Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

19.

Eitem Frys: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Sefyllfa Frys

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor benderfyniad y Cadeirydd i ganiatáu eitem frys fel y nodir dan adran 100B4 (b) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

            Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU fod cyfnod clo yn cael ei weithredu yn Lloegr, roedd y Prif Weithredwr yn credu y byddai’n ddefnyddiol rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y sefyllfa frys. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai nodyn briffio pellach yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod ar ôl canlyniad Datganiad y Prif Weinidog yn ddiweddarach yn y dydd.Disgwyliwyd i’r Prif Weinidog gyhoeddi y byddai Cymru’n dod allan o’r Cyfnod Atal Byr fel a fwriadwyd ddydd Llun, 9 Tachwedd, a byddai gwasanaethau cyhoeddus oedd wedi gorfod cau yn gallu ailagor. Roedd Gweinidogion yn parhau i weithio gyda swyddogion iechyd am fanylion penodol o ran aelwydydd estynedig a niferoedd o bobl a ganiateir dan do ac yn yr awyr agored ac roedd rheolau’n cael eu hadolygu’n barhaus ar ôl diwedd y Cyfnod Atal Byr.

 

Disgwyliwyd i’r ystadegau ar gyfer Sir y Fflint, a fyddai ar gael yn ddiweddarach yn y dydd, ddangos bod y nifer uchaf o ran cyfradd digwyddiadau wedi’i gyrraedd, ond bod nifer achosion dros nos ar gyfer y diwrnod hwnnw a’r diwrnod canlynol yn debygol o fod wedi gostwng. Ar draws Gogledd Cymru, roedd cynlluniau ar waith i ddyblu capasiti’r gweithlu Profi, Olrhain, Diogelu erbyn mis Rhagfyr. Byddai cyfarfod llawn o’r Tîm Adfer Rheoli Argyfwng (EMRT) y diwrnod canlynol i drafod ailddechrau gwasanaethau a byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon i Aelodau, y cyhoedd a’r gweithlu ar ôl y cyfarfod hwn.  

 

            Gan ymateb i gwestiwn am ddefnyddio Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn bosibl y caiff yr ysbyty ei defnyddio i ddarparu brechiadau yn y tymor hir. Roedd y Bwrdd Iechyd yn adolygu ei defnydd posibl dros fisoedd y gaeaf i leddfu pwysau ar ysbytai cyffredinol y rhanbarth. Pan fyddai canlyniad yn hysbys, byddai Aelodau lleol, Aura a phartneriaid busnes Aura yn cael gwybod.        

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y diweddariad ar lafar.

20.

Cyllideb 2021/22 - Cam 1 pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol a strategaeth gyffredinol y gyllideb. Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad cam cyntaf y gyllideb, a oedd yn nodi’r rhagolwg a’r pwysau o ran costau a fyddai’n llunio cyfanswm gofyniad y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ddilynol. Roedd adolygiad llawn i’r rhagolwg wedi’i gynnal er mwyn llunio gwaelodlin gywir a chadarn o ran pwysau o ran costau oedd angen eu hariannu. Roedd yr adolygiad wedi rhoi ystyriaeth i effaith barhaus y sefyllfa frys gan gynnwys cyflymder adennill incwm yn erbyn targedau a osodwyd.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn nodi’r datrysiadau cyfyngedig oedd ar gael i ariannu’r pwysau o ran costau ac roedd y strategaeth ariannu yn dibynnu’n fawr ar ddigon o gyllid cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol.  Roedd manylion pwysau o ran costau ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl oedd yn trafod y meysydd canlynol:-      

 

  • Y Rhagolwg Ariannol ar gyfer 2021/22;
  • Y Dyfodol – Beth a gynghorwyd yn ôl ym mis Chwefror;
  • Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau o ran Costau;
  • Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risgiau;
  • Sefyllfa Genedlaethol a Chyllid;
  • Senarios Ariannu Posibl;
  • Amserlen y Gyllideb;
  • Cefnogi a Herio Heddiw

 

Ar ôl y cyflwyniad, awgrymodd y Prif Weithredwr fod copi o’r llythyr Gweinidogol a’r datganiad a oedd yn nodi amserlen genedlaethol y gyllideb yn cael eu dosbarthu i’r Pwyllgor. Cytunwyd ar hyn.

 

Roedd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor, yn cefnogi sylwadau’r Prif Weithredwr fel rhan o’r cyflwyniad, a oedd yn amlygu’r berthynas weithio dda rhwng pob awdurdod lleol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru (LlC). Rhoddodd sicrwydd fod negeseuon clir yn cael eu hanfon i LlC a oedd yn amlinellu’r angen i ddarparu cyllid ychwanegol fel rhan o’r Grant Cynnal Refeniw. Awgrymodd fod cyfarfod ychwanegol ar gyfer Aelodau’n cael ei alw ar ôl 22 Rhagfyr, pan oedd setliad llywodraeth leol dros dro wedi dod i law. Awgrymodd y Prif Weithredwr fod cyfarfod arbennig o’r Cabinet yn cael ei gynnal ar 23 Rhagfyr, gyda sesiwn friffio i’r Aelodau i gyd yn cael ei threfnu ar gyfer yr un diwrnod.  Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn.    

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom am y grant cefnogi busnesau, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad statws am y grant cefnogi busnesau ar gael i Aelodau yn ddiweddarach yn yr wythnos. Roedd ceisiadau ar agor o 26 Hydref.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton am bwysau o ran ariannu ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu, dywedodd y Prif Weithredwr fod y cynllun wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer 2020/21.  Roedd wedi gofyn am gadarnhad cynnar o ran y gyllideb ar gyfer 2021/22 gan Lywodraeth Cymru.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd am y senarios ariannu posibl, fel a gafodd eu hamlinellu yn y cyflwyniad, eglurodd y Prif Weithredwr fod y sleidiau’n dangos graddfa symudol a bod isafswm bwlch y gyllideb, sef £14.423 miliwn, wedi’i ddangos  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.