau er mwyn sicrhau eu bod yn heriol ac yn gyflawnadwy, er enghraifft, cyfartaledd diwrnodau i brosesu newid mewn amgylchiadau ar gyfer budd-daliadau tai a gostyngiad yn Nhreth y Cyngor (Tlodi Incwm) ac ystadegau defnydd o adnoddau ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc (Tlodi Plant).  Holodd am ganlyniad y nifer a gofrestrodd ar y Cynllun Cefnogwyr Digidol (Tlodi Digidol) a chyflwyniad y data siart ar fesurau perfformiad ar gyfer Tai Fforddiadwy a Hygyrch.  Ar y camau gweithredu Adfywio Canol Trefi, dywedodd ei bod yn bwysig fod dyluniad dref yn ffurfio rhan o wella amgylchedd canol trefi.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawniadau’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor 2021/22.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

15.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.