Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

54.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol ag Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (eitem rhif 5 ar y rhaglen):

 

·           Y Cynghorydd Dunbobbin – aelod o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Llysgennad Rhuban Gwyn.

·           Y Cynghorydd Woolley – aelod o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

·           Y Cynghorydd Shotton - aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

·           Y Cynghorydd Bithell – Ymddiriedolwr yr Uned Ddiogelwch Cam-Drin Domestig.

55.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 January 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 14 Ionawr 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Shotton a Collett.

 

Ar gofnod rhif 51, roedd sylwadau am ddatrysiad ariannu cenedlaethol ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi’u cynnwys yn ymateb y Cyngor i Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

56.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Dunbobbin ac Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

57.

Adroddiad Blynyddol Y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        I dderbyn Adroddiad Blynyddol Y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a oedd yn rhoi trosolwg o weithgareddau’r 12 mis diwethaf. Yn dilyn newidiadau i drefniadau llywodraethu, roedd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dan nawdd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bellach ac roedd yn cyflawni ei dyletswyddau trwy’r Bwrdd ‘Mae Pobl yn Ddiogel’. Roedd gwaith y Bwrdd wedi’i ategu trwy weithredu cynllun cyflenwi lleol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes gyflwyniad a oedd yn cwmpasu:

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2020/21

·         Trosedd ac Anhrefn – sefyllfa bresennol (o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol)

·         Partneriaethau Rhanbarthol

 

Wrth groesawu’r adroddiad a’r cyflwyniad, cynigiodd y Cynghorydd Heesom yr argymhelliad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai cynnwys niferoedd gyda chanrannau ar newidiadau o ran tueddiadau yn helpu i ddarparu cyd-destun. Cytunodd y swyddogion i rannu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Dunbobbin dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dal i fod yn flaenoriaeth a bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir y Fflint yn cael ei gydnabod fel cyflawnydd cryf.  Rhoddodd eglurhad am atebolrwydd a threfniadau adrodd.

 

Wrth gynrychioli’r Bwrdd Cynllunio Ardal, rhoddodd Paul Firth sicrwydd am gamau gweithredu sy’n cael eu cymryd i gefnogi’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar feysydd blaenoriaeth fel trais domestig a throseddau sy’n gysylltiedig ag alcohol/cyffuriau.

 

Wrth ateb cwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, rhoddodd y Prif Arolygydd Siobhan Edwards wybodaeth am y Gr?p Cydlyniant Cymunedol a oedd wedi’i sefydlu i ddeall materion cymunedol ar ddechrau’r sefyllfa frys ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bibby i swyddogion am eu gwaith ac ymgysylltu â'r gymuned, yn enwedig y gr?p amlasiantaeth ‘Visible and Vulnerable’. Diolchodd i’r Swyddog Diogelwch Cymunedol a oedd newydd ei benodi hefyd am ei gymorth ar faterion sy’n ymwneud â’r ward.

 

Fel Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, siaradodd y Cynghorydd Bithell am bwysigrwydd dull amlasiantaeth i fynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth a hyrwyddo diogelwch mewn cymunedau.

 

Ar ôl cael ei gynnig eisoes, cafodd yr argymhelliad ei eilio gan y Cynghorydd Bibby.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys yr adroddiad.

Item 5 - Community Safety Partnership presentation slides pdf icon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

58.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlygodd Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr eitemau a oedd ar raglen y cyfarfod nesaf a byddai’n cysylltu â swyddogion i lenwi’r rhaglen wedi hynny.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Dunbobbin, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

59.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar gofrestr risg portffolios Corfforaethol a dulliau lliniaru fel rhan o’r broses cynllunio adfer.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol drosolwg o’r prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios perthnasol.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad am y sgôr risg ar gyfer CF18, sy’n ymwneud ag effaith ariannol y sefyllfa frys. O ran gostyngiad o ran lefelau casglu Treth y Cyngor (CF08), roedd y duedd o ran risg a’r risg waelodol yn adlewyrchu’r effaith o’r sefyllfa frys, a oedd yn cael ei lliniaru ar hyn o bryd trwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Diolchodd y Cynghorydd Mullin i swyddogion a mynegodd bryderon am effaith y sefyllfa frys am lwyth gwaith gweithwyr, a lefelau casglu Treth y Cyngor yn y dyfodol hefyd. O ran gweithlu, nodwyd y bu cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn dilyn cyrsiau sy’n ymwneud â straen.

 

Ar gais y Cynghorydd Heesom, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i ddarparu rhagor o wybodaeth i Aelodau am y broses o newid i ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd o bell.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn y gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol.

60.

Cynllun y Cyngor 2021/21 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am ddrafft Rhan Un o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22.  Cafodd y fframwaith dechreuol hwn ei adeiladu o amgylch strwythur newydd chwe thema (pob un â blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau):

 

·         Economi

·         Addysg a Sgiliau

·         Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd

·         Tai Fforddiadwy a Hygyrch

·         Lles Personol a Chymunedol

·         Tlodi

 

Ar hyn o bryd, roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn adolygu cynnwys eu meysydd blaenoriaeth ac is-flaenoriaeth perthnasol cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet. Y dull a gytunwyd oedd i Bwyllgorau graffu ar berfformiad eu meysydd perthnasol wrth gadw trosolwg ar Gynllun y Cyngor i gyd. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried gweithredu fel arweinydd ar gyfer thema Tlodi, a oedd yn cynnwys nifer o is-flaenoriaethau a oedd yn croesi ar draws portffolios.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol bod y themâu wedi’u halinio’n agos ag Amcanion Lles, a bod y Cynllun wedi’i groesawu’n fawr gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu hyd yma.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar Ran Dau Cynllun y Cyngor a fyddai’n cael ei rannu gydag Aelodau cyn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor erbyn mis Mai.

 

Siaradodd y Cynghorydd Jones am bwysigrwydd ffordd effeithiol o fesur yn erbyn targedau, a deall newidiadau yn y fformat o’r flwyddyn flaenorol. Gan ymateb i sylwadau am gysonder â chynlluniau cenedlaethol, dywedodd y Prif Weithredwr y dylai’r ddogfen gwmpasu beth allai’r Cyngor ei ddarparu fel yr unig gorff cyhoeddus neu’r corff cyhoeddus arweiniol. O ran blynyddoedd blaenorol, byddai adroddiadau monitro perfformiad yn dangos cynnydd yn erbyn cerrig milltir a chanlyniadau gwirioneddol, wedi’u cefnogi gan ddata a Dangosyddion Perfformiad Allweddol lle roeddent ar gael/yn bosibl.

 

Eglurodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y byddai Rhan Dau Cynllun y Cyngor yn cefnogi camau gweithredu a nodwyd trwy gynnwys mesuriadau, tasgau a risgiau.

 

Gan ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Collett ar thema Tlodi, gofynnodd y Prif Weithredwr i’r swyddogion gyfeirio dan ‘Tlodi Incwm’ at gefnogaeth sydd ar gael, fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.  Byddai pryderon y Cynghorydd Collett am rhent teg yn y sector tai preifat yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Roberts o blaid yr adroddiad a’r dull o ddelio â materion trawsbynciol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Johnson waith ar eiddo gwag a siaradodd am y potensial i wella mannau gwyrdd ar ystadau sy’n eiddo i’r Cyngor. Awgrymodd y Prif Weithredwr fod hyn yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Aelodau Lleihau Carbon Newid Hinsawdd Cyngor Gwyrdd, sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Siaradodd y Cynghorydd Thomas o blaid hyn, ynghyd â chamau gweithredu ehangach i ddarparu buddion amgylcheddol.

 

Amlygodd y Cynghorydd Banks effaith mentrau tlodi tanwydd ar gymunedau.

 

Wrth dderbyn cynnwys Cynllun y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod hefyd yn bwysig ystyried cysonder fframwaith Cynllun y Cyngor ar y cam hwn. Gan ymateb i awgrym gan y Prif Weithredwr, cynigiodd bod y Pwyllgor yn arwain ar thema Tlodi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi drafft Rhan Un Cynllun y Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 60.

61.

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        I gyflwyno a gwahodd adborth ar yr adroddiad cyllideb ar gyfer adrodd ar lafar yng nghyfarfod y Cabinet ar 16 Chwefror.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Prif Weithredwr sylwadau am adroddiad y Cabinet a’i argymhellion i’r Cyngor Sir osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2021/22 yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror 2021.  Byddai unrhyw adborth yn cael ei adrodd yn ôl i’r Cabinet fel rhan o’r broses honno.

 

Roedd yr argymhellion yn nodi y dylid gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar sail y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro presennol, gyda gofyniad isafswm cyllideb is oherwydd nid oedd darpariaeth yn natganiad cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer unrhyw ddyfarniadau cyflog blynyddol i’r sector cyhoeddus. Roedd hyn yn dal i fod yn risg agored a byddai’r Cyngor yn parhau i wneud sylwadau arno am gymorth ariannol. Yn ogystal â diogelu gwasanaethau, byddai’r gyllideb arfaethedig yn darparu ymgodiad o ran cyllid ar gyfer addysg ac ysgolion i helpu â’r sefyllfa sy’n dirywio o ran diffygion ysgolion trwyddedig mewn ysgolion uwchradd a galw ychwanegol am wasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Roedd y cynnydd arfaethedig o ran Treth y Cyngor o 3.95% (ar gyfer elfen y Cyngor Sir) yn bodloni disgwyliadau i gadw’r cynnydd ar lefel fforddiadwy ac islaw 5%.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol drosolwg o’r prif newidiadau i sefyllfa’r gyllideb ers yr adroddiad diwethaf, gan ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid grant gan Lywodraeth Cymru (LlC) fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

I gefnogi’r argymhellion, soniodd y Cynghorydd Roberts am y pwysau cynyddol a’r galw ar wasanaethau’r Cyngor a’r effaith o ganlyniad i’r sefyllfa frys ar y Cyngor a phreswylwyr.  Atgoffodd Aelodau am yr arbedion effeithlonrwydd corfforaethol a oedd wedi’u cyflawni a dywedodd nad oedd unrhyw arbedion effeithlonrwydd pellach wedi’u nodi trwy ymgynghori â phwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Wrth siarad o blaid hefyd, dywedodd y Cynghorydd Banks fod pwysau mewn Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn parhau i fod yn risg barhaus, er bod swm ychwanegol wedi’i neilltuo, a bod y Cyngor yn edrych ar ddatrysiadau tymor hwy.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Shotton a Dunbobbin am yr angen i adolygu fformiwla ariannu llywodraeth leol genedlaethol, dywedodd y Prif Weithredwr fod sylwadau wedi’u gwneud yn ymateb y Cyngor i’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Jones yr angen am ddatrysiad cenedlaethol i fynd i’r afael â phwysau cynyddol parhaus ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir. Cytunodd y Cynghorydd Roberts a dywedodd fod y Cyngor y parhau i lobïo ar y mater hwn. Roedd yn rhannu pryderon y Cynghorydd Jones am effaith y fformiwla ariannu ar lefelau Treth y Cyngor. Ymatebodd Swyddogion i gwestiynau am bwysau mewn arbedion effeithlonrwydd Canolog a Chorfforaethol a heb eu gwireddu yn y portffolio Llywodraethu. Cadarnhaodd Swyddogion y byddai diweddariad ar gyllid grant yn cael ei rannu gydag Aelodau pan fyddai’r Setliad Llywodraeth Leol Terfynol yn dod i law ym mis Mawrth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jones fod yr argymhellion yn cael eu cefnogi, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r chwe argymhelliad sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Cabinet.

62.

Monitro cyllideb refeniw 2020/21 (mis 9) a Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (mis 9) pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 9), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 9) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 9, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ym Mis 9 cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai popeth yn aros fel yr oedd, ac roedd yn ystyried sefyllfa ddiweddaraf cyhoeddiadau Grantiau Argyfwng Llywodraeth Cymru.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn warged gweithredol o £0.372 miliwn, gan adael balans cronfa wrth gefn a ragwelwyd o £1.787 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Roedd yr amcanestyniad hwn yn cynnwys arbedion a gyflawnwyd trwy adolygu gwariant dianghenraid yn barhaus a rheoli swyddi gwag. Roedd y rhesymau dros y symud ffafriol o £0.102 miliwn o Fis 8 wedi’u nodi yn adran 1.04 yr adroddiad. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau ariannol allweddol a risgiau newydd, yn ogystal â’r sefyllfa ar gyllid argyfwng wedi’i neilltuo, cyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, arian wrth gefn a balansau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant arfaethedig o £1.641 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.650 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.

 

Yn ystod y cyflwyniad, gofynnodd y Cadeirydd am saib i atgoffa Aelodau am y canllawiau a ddosbarthwyd eisoes ar Gyfarfodydd Mynychu o Bell: dylai pawb sy’n bresennol ymddwyn mor ffurfiol ag y byddent mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir.

 

O ran risgiau sy’n dod i’r amlwg, dywedodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Thomas fod sylwadau’n cael eu cyflwyno i LlC am adennill y costau adfer cyfalaf o’r llifogydd difrifol diweddar.

 

Ar ôl cwestiynau, byddai swyddogion yn darparu ymateb ar wahân am y mathau o ddirwyon sy’n ymwneud â’r amrywiant mewn Llywodraethu a’r rheswm dros y cynnydd o ran cronfeydd wrth gefn yswiriant.  Byddai eglurhad pellach yn cael ei rannu ar nifer y defnyddwyr gwasanaeth oedd wedi’u heffeithio gan daliadau anghywir dan y Rheoliadau Asesiad Ariannol a’r math o wasanaethau cymorth dan sylw.  Byddai ymateb i gais y Cynghorydd Heesom am fanylion cyswllt yn y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i egluro’r symudiad o ran amrywiadau o Fis 8 yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Heesom, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jones.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Y cyfanswm ar gyfer y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 oedd £76.962 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb. Roedd crynodeb o’r sefyllfa am wariant cyfalaf ym Mis 9 yn dangos tanwariant a ragwelir o £4.352 miliwn ar Gronfa'r Cyngor i gael ei ddwyn ymlaen i 2021/22 a sefyllfa o fantoli'r gyllideb ar y Cyfrif Refeniw  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

Item 10 - Revenue Budget and Capital Programme Monitoring pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

63.

Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2019/20 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Grynodeb Archwilio Blynyddol 2019/20 (yr hen Adroddiad Gwella Blynyddol a Llythyr Archwilio Blynyddol) a oedd yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed eisoes yn y Cyngor gan Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad wedi dod i gasgliad cadarnhaol fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn. Roedd mân gynigion newydd ar gyfer gwelliant a chynigion ar gyfer datblygiad yn codi o dri o’r adolygiadau.

 

Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi croesawu’r adroddiad a chafwyd trafodaeth am ddisgrifiad o strategaeth ariannol ‘risg uchel’ y Cyngor a oedd yn adlewyrchu ei amharodrwydd i beryglu gwasanaethau a dibynnu ar y Setliad Llywodraeth Leol i fantoli’r gyllideb.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan Grynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2019/20.

64.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.