Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

47.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Paul Shotton gysylltiad personol ag eitem 4 oherwydd ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

48.

Cofnodion pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Hydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd cofnodion cyfarfod 14 Chwefror fel rhai cywir gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

49.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru - Safbwynt personol gan y Prif Swyddog Tân newydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Swyddog Tân newydd, Dawn Docx, yn bresennol i roi cyflwyniad ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o’i safbwynt hi. Roedd y cyflwyniad yn ymwneud â:

 

·         Nodau’r Gwasanaeth

·         Arsylwadau

·         Risgiau Allweddol

·         Dyfodol y gwasanaeth

·         Ffocws y dyfodol – gwytnwch cymunedol

·         Pobl ar goll o gartref

·         Mynediad drwy rym

·         Tîm Cymorth Cymunedol

 

Roedd y cyflwyniad yn tynnu sylw at yr heriau y mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn eu hwynebu o ran recriwtio a hyfforddi diffoddwyr tân, effaith y pandemig a'r galw cynyddol i ymateb i ddigwyddiadau sy'n cael eu hachosi gan dywydd eithafol e.e. tanau a llifogydd. Gofynnodd y Prif Swyddog Tân i’r Aelodau hyrwyddo rôl diffoddwyr tân system dyletswydd rhan amser yn eu cymunedau er mwyn cynorthwyo â’r ymgyrch recriwtio i lenwi swyddi sy’n wag ar hyn o bryd. Byddai gwaith partneriaeth parhaus yn helpu i gefnogi’r flaenoriaeth o sicrhau gwytnwch cymunedol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts am y gwaith y mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ei wneud, yn enwedig y sicrwydd parhaus y mae'r gwasanaeth yn ei roi i drigolion fflatiau uchel iawn yn y Fflint yn dilyn y tân yn Nh?r Grenfell. Yn ei thro, croesawodd y Prif Swyddog Tân y gwaith partneriaeth sy’n digwydd gyda’r Cyngor ar osod systemau ysgeintio d?r yn yr adeiladau hyn.

 

Soniodd y Prif Weithredwr am waith ymgysylltu cadarnhaol rheolaidd gyda’r Gwasanaeth a diolchodd i’r Prif Swyddog Tân a’i thîm am eu gwaith.

 

Gan groesawu’r adolygiad o’r Gwasanaeth, cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at fanteision y Tîm Cymorth Cymunedol a menter Ffenics ar gyfer pobl ifanc. Mewn ymateb i sylwadau, dywedodd y Prif Swyddog Tân mai gwaith ataliol yw blaenoriaeth y Gwasanaeth o hyd.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Paul Johnson ar y cyfle i dalu teyrnged i’r modd yr oedd Swyddogion Tân wedi delio â digwyddiad difrifol yn ei ward yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones bod pwysigrwydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael ei gydnabod yn eang. Mewn ymateb i gwestiwn am asesiadau tân, roedd y Prif Swyddog Tân yn croesawu’r cyfrifoldebau newydd i asesu addasrwydd cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Richard Lloyd, rhoddodd y Prif Swyddog Tân wybodaeth am y Tîm Cymorth Cymunedol a recriwtio diffoddwyr tân.

 

Ar ran yr Aelodau, diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Tân am ei phresenoldeb a’i chyflwyniad. Cynigiwyd hyn yn ffurfiol gan y Cynghorydd Richard Jones ac fe’i eiliwyd gan y Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid diolch i'r Prif Swyddog Tân am ei phresenoldeb a'i chyflwyniad.

50.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd  materion yn deillio o gyfarfodydd blaenorol, darllenodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr ymateb gan Jo Whithead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar becynnau gofal wedi’u cyd-ariannu, a oedd wedi’i rannu â’r Pwyllgor.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Richard Jones yr aelodau bod pryderon wedi codi ynghylch gwahaniaethau yn y broses apelio yn erbyn anghytundeb am becynnau gofal wedi’u cyd-ariannu gyda’r Bwrdd Iechyd yn dilyn colli’r £0.133m o gyllid yr adroddwyd yn ei gylch yn y cyfarfod ym mis Mawrth. Dywedodd bod y ffigwr o £0.937 yr adroddwyd yn ei gylch ym mis Gorffennaf yn swm sylweddol sy’n dal yn ddyledus i’r Cyngor ac sy’n effeithio ar y sefyllfa gyllidol.

 

Gan gydnabod y pryderon, croesawodd y Prif Weithredwr y ffaith bod Prif Weithredwr newydd BIPBC wedi codi’r mater ei hun wrth gydnabod yr angen am newid. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i'r Aelodau y byddai'n parhau i fynd ar ôl hyn drwy gyswllt rheolaidd â BIPBC i sicrhau bod gan y Cyngor hawl i ymateb mewn perthynas ag apeliadau. Dywedodd hefyd bod y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm yn parhau i weithio i leihau lefel y ddyled sy’n deillio o becynnau gofal a ariennir ar y cyd.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, cynigiodd y Cynghorydd Jones bod llythyr yn cael ei anfon at BIPBC, wedi'i lofnodi gan Gadeirydd y pwyllgor hwn a Chadeirydd  y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn diolch am yr ymateb ac yn aros am gynnydd ar y broses apelio. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

Nodwyd bod adroddiad y gwnaed cais amdano eisoes ar y symiau a gollwyd yn sgil pecynnau gofal wedi'u cyd-ariannu yn mynd  gerbron y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud; a

 

(b)       Bod llythyr yn cael ei anfon gan Gadeiryddion y Pwyllgor hwn a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd at Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd er mwyn (i) diolch am yr ymateb a (ii) pwysleisio pryderon ynghylch y broses o apelio mewn perthynas ag achosion a ariennir lle mae anghydfod, a lefel bresennol y ddyled.

51.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i’r dyfodol wedi’i diweddaru er ystyriaeth, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai adroddiad ar y Strategaeth Pobl a'r Protocol Dychwelyd i'r Gwaith yn cael eu hychwanegu ar raglen cyfarfod mis Rhagfyr.

 

Yn seiliedig ar hyn, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod; a

 

(b)       Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

52.

Incwm Rhent Tai - Archwilio Cymru pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Cydnabod Adroddiad Archwilio Cymru a nodi’r argymhellion ar y casgliad o ddata ychwanegol ac adroddiad perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar gasgliadau adroddiad Archwilio Cymru ar incwm o rent tai. Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol a oedd yn adlewyrchu’r gwaith y mae’r Cyngor wedi’i wneud i gefnogi tenantiaid a sefydlogi ôl-ddyledion rhent yn ystod cyfnod o newid digynsail.

 

Rhoddodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael gefndir i’r adolygiad a gomisiynwyd gan y Cyngor oherwydd y risgiau strategol sy'n deillio o’r cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent a newidiadau i Gredyd Cynhwysol.  Roedd adroddiad gan Archwilio Cymru yn cydnabod y gwaith arwyddocaol a wnaed ar draws y gwasanaeth Tai i sefydlogi’r sefyllfa erbyn Mawrth 2020 ac i geisio gwella’r trefniadau presennol ymhellach drwy ddau fân argymhelliad yngl?n â chasglu data ychwanegol ac adrodd ar berfformiad. Roedd newidiadau a gyflwynwyd i reolaeth achosion cymhleth eisoes yn profi i fod yn effeithiol o ran targedu cymorth ac atal problemau rhag gwaethygu. Roedd rhagor o waith hefyd yn cael ei wneud i ddeall anghenion tenantiaid yn well ac i gryfhau gwybodaeth reoli ar lefelau dileu dyledion a dadansoddiad o ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton, siaradodd swyddogion am y modd yr ymgysylltir â thenantiaid sydd mewn perygl o fynd i ôl-ddyled a chyfrifoldeb cyfunol timau yn yr adrannau Refeniw a Thai i weithio gyda thenantiaid i greu tenantiaethau cynaliadwy.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Lloyd, cafwyd eglurhad ar drefniadau contract gyda chwmnïau d?r.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid mabwysiadu’r cynigion am welliant a nodwyd yn yr adroddiad.

53.

Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2022/23 - 2024/25 pdf icon PDF 260 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet.   Dogfen drosfwaol yw’r Strategaeth sy’n dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau sy’n cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23 - 2024/25.

 

Nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r strategaeth ers y flwyddyn flaenorol. Roedd crynodeb o’r Dangosyddion Darbodus allweddol yn cynnwys amcangyfrif o’r gwariant cyfalaf wedi’i gynllunio, ariannu cyfalaf a’r effaith ar yr Isafswm Darpariaeth Refeniw. Bydd y cynnydd bach a ddisgwylir yng nghyfran y costau ariannu i ffrydiau ariannu net yn parhau i gael ei fonitro.

 

Hysbyswyd y Cynghorydd Richard Jones bod y cynnydd a ragwelir yn yr Isafswm Darpariaeth Refeniw wedi digwydd o ganlyniad i newidiadau mewn polisi a benthyca o’r newydd yn Rhaglen Gyfalaf y dyfodol.  O ran dyled hirdymor, bydd yr adroddiad Rheoli’r Trysorlys a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei ddosbarthu i bob aelod.

 

Yngl?n â gweithgareddau masnachol, eglurodd y Prif Weithredwr yr ymdriniaeth o ran rheoli portffolio amaethyddol y Cyngor a gwaith i adolygu unedau diwydiannol i ddiwallu’r galw a newidiadau deddfwriaethol.

 

Myfyriodd y Cynghorydd Paul Johnson ynghylch rhai o'r newidiadau yn ystod y flwyddyn a diolchodd i'r swyddogion am yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022/23 – 2024/25 fel y’u manylir yn Nhablau 1 a 4-7 o’r Strategaeth Gyfalaf, a

 

·         Bod y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig a gweithredol ar gyfer dyled allanol  (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

54.

Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 pdf icon PDF 586 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y  Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 - 2024/25 a oedd yn nodi buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer yr hirdymor i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian, wedi’i rannu rhwng y tair adran:  Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor

·         Rhaglen Gyfredol 2020/21-2022/23

·         Cyllid a Ragwelir 2022/23 - 2024/25

·         Dyraniadau Arfaethedig – Statudol/ Rheoleiddiol, Asedau wrth Gefn a Buddsoddiad

·         Crynodeb o’r Rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol

·         Cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol

·         Crynodeb o’r Rhaglen Gyfalaf

·         Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

·         Y camau nesaf

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Paul Shotton, rhannodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth ar welliannau arfaethedig i systemau ac offer TGCh y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion Cyllid am yr adroddiad manwl ac am eu holl waith caled.

 

Croesawodd y Cynghorydd Ian Roberts y buddsoddiad mewn adeiladau ysgolion ar draws Sir y Fflint -  rhai ohonynt am fod yn garbon niwtral, sy'n atgyfnerthu ymrwymiad y cyngor i gynnal darpariaeth ar draws amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus.

 

Holodd y Cynghorydd Richard Jones a ddylid dosbarthu gwaith ar adeiladau ysgolion, e.e. uwchraddio systemau awyru, materion iechyd a diogelwch ac archwiliadau diogelwch nwy/tân yn Statudol/Rheoleiddiol yn hytrach nag Asedau Argadwedig. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol y byddai hyn yn cael ei adolygu.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

(a)       Cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Argadwedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2022/23-2024/25 gan nodi y bydd swyddogion yn adolygu  newidiadau posibl rhwng dyraniadau yn yr Asedau Argadwedig a'r adrannau Rheoleiddiol yn unol â'r cais.

 

(b)       Cefnogi’r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.29) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2022/23-2024/25;

 

(c)       Yn nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2022/23, 2023/24 a 2024/25 yn Nhabl 5 (paragraff 1.36) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd.  Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2022/23, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol.

 

(d)       Cymeradwyo’r cynlluniau yn Nhabl 6 (paragraff 1.44) ar gyfer adran a ariennir yn benodol Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu’n rhannol drwy fenthyca; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad ar Raglen Gyfalaf 2022/23-2024/25.

Item 9 - Capital Programme presentation slides pdf icon PDF 699 KB

Dogfennau ychwanegol:

55.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6) a Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 6) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 6) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Corfforaethol adroddiadau ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 6, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 ym Mis 6 cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa diwedd blwyddyn ragamcanol - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau ac i wella effeithlonrwydd - oedd gwarged gweithredol o £0.227m (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflogau a fyddai’n dod o gronfeydd wrth gefn) a oedd yn adlewyrchu  newid ffafriol o £0.034m o fis 5.   Byddai hyn yn gadael balans o £6.322 yn y gronfa at raid ar ddiwedd y flwyddyn, sy’n cynnwys dyraniadau a gytunwyd eisoes o gronfeydd wedi’u neilltuo. Roedd diweddariad ar risgiau yn y flwyddyn yn cynnwys lefelau casglu Treth y Cyngor, y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a'r sefyllfa ddiweddaraf ar ddyfarniadau cyflogau. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o gyllid grant Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ychwanegol ar draws Cymru, bydd y cynnydd o £1.7m i £2.8m yn  nyraniad y Cyngor drwy’r Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu yn adroddiadau'r dyfodol.   Rhoddwyd gwybodaeth am y broses o wneud hawliadau am gyllid brys ac roedd swyddogion wrthi'n asesu effaith y newidiadau i’r arweiniad ar y Gronfa Galedi.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.755m yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.717m, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod yn cydnabod yr holl waith a oedd wedi'i wneud ar draws y Cyngor ers mis 4 i wella'r sefyllfa diwedd blwyddyn ragamcanol. O ran y gorwariant ar Leoliadau y Tu Allan i'r Sir, roedd yn croesawu cyfraniadau gan y Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol a holodd ynghylch opsiynau eraill i liniaru’r risg parhaus hwn. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai'r cynnydd yn nyraniad cyllid grant Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael ei asesu er mwyn dynodi'r defnydd gorau ohono.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Rhaglen Gyfalaf yn ceisio darparu capasiti yn y sir er mwyn lleihau cost lleoliadau y tu llan i’r sir.

 

O ran asesu effaith y newidiadau i feini prawf y Gronfa Galedi, roedd swyddogion yn gweithio gyda phortffolios i ddynodi mesurau lliniaru ble bynnag bosibl cyn i'r gronfa ddod i ben ddiwedd y flwyddyn.  Y risg pennaf ar hyn o bryd oedd gweithwyr i lenwi dros staff sydd i ffwrdd oherwydd Covid a byddai'r cyllid grant hwn yn parhau hyd ddiwedd mis Rhagfyr pan fydd yn cael ei adolygu.  Byddai'n rhaid ariannu unrhyw hawliadau anghymwys nad oes modd eu lliniaru o weddill y swm o neilltuwyd ar gyfer sefyllfaoedd Covid-19 brys.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth ar newidiadau i broffil taliadau Treth y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones a’i eilio gan y  Cynghorydd Woolley.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y sefyllfa gryno ym mis 6 yn dangos cyllideb ddiwygiedig o £74.962m gan ystyried y symiau dwyn ymlaen cytunedig, newidiadau yn ystod y  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.