Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

12.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddiweddariad byr am y sefyllfa bresennol a chyfeiriodd at effaith posibl Parthau Gwarchod Iechyd ar y nifer o achosion a phwysigrwydd cydymffurfio â’r cyngor.  Byddai Aelodau’n cael gwybod am unrhyw newidiadau, ac roedd disgwyl cyhoeddiadau pellach gan Lywodraeth Cymru. Yn y diweddariad, fe soniwyd am y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu a’r gwaith i ailwampio cynlluniau parhad busnes dros gyfnod y gaeaf.

 

Fel Arweinydd y Cyngor, diolchodd y Cynghorydd Roberts i Aelodau, swyddogion a thrigolion Sir y Fflint am y modd roeddynt yn delio â’r sefyllfa argyfyngus. Rhoddodd ddiweddariad byr am ysgolion, a rhoddodd sicrwydd i Aelodau y byddai’r newyddion diweddaraf yn cael ei rannu mewn modd amserol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y diweddariad ar lafar.

13.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor am Gofrestr Risg y Portffolio Corfforaethol a mesurau lliniaru yn rhan o gynllunio adferiad, yn dilyn yr eitem yn y cyfarfod blaenorol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog, Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol gyflwyniad ar y cyd am y prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios fel a ganlyn:

 

·         Tueddiad risg gyfredol ac wedi dod i ben

·         Dadansoddiad o’r statws risg gyfredol

·         Dadansoddiad o statws tueddiad risg

·         Cyllid

·         Gweithlu

·         Llywodraethu

 

Cyllid

 

Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y dylai’r data wahaniaethu rhwng gwella tueddiadau risg a thueddiadau sefydlog, felly dylai tueddiadau risg oedd yn sefydlog gael eu hanodi gyda’r saeth briodol, ond gallai aros yn goch, oren neu wyrdd yn y cyflwr sefydlog hwnnw. Dywedodd y Prif Swyddog bod y data’n cael ei gyflwyno i ddarparu cyd-destun ar y statws presennol ochr yn ochr â’r duedd, ond fe allai gael ei adolygu os oedd Aelodau eraill yn rhannu’r un pryder. Cynigiodd y Cynghorydd Jones ei awgrym fel argymhelliad, ac roedd yn cwestiynu teitl y Strategaeth Adfer am ei fod yn teimlo nad oedd hyn yn adlewyrchu cam presennol y pandemig. Dywedodd y Prif Swyddog bod y tri cham yn dilyn y terminoleg genedlaethol a bod y cam Adfer yn edrych ar gynllunio at y dyfodol. Yn anochel, fe allai pob cam newid ar unrhyw adeg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y newid yng ngraddfa risg ar gyllid cenedlaethol er mwyn disodli incwm sy’n cael ei golli (CF01), dywedodd y byddai’n cael ei anodi er mwyn adlewyrchu’r diweddariad yn y mis hwnnw. Gan ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am yr agwedd ragweithiol y mae’r tîm Refeniw wedi’i gymryd i ymgysylltu â chwmnïau preifat i gael gafael ar gyllid grant Llywodraeth Cymru (LlC) a darparu cefnogaeth trwy gytundebau ad-dalu lle y bo’n bosibl. O ran cadw Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fel ysbyty brys, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y trafodaethau yn mynd rhagddynt o ran cefnogaeth ariannol ar gyfer cwmnïau preifat sy’n gweithredu yn yr adeilad.

 

O ran risgiau ariannol, gofynnodd y Cynghorydd Johnson am yr effaith posibl ar osod Treth y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod yr adroddiad cyllideb ar gyfer cyfarfod y Cabinet a fyddai’n cael ei gynnal yn fuan yn sôn am ystod o bwysau costau oedd yn hysbys a’r datrysiadau cyfyngedig oedd ar gael i’r Cyngor i’w bodloni.  Byddai dechrau’r broses o ymgynghori ar y gyllideb ym mis Tachwedd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu a herio’r pwysau costau hynny ochr yn ochr â’r dull ehangach er mwyn adnabod arbedion effeithlonrwydd. Yn ychwanegol, roedd Cynghorau yng Nghymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar effaith ariannol y sefyllfa argyfyngus.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dunbobbin, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i drafod gyda’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ddarparu rhagor o wybodaeth am werth a rhesymau am y cynnydd mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

Item 4 - Recovery Strategy presentation slides pdf icon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

14.

Monitro cyllideb refeniw 2020/21 (mis 5) pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 ym Mis 5.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 5 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai pethau’n parhau heb eu newid gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Cyllid Grant Argyfwng Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Roedd y diffyg gweithredol o £0.921m yn gadarnhaol o’i gymharu â’r £0.062m yn y mis blaenorol. Nid oedd yr amcanestyniad yma’n cynnwys effaith dau risg ariannol sylweddol ar incwm Treth y Cyngor a Chynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, ynghyd â’r dyfarniad cyflog a fyddai’n dod allan o gronfeydd wrth gefn.  Yn gyffredinol, mae’r sefyllfa wedi elwa o £0.316m o arbedion dros dro sydd wedi’u nodi yn rhan o’r adolygiad o wariant dianghenraid, serch hynny gosodwyd hyn yn erbyn cynnydd sylweddol mewn gwariant y tu allan i’r sir o £0.144m yn fwy na’r lefel wrth gefn o £0.300m a neilltuwyd.

 

Mae swyddogion yn parhau i drafod gyda LlC ar gefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a byddant yn diweddaru Aelodau yngl?n â hynny, ynghyd â’r cynnydd am risgiau newydd ar brydau ysgol am ddim a chludiant. Er mwyn crynhoi adroddiadau yn y dyfodol, dim ond y rhai oedd wedi newid o’r mis blaenorol fyddai i’w gweld ym manylion yr amrywiaethau.

 

O ran Cronfeydd wrth Gefn a Balansau, y balans diwedd blwyddyn a ragamcanwyd ar Gronfeydd Arian at Raid oedd £1.418m gan dybio y bydd y gorwariant o £0.921m yn cael ei dalu gan y swm oedd ar gael yn y gronfa wedi'i glustnodi at argyfwng o £3m, a fyddai’n gadael swm o £1.965m. Y balans diwedd blwyddyn a ragamcanwyd ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar hyn o bryd oedd £11.4m.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd gorwariant arfaethedig o £0.364m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £2.373m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dunbobbin at effaith posibl prosiect Mockingbird a chynigiodd bod y gorwariant ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Richard Jones a ofynnodd hefyd am effaith Covid-19 ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir. Ar y tabl sy’n dangos sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio, gofynnodd am golofn ychwanegol er mwyn nodi incwm a chostau a gofynnodd am symud cyllid o fewn y golofn ‘cyllideb a gymeradwywyd’ ar gyfer rhai o’r portffolios (ac eithrio Cyllid Canolog a Chorfforaethol) gan gydnabod bod y cyfanswm yn cael ei gysoni ddiwedd y flwyddyn. O ran y pwynt cyntaf, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at y feddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r data ac awgrymodd y gallai adroddiadau yn y dyfodol ddarparu naratif ar gyfer portffolios allai helpu i ddarparu cyd-destun.  Cytunodd hefyd i edrych ar symud cyllid yng nghyllideb gymeradwyedig portffolios.

 

Siaradodd y Cynghorydd Banks am fanteision hir dymor posibl ar gyfer prosiect Mockingbird a  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod gweithdy i Aelodau am faterion Digidol yn cael ei drefnu ar ôl derbyn cais yng ngweithdy Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Dywedodd hefyd bod trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dod i stop am y tro.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Dunbobbin, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

16.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad am amseriad y broses o ymgynghori ar y gyllideb, gan ddechrau gyda chyfarfod y pwyllgor ar 2 Tachwedd.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Dunbobbin, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

17.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.